Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyrchafwn gri

Vaughan Roderick | 09:36, Dydd Mawrth, 23 Awst 2011

Rwyf wedi bod i ffwrdd o'r gwaith am ychydig wythnosau yn mwynhau'r hynny o haf a gafwyd eleni. Peidiwch â becso. Dydw i ddim am ysgrifennu un o'r traethodau yna ynghylch y gwyliau oedd yn gymaint o fwrn yn yr ysgol fach a rhaid i mi gyfaddef y gwnes i fawr ddim ar wahân i eistedd yn yr ardd a darllen.

Dyma i chi gyfaddefiad arall. Mae gen i arfer gwael iawn o ddarllen dau neu dri llyfr yr un pryd. Trwy hap a damwain ar y diwrnod yr ymddangosodd adolygiad dadleuol Roger Lewis o lyfr Jasper Rees "Bred of Heaven" hwnnw oedd gen i ar y Kindle tra bod hunan gofiant J.E Jones "Tros Gymru" hefyd yn agored gerllaw.

I'r rheiny sy ddim yn gyfarwydd â'r enw, J.E Jones oedd trefnydd llawn amser Plaid Cymru o'n gynnar yn nhridegau'r ganrif ddiwethaf tan y chwedegau. Mae ei lyfr, sy'n haeddu ei ail-gyhoeddi, yn agor ffenest ar Gymru sy'n wahanol iawn i'n Cymru ni.

Cymru oedd honno lle nad oedd y Ddraig Goch i'w gweld ac eithrio ar bafiliwn yr Eisteddfod, lle'r oedd cofnodion Cyngor Ffestiniog yn uniaith Saesneg a Chymry Cymraeg yn sibrwd a'i gilydd rhag pechu Saeson. Mae'n bosib bod wedi J.E gor-ddweud ond yn sicr roedd yn llygaid ei le wrth ddweud bod aelodau ei blaid yn cael ei eu hystyried yn ecsentrig, yn eithafol neu'r ddau am geisio herio'r sefyllfa yn y tridegau.

Yn raddol oherwydd safiadau ystyfnig criw digon bychan i ddechrau fe newidiodd pethau. Trodd yr ecsentrig yn normalrwydd a'r eithafiaeth yn gonsensws rhyng-bleidiol. Gallu lleiafrif i argyhoeddi mwyafrif sydd wrth wraidd sawl newid cymdeithasol, wrth gwrs. Mae 'na 'reswm nad ydym yn clywed jôcs ciaidd ynghylch Gwyddelod, Iddewon neu bobol hoyw ar lwyfan neu ar deledu'r dyddiau hyn a'r rheswm hwnnw yw bod ambell i un wedi mynnu nad oedd jôcs felly yn dderbyniol bellach ac wedi llwyddo i ennill eu dadl.

Sut mae ymateb felly i adolygiad Roger Lewis felly? Ei anwybyddu oedd awgrym Matt Withers yn "Wales on Sunday". Wedi'r cyfan mae ei safbwyntiau yn perthyn i oes yr oedd J.E Jones yn gyfarwydd a hi. Yng ngeiriau Matt "The self-loathing Welshman turning on his own culture and heritage and culture is dying".

Efallai bod Matt yn iawn ac mae dinosoriaid yw'r rheiny sy'n mynegi safbwyntiau'r gorffennol trwy niwl y rhith fyd. Rwyf wedi hen ddysgu i beidio darllen sylwadau sy'n cael eu gadael ar ambell i flog a safle newyddion. Serch hynny mae 'na wahaniaeth rwy'n meddwl rhwng goddef sylwadau dienw a dienaid ay we a chadw'n dawel ynghylch erthygl mewn papur newydd sy'n gwerthu rhyw gan mil o gopïau yng Nghymru bob dydd. Coeliwch neu beidio y Daily Mail y papur mwyaf poblogaidd Cymru - yn gwerthu mwy o gopiau na'r Sun hyd yn oed a a llawer yn fwy na chyfanswm y Daily Post a'r Western Mail.

Does dim angen gofyn beth fyddai J.E Jones yn meddwl am benderfyniad Jonathan Edwards i godi twrw am y peth! Beth arall sydd i ddisgwyl gan Aelod seneddol Plaid Cymru?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:50 ar 23 Awst 2011, ysgrifennodd Dylan:

    Croeso nôl, Vaughan! Roeddwn i'n dechrau poeni am dawelwch y blog yma.

    Rydych yn codi pwynt teilwng ynglyn â'r gwahaniaeth rhwng sylwadau di-enw ar y we (megis ar flog Betsan neu wefan WalesOnline) ac erthyglau proffesiynol mewn papurau newydd poblogaidd. Mae'n anodd eu hanwybyddu ac mae'n gofyn am rhyw fath o ymateb. Fel dw i wedi'i ddweud ar fy mlog fy hun, fodd bynnag, dw i'n gryf yn erbyn cwyno wrth yr heddlu (a'r Gweinidog Cartref! Beth yn union mae Mr Edwards yn disgwyl i Theresa May wneud? Dw i wir ddim yn deall).

  • 2. Am 22:57 ar 23 Awst 2011, ysgrifennodd blogmenai:

    Gobeithio nad ydi'r ymgyrchydd cywirdeb gwleidyddol enwog, Rod Richards yn darllen y Mail - neu mi fydd yma le!

  • 3. Am 22:59 ar 23 Awst 2011, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Croeso nol fe fu bron i mi alw' r heddlu a'r frigad dan gan fy mod yn poeni amdant. Tybed a fyddai' n syniad rhoi nodyn yn datgan cyfnod o absennoldeb sydd yn fwy na wythnos rhag i rhywun herio'r sylw ar safle y Bib am sylwadau "dyddiol".

  • 4. Am 10:21 ar 26 Awst 2011, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Mae sylwadau ar Facebook ynghlyn ag annog terfysg yn arwain at gyfnod o garchar sylweddol.

  • 5. Am 13:17 ar 27 Awst 2011, ysgrifennodd Gareth Evans:

    Gwych o lyfr yw ‘Tros Gymru: J.E. a’r Blaid’, ac os yw’r Blaid o ddifrif am ‘adfywio’i hunan i Gymru’ yna gallai wneud yn llawer gwaeth nag ailgyhoeddi’r gyfrol, yn unol ag awgrym Vaughan Roderick. (Ni wnaiff hi mo hynny, ysywaeth, gan mai Plaid yw hon heddiw na wyr hi sut i’w helpu ei hunan)

    Cofiaf fel y bu sôn am gyfnod yn y saithdegau cynnar (yn dilyn marw J.E.) am gyfieithu’r gyfrol i Saesneg. Hyd y gwyddwn, ni ddigwyddodd hynny. Nid yw hi’n rhy hwyr i wneud hynny eto – credaf y gallai wneud lles mawr o ran dod â’r to diweddaraf o genedlaetholwyr i gysylltiad â’i gwreiddiau. Mae’n loes cyfaddef, ond rwy’n meddwl y byddai’n fwy buddiol yn y pen draw nag ailargraffu yn Gymraeg gan fod digon o’r argraffiad gwreiddiol ar werth ar stondinau ail-law yr Eisteddfod bob blwyddyn i’r rhai sy’n medru’r iaith gael gafael arno os y mynnant.

    Gallai argraffiad newydd / cyfieithiad ragori ar y gwreiddiol yn un peth – mynegai!

  • 6. Am 13:37 ar 27 Awst 2011, ysgrifennodd Gareth Evans:

    Gyda llaw, bydd darlith ar gyfraniad J. E. Jones fel 'Pensaer Plaid Cymru' yng Nghynhadledd y Blaid eleni: http://www.hanesplaidcymru.org/index.php/cy/

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.