Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rwy'n grac...

Vaughan Roderick | 09:29, Dydd Gwener, 21 Rhagfyr 2012

"Tinsel ar y goeden... seren yn y nen..."

Fe ddylwn i fod mewn hwyliau da Nadoligaidd - yn edrych ymlaen at frêc bach o'r gwaith ac ychydig o loddesta.

Dydw i ddim. Rwy'n flin. Rwy'n grac. Rwy'n wynad.

Yr "Office for National Statistics" sy'n gyfrifol am fy nhymer. Gwnâi ddim boddran cyfieithu'r teitl. Wedi'r cyfan dyw nhw ddim yn trafferthu gwneud.

Rhyw chwe mis yn ôl cefais lythyr gan yr asiantaeth yn gofyn i mi gymryd rhan yn y "Labour Force Survey". Esboniwyd bod yr astudiaeth hon yn ail yn unig i'r Cyfrifiad o safbwynt pwysigrwydd y gwaith ac oherwydd hynny bod yn rhaid cael cyfweliad wyneb yn wyneb. Doedd llenwi ffurflen ddim yn ddigon da.

Roedd y llythyr yn uniaith Saesneg. Atebais yn ddigon cwrtais gan ddweud fy mod yn ddigon parod i gymryd rhan yn yr ymchwil ond fy mod yn dymuno gwneud hynny yn Gymraeg. Ces i ddim ateb.

Rhai wythnosau'n ddiweddarach ymddangosodd rywun ar stepen drws fy nghartref gan ddweud ei fod yn cynrychioli'r asiantaeth a'i fod yn dymuno fy holi ar gyfer yr astudiaeth.

Roedd y gweithiwr yn ddi-gymraeg. Brathais fy nhafod ac esbonio'n gwrtais yn Saesneg fy mod yn dymuno cael fy holi yn Gymraeg. Dywedodd y byddai'n gweld os oedd hynny'n bosib.

Rhai wythnosau'n ddiweddarach cefais alwad ffôn gan un o weithwyr yr asiantaeth oedd yn medru'r Gymraeg. Ymddengys fod yr angen i gael fy holi "wyneb yn wyneb" wedi diflannu. Fe fyddai ymateb dros y ffon yn ddigonol.

Dyna ddigwyddodd. Roedd y swyddog yn ddyn dymunol a'i Gymraeg yn ddigon pert - ond roedd hi'n gwbl amlwg ei fod yn cyfieithu'r holiadur off top ei ben ac yn ei llenwi yn Saesneg. Doeddwn i ddim yn hapus ond fel 'na mae bywyd weithiau.

Tan ddoe. Ddoe derbyniais lythyr arall gan yr asiantaeth yn gofyn i mi gymryd rhan mewn "follow-up survey". Unwaith yn rhagor roedd y llythyr yn uniaith Saesneg.

Digon yw digon. Rwyf wedi cael llond bol. Rwyf wedi alaru ar eich deddfau iaith, eich byrddau, eich cynlluniau iaith, eich comisiynwyr a'ch safonau!

Y cyfan rwy'n dymuno ei gael yw tipyn o gwrteisi a thipyn o barch. Oes rhaid mynd trwy hyn bob tro?

Ydy hi'n anodd?

Nadolig Llawen.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:37 ar 21 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd GeraintG:

    Cwpwl o beints o Brains Daark, ac mi fyddi di'n iawn, - Nadolig Llawen!

  • 2. Am 12:05 ar 21 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Neilyn:

    Dwi'n cydymdeimlo Vaughan. Triniaeth cwbl annerbyniol, cwbl warthus.

    Diolch am fod mor blaen dy dafod (a cofia, don't let the ONS get you down).

    Meri? Carwyn? David Jones? Unrhyw un mewn sefyllfa i wneud rhywbeth? Ymateb?

  • 3. Am 14:23 ar 21 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Rhodri Griffith:

    Annwyl Vaughan,

    Mae’n ddrwg gen i eich bod wedi cael y profiad hwn sy'n ymddangos i fod, yn rhannol, yn gamgymeriad gweinyddol. Dylai ein llythyron arolwg fynd allan yn Gymraeg ac yn Saesneg i gyfeiriadau yng Nghymru, a byddwn yn edrych mewn i pam gwnaeth hyn ddim digwydd. Gallwn dderbyn ymatebion i'r arolwg yn Saesneg yn unig (rhywbeth sydd wedi ei gydnabod yn ein Cynllun Iaith Gymraeg), ond rydym yn ceisio gwrthweithio hyn drwy gynnal y cyfweliad yn Gymraeg. O bryd i'w gilydd, oherwydd lleoliad ein cyfwelwyr sy'n siarad Cymraeg, nid yw hyn yn bosibl ac mae’r cyfweliad yn cael ei gynnal dros y ffôn.

    Yn anffodus, ni allwn gynnal yr holl gyfweliadau yn Gymraeg gan byddai'r gost o gynnal ein harolygon drwy ieithoedd eraill heblaw Saesneg yn afresymol o gostus. Mae pawb sy'n cymryd rhan yn ein harolygon yn helpu i wella cywirdeb ein ystadegau swyddogol, ac rydym yn gwerthfawrogi eich amser ac help.

    Rhodri Griffith
    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Ar ran Marian Lane - Pennaeth Rheoli Arolwg

  • 4. Am 14:25 ar 21 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Rhodri Griffith:

  • 5. Am 16:28 ar 21 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Dafydd:

    Rwyt ti siwr o fod yn teimlo'n ddigalon am rywbeth arall Vaughan achos rwy'n siwr dy fod wedi hen gynefino gyda'r sefyllfa yma.

    Nadolig LLawen

  • 6. Am 00:54 ar 22 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Aled:

    Mi ges i'r union un driniaeth gan yr ONS 3 mlynedd yn ôl: llythyr uniaith Saesneg, galwadau ffôn i gwyno, dyn bach neis yn lled-siarad Cymraeg wedi i mi wneud ffws, follow-up Saesneg, ffws arall, ymddiheuriad ar y ffôn, ayb ...

    Croseo i'r byd go iawn, Vaughan.

  • 7. Am 00:55 ar 22 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Aled:

    Mi ges i'r union un driniaeth gan yr ONS 3 mlynedd yn ôl: llythyr uniaith Saesneg, galwadau ffôn i gwyno, dyn bach neis yn lled-siarad Cymraeg wedi i mi wneud ffws, follow-up Saesneg, ffws arall, ymddiheuriad ar y ffôn, ayb ...

    Croseo i'r byd go iawn, Vaughan.

  • 8. Am 14:14 ar 22 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Dawn Knight:

    Rwy'n aelod o dîm sy'n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel 'mod i'n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?
    Cofion,
    Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle
    CorpwsCymraeg@gmail.com

  • 9. Am 15:54 ar 22 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Lionel:

    'Byddaa'r gost o gynnal ein harolygon drwy ieithoedd eraill heblaw Saesneg yn afresymol o gostus"
    Tri pwynt
    1. Dim ond mewn un iaith heblaw y saesneg dan ddeddf gwladol sydd yn gorfod cael ei tretio yn gyfartal, a honno yw'rgymraeg. End of.
    2. I' r swyddfa ystadegau, mae'n amlwg bod y Gymraeg yn afresymol, a'r Saesneg yn resymol. Eto anghyfartaledd, dany ddeddf.
    3.ydy'renw Rhodri yn synonymous gyda amharodrwydd I weithredu dros y Gymraeg? Rhodri I speak English with my kids Morgan, Rhodri, we do loads for the Welsh language including allowing Town and Country broadcasting to ride roughshod over us OFCOM?

  • 10. Am 15:56 ar 22 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Lionel:

    'Byddai'r gost o gynnal ein harolygon drwy ieithoedd eraill heblaw Saesneg yn afresymol o gostus"
    Tri pwynt
    1. Dim ond mewn un iaith heblaw y saesneg dan ddeddf gwladol sydd yn gorfod cael ei tretio yn gyfartal, a honno yw'rgymraeg. End of.
    2. I' r swyddfa ystadegau, mae'n amlwg bod y Gymraeg yn afresymol, a'r Saesneg yn resymol. Eto anghyfartaledd, dany ddeddf.
    3.ydy'renw Rhodri yn synonymous gyda amharodrwydd I weithredu dros y Gymraeg? Rhodri I speak English with my kids Morgan, Rhodri, we do loads for the Welsh language including allowing Town and Country broadcasting to ride roughshod over us OFCOM?

  • 11. Am 15:58 ar 22 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Lionel:

    ''Byddai'r gost o gynnal ein harolygon drwy ieithoedd eraill heblaw Saesneg yn afresymol o gostus"
    Tri pwynt
    1. Dim ond mewn un iaith heblaw y saesneg dan ddeddf gwladol sydd yn gorfod cael ei tretio yn gyfartal, a honno yw'rgymraeg. End of.
    2. I' r swyddfa ystadegau, mae'n amlwg bod y Gymraeg yn afresymol, a'r Saesneg yn resymol. Eto anghyfartaledd, dany ddeddf.
    3.ydy'renw Rhodri yn synonymous gyda amharodrwydd I weithredu dros y Gymraeg? Rhodri I speak English with my kids Morgan, Rhodri, we do loads for the Welsh language including allowing Town and Country broadcasting to ride roughshod over us OFCOM?

  • 12. Am 17:42 ar 29 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Siôn:

    Dwi ddim mor grac am hyn ag ydw i fod cyn Bennaeth BBC yn derbyn mwy am beidio gweithio nag y mae cerddorion Cymru'n ei dderbyn mewn blwyddyn!

    Canu roc Cymraeg yw un o berlau ein diwylliant cyfoes ac eto mae'n cael namyn ddim cefnogaeth.

    Rydym fel Cymry wedi ein twyllo gan arweinwyr y Gymraeg yn dweud fod 'y frwydr drosodd'. Doedd y frwydr ddim drosodd a bydd hi fyth. Mae'r agwedd 'brwydr drosoddd' yma wedi arwain i ni fod yn llesg a derbyn briwsion.

    Wyddwn ni ddim er engraifft fod chwarae cerddoriaeth ar Radio Cymru mor rhad! Onid oedd staff Cymraeg BBC Cymru wedi sylwi ar hyn ac ymladd achos i Gymraeg? Mae'n edrych i mi ein bod wedi derbyn ail sâl pam dylsem wedi bwrw ymlaen gyda brwydr dros ail orsaf radio Gymraeg genedlaethol ac y gellid cynnal hynny ar gyllideb bychan iawn. Rydym wedi gwastraffu ugain mlynedd o ran datblygu ac ehangu darlledu radio yn y Gymraeg.

    Hoffwn wybod beth yw cyllideb chwarae cerddoriaeth ar Radio Wales. Os yw'r cost o'i chwarae gymaint yn fwy na'r Gymraeg (ac nid ymosodiad ar RW yw hyn) yna dylid defnyddio cyllideb gyfatebol i gynnal cerddoriaeth neu'n hytrach ail orsaf radio Gymraeg. Byddai hyn yn ehangu'r Gymraeg ac yn cryfhau'n diwylliant cyfoes.

    I'r perwyl yma rwy wedi danfon cais Freedom of Information i weld beth yw cyllideb chwarae caneuon (Saesneg) ar Radio Wales o'i gymharu â chyllideb chwarae recordiad (Cymraeg) ar Radio Cymru.

  • 13. Am 15:02 ar 4 Ionawr 2013, ysgrifennodd Pen Pastwn:

    Cawsom driniaeth go debyg gan y Swyddfa Ystadegau - cerdyn uniaith Saesneg yn dweud ei bod wedi galw; dim manylion cyswllt â swyddfeydd Cymru ar eu gwefan; diffyg gwasanaeth Cymraeg pan ffoniais i wirio dilysrwydd y cerdyn. Anfonwyd rhywun Cymraeg atom yng Ngheredigion ar ôl inni wneud cais.

    Annheg braidd ar Rhodri Griffiths yw Lionel - yn fy mhrofiad i, ychydig iawn o ddylanwad mae dyrniad o bobl Gymraeg eu hiaith tua gwaelod y pentwr yn ei gael ar sefydliadau mawr fel hyn. Mae pobl fewnol yn dibynnu'n llwyr ar gwynion gan y cyhoedd er mwyn ysbarduno unrhyw newid. Tybiwn taw'r negesydd yw'r Rhodri hwn, paid â'i saethu!

    Ddealla i ddim "Byddai'r gost o gynnal ein harolygon drwy ieithoedd eraill heblaw Saesneg yn afresymol o gostus" chwaith. Hynny yw, nid yw'r Swyddfa Ystadegau'n cyflogi digon o staff dwyieithog - nid 'afresymol o gostus' yw cyflogi digon o staff i allu gwneud y gwaith.

    "O bryd i'w gilydd, oherwydd lleoliad ein cyfwelwyr sy'n siarad Cymraeg, nid yw hyn yn bosibl ac mae’r cyfweliad yn cael ei gynnal dros y ffôn." Ody hynny'n golygu nad oes neb ganddynt yn y de all siarad Cymraeg? Carwn i gael gwybod faint o aelodau o staff sydd ganddynt sy'n medru'r Gymraeg.

    Wara teg, does dim disgwyl i Rhodri Morgan wilia Cymraeg â'i blant nac oes, ac yntau wedi dewis addysg uniaith Saesneg iddynt?

    Diolch yn fawr am gofnodi'ch dicter Vaughan! Allen ni ddim gadael i'r pethau yma fynd. Rhaid gwylltio - a defnyddio'r dicter i'n hysgogi i wneud rhywbeth amdano!

  • 14. Am 10:39 ar 7 Ionawr 2013, ysgrifennodd UCAC:

    Mae'r ONS yn un enghraifft o broblem ehangach gyda sefydliadau ac asiantaethau cyhoeddus 'Prydeinig' - dydyn nhw ddim wedi'i deall hi o gwbl o ran darparu gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg.

    Enghraifft sy'n gwyllti ar hyn o bryd yw'r gyfundrefn newydd sydd wedi dod i rym yn lle'r Criminal Records Bureau ar gyfer gwiriadau i weithio gyda phlant. http://www.homeoffice.gov.uk/agencies-public-bodies/dbs/ Rhaid i bob athro yng Nghymru a Lloegr gofrestru - ond ble mae'r Gymraeg??

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.