Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyrchafaf fy llygaid

Vaughan Roderick | 13:58, Dydd Mercher, 30 Ionawr 2013

Wrth bori trwy ganlyniadau ward wrth ward y Cyfrifiad des i ar draws ffaith fach ddiddorol. O'r deuddeg ward yng Nghymru a Lloegr lle dywedodd y mwyafrif o'r trigolion eu bod heb unrhyw grefydd o gwbwl roedd pump yn Rhondda Cynon Taf.

Efallai nad yw'n syndod bod Maerdy ym mlaen Rhondda fach yn un ohonyn nhw. Wedi'r cyfan adwaenwyd y lle hwnnw fel "Little Moscow" ers talwm. Dydw i ddim yn gwybod faint o fynd sydd ar ddarllen Marx a Lenin yn y lle erbyn hyn ond ymddengys nad oes llawer o fynd ar ddarllen Ysgrythur!

Un o'r wardiau eraill sydd â mwyafrif o anffyddwyr yw Cwm Clydach. Mae hynny o ddiddordeb personol i mi. Roedd fy nhad-cu yn löwr yng ngwaith y Cambrian yn y pentref hwnnw ac mae gen i berthnasau yno o hyd.

Roedd y Cambrian yn un o byllau glo mwya'r de. Cafwyd un o'r damweiniau gwaethaf yn hanes y diwydiant glo yno yn y 1960au a hanner canrif yn gynt yn y pwll hwnnw y dechreuodd yr anghydfod wnaeth arwain at derfysgoedd Tonypandy.

Roedd fy nhad-cu wedi hen adael cyn y naill ddigwyddiad na'r llall. Yn ystod diwygiad 1904-05 fe gasglodd glowyr y Cambrian ddigon o arian i'w ddanfon i Goleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu i astudio i fod yn weinidog. Mae'n amlwg nad anffyddiaeth oedd yn nodweddi Cwm Clydach ar y pryd!

Beth ddigwyddodd felly i droi un o beiriau'r diwygiad yn un o'r llefydd mwyaf digrefydd yng Nghymru a Lloegr?

Mae cyfrolau cyfan wedi eu hysgrifennu i geisio ateb y cwestiwn hwnnw ond go brin fod modd datgysylltu'r hyn ddigwyddodd i Anghydffurfiaeth yn y Rhondda a llefydd tebyg, a'r hyn a ddigwyddodd i'r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny.

Efallai'n wir bod y ddau beth mor glwm â'i gilydd nad oes modd eu datod. Beth am beidio ceisio gwneud?

Mae 'na ddau bwnc wedi bod yn codi eu pen yn weddol gyson yn y Cynulliad yn ddiweddar.

Wrth drafod yr iaith mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi bod yn son yn gyson am yr angen i roi cyfleodd i ddisgyblion yr ysgolion Cymraeg ddefnyddio'r iaith y tu hwnt i furiau'r ysgol ac ar ôl ei gadael. Sut mae cyflawni hynny?

Ym maes treftadaeth cafwyd ambell i ddadl a sawl cwestiwn ynghylch diogelu o leiaf rhai o addoldai anghydffurfwyr Cymru ar ôl i'w drysau gau. Ffawd capel Pisgah yng Nghasllwchwr wnaeth ysbarduno'r drafodaeth ond mae 'na ddegau os nad cannoedd o gapeli yng Nghymru sydd o werth hanesyddol neu bensaernïol y byddai'n cael eu diogelu mewn byd delfrydol. Sut mae gwneud hynny? Wedi cyfan does dim modd troi pob capel sy'n cau yn ganolfan dreftadaeth!

Efallai bod modd cyfuno'r ddau bwnc at ateb y ddau gwestiwn trwy edrych ar esiampl Canolfan Soar ym Merthyr lle mae'r fenter iaith leol wedi defnyddio arian Ewropeaidd i ddatblygu canolfan i fywyd Cymraeg yr ardal a'r celfyddydau a thrwy hynny sicrhau dyfodol i un o adeiladau mwyaf nodedig y dref.

Roedd Soar eisoes wedi cau pan lansiwyd cynllun y fenter - ond onid oes modd llunio cynlluniau tebyg lle y gallai cynulleidfaoedd barhau i addoli yn yr adeilad yn rhydd o'r baich o'i gynnal?

Nid capeli trefol yn unig a allai fod o ddefnydd i ddyfodol y Gymraeg. Oni fyddai capeli fel Blaencaron, er enghraifft, yn ganolfannau awyr agored perffaith i ysgolion Cymraeg y de diwydiannol?

Dim ond gofyn ydw i ond hytrach nac eistedd yn ôl a disgwyl i'r drysau gau efallai y dylem ni fel Cymry Cymraeg, ac nid y capelwyr yn unig, ddyfalu a allai 'na fod dyfodol defnyddiol i'r adeiladau a fu'n gartrefi i'n diwylliant gyhyd?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:29 ar 31 Ionawr 2013, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Er mod i'n credu fod perthynas agos rhwng cyflwr a tystioaleth y ffydd Gristnogol a chyflwr yr iaith Gymraeg (cyn i neb ddadlau yn erbyn hyn rhaid i chi ddarllen Ffydd ac Argyfwng Cenedl sy'n cyflwyno thesis sydd wir yn argyhoeddi) rhaid bod yn ofalus hefyd oherwydd mae sawl ffactor arall ar waith. Cymharer er enghraifft ardaloedd ôl-ddiwydiannol y Gogledd-Orllewin (Dyffryn Nantlle, Dyffryn Peris, Dyffryn Ogwen ayyb..) gyda ardaloedd ôl-ddiwydiannol y de. Er fod y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith fwyafrifol cymunedau fel Talsarn, Llanllyfni a Bethesda mae nhw yr un mor ddi-ffydd ag ardaloedd ôl-ddiwydiannol y de. Petai thesis R. Tudur Jones yn gywir bob tro dylai'r Gymraeg fod yn farw yn Nyffryn Nanlle oherwydd fod gymaint o gapeli wedi cau ... ond dydy'r iaith ddim yn farw yn Nyffryn Nantlle...

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.