Help / Cymorth

Blog Vaughan Roderick homepage

Plant y Fflam

Vaughan Roderick | 09:25, Dydd Gwener, 25 Mai 2012

Sylwadau (1)

Yfory fe fydd fy nai yn cario'r ffagl Olympaidd yn Nhreherbert ac mae dyletswydd deuluol yn golygu y bydd yn rhaid i mi fod yna i gefnogi'r gwalch. Dyma fe ar wefan y gemau a gallwch wrando arno ar Radio Cymru. Gwyn Lein yw ei enw ar safle'r Olympics. Gwynfor Roderick yw e ar Radio Cymru. Mae'n defnyddio'r ddau - mae enwau'n bethau hyblyg yn yr unfed ganrif ar hugain!

Mae ambell un ar wefan Trydar wedi tynnu sylw at yr hyn ddigwyddodd yn ystod ymweliad y ffagl â Chernyw - yn enwedig y ffaith bod yr heddlu wedi rhwystro un o'r rhedwyr rhag arddangos baner Cernyw. Fel mae'n digwydd mae'r rheolau'n gwahardd rhedwyr rhag cario unrhyw beth ac eithrio'r ffagl ei hun. Does wybod a fyddai jac yr undeb neu groes San Siôr wedi cael ei thrin yn yr un modd ond dyna mae'r rheol yn ei ddweud.

Mae rheol arall yn gwahardd baneri 'gwledydd nad ydynt yn cymryd rhan yn y gemau' rhag cael ei chwifio gan bobol sy'n gwylio'r cystadlu. Ydy hynny'n golygu y bydd y Ddraig Goch wedi ei gwahardd - nid yn unig o barc y gemau yn Llundain ond o Stadiwm y Mileniwm?

Mae'r rheol yn aneglur. Fe'i defnyddiwyd i wahardd y Ddraig Goch yn Beijing. Poeni am faneri Tibet a Taiwan oedd y Tsieniaid. Beth fydd agwedd stiwardiaid Llundain, tybed?

O wybod shwd le yw Prydain a pha mor hoff yw ei chenhedloedd o'u baneri mae'n rhyfedd nad yw pwyllgor gemau Llundain, LOCOG, wedi gwneud y sefyllfa'n eglur. Roedd gan faner Catalonia le amlwg yng ngemau Barcelona. Ai dilyn rheolau Beijing yntau rhai Barcelona fydd gemau Llundain?

Croesi'r Sianel

Vaughan Roderick | 16:57, Dydd Mercher, 23 Mai 2012

Sylwadau (0)

Efallai eich bod wedi diswgyl i mi ysgrifennu rhywbeth am helyntion y Western Mail ddoe. Doedd gen i ddim llawer i ddweud nad oedd eiroes wedi ei ddewud mewn gwrionedd. Rwy'n argymell darllen blog Rob Williams am ddadansoddiad craff o'r sefyllfa.

Mae Rob yn gywir wrth ddweud mai'r stori fawr ynghylch y Wasg Gymreig yw ei declein hirdymor ac y dylid gweld helyntion ddoe yn y cyd-destun hwnnw. Yn sicr mae gwendid cymharol y cyfryngau Cymreig yn broblem ddifrifol yng Nghymru ond heddiw cafwyd ychydig o newyddion da ynghylch un agwedd o'r sefyllfa.

Heddiw cyhoeddodd y rheoleiddiwr darlledu, Ofcom, argymhellion ynghylch dyfodol darlledu cyhoeddus ar Sianel Tri a Sianel 5 a beth bynnag sy'n digwydd mae'n ymddangos y bydd y ddarpariaeth Gymreig ar Sianel Tri yn parhau yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i gontractiwr Cymreig Sianel Tri, sef cwmni ITV, ddarparu gwasanaeth newyddion Cymreig dyddiol a 90 munud o raglenni Cymreig eraill bob wythnos fel amod o'r drwydded. Yn ei dystiolaeth i Ofcom dywed y cwmni fod y gwasanaeth hwnnw'n gynaliadwy ac fe fyddai'r cwmni yn parhau i'w gyflenwi pe bai'r drwydded darlledu'n cael ei ymestyn.

Mae 'na dipyn o newid wedi bod yng nghân ITV. Roedd tîm rheoli blaenorol y Cwmni yn gadarn o'r farn nad oedd y gwasanaeth Cymreig na gwasanaethau newyddion rhanbarthol Lloegr yn bosib eu cynnal yn yr hir dymor.

O ganlyniad cafodd y cwmni ganiatâd i leihau'r nifer o wahanol rhaglenni newyddion rhanbarthol yn Lloegr o 19 i 11 trwy uno rhanbarthau a'i gilydd. Doedd hynny ddim yn ddigon i ITV ac fe luniodd y Llywodraeth ddiwethaf gynllun i ddarparu newyddion i'r cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr trwy benodi contractwyr annibynol. Cwmni Ulster Television enillodd y gystadleuaeth i ddarparu newyddion i Gymru.

Daeth tro ar fyd, tro ar lywodraeth, a thro ym marn ITV. Rhoddwyd y gorau i'r cynllun am gontractwyr ac erbyn hyn nid yn unig mae ITV yn fodlon parhau i ddarparu newyddion Cymreig mae'n addo cynyddu'r nifer o raglenni rhanbarthol yn Lloegr yn ol i'r nifer flaenorol.

Pam y newid? Yr esboniad amlwg yw bod rheolwyr newydd ITV yn credu mewn buddsoddi yn hytrach na thorri ar wariant er mwyn gwneud elw. Ceir tystiolaeth o hynny wrth wylio cynnyrch drama ddrudfawr ddiweddar y sianel ond mae 'na reswm arall hefyd.

Mae trwyddedau presennol Sianel Tri yn dirwyn i ben flwyddyn nesaf. Ar hyn o bryd mae cwmni ITV yn dal pob un ohonyn nhw ac eithrio trwyddedau'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Gobaith ITV yw y bydd y trwyddedau'n cael eu hymestyn heb gystadleuaeth. Mae addo darparu gwasnaethau Cymreig a rhanbarthol safonol yn gwneud hynny'n fwy tebygol.

Mater i Jeremy Hunt, neu, o bosib, olynydd iddo, fydd hynny.

Ond os ydy'r trwyddedau'n cael ei hysbysebu, sawl trwydded fydd yna? Argymhelliad Ofcom yw y dylid uno holl ranbarthau Lloegr yn un drwydded genedlaethol gyda thrwyddedau ar wahân i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac ynysoedd Môr Udd. Fe fyddai hynny'n golygu diweddu'r cysylltiad hanesyddol rhwng trwyddedau Cymru a Gorllewin Lloegr.

Mae ITV yn gwrthwynebu'r newid gan ddadlau y dylid cadw'r trwyddedau traddodiadol.

Mae 'na ddau reswm am hynny. Yn gyntaf dyw ITV ddim eisiau colli parthau deheuol yr Alban sy'n rhan o drwydded 'Border Television'. Yn ail maen nhw'n synhwyro y byddai 'na lafoerio yn Belfast ac efallai Glasgow o gael cyfle i geisio bachu trwydded Cymru o ddwylo brawd mawr Sianel Tri.

Yn y cyd-destun hwnnw dyma i chi faith fach ddiddorol. Yn ôl ymchwil gan Ofcom mae 69% o drigolion Gogledd Iwerddon yn fodlon ar wasanaeth newyddion UTV. Dim ond 52% o wylwyr Cymru sydd wedi eu bodloni gan wasanaeth newyddion Cymreig ITV.

Mistar Smith

Vaughan Roderick | 14:03, Dydd Mercher, 16 Mai 2012

Sylwadau (0)

Doeddwn i ddim o gwmpas y bore 'ma pan gyrhaeddodd Owen Smith y Senedd am y tro cyntaf fel y Llefarydd Llafur ar Gymru. Roedd pethau eraill gen i wneud ond yn ôl pob son roedd Owen ar ben ei ddigon. Dyw hynny ddim yn syndod. Mae'n ddyn uchelgeisiol ac mae cyrraedd Cabinet yr Wrthblaid ddwy flynedd ar ôl ei ethol i Dy'r Cyffredin yn dipyn o gamp.

Rwyf am drafod yr hyn gallwn ddisgwyl gan y Llefarydd newydd ond cyn mynd ymhellach mae gen i gyfaddefiad i wneud. Fe fu Owen a minnau'n cydweithio ar 'Good Morning Wales' am rai blynyddoedd. Roeddwn i'n westai yn ei briodas ac rwy'n ei ystyried yn gyfaill. Dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n lliwio fe marn ohono, mwy nac oedd ei gefndir Llafur yn lliwio ei newyddiaduraeth e wrth iddo frathu coesau sawl gwleidydd o'i blaid ei hun, ond gwell yw dweud.

Ta beth am hynny, clywais Owen yn disgrifio'i hun mewn cyfweliad fel 'passionate Welshman'. Rwy'n sicr bod hynny wir ond efallai bod y geiriau hynny'n golygu rhywbeth ychydig yn wahanol iddo fe nac maen nhw'n golygu i chi a fi.

Mae Owen yn fab i'r hanesydd Dai Smith. Roedd yntau, fel y diweddar Gwyn Afl Williams, yn un o'r haneswyr hynny wnaeth herio'r naratif traddodiadol o hanes y Cymry fel cenedl oedd wedi goroesi trwy'r canrifoedd gyda rhyw linyn arian yn ein cysylltu â Macsen, Arthur a Llywelyn fawr. Yn hytrach pwysleisio trychinebau a chwyldroadau'r canrifoedd wnaeth yr haneswyr hyn gan ddadlau bod y genedl heddiw yn ffrwyth y chwyldro diwydiannol a dad-ddiwydiannu'r ganrif ddiwethaf yn hytrach na'i hen hanes.

Mewn un ystyr fersiwn yr haneswyr yw hyn o fodel gwleidyddol y tri rhanbarth. Mae'r fath o Gymru oedd yn cael ei disgrifio yn seiliedig ar Gymreictod "Welsh Wales" y model hwnnw - Cymreictod nad yw'n ddibynnol nac yn llwyr ddeillio o ddiwylliant Cymraeg.

Rwy'n sicr mai cyfeirio am y math yna o Gymreictod y mae Owen wrth alw ei hun yn 'passionate Welshman', er iddo fe'i hun gael ei fagu yn Y Barri, rhan o'r Gymru Brydeinig yn y Gymru dri rhanbarth. Nid bod hynny'n golygu ei fod yn wrthwynebus i;r iaith Gymraeg dim ond mai yn y cymunedau dosbarth gwaith pennaf Saesneg eu hiaith y mae ei galon.

Mae hynny'n dod a fi at rywbeth arall dywedodd Owen yn ei gyfweliad sef bod datganoli yn rhan o DNA'r Blaid Lafur Gymreig. Ond pam felly? Os nad yw Owen yn cyfranogi i ryw fath o genedlaetholdeb rhamantaidd - pam y frwdfrydedd ynghylch y Cynulliad?

Mae'r ateb yn un digon syml, dybiwn i. I Owen, mae'r Cynulliad yw darian i'w bobol yn erbyn Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ac yn arf i'w codi o dlodi. Os felly, gellir disgwyl i'r Llefarydd newydd fod yn ddiamynedd iawn os ydy e'n credu bod y Llywodraeth Lafur yn y Bae yn llaesu ei dwylo neu yn llusgo'i thraed.

Roedd Carwyn yn wen i gyd wrth groesawi Owen heddiw. Tybed a fydd hynny'n wir ymhen blwyddyn?

Un peth bach arall cyn cloi. Owen yw'r Aelod Seneddol cyntaf o Gymru ers Neil Kinnock y gallaf ddychmygu yn arwain y Blaid Lafur ar lefel Brydeinig. Mae croeso i chwerthin ar ben yr honiad hwnnw - ond fe'i gwnâi'ch atgoffa o'i fodolaeth hyd syrffed os ydy Aelod Pontypridd yn cyrraedd brig ei blaid!

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.