BBC - Blog Vaughan Roderick

Hirfelyn Tesog
Mae'r cynulliad wedi cau ar gyfer gwyliau'r haf. Fe fydd y blogio'n ysgafnach nac arfer yn ystod yr wythnosau nesaf felly.

Serch hynny rwy'n gobeithio y bydd 'na ddigon o bethau i'ch difyrru yn ymddangos yn fan hyn yn ystod y dyddiau hesb. Fe fydd 'na "Rialtwch" a "Rhwydweithio" , ambell i sylw  a detholiad o'r goreuon o'r 1,004 post sydd wedi ymddangos dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf.

Mae 'na bodlediad newydd ar gael. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Y Gwir Iforiaid
Fel enwau bron pawb arall mae enwau'r rhan fwyaf o wleidyddion yn mynd yn angof yn hwyr neu'n hwyrach. Ychydig iawn sy'n fwy nac ôl-nodyn yn y llyfrau hanes. Ond mae ambell un yn sicrhau rhyw fath o gofeb wrth i'w enw gael ei gysylltu â rhyw ddatblygiad  neu'i gilydd. Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un yn galw dyddiau hyfforddiant mewn swydd yn "Baker days" bellach ond mae goleuadau'r hen Leslie Hoare-Belisha yn dal i oleuo'n croesfannau sebra.

Mae Joel Barnett yn 86 erbyn hyn ac mae'n gwestiwn agored p'un ai y bydd y fformiwla sy'n dwyn ei enw yn ei oroesi ai peidio. Dyw Arglwydd Barnett ddim yn dymuno iddi wneud. Mae fe wedi bod yn galw am ei newid ers degawdau.

Mewn gwirionedd does neb wedi cynnig dadl ddeallusol nac egwyddorol o blaid y fformiwla ers blynyddoedd. Mater o gyfleustra oedd ei chadw. "Be careful what you wish for" oedd mantra Andrew Davies a Peter Hain wrth drafod y fformiwla. Roedd y mantra hwnnw'n seiliedig ar ofn cwbwl dealladwy sef y byddai cychwyn trafodaeth ynghylch y fformiwla yn arwain at ddrwgdeimlad yn Lloegr, drwgdeimlad a allai arwain at gwtogi gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Y peryg oedd y byddai dicter Seisnig tuag at setliad yr Alban yn esgor ar doriadau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon hefyd.

Mae'n ymddangos bod yr ofn hwnnw'n ddi-sail yn sgil cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Dethol yr Arglwyddi. Mae hwnnw'n datgan yn eglur bod Caeredin ar ei hennill a Bae Caerdydd a Belfast ar eu colled o dan y drefn bresennol a bod angen ei newid.

Pwy felly oedd yn gyfrifol am sicrhau nad oedd buddiannau Cymru cael eu hanwybyddu wrth i'r Saeson a'r Albanwyr glatsio ei gilydd?

Dyw e ddim yn gyd-ddigwyddiad yn fy marn i mai Arglwydd Ivor Richard (cadeirydd Comisiwn Richard) yw cadeirydd y Pwyllgor Dethol. Bois da yw bois Rhydaman!

Ar ôl glynu at ei fantra am flynyddoedd mae'n ddiddorol gweld bod Peter Hain bellach yn rhoi'r gorau i ganu ei dôn gron. " Mae'n bryd i ni edrych ar y fformiwla er mwyn sicrhau bod Cymru'n cael chwarae teg yn y dyfodol" yw'r lein newydd.

Prif argymhelliad Pwyllgor Arglwydd Richard yw sefydlu comisiwn annibynnol i bennu lefelau gwariant cyhoeddus yn y gwledydd datganoledig. Yr "UK Finance Commision" yw'r enw trwsgl sy'n cael ei gynnig ar gyfer y corff hwnnw. Mae gen i well syniad. Yr "Ivor"!

Rhwydweithio
Fel rhan o'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol mae'r Llywodraeth yn ystyried cyflwyno fersiwn Gymreig o'r Oyster Card. Y Cerdyn Cocos, efallai?

Fe fydd rhai yn credu bod hwn yn ddoniol. Fe fydd eraill yn fwy croendenau. Fe wnes i chwerthin!

Rygbi yn y geto Stuff NZ

Gobaith ail-uno Llydaw a Loire-Atlantique    Agence Bretagne Presse

Maes-e

Blogiadur

Golwg 360

Mab annwyl dy fam
Wythnos fach dawel oedd hon i fod. Fe ddylwn i wybod yn well erbyn hyn.   Mae stormydd Awst yn taro'r cynulliad cyn gweddill y wlad. Yn ddieithriad bron mae rhywbeth yn digwydd i darfu ar ein trefniadau diwedd tymor. Sigâr Rhodri Glyn oedd y broblem y llynedd, stranciau cynghorwyr Môn a chardiau credid gweision sifil oedd yn ein poeni  eleni. Hei Ho.

Ces i ddim cyfle ddoe i ddweud fy nweud ynghylch trafferthion cyngor Môn ac rwy'n petruso  braidd ynghylch mentro i bydew gwleidyddol yr ynys. Mae Rhun ap Iorwerth a John Stevenson wedi ceisio esbonio "miri Môn" i mi sawl tro ond dydw i  ddim yn gallu hawlio fy mod yn ei ddeall. Fe fedra i ddweud hyn. Dydw i erioed wedi darllen adroddiad gan yr archwilydd cyffredinol oedd cweit mor ddamniol a di-flewyn ar dafod.

Y cwestiwn mawr yw hwn. Beth sydd wrth wraidd problemau Môn ac eithrio ffaeleddau cynghorwyr unigol? Beth sy'n gwneud Môn yn wahanol i gynghorau eraill lle mae 'na nifer fawr o aelodau annibynnol ond sy'n gweithio'n effeithlon- cynghorau fel Cerdeigion, Sir Benfro a Phowys?

Mae'n bosib bod y broblem yn deillio o'r arfer o ffurfio carfannau ac egin-bleidiau yn sgil cynnal yr etholiadau lleol. Does dim modd i etholwyr wybod o flaen llaw wrth fwrw eu pleidleisiau pa garfannau fydd yn cael eu ffurfio na phwy fydd yn rheoli am y pedair blynedd nesaf.

Mae pleidleisiwr yng Ngheredigion a Sir Benfro yn gwybod y bydd ymgeisydd annibynnol yn aelod o'r garfan annibynnol. Does dim clem gan etholwyr Môn i ba garfan y maen nhw'n pleidleisio ac mae'n ddigon posib nad oes 'na fawr o glem gan yr ymgeiswyr chwaith!

Fe fyddai'r system yn gweithio'n iawn pe bai 'na garfan annibynnol sefydlog neu pe bai'r cyngor yn hepgor grwpiau'n gyfan gwbwl a mabwysiadu system bwrdd.

Dyna oedd yn digwydd ym Mhowys tan yn ddiweddar. Yn y sir honno ar ôl etholiad 2008 penderfynwyd ffurfio grwpiau annibynnol am y tro cyntaf. Mae 'na ddau ohonyn nhw! Nawr mae 'na son am fabwysiadu system gabinet yn y sir. Efelychu Cyngor Môn mewn geiriau eraill. Am esiampl i ddilyn!

Rhydd i bawb...
Pethau peryg yw'r ceisiadau rhyddid gwybodaeth yma! Gofynnwch i Rhodri Morgan.

Mae'r Prif Weinidog wedi gorfod ymddiheuro heddiw am gyhuddo'r Democratiaid Rhyddfrydol o balu celwyddau ynghylch treuliau gweision sifil. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod celwydd wedi ei ddweud...ond nid gan Kirsty Williams! Cerwch draw i flog Betsan am y manylion.

Yn y cyfamser fe ddefnyddiodd Cymdeithas yr Iaith y ddeddf i ofyn pa gyngor cyfreithiol yr oedd y Pwyllgor Dethol Cymreig wedi derbyn wrth baratoi ei adroddiad ynghylch yr LCO iaith. Efallai eich bod yn cofio bod y pwyllgor yn poeni y gallai'r LCO, neu fesur yn seiliedig arno, fod yn agored i sialens gyfreithiol. "Pwy roddodd y cyngor hwnnw?" oedd y cwestiwn digon rhesymol gan y Gymdeithas.

"Nid oes dogfen yn ymateb i'r disgrifiad hwn" oedd yr ymateb gan y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth i'r cais.

"Pwy roddodd y cyngor hwnnw?"

Neb neu felly mae'n ymddangos.

Fel dywedais i, peth peryg yw'r busnes rhyddid gwybodaeth yma.

Trysor Plas Llanwernen
Blydi gwangod. Ugain mlynedd yn ôl fe es i gyfarfod gyda swyddogion adran ffyrdd yr hen Swyddfa Gymreig i drafod y problemau traffig yng Nghasnewydd. Yr unig ateb i'r broblem  yn ôl y swyddogion oedd codi traffordd newydd i'r de o 'r dref. Fe fyddai methu gwneud hynny yn andwyol i holl economi De Cymru.

Heddiw, a thref Casnewydd bellach yn ddinas, fe es i gyfarfod digon tebyg a swyddogion trafnidiaeth y cynulliad. Y neges y tro hwn oedd bod y cynllun yn gelain. Y rheswm penna am hynny yw'r gost.  Amcangyfrifir erbyn hyn y byddai codi traffordd newydd yn costio oddeutu biliwn o bunnau yn rhannol oherwydd y gost o sicrhau nad oedd pysgod Afon Wysg, yn arbennig y gwangod, yn cael eu haflonyddu. Blydi gwangod.

Dyw'r broblem ddim wedi diflannu, wrth gwrs. Sut mae ei datrys, felly? Wel mewn nofel i blant, rhywbeth gan T Llew Jones neu JK Rowling, fe fyddai un o'r plant yn darganfod ateb syml, hwylus, rhywbeth nad oedd yr holl oedolion peniog wedi sylwi arni. Rhywbeth fel ffordd ddeuol, gyflym oedd eisoes yn bodoli yn rhedeg yn gyfochrog a'r draffordd arfaethedig.

Coeliwch neu beidio dyna'n union sydd wedi digwydd. Mae'r fath ffordd yn bodoli, ffordd a adeiladwyd gan y gorfforaeth ddur i gyflenwi gwaith Llanwern. Fe fydd hi'n costi ugain miliwn o bunnau i'w haddasu a'i chysylltu â'r rhwydwaith ffyrdd. Anhygoel. Pam na wnaethpwyd hynny yn y lle cyntaf?

Un peth bach arall sy'n werth eu nodi yn y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol yw'r bwriad i gynnal arbrawf trwy ymestyn un o leiniau rheilffyrdd y cymoedd trwy adeiladu system tram. Mae 'na nifer o lefydd lle y gellid gwneud hynny. Ymhlith y rhai amlwg mae ymestyn lein Maesteg er mwyn cyrraedd Caerau a chysylltu Abertyleri a lein Cwm Ebwy. Ond, o gofio mai Simon Thomas a Rhuanedd Richards yw cynghorwyr arbennig Ieuan Wyn Jones, a bod y ddau yn dod o Gwm Cynon, rwy'n fodlon mentro y bydd gwasanaeth rhwng Hirwaun ac Aberdâr yn uchel ar y rhestr fer!

Ebbwdale
Mae Alun Davies wedi llwyddo yn ei ymdrech i gael ei ddewis fel ymgeisydd cynulliad Llafur Blaenau Gwent. Doedd hynny ddim yn dasg hawdd. Roedd  Alun yn wynebu hen ddigon o gystadleuaeth. Dyw pobol Llafur ddim yn meddwl y bydd brwydr y Blaenau yn un hawdd ond roedd 'na ddigon o ramant a "kudos" yn perthyn i hen etholaeth Bevan a Foot i ddenu llwyth o ymgeiswyr credadwy.

Nid hwn fydd y tro cyntaf i Alun sefyll yn etholaeth ei febyd. Fe safodd yno i Blaid Cymru yn ôl yn y nawdegau. David Melding oedd yr ymgeisydd Ceidwadol ar y pryd ond bo brin y bydd hwnnw yn mentro yn ôl i gymoedd Gwent yn 2011!  Un peth sydd yn debygol yn sgil y dewisiad yw y bydd Trish Law yn sefyll unwaith yn rhagor. Mae Trish yn wleidydd trwy hap a damwain. Dyw hi ddim yn berson cyhoeddus o'i hanian. Serch hynny, mae ymosodiadau  Alun arni wedi ei brifo'n bersonol a go brin y bydd hi'n fodlon rhoi rhwydd hynt iddo etifeddu sedd ei diweddar ŵr.

Cyn yr etholiad cynulliad wrth gwrs fe gynhelir yr ornest seneddol gyda Dai Davies yn cario baner "Llais y Bobol". Nick Smith fydd yn sefyll i Lafur yn yr etholiad hwnnw ac mae'n anodd meddwl am ddau gymeriad mwy gwahanol i'w gilydd na Nick ac Alun. Mae Nick yn dipyn o "charmer" i ddefnyddio term hen ffasiwn- y fath o ddyn y byddai'ch Nain yn dwli cynnig paned o de a darn o fara brith iddo fe. Mae Alun, ar y llaw arall, yn fwy o baffiwr gwleidyddol, yn ddyn sy'n mwynhau colbio ei wrthwynebwyr.

Fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae'r ddau yn cydweithio a'i gilydd a pha dacteg sydd fwyaf effeithiol. Un fantais sydd gan y ddau yw canlyniadau'r etholiadau lleol diwethaf. Roedd ymosod ar gyngor Llafur amhoblogaidd yn arf effeithiol iawn yn nwylo "Llais y Bobol".  Erbyn hyn mae'r cyngor yn cael ei redeg gan ryw "licrish all-sorts" o glymblaid gwrth-Lafur- clymblaid sy'n cynnwys "Llais y Bobol". Mae 'na beryg y gallai rebeliaid "Llais y Bobol" gael eu gweld fel rhan o'r sefydliad lleol pan ddaw'r etholiadau nesaf.

Ar y sbot
Dydw i ddim yn gwybod y cefndir i'r stori "Police interview Mayor's aides in expenses inquiry" sydd wedi ymddangos yn yr Evening Standard heddiw. Serch hynny rwy'n dwli ar y frawddeg; " It is not clear why Mr Harri has been interviewed. He was unavailable for comment last night"!

Fe wna i gadw llygad ar y stori yna yn y cyfamser beth am ddychwelyd i Gaerdydd ar gyfer ein hopera sebon dyddiol "Ebbwdale" a stranciau diddiwedd y Pwyllgor Cyllid.

Y tro diwethaf  i ni ymweld â'r pwyllgor roedd aelod Llafur yn sgrechain ar aelod Plaid Cymru "It's not this committee that's undermining the government it's your ******* Minister" gan gyfeirio at y Dirprwy Prif Weinidog. Dyw e ddim yn ymddangos bod  y drwg deimlad tuag at Ieuan wedi gostegu ers hynny.

Wrth wraidd yr helynt mae cyhuddiadau gan ddau aelod o'r pwyllgor Alun Davies a Huw Lewis bod arian wedi ei arallgyfeirio o wella ffordd Blanau'r Cymoedd i wella cysylltiadau rhwng y De a 'r Gogledd. Mae Ieuan yn gwadu hynny gan fynnu ei fod yn glynu at yr amserlen a luniwyd gan y llywodraeth ddiwethaf. Roedd Huw yn aelod o'r llywodraeth honno wrth gwrs.

Yfory mae'r Ceidwadwyr wedi clustnodi peth o'u hamser yn y siambr i gynnal dadl ynghylch y pwnc. Mae gwelliant y llywodraeth yn cynnwys y cymal hwn.

"Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru... yn cadarnhau nad yw'r Llywodraeth Cynulliad hon wedi gohirio'r gwaith o ddatblygu llwybrau prifwythiennol allweddol"

Sut fydd Huw ac Alun yn pleidleisio, tybed ac a fydd canlyniad cynhadledd ddewis Llafur ym Mlaenau Gwent heno yn effeithio ar benderfynniad Alun?

Iaith Gwaith
Yn ôl yn nyddiau cynnar y cynulliad roedd Cymdeithas yr Iaith yn monitro'r defnydd o Gymraeg yn siambr y Cynulliad mewn ymdrech i gymell aelodau i ddefnyddio'r iaith. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw un wedi gwneud ymchwil o'r fath yn ddiweddar ond fy nheimlad i yw bod 'na fwy o Gymraeg yn nhrafodaethau'r trydydd cynulliad nac yn y ddau flaenorol.

Yn rhannol mae'r newid oherwydd bod gweinidogion Plaid Cymru yn tueddu gwneud datganiadau yn Gymraeg. Mae hynny'n gosod y cywair ieithyddol ar gyfer y ddadl sy'n dilyn. Mae presenoldeb nifer o aelodau sydd byth, neu bron byth, yn defnyddio Saesneg, pobol fel Gareth Jones, Nerys Evans a Paul Davies hefyd yn gwneud gwahaniaeth.

Heddiw roedd rhan helaeth o sesiwn gwestiynau Rhodri Morgan yn Gymraeg er bod un cwestiwn arbennig wedi achosi tipyn o grafu pen.

Poeni oedd Eleanor Burnham ynghylch y "perfformiad amrywiol brenhinol". Beth ar y ddaear oedd hynny'n golygu? Ai cyfeirio at fywyd carwriaethol y Tywysog Harri oedd Eleanor neu dreuliau Dug Efrog, efallai? Y naill na'r llall. Cyfeirio at y "Royal Variety Performance" oedd hi. Eleanor annwyl, mae croeso i ti fenthyg Geiriadur yr Academi unrhyw bryd!

Yn ddiweddarach wrth amlinellu'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn nesaf cafwyd rhagflas o beth fydd yn y Mesur Iaith arfethedig. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'r LCO iaith  o hyd yn ymlwybro'n araf tuag at y llyfr statud. Serch hynny mae'n ymddangos bod y llywodraeth yn ddigon hyderus yn ei gylch i gynnwys y mesur ei hun yn y rhaglen waith.

Yn ôl Rhodri fe fydd y mesur yn  cynnwys sefydlu'r swydd o gomisiynydd iaith , statws swyddogol i'r Gymraeg a'r Saesneg ac ymestyn yr hawl i gael gwasanaeth Cymraeg gan gyrff "o fath cyhoeddus". Ystyr "o fath cyhoeddus" sydd wrth wraidd y trafferthion gyda'r LCO, wrth gwrs.

Dyna ddiwedd ein rhaglenni am heno...
<object width="425" height="344"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/jNU_WLpvGBU&hl=en&fs=1&"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/jNU_WLpvGBU&hl=en&fs=1&" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="425" height="344"></embed></object>

Rwyf newydd ymddangos ar S4C2 i sgyrsio am yr wythnos wleidyddol o'n blaenau. Hwn oedd y tro olaf i mi wneud hynny. Fe fydd yn ein sianel fach sydd wedi bod yn darlledu gweithgareddau'r cynulliad dros y degawd  diwethaf yn dirwyn i ben Ddydd Gwener.

Penderfyniad y BBC yw hwn ond fe fydd yn galluogi S4C i fwrw ymlaen a'i chynlluniau i gynyddu'r ddarpariaeth i blant. Am bob pensiynwr sy'n hiraethu am Alun Davies a Peter Black rwy'n siŵr y bydd 'na blentyn yn falch o'r cyfle i wylio "Un Tro"!

Mae cau'r sianel yn rhan o'r paratoadau ar gyfer lansio gwasanaethau gwleidyddol  ar-lein Cymraeg a Saesneg newydd y BBC yn yr Hydref.  Fe fydd gan Ddemocratiaeth Fyw a Democracy Live eu staff newyddiadurol eu hun ond fe fydd y safleoedd hefyd yn dwyn ynghyd holl gynnyrch gwleidyddol BBC Cymru a gwasanaeth archif gyflawn gyda system "llais i destun" arloesol.

Fe fydd 'na ddigon o amser i drafod y datblygiadau hynny yn y man ond am y tro fe wna i godi gwydred bach i  ffarwelio a sianel fach y Bae a'i "ffan club" bychan ond ffyddlon.

Diolch am wylio.

Blogail-syllu
Mae'n ddiwedd tymor yn y Bae. Rhyw wythnos o bwyllgorau'n cau pen y mwdwl fydd hon. Cafwyd yr adroddiadau pwysig a'r cyhoeddiadau mawr wythnos ddiwethaf. Wedi'r cyfan fe fydd pawb yn awyddus i ymlacio a mwynhau'r partïon diwedd tymor. Pawb, ac eithrio'r cyn-weinidog treftadaeth, efallai!

Rhywbryd yn ystod yr wythnos fe fydd post rhif 1,000 yn ymddangos ar y blog yma. Mae hynny'n rhyw 300,000 o eiriau i gyd ers i'r peth gychwyn dwy flynedd a hanner yn ôl. Mae'r cyfanswm yna'n ddwy-waith hyd y Testament Newydd a phedair gwaith hyd y Koran. Dydw i ddim yn disgwyl i fy ngwirioneddau mawr i bara cyhyd!

Ar hyn o bryd dyw rhannau helaeth o'r archif ddim ar gael oherwydd problem dechnegol. Fe fydd y broblem yn cael ei chywiro cyn bo hir, gobeithio! Rhag i ambell berl fynd yn angof, dros yr haf yn lle cau'r blog i lawr fel y gwnes i llynedd a'r flwyddyn gynt rwy'n bwriadu diweddaru ac ail-gyhoeddi ambell i erthygl o'r gorffennol. Fe fydd hynny'n dechrau wythnos nesaf. Mae 'na wythnos o flogio i fynd cyn hynny. Bant a ni felly.

Rialtwch
I ble'r awn am y ffilmiau'r wythnos hon? Beth am siop Waterstone's yn Abertawe?  Mae'n siop lyfrau yn awr ond sylwch beth sydd uwchben y drws. Dyma un o drysorau art-deco Cymru ac un o'r ychydig o berlau pensaernïol Abertawe i oroesi bomio'r ddinas. Sinema'r Carlton oedd hon. Mae'r adeilad wedi rhestri ond does dim ffilmiau wedi cael eu dangos ers y saithdegau. Tan heddiw, hynny yw! Gafaeliwch yn eich Kia-Ora a bant a ni!

Alwyn wnaeth awgrymu'r wers addysg rhyw yma.

<object width="425" height="344"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/luf6ZepNY6o&hl=en&fs=1&"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/luf6ZepNY6o&hl=en&fs=1&" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="425" height="344"></embed></object>

Mae gan Myrdd obsesiwn ynghylch gwaith Elmo5242. Dyma Elmo yr athro Cymraeg.

<object width="425" height="344"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/TZ9W8xzYL7I&hl=en&fs=1&"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/TZ9W8xzYL7I&hl=en&fs=1&" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="425" height="344"></embed></object>

A dyma Elmo yn canu deuawd... gyda fe'i hun!

<object width="425" height="344"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/9npOdRXE3io&hl=en&fs=1&"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/9npOdRXE3io&hl=en&fs=1&" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="425" height="344"></embed></object>

Awgrym "O bell" yw'r ffilm olaf sy ein hatgoffa o'r dyddiau pan oedd newyddiadurwyr yn dangos y parch dyledus tuag at wleidyddion.

<object width="425" height="344"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/kBezNAaEE3c&hl=en&fs=1&"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/kBezNAaEE3c&hl=en&fs=1&" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="425" height="344"></embed></object>

Ieuan ac Ivor
Does gen i ddim anorac a dydw i ddim yn "trainspotter".  Serch hynny, ar y cyfan mae'n well gen i deithio ar drên nac mewn car neu fws. Rwy'n digwydd meddwl hefyd bod ail-agor leiniau rheilffyrdd Bro Morgannwg a Glynebwy* i deithwyr yn ddau o lwyddiannau mawr Llywodraeth y Cynulliad.

Wythnos nesaf fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi ei chynllun trafnidiaeth cenedlaethol. A fydd hwnnw tybed yn cynnwys ail-agor rhagor o reilffyrdd? Fe gyhoeddodd Ieuan Wyn Jones dro yn ôl bod y llywodraeth yn ystyried y posibilrwydd o wneud hynny. At ba wasanaethau yr oedd e'n cyfeirio tybed?

Y peth cyntaf i ddweud yn fan hyn yw y byddai hi bron yn amhosib ail-agor leiniau hir sydd wedi eu hen golli Aberystwyth i Gaerfyrddin, er enghraifft neu Riwabon i Fermo.

Y cynlluniau mwyaf realistig yw'r rheiny (fel yn achosion Bro Morgannwg a Glynebwy) lle mae'r rheilffordd wedi parhau mewn bodolaeth ar gyfer gwasanaethau nwyddau. Fe fyddai ail agor gwasnaethau rhwng Aberdâr a Hirwaun a  Beddau a Phontyclun yn  gynlluniau amlwg a chymharol hawdd. Ond mae'n anodd credu y byddai 'na ddigon o deithwyr i gyfiawnhau ail-agor rhai o'r leiniau eraill yn y dosbarth yma, y rheilffordd o Ddowlais i Ystrad Mynach, er enghraifft neu'r un o Flaengarw i Dondu.

Mae'n bosib y byddai na ddigon o deithwyr ar y llaw arall i gyfiawnhau ail-agor lein Dyffryn Aman pe bai modd ail-gysylltu lein y Canolbarth ac Abertawe yn hytrach na Llanelli. Yn yr un modd gallai gwasanaethau rhwng Bryn Mawr a Chasnewydd dalu eu ffordd. Mae'r llywodraeth eisoes yn buddsoddi rhai cannoedd o filoedd o bunnau mewn gwasanaeth treftadaeth ar ran o'r lein honno. Croesi ffyrdd newydd yn ardal Pont-y-pŵl fyddai'r broblem yn yr achos yma.

Y tu allan i'r de diwydiannol ychydig iawn o bosibiliadau sy' na. Mae'n debyg y byddai rheolwyr Rheilffordd Llangollen yn dymuno ymestyn y lein i Gorwen a Rhiwabon ac mae 'na wasanaethau'n ail-gychwyn yn ardal Croesoswallt ond gwasanaethau treftadaeth yw'r rheiny.

Ac eithrio gwasanaethau Hirwaun a Beddau felly mae'n anodd gweld pa gyfleoedd sy 'na ar gyfer gwasanaethau newydd. Mae'n debyg mai ar wella'r ddarpariaeth ar y rhwydwaith presennol y bydd y pwyslais

*Fel arwydd o undod rhwng blogwyr y BBC rwy'n derbyn dadl Glyn Evans draw ar flog Cylchgrawn mai Glynebwy nid Glyn Ebwy sy'n gywir.

Rhywdweithio
Dydw i ddim yn ddyn syn poeni am fagiau plastig. Mae rhai yn obsesiynol yn eu cylch ac mae'r Cynulliad yn bwrw ymlaen a chynlluniau i'w gwahardd. Wrth gwrs gyda'r coffrau'n wag a dim ceiniog i wario ar blesio'r etholwyr mae gwahardd pethau yn ffordd rhad i ennill ambell i bennawd ffafriol!

Rwyn tueddu cytuno a sylwadau Huw Lewis y llynedd;

Mae bagiau plastig yn cyfrif am lai nag 1 y cant o'r hyn sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.

Yn wir, nid ydynt ond yn cynrychioli 1 y cant o'r sbwriel a welir ar y strydoedd. Nid yw

hynny'n golygu nad yw'r mater yn bwysig, ond gadewch inni ei roi yn ei wir oleuni.

Ar y llaw arall rwy'n credu bod gan lywodraeth New South Wales bwynt wrth wahardd dŵr potel.

Rees bans bottled water   SMH

Gyda marwolaethau milwyr yn Afghanistan prin yn haeddu pennawd y dyddiau hyn mae'n werth cofio bod pob ystadegyn yn berson.

In a corner of Wales, comfort is hard to find   Guardian

Mae Paul Flynn yn sgwennu'n dda am hyn ar ei flog.

The Blood Price   Paul Flynn

Digwyddiadau mewn rhan arall o'r byd sy'n poeni Amnest Rhyngwladol.

Dim LCO yn Xinjiang  Amnest

Mae'r post hwnnw wedi esgor ar drafodaeth fywiog ar faes-e.

I'r rheiny, fel fi, sy ddim yn gwybod llawer am Xinjiang mae'r erthygl yma'n werth ei darllen.

The Mother of the Uighur Movement   Washington Post

Tomos Livingstone, gohebydd seneddol y "Western Mail" yw'r gwestai ar y podlediad yr wythnos hon.

Ac yn olaf ni allaf ddianc rhag hon.

Pilgrims flock to tree 'showing image of Virgin Mary'   Times

Maes-e

Blogiadur

Golwg 360

... fel cana'r aderyn
Dydw i ddim gan amlaf yn nodi dewis darpar ymgeiswyr seneddol ond fe fydd y cyhoeddiad hwn yn achosi ambell i ochenaid mewn mwy nac un blaid. Fe fydd Paul Starling, gynt o'r Welsh Mirror, yn sefyll i "People's Voice" yn Nhorfaen. Cyn-ysgrifennydd Cymru, Paul Murphy yw'r aelod presennol wrth gwrs.

Mae Paul (S) yn un o'r cymeriadau hynny sy'n mwynhau tynnu blew o drwynau ei wrthwynebwyr a gallwch chi fod yn gwbwl sicr na fydd ornest y mae'n rhan ohoni yn ddi-liw. Fe fydd Paul (M) ar y llaw arall yn gorfod dibynnu ar ei amynedd diarhebol.

Fe fyddai'n gamgymeriad i Lafur gredu na allai'r hyn ddigwyddodd ym Mlaenau Gwent ddigwydd yn Nhorfaen hefyd, er y byswn yn tybio bod gan ymgeisydd annibynnol well cyfle mewn etholiad cynulliad nac etholiad seneddol.

Etholiad 2007

Lynne Neagle  (Llaf)      9,921  (42.7%)

Graham Smith (Ceid)     4,525  (19.5%)

Ian Williams      (PV)       3,348  (14.4%)

Rhys Ab Ellis    (PC)       2,762  (11.9%)

Patrick Legg     (DR)       2,659  (11.4%)

Etholiad 2005

Paul Murphy     (Llaf)     20,472  (56.9%)

Nick Ramsay     (Ceid)     5,681  (15.8%)

V Watkins          (DR)       5,678  (15.8%)

Aneurin Preece  (PC)       2,242  (6.2%)

D Rowlands       (UKIP)      1,145 (3.2%)