Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pris y Farchnad

Vaughan Roderick | 10:15, Dydd Mawrth, 25 Hydref 2011

Gallwch ddychmygu cymaint o bleser oedd hi i rhywun fel fi i gael bwrw fy mhleidlais am y tro cyntaf ar fy mhen-blwydd yn ddeunaw. Y pumed o Fehefin 1975 oedd y dyddiad a'r refferendwm ynghylch ymuno a'r Farchnad Gyffredin oedd y bleidlais.

Pe bawn i'n llunio cwis tafarn fe fyddai hwn yn gwestiwn clyfar. "Fe enillodd yr ochor 'ie' y bleidlais ym mhob un o siroedd Cymru a Lloegr- ond ym mha sir yr oedd y canran uchaf o bleidleisiau 'na'?"

Mae'n debyg os oeddech yn seilio'ch ateb ar wleidyddiaeth heddiw y byddech yn cynnig rhywle fel Surrey, Norfolk neu Ddyfnaint fel ateb. Morgannwg Ganol yw'r ateb cywir.

Y rheswm am hynny yw bod bron pob plaid a charfan wleidyddol wedi newid ei safbwynt ynghylch Ewrop ers 1975. Yr unig eithriad yw'r Democratiaid Rhyddfrydol a'u rhagflaenwyr oedd yn rhyfeddol o gyson - cyn eu tro pedol ynghylch refferendwm 'mewn a mas' yn Nhŷ'r Cyffredin ddoe.

Yn ôl yn nyddiau fy llencyndod asgell chwith y Blaid Lafur o dan arweinyddiaeth Michael Foot, y rhan fwyaf o'r undebau a Phlaid Cymru oedd yn taranu yn erbyn aelodaeth Prydain. Roedd yr asgell dde Llafur a bron y cyfan o'r Ceidwadwyr o dan ei harweinydd newydd Margaret Thatcher yn frwd o blaid aros mewn. Os cofiaf yn iawn Enoch Powell oedd yr unig ffigwr o bwys ar y dde i ymgyrchu dros bleidlais 'na' ac roedd yntau erbyn hynny wedi ei alltudio i Ogledd Iwerddon.

Pam y newid felly?

Mae 'na sylwedd i ddadl y scepticiaid bod yr Undeb Ewropeaidd heddiw yn greadur gwahanol iawn i'r Farchnad Gyffredin y pleidleisiwyd drosti yn 1975 ond roedd y bwriad i'r Gymuned ddatblygu felly yna o'r cychwyn.

Dyma union eiriau'r cytundeb a arwyddwyd gan Edward Heath ac a gadarnhawyd gan Harold Wilson ar ôl y refferendwm.

"...determined to lay the foundations of an ever closer union among the peoples of Europe, resolved to ensure the economic and social progress of their countries by common action to eliminate the barriers which divide Europe, affirming as the essential objective of their efforts the constant improvements of the living and working conditions of their peoples"

Mae hynny'n llawer mwy na 'marchnad gyffredin'.

Mae 'na reswm pwysicach am y newid yn fy marn i. Ar y cyfan roedd gwleidyddion 1975 yn bobol oedd wedi eu saernïo gan y profiad o ryfel. Dim ond deng mlynedd ar hugain oedd wedi mynd heibio ers darganfod erchyllterau Auschwitz a Belsen. Roedd ildio ychydig o sofraniaeth yn bris isel iawn i dalu er mwyn osgoi ail-adrodd cyflyfanau'r gorffennol.

Symudwch ymlaen wedyn i'r 1980au - y cyfnod pan oedd Margareth Thatcher yn dechrau colli ein brwydfrydedd ynghylch Ewrop. Erbyn hynny roedd cyfreithiau a rheolau Ewrop yn rhwystro rhai o'r newidiadau a pholisïau yr oedd hi'n dymuno eu cyflwyno.

Wrth reswm roedd y Prif Weinidog yn gandryll a Llafur a'r Undebau yn ddiolchgar. O fewn byr o dro roedd Jaques Delors yn dipyn o arwr i'r union bobol a fu'n ymgyrchu yn erbyn Ewrop yn 1975 - ac yn dipyn o fwgan i'r Ceidwadwyr.

Mae hynny dod a ni at bleidlais ddoe. Mae'n drawiadol bod 49 o'r 79 o Aelodau Seneddol Ceidwadol wnaeth wrthryfela yn aelodau a etholwyd am y tro cyntaf yn 2010. Nid plant yr Ail Ryfel Byd yw'r rhain ond plant Thatcher - ac nid Margaret Thatcher 1975!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:54 ar 25 Hydref 2011, ysgrifennodd Daniel Williams:

    Diddorol. Un o ychydig ddeallusion y Chwith sosialaidd i ddadlau o blaid pleidlais 'Ie' oedd y Cymro Raymond Williams. Dechreuodd ddefnyddio'r term 'Welsh European' i ddisgrifio'i hun yn y cyfnod hwnnw.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.