Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2012

Llygod am lygod

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Iau, 28 Mehefin 2012

Sylwadau (1)

Yn ôl ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf roedd dinas Seattle yn goddef pla o lygod mawr a doedd 'na ddim pibydd brith cyfleus i'w swyno i'r dyfroedd. Rhaid oedd gwneud rhywbeth ac fe benderfynodd mawrion y ddinas gynnig gwobr hael am gynffonau'r creaduriaid.

Roedd y cynllun yn llwyddiannus, neu'n ymddangos felly. Roedd Neuadd y Ddinas yn boddi mewn cwtau a helwyr y llygod yn dathlu eu ffortiwn mewn tafarnau cyfagos. Y broblem oedd nad oedd 'na unrhyw dystiolaeth bod y pla yn gostegu. Yn wir, os unrhyw beth roedd y broblem yn gwaethygu. Yn y diwedd canfuwyd y gwir. Roedd ffermwyr ar gyrion y ddinas wedi troi at fridio llygod mawr er mwyn hawlio gwobr am eu cynffonau ac wedi gwneud elw sylweddol o'u menter.

Dydw i ddim yn gwybod p'un ai ydy stori ffermwyr llygod Seattle yn wir ai peidio - mae'n haeddu bod. Dameg ai peidio mae pwynt y stori yn un ddilys. Ni fu treth yn hanes y ddynolryw na cheisiodd rhywun ei hosgoi na thaliad na cheisiodd rhywun ei hawlio ar gam.

Mae ambell i le wedi seilio cyfran helaeth o'i economi ar yr awch i osgoi trethi ac mae'n rhyfeddod cymaint ohonyn nhw sydd â rhyw fath o gysylltiad cyfansoddiadol â'r Deyrnas Unedig. Mae rhai ohonynt ym mhellafion byd megis ynysoedd Cayman ac eraill yn agosach at gartref megis Ynys Manaw. Cewch chi benderfynu oes a wnelo bodolaeth yr hafanau treth 'Prydeinig' yma rywbeth a llwyddiant dinas Llundain fel canolfan ariannol ryngwladol.

Ta beth am hynny ymddengys fod statws trethiannol ambell i hafan yn bwysicach i'w harweinwyr nac unrhyw ymdeimlad o deyrngarwch i'r Deyrnas Unedig. Dyna yw'r unig gasgliad teg a barnu o sylwadau Philip Bailhache, dirprwy Brif Weinidog Jersi. Yn ôl Mr Bailhache roedd yr ynys yn "barod i fod yn annibynnol" os mai dyna oedd pris cadw ei statws trethianol.

Mewn un ystyr mae ynysoedd Môr Udd yn annibynnol yn barod. Dydyn nhw ddim yn rhan o'r Deyrnas Unedig na'r Undeb Ewropeaidd. Ar y llaw arall maen nhw'n rhan o deyrnasaoedd y Goron a Phrydain sy'n gofalu am faterion tramor ar ei rhan.

Beth fyddai agwedd y Deyrnas Unedig pe bai Jersi yn ceisio torri'r cysylltiad yn llwyr? Ymateb digon laissez-faire, mae'n debyg. Wedi'r cyfan fe fyddai hi braidd yn rhagrithiol i bregethu bod "dymuniadau'r ynyswyr yn holl bwysig" yn ne Môr Iwerydd tra'n arddel egwyddor wahanol ym Môr Udd.

Yn Enw'r Arglwydd!

Vaughan Roderick | 15:38, Dydd Mercher, 27 Mehefin 2012

Sylwadau (0)


Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fanylion ei chynlluniau i ailwampio Tŷ'r Arglwyddi. Ai ddim i fanylion yn fan hyn. Mae 'na ddigon o lefydd eraill i chi eu gweld!

Efallai gwnaiff y Senedd gymeradwyo'r mesur, efallai ddim. Fe fydd na ddigon o amser i drafod hynny dros y flwyddyn nesaf - ond mae'n werth nodi y byddai methiant y mesur mwy neu lai yn sicrhau na fyddai'r newidiadau i etholaethau Tŷ'r Cyffredin yn digwydd chwaeth. Diwygio'r Ail Siambr yw pris y Democratiaid Rhyddfrydol am gefnogi'r newidiadau hynny pan ddaw'r bleidlais olaf un yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae rôl yr Ail Siambr a sut mae dewis ei haelodau wedi bod yn broblem gyson ym mron pob un o'r gwledydd sy'n defnyddio'r "Westminster System". Cymaint felly nes i Seland Newydd gael gwared ar ei un hi yn 1951. Mae rhai o daleithiau Awstralia wedi gwneud yr un peth er bod y sefydliad yn parhau ar lefel y Gymanwlad.

Ond yng Nghanada y mae'r broblem fwyaf. Mae'r wlad yn wynebu hymdingar o argyfwng cyfansoddiadol a hynny oherwydd natur ei hail siambr.

Fel Tŷ'r Arglwyddi mae Senedd Canada yn siambr enwebedig ond yn wahanol i'r sefyllfa yn y Deyrnas Unedig mae gan wahanol ranbarthau'r wlad nifer penodedig o aelodau. Dyw'r niferoedd hynny ddim wedi newid rhyw lawer ar hyd y blynyddoedd gan greu sefyllfa lle mae gan British Columbia, sydd â phoblogaeth rhyw bedair miliwn chwe seneddwr, tra bod deg yn cynrychioli'r filiwn o bobol syn byw yn Nova Scotia.

O holl daleithiau a thiriogaethau Canada Quebec, ac Quebec yn unig, sydd â nifer cymwys o Seneddwyr i gynrychioli ei phoblogaeth.

Mae 'na waeth i ddod. Mae Senedd Canada yn fach. Dim ond cant a phump o aelodau sydd ganddi. Tan 1965 roedd enwebiad i'r Senedd yn para am oes. Yn y flwyddyn honno cyflwynwyd oed ymddeol o 75. Serch hynny, mae Seneddwyr yn gallu para yn ei swyddi am ddegawdau a phan ddaw cyfle prin i Brif Weinidog argymell enwebiad anodd yw gwrthsefyll y demtasiwn i enwebu aelod o'i blaid ei hun.

Canlyniad hynny yw mai dim ond dwy o brif bleidiau'r wlad sef y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr sydd â chynrychiolwyr yn y Senedd. Does dim un aelod yn cynrychioli naill ai'r NDP, y brif wrthblaid ar hyn o bryd, na'r Bloc Québécois.

Mae arolygon barn yn awgrymu ei bod hi'n ddigon posib mai plaid y chwith, yr NDP, fydd yn ennill yr Etholiad Cyffredinol nesaf - ond a fyddai moddi iddi lywodraethu? Wedi'r cyfan heb gynrychiolaeth yn yr Ail Siambr ni fyddai modd iddi hyd yn oed cyflwyno deddfwriaeth yn y tŷ hwnnw - heb sôn am fod ac unrhyw obaith o weld deddfwriaeth yn cael ei chymeradwyo.

I raddau mae'r NDP yn gyfrifol am y twll mae hi ynddi. Dyw'r blaid ddim yn derbyn dilysrwydd y Senedd oherwydd yr anghyfartaledd rhanbarthol - ac mae hi wedi gwrthod ambell i gyfle i sicrhau rhyw fath o droedle ynddi.

Does 'na ddim ateb amlwg i'r broblem. Gallai Prif Weinidog o'r NDP ddechrau ar y broses hir o benodi Seneddwyr o'i blaid ond fyddai'n cymryd mwy nac un tymor i sicrhau lefel resymol o gynrychiolaeth. Y dewis arall yw ceisio newid y cyfansoddiad. Er mwyn gwneud fe fyddai angen sicrhau cefnogaeth 50% o'r pleidleiswyr mewn refferendwm a chefnogaeth saith talaith. Dyma farn un sylwebydd o'r dacteg honno.

"The prospect of the eastern provinces agreeing to the abolition of an institution that grants them power disproportionate to their population is roughly the same as the England soccer team winning a penalty shoot-out."

Ac mae David Cameron bod ganddo fe broblemau!


Pony welwch chwi hynt y gwynt ar glaw?

Vaughan Roderick | 15:00, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2012

Sylwadau (1)

Mae 'na ryw atyniad rhyfedd yn perthyn i hanes dyddiau olaf gwladwriaethau ac ymerodraethau. Am ryw reswm mae campwaith Gibbon ynghylch cwymp Rhufain o hyd yn fwy diddorol na'r amryw lyfrau sy'n ymwneud â'r ymerodraeth ar ei hanterth. Yma yng Nghymru mae Canu Heledd a marwnad Gruffudd ab yr Ynad Coch i Llywelyn II o hyd yn adleisio.

Fel mae'n digwydd rwyf wedi bod yn darllen dau lyfr ynghylch cwymp gwladwriaethau yn ddiweddar. Mae teitl "Carthage Must Be Destroyed" yn hunanesboniadol. Ymwneud â
dyddiau olaf y Conffederasiwn yn rhyfel cartref America mae "An Honourable Defeat". Rwy'n argymell y ddau.

Mae testunau'r ddau lyfr yn wladwriaethau sy'n gyfarwydd i ni heddiw er pa mor fyrhoedlog oedd hanes y CSA. Mae gwladwriaethau coll eraill bron yn angof ac mae Norman Davies yn adrodd hanes rhai ohonynt yn ei lyfr "Vanished Kingdoms". Fel mae'n digwydd mae un o deyrnasoedd yr hen ogledd yn un o'r gwledydd y mae Davies yn dewis adrodd ei hanes. Mae 'na ambell i atgof ohoni yn llenyddiaeth Cymru ond nemor ddim yn hanes ysgrifenedig na llafar yr Alban.

Yn ei lyfr mae Norman yn gwneud un o'r pwyntiau yna sy'n gwbl amlwg ar ôl i rywun ei wneud - sef bod pob gwladwriaeth yn dirwyn i ben rhyw bryd. Fel Rhufain ac Ystrad Clud perthyn i hanes neu ddiflannu ohoni yw tynged pob un o wladwriaethau'r byd.

Daeth sylw Norman i'n meddwl wrth i mi holi Willie Rennie, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban ar fy rhaglen wleidyddol Saesneg fore Sul. Lansio'r ymgyrch "Na" yn refferendwm annibyniaeth yr Alban oedd testun y sgwrs ac fe wnaeth Willie Rennie bwynt diddorol.

Er bod nifer aelodau'r Cenhedloedd Unedig wedi cynyddu o 51 yn 1945 i 193 heddiw roedd pob un o'r gwladwriaethau newydd a ffurfiwyd naill ai'n ganlyniad dad-drefedigaethu neu'n ffrwyth datgymalu gwladwriaeth dotalitaraidd. Doedd yr un wlad ddatblygedig ddemocrataidd wedi rhannu'n ddwy yn ystod y cyfnod hwnnw, meddai. Roedd y cysylltiadau economaidd a chymdeithasol, a bywyd cysurus eu trigolion yn gwneud hynny'n broses lawer ynrhy gymhleth a pheryglus.

Fe wnaeth Willie Rennie bwynt o ddweud nad oedd yn credu ei bod hi'n amhosib i'r Alban fod yn annibynnol ond cefais yr argraff nad oedd yn credu bod hynny'n mynd i ddigwydd. Efallai nad oedd ei hyder cymaint â un o Seneddwyr Rhufain yn ei hoes aur ond gallasai'r gred fod y Deyrnas Unedig yn rhy fawr i fethu fod yn beryglus iawn i'r ymgyrch Na.

Stauell Gyndylan ys tywyll heno,
Heb dan, heb wely.
Wylaf wers; tawaf wedy.


Dathlwn Glod...

Vaughan Roderick | 11:00, Dydd Iau, 21 Mehefin 2012

Sylwadau (6)

Rhywle gartref mae gen i fy nghap o'r ysgol fach. Arno mae bathodyn yr ysgol sef y llythrennau YGC wedi eu gweu yn gelfydd at ei gilydd. Ysgol Gymraeg Caerdydd oedd YGC, er mai Bryntaf oedd ei enw ar lafar, ac yn fy nyddiau hi oedd yr unig ysgol Gymraeg yn y brifddinas. Y deg ar hugain o blant yn fy nosbarth i oedd yr unig rai o'n hoedran oedd yn derbyn ein haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Tipyn o ryfeddod felly yw edrych ar raglen ffair Tafwyl eleni gyda'i llwyfannau amrywiol, stondinau di-ri a'r gweithgareddau Cymraeg wedi trefnu gan amryw sefydliadau - gan gynnwys rhai oedd yn ddigon gelyniaethus i'r Gymraeg tan yn gymharol ddiweddar.

Oherwydd y pwysau ar y Gymraeg yn ei chadarnleoedd mae'n ddigon hawdd weithiau i anghofio'r llwyddiannau ieithyddol a'r brwydrau a enillwyd. Hawdd hefyd yw cymryd yn ganiataol y gwaith anhygoel sy'n cael ei gyflawni gan fudiadau fel y Mentrau Iaith, Mudiad Ysgolion Meithrin a'r Urdd.

Mae'n sbort weithiau gwatwar ynghylch ystumiau ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd, er enghraifft, ond fe ddylwn ni werthfawrogi nid yn unig y gwaith dros bobol ifanc ond y ffaith bod yr Urdd yn fusnes llwyddiannus sy'n un o'r prif gyflogwyr yng nghymunedau Cymraeg de Ceredigion a Meirionydd.

Ond nid post i ganmol yr Urdd nac unrhyw fudiad Cymraeg arall yw hwn. Yn hytrach canmol gwleidyddion Lloegr a llywodraethau'r Deyrnas Unedig ar hyd y blynyddoedd yw fy mwriad heddiw!

Un o nodweddion hanes y Deyrnas Unedig, yn enwedig ers sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1922, yw pa mor ddi-hid y bu gwleidyddion Lloegr ynghylch cwblhau neu amddiffyn y prosiect unoliaethol.

Ni chafwyd ymgais i rwystro'r Wladwriaeth Rydd rhag torri ei chysylltiadau a'r Deyrnas Unedig yn 1937 a phrin yw'r gwleidyddion sy'n cwestiynu'r gosodiad mai mater i bobol yr Alban yw statws cyfansoddiadol ei gwlad.

Prin iawn yw'r gwladwriaethau democrataidd fyddai'n derbyn bod gan ran o'u tiriogaeth graidd yr hawl i adael. Yn sicr dyw Sbaen ddim - er cymaint y gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghatalonia a Gwlad y Basg ac fe ymladdodd yr Unol Daleithiau rhyfel cartref ynghylch yr union bwnc.

Yn yr un modd nid o San Steffan y mae'r rhan fwyaf o'r pwysau am gydymffurfiaeth ieithyddol yng Nghymru wedi dod. Eironi mawr Brad y Llyfrau Gleision oedd bod y Cymry ar ôl ffieiddio'r Comisiynwyr a'u hadroddiad wedi dilyn yr union drywydd wnaeth gael ei hargymell trwy gofleidio'r Saesneg fel iaith addysg.

Brwydro yn erbyn Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli - cyngor lle'r oedd pob un cynghorydd yn Gymro Cymraeg - wnaeth teulu'r Beasleys a brwydrau yn erbyn cynghorau sir Cymru oedd pob un o'r brwydrau dros addysg Gymraeg ar hyd y blynyddoedd.

Roedd y brwydrau hynny yn bosib eu hennill yn rhannol oherwydd nad oes gan y Deyrnas Unedig, yn wahanol i Ffrainc er enghraifft, gyfansoddiad ysgrifenedig yn datgan bod ganddi iaith swyddogol.

Yn yr un modd mae'n bosib i Alex Salmond lunio llwybr at annibyniaeth i'r Alban oherwydd nad oes 'na gyfansoddiad ysgrifenedig yn ei rwystro rhag gwneud hynny. Mae hynny'n wahanol iawn i'r sefyllfa sy'n wynebu gwleidyddion Catalonia a Gwlad y Basg.

Yng nghanol hyn oll cafwyd awgrym gan Carwyn Jones yn ddiweddar bod hi'n bryd sefydlu confensiwn neu gomisiwn i lunio cyfansoddiad ysgrifenedig i'r Deyrnas Unedig.

Gellid dadlau bod diffyg cyfansoddiad o'r fath wedi bod o fantais enfawr i genhedloedd llai'r ynysoedd hyn ar hyd y blynyddoedd a bod hwn yn achos o "gochelwch rhag chwi a gewch".


Cario'r groes

Vaughan Roderick | 14:48, Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2012

Sylwadau (2)

Roedd 'na gyfnod pan oedd y Democratiaid Rhyddfrydol yna awchu am isetholiadau. Roedd dulliau ymgyrchu'r blaid a pharodrwydd eu haelodau i deithio milltiroedd lawer i ymgyrchu yn gwneud buddugoliaeth yn bosib yn y llefydd mwyaf annisgwyl. Roedd modd concro caerau Ceidwadol fel Newbury, Christchurch ac Eastleigh a rhai Llafur fel Dwyrain Brent, De Caerlŷr a Dunfermline a Gorllewin Fife.

Gwgu nid gwenu ynghylch y posibilrwydd o isetholiadau mae aelodau'r blaid erbyn hyn - gan wybod bod clatsien yn debycach na choncwest. Cymerwch isetholiad Gorllewin Bradford fel enghraifft. Gyda'r holl sylw yn cael ei roi i fuddugoliaeth anhygoel George Galloway hawdd oedd methu sylwi bod pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gostwng i 1,505 o 4,372 yn 2010 a bod y blaid wedi colli ei hernes. Colli ei hernes wnaeth y blaid yng Nghanol Barnsley hefyd - gan golli nid yn unig i Lafur a'r Ceidwadwyr ond hefyd i UKIP, y BNP ac ymgeisydd annibynnol.

Does syndod felly fy mod wedi cael ymateb digon surbwch pan wnes i grybwyll y tebygrwydd o isetholiad yn Ne Caerdydd a Phenarth wrth un o fawrion y blaid. Mae hwnnw'n debyg o ddigwydd o ganlyniad i ddewis Alun Michael fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer swydd Comisiynydd Heddlu De Cymru.

Cyn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf fe fyddai'r blaid wedi dwli at y syniad o droedio strydoedd yr etholaeth. Roedd De Caerdydd a Phenarth wedi ei chlustnodi fel sedd darged tymor hir gan y blaid ac roedd hi'n dal sawl sedd gyngor o fewn ei ffiniau. Gyda phleidlais Geidwadol sylweddol i'w gwasgu fe fyddai'r sedd o fewn eu cyrraedd.

Ond ni ddaw ddoe byth yn ôl. Yn yr etholiadau Cyngor eleni collodd y blaid bob un o'i seddi cyngor yn yr etholaeth. Mewn un ward lle gollodd tri chynghorydd eu seddi enillodd y blaid mil o bleidleisiau'n llai nid yn unig na'r ymgeiswyr Llafur buddugol ond hefyd mil yn llai nac ymgeiswyr Plaid Cymru.

A fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn trafferthu rhyw lawer yn Ne Caerdydd a Phenarth, felly? Does dim llawer o ddewis ganddyn nhw, mewn gwirionedd. Fe fyddai colli ernes yn embaras difrifol ond mae 'na ffactor arall yn chwarae ar feddyliau strategwyr y blaid.

O ganlyniad i'r ad-drefnu etholiadol fe fydd ffiniau etholaeth Canol Caerdydd, sedd Jenny Willott, yn newid. Oes angen dweud o ble y mae'r wardiau sy'n debyg o gael eu hychwanegu ati yn dod?

Adar o'r unlliw

Vaughan Roderick | 09:50, Dydd Gwener, 15 Mehefin 2012

Sylwadau (1)

Un o ddywediadau enwocaf Enoch Powell oedd bod pob gyrfa gwleidyddol yn diweddu mewn methiant. Yn sicr roedd hynny'n wir am yrfa Powell ei hun wrth iddo droi'n ffigwr fwyfwy ymylol yn sgil ei araith enwog yn proffwydo y byddai 'na 'afonydd o waed' o ganlyniad i fewnfudo i Brydain.

Ganwyd Powell union ganrif yn ôl - ac mae canmlwyddiant ei eni wedi arwain at gyhoeddi cyfrol o draethodau yn ail-asesu gwahanol agweddau o'i fywyd a'i ddaliadau.

Dyw darllen araith 1968, sydd wedi ei chynnwys yn ei chyfanrwydd yn y gyfrol, ddim yn brofiad cysurus. Does dim dwywaith ei bod hi'n hiliol a dyw'r esgusodion bod Powell wedi "mynd dros ben llestri" neu "wedi ei ddal lan yn ei rethreg ei hun" ddim yn dal dŵr.

Mae'n amhosib cyfiawnhau na maddau'r araith heddiw. Dyw hynny ddim yn golygu bod hi'n ddiwerth ceisio deall y cymhellion.

Mae bywyd Powell yn awgrymu nad casineb hiliol oedd wrth wraidd ei ddaliadau. Wedi'r cyfan, roedd wedi gwneud ei enw seneddol trwy ei ymosodiadau chwyrn ar luoedd arfog Prydain am gam-drin trigolion rhai o drefedigaethau'r Ymerodraeth. Yn hytrach syniad rhamantus o 'Loegr' fel lle oedd â thraddodiadau unigryw o ddemocratiaeth a rhyddid oedd yn sylfaen i'w gredo.

Prydain oedd Powell yn golygu wrth 'Loegr' ond doedd cymysgu rhwng y ddwy na chredu yn eu hunigrywiaeth ddim yn anarferol hyd yn oed yn y 1960au. Dadl Powell oedd y byddai mewnfudwyr naill ai'n gwrthod cymhathu â chymdeithas unigryw 'Lloegr' neu yn ei newid er gwaeth trwy wneud hynny.

Mewn un ystyr credu yn y geidwadaeth fwyaf pur bosib oedd Powell gan feddwl bod unrhyw newid o gwbwl yn newid er gwaeth. Ystyriwch y dyfyniad yma.

"At the end of a lifetime in politics, when a man looks back, he discovers that the things he most opposed have come to pass and that nearly all the objects he set out with are not merely not accomplished, but seem to belong to a different world from the one he lives in."

Mewn un ystyr roedd Powell yn iawn. Mae mewnfudwyr wedi newid Prydain er gwell neu er gwaeth. Yn sicr maen nhw wedi newid ein gwleidyddiaeth.

Un o'r arolygon barn mwyaf diddorol i mi ddarllen yn ddiweddar oedd un a gomisiynwyd gan gyn ddirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr Michael Ashcroft.

Mae Ashcroft yn gymeriad dadleuol ond mae'r arolygon a gomisiynir ganddo yn hynod ddiddorol. Maen nhw'n broffesiynol ac yn defnyddio samplau lawer iawn fwy na sy'n arferol. Rhyw fil o bobol sy'n cael eu holi ar gyfer arolygon gan amlaf - mae polau Ashcroft yn holi hyd at ddeg gwaith cymaint. Mae hynny'n golygu bod modd gwneud casgliadau cadarn ynghylch agweddau gwahanol gymunedau a lleiafrifoedd.

Ym mis Ebrill fe holodd Ashcroft gwestiwn diddorol iawn sef hwn - "pa rai o'r tair plaid fawr y byddech yn gwrthod pleidleisio iddynt o dan unrhyw amgylchiadau?" Mae'r atebion hyd yn oed yn fwy diddorol. Dim ond 15% oedd yn dweud eu bod yn amharod i bleidleisio i Lafur. 22% oedd y ffigwr i'r Democratiaid Rhyddfrydol tra bod 35% yn dweud nad oeddent yn fodlon pleidleisio i'r Ceidwadwyr o dan unrhyw amgylchiadau.

Mae'r ystadegyn olaf yna, dybiwn i, yn cynnig esboniad o fethiant y Ceidwadwyr i ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf er gwaethaf amgylchiadau gwleidyddol hynod o ffafriol. Roedd 'na ormod o bobol nad oeddynt yn fodlon pleidleisio i'r Torïaid doed a ddelo. Mae hynny yn broblem enfawr i'r blaid

Dyw e ddim yn syndod efallai bod pobol ddu Mwslemiaid ymhlith y grwpiau sydd fwyaf gelyniaethus i'r Ceidwadwyr. Dywedodd 45% o bobol ddu a holwyd na fyddent fyth yn cefnogi'r Toriaid ac yn Etholiad 2010 dim ond 16% o bleidleiswyr o leiafrifoedd ethnig wnaeth gefnogi'r Ceidwadwyr.

Yr eironi yw mai Enoch Powell sy'n rhannol, neu hyd yn oed yn bennaf, gyfrifol am hynny.

Cwm Cynon yn yr Haf

Vaughan Roderick | 15:13, Dydd Mercher, 13 Mehefin 2012

Sylwadau (3)

O bryd i gilydd mae pwnc yn codi sydd o'r diddordeb mwyaf i'n gwleidyddion ac i ni'r newyddiadurwyr gwleidyddol ond sydd o fawr ddim diddordeb i'r cyhoedd. Un o'r rheiny yw trefniadau etholiadol a systemau pleidleisio. Dyna yw'r gred gyffredinol, o leiaf.

Wrth drafod Papur Gwyrdd yr Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â threfniadau etholiadol y Cynlluniad ddoe roedd ambell i wleidydd yn teimlo'r angen i led ymddiheuro am gynnal dadl ynghylch pwnc mor anoracaidd. Dyma i chi Andrew RT Davies, er enghraifft.

"I have not had a single person approach me, on a constituency or regional level, to talk about the Green Paper. However, in the tea room and committee rooms of this institution, plenty of politicians have come to talk to me about it and we have spent quite a lot of time on the subject."

Ond ydy Andrew yn gywir wrth feddwl nad yw'r cyhoedd yn malio botwm corn ynghylch systemau etholiadol? Mae 'na dystiolaeth ar wefan y Comisiwn Ffiniau sy'n awgrymu nad yw hynny'n wir.

Ar hyn o bryd mae aelodau'r Comisiwn wrthi'n ceisio llunio ffiniau i'r trideg o etholaethau seneddol newydd fydd gan Gymru yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf ac maen nhw newydd gyhoeddi'r ymatebion i'w hargymhellion gwreiddiol.

Mae sawl ymateb wedi dod gan bleidiau gwleidyddol a'i haelodau wrth reswm ac mae ambell i academydd hefyd wedi dweud ei ddweud. Yr hyn sy'n fwy annisgwyl efallai yw'r ymateb o'r tu hwnt i'r dosbarth gwleidyddol.

Cymerwch Cwm Cynon fel enghraifft. Fel rhan o gynigion cychwynnol y Comisiwn awgrymwyd y dylid rhannu'r etholaeth bresennol yn dair. Dyw'r awgrym y gallai tref Aberdâr ynghyd ac etholaeth Merthyr ffurfio rhan o etholaeth newydd "Blaenau'r Cymoedd" ddim yn poeni pobol yn ormodol. Wedi'r cyfan mae 'na gynsail hanesyddol - roedd Merthyr ac Aberdâr yn sedd dau aelod pan etholwyd Keir Hardie yn 1900. Dyw'r awgrym y gallai ceg y cwm gael ei draflyncu gan etholaeth Pontypridd ddim yn poeni gormod o bobol chwaith.

Y drwg yn y caws yw'r awgrym y dylai ardal Aberpennar fod yn rhan o drydydd etholaeth - sef y Rhondda. Nawr, ffordd Llanwynno yw'r ffordd hyfrytaf y gwn i amdani yng Nghymru ond teg yw dweud nad oes lawer o fynd a dod ar ei hyd - a hi yw'r unig heol fyddai'n cysylltu'r ddwy ran o'r etholaeth newydd.

Dyw'r peth ddim yn gwneud llawer o synnwyr - neu felly mae pobol yr ardal yn teimlo. Derbyniodd y Comisiwn dystiolaeth gan bron i gant o bobol a deiseb ac arni dair mil o enwau yn gwrthwynebu'r cynllun.

Go brin y bydd y Comisiwn yn gallu anwybyddu'r unfrydedd barn - yn enwedig gan fod cynlluniau amgen wedi eu hawgrymu. Wedi'r cyfan mewn oes pan mae gwleidyddion yn poeni am ddifaterwch gwleidyddol fe fyddai anwybyddu barn eglur yr etholwyr yn weithred reit droëdig.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.