Help / Cymorth

Archifau Awst 2011

Glas y Dorlan

Vaughan Roderick | 10:36, Dydd Mawrth, 30 Awst 2011

Sylwadau (2)

Wel fe gadwodd Sir Benfro fi i fynd wythnos ddiwethaf - mae'r wythnos hon, os unrhyw beth, yn edrych yn dawelach. Gallwn i ddweud wrthoch pwy sydd wedi ennill cytundeb arlwyo'r Cynulliad ond er bod cryn ddiddordeb ym mrechdanau Ysbyty Gwynedd mae'n debyg bod rhai Tŷ Hywel yn llai dadleuol!

Beth am gymryd cipolwg felly ar etholiadau fydd yn digwydd gwanwyn nesaf - nid yr etholiadau lleol ond y rheiny i ethol Comisiynwyr i heddluoedd Cymru. Er nad yw'r ddeddfwriaeth eto wedi cyrraedd y llyfr statud yn San Steffan ac er bod 'na beth llusgo traed o du Llywodraeth Cymru fe fyddai angen trychineb neu wyrth (eich dewis chi) i rwystro'r etholiadau rhag digwydd.

Hyd y gwelaf i does na fawr o frwdfrydedd yng Nghymru ynghylch naill ai'r syniad na'r etholiadau ond yn hwyr neu'n hwyrach fe fydd yn rhaid i'r pleidiau feddwl ynghylch ymgeiswyr ac ymgyrchoedd. Wedi'r cyfan fe fydd yr etholiadau lleol yn cael eu cynnal yr un pryd a gallai perfformiad plaid yn etholiad yr heddlu effeithio ar ganlyniadau'r rheiny.

Does fawr o amheuaeth yn fy meddwl i mai Llafur fydd yn ennill yr etholiadau i ddewis Comisiynwyr Heddlu'r De a Heddlu Gwent. Gallasai "personoliaeth" mawr yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol achosi trafferth ond does dim ymgeisydd amlwg allai efelychu campau Ray 'Robocop' Mallon yn Middlesbrough neu H'angus y mwnci yn Hartlepool yn etholiadau maerol Lloegr.

Fe fydd yr etholiadau yn Nyfed-Powys a'r Gogledd llawer yn fwy cystadleuol fe dybiwn i. Mae'n debyg y bydd y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol ac o bosib ymgeisydd annibynnol yn cwffio i oruchwylio'r llu deheuol a Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn brwydro'n galed dros swydd y Gogledd.

Fe fydd yr etholiadau hyn yn defnyddio fersiwn cyfyngedig o'r bleidlais amgen - un lle mae etholwyr yn cael nodi eu hail ddewis yn ogystal â'u dewis cyntaf. Cyrraedd y rownd olaf yw'r gamp gyntaf mewn etholiadau o'r fath ac mae etholiadau maerol Lloegr wedi awgrymu bod personoliaeth a phroffil cyhoeddus yr ymgeisydd yn allweddol i hynny.

Fe fyddai'n gwneud synnwyr i'r pleidiau ledaeni eu rhwydi'n eang felly wrth ddewis ymgeiswyr gan feddwl y tu hwnt i'r giwed arferol o wleidyddion. Ble mae Richard Brunstrom y dyddiau hyn, dywedwch?


Gair o gyngor

Vaughan Roderick | 11:43, Dydd Iau, 25 Awst 2011

Sylwadau (1)

Oce. Rwy'n cyfaddef. Roeddwn i'n gwybod y byddai 'na ddatblygiadau yn helynt Sir Benfro pan ysgrifennais y post yma ddoe. Doeddwn i ddim yn gwybod pa mor gryf y byddai'r feirniadaeth o'r Cyngor a'i arweinydd, John Davies na pha mor gryf fyddai ei ymateb yntau. Mae'r manylion yn fan hyn.

Fel yr esboniais i ddoe nid storom Awst yw'r helynt yma ym marn John Davies ac eraill. Maen nhw'n gweld ymddygiad y Llywodraeth fel cychwyn ar strategaeth fwriadol i bardduo cynghorau a lleihau eu hannibyniaeth. Ar Post Cyntaf y bore 'ma aeth John mor bell a chyhuddo'r Llywodraeth o dargedu cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan gynghorwyr annibynnol.

Nid John yw'r unig un ac amheuon. Ar ei flog yntau dywed Peter Black hyn.

Legislation has been put in place to allow more and more intervention. The respect for local democracy that used to exist in the Assembly's early days has disappeared. Now it is about direction and control. Slowly but surely the Welsh Government is gathering more power to itself and limiting the room that local Councils have for manoeuvre. They are paying lip service to the notion of local democracy.

Mae'n wir i ddweud, rwy'n meddwl, bod y rhan fwyaf o wleidyddion yn reddfol chwennych grym ond mae 'na reswm arall dros y wyliadwriaeth agos y mae gweinidogion yn cadw dros lywodraeth leol ar hyn o bryd.

Mae'n debyg eich bod yn gyfarwydd â dyfyniad enwog Aneurin Bevan "the religion of Socialism is the language of priorities" ac wrth lunio cyllideb y llywodraeth mewn cyfnod o doriadau roedd blaenoriaethau Llafur (a Phlaid Cymru ar y pryd) yn amlwg.

Penderfynodd Llywodraeth Cymru'n Un ddiogelu cyllidebau'r awdurdodau lleol a hynny ar draul rhai o'r swyddogaethau y mae'r Llywodraeth yn eu cyflawni'n uniongyrchol. Mewn geiriau eraill pan ddaw'r etholiad Cynulliad nesaf mae Llywodraeth hon yn dymuno cael ei barnu i raddau helaeth ar sail safon y gwasanaethu sy'n cael eu cyflawni trwy'r awdurdodau lleol. Does dim rhyfedd felly ei bod hi ar gefnau'r cynghorwyr byth a hefyd.

Cyfyng Gyngor

Vaughan Roderick | 13:06, Dydd Mercher, 24 Awst 2011

Sylwadau (0)

Cyn dyfod gwyliau'r Cynulliad roedd y gwrthbleidiau yn y Bae wedi datblygu tacteg bur effeithiol o ymosod ar y Llywodraeth sef ei chyhuddo o beidio gwneud dim - neu o leiaf o laesu dwylo ar ôl yr etholiad. Nid "sefyll cornel Cymru" ond eistedd mewn cornel oedd y Llywodraeth yn ôl ei gwrthwynebwyr.

Roedd methiant y Llywodraeth i gyhoeddi rhaglen waith a chyn wythnos ola' tymor rhaglen ddeddfwriaethol yn fêl ar fysedd y gwrthbleidiau wrth iddyn nhw ddatblygu eu dadl. Er bod yr ymosodiad yn un digon effeithiol y gwir amdani yw nad oes 'na reswm mewn gwirionedd i Lywodraeth un blaid gyhoeddi rhaglen waith o gwbwl. Maniffesto'r blaid i bob pwrpas yw'r rhaglen waith. Yn wir, pam y dylai llywodraeth roi rhybudd rhag blaen os ydy hi'n bwriadu cyflwyno mesurau neu bolisïau allai ennyn gwrthwynebiad.

Un polisi a fyddai'n sicr o fod yn ddadleuol fyddai ad-drefnu Llywodraeth Leol. Byth ers sefydlu'r Cynulliad yn un fu'r gri gan y Llywodraeth - a'r gwrthbleidiau o ran hynny. Mae 'na ormod o gynghorau yng Nghymru a nifer o rheiny'n rhy fach medd y consensws ond fe fyddai ceisio eu hadrefnu o fwy o drafferth nac o werth.

Dwn i ddim sawl adolygiad, ymchwiliad, arolwg ac adroddiad sydd wedi bod ar hyd y blynyddoedd. Mae pob un wedi dod i fwy neu lai'r un casgliad sef y dylai'r cynghorau gydweithio'n agosach a'i gilydd a gweddill y sector gyhoeddus trwy rannu swyddogion ac adnoddau. Mae 'na ambell i esiampl o hynny'n digwydd ond dim hanner digon i fodloni'r Llywodraeth.

Chwi gofiwch efallai yn nyddiau olaf y trydydd Cynulliad i Lywodraeth Cymru'n Un gyflwyno gwelliant munud olaf i'r Mesur Llywodraeth Leol yn caniatáu i'r Llywodraeth orchymyn uno Cynghorau. Fe achosodd y peth dipyn o ffrwgwd ar y pryd - yn enwedig gan fod y Llywodraeth wedi gweithredu'n hwyr iawn y dydd ar ôl i bron y cyfan o broses o graffu'r mesur gael ei chwblhau.

Sicrhau pŵer wrth gefn oedd y bwriad yn ôl y llywodraeth - pŵer a fyddai ond yn cael ei defnyddio mewn argyfwng ond a fyddai'n fodd i ddwyn pwysau ar gynghorau aneffeithiol neu anghyfrifol. Doedd dim angen bod yn athrylith i synhwyro pa gyngor ynysig oedd yn cael ei fygwth.

Felly oedd pethau'n edrych ar y pryd ond ers yr etholiad cafwyd cyfres o adroddiadau damniol ynghylch cynghorau ar wahân i Gyngor Môn. Mae Blaenau Gwent a Sir Benfro ymhlith y rhai o dan y lach.

Asiantaethau annibynnol oedd yn gyfrifol am yr adroddiadau ac annheg fyddai eu cyhuddo o ddilyn rhyw agenda gudd ar ran y Llywodraeth. Teg yw dweud ar y llaw arall bod y Llywodraeth wedi ymateb i'r adroddiadau mewn modd wnaeth sicrhau'r cyhoeddusrwydd mwyaf posib i'r honiadau gan bwysleisio eu difrifoldeb.

Y cwestiwn sy'n codi yw hwn. Ydy'r Llywodraeth yn braenaru'r tir ar gyfer uno cynghorau? Mae nifer cynyddol o bobol fawr Llywodraeth Leol yn credu ei bod hi. Posibilrwydd arall yw y gallai rhai gwasanaethau allweddol megis addysg a gwasanaethau cymdeithasol gael eu canoli ar lefel rhanbarthol gan adael cynghorau gyda phwerau digon tebyg i rai'r hen gynghorau dosbarth.

Yn bersonol dydw i ddim yn gwybod a welwn ni'r Gwynedd fawr neu ddadeni Dyfed yn y dyfodol agos ond mae'n anodd coelio nad yw uno o dan ystyriaeth mewn ambell ardal. Os oeddech chi'n gorfodi i mi broffwydo faint o gynghorau fydd gan Gymru erbyn diwedd y cynulliad hwn byswn yn mentro swllt - ond dim mwy - nad dau ar hugain fyddai'r ateb.

Dyrchafwn gri

Vaughan Roderick | 09:36, Dydd Mawrth, 23 Awst 2011

Sylwadau (6)

Rwyf wedi bod i ffwrdd o'r gwaith am ychydig wythnosau yn mwynhau'r hynny o haf a gafwyd eleni. Peidiwch â becso. Dydw i ddim am ysgrifennu un o'r traethodau yna ynghylch y gwyliau oedd yn gymaint o fwrn yn yr ysgol fach a rhaid i mi gyfaddef y gwnes i fawr ddim ar wahân i eistedd yn yr ardd a darllen.

Dyma i chi gyfaddefiad arall. Mae gen i arfer gwael iawn o ddarllen dau neu dri llyfr yr un pryd. Trwy hap a damwain ar y diwrnod yr ymddangosodd adolygiad dadleuol Roger Lewis o lyfr Jasper Rees "Bred of Heaven" hwnnw oedd gen i ar y Kindle tra bod hunan gofiant J.E Jones "Tros Gymru" hefyd yn agored gerllaw.

I'r rheiny sy ddim yn gyfarwydd â'r enw, J.E Jones oedd trefnydd llawn amser Plaid Cymru o'n gynnar yn nhridegau'r ganrif ddiwethaf tan y chwedegau. Mae ei lyfr, sy'n haeddu ei ail-gyhoeddi, yn agor ffenest ar Gymru sy'n wahanol iawn i'n Cymru ni.

Cymru oedd honno lle nad oedd y Ddraig Goch i'w gweld ac eithrio ar bafiliwn yr Eisteddfod, lle'r oedd cofnodion Cyngor Ffestiniog yn uniaith Saesneg a Chymry Cymraeg yn sibrwd a'i gilydd rhag pechu Saeson. Mae'n bosib bod wedi J.E gor-ddweud ond yn sicr roedd yn llygaid ei le wrth ddweud bod aelodau ei blaid yn cael ei eu hystyried yn ecsentrig, yn eithafol neu'r ddau am geisio herio'r sefyllfa yn y tridegau.

Yn raddol oherwydd safiadau ystyfnig criw digon bychan i ddechrau fe newidiodd pethau. Trodd yr ecsentrig yn normalrwydd a'r eithafiaeth yn gonsensws rhyng-bleidiol. Gallu lleiafrif i argyhoeddi mwyafrif sydd wrth wraidd sawl newid cymdeithasol, wrth gwrs. Mae 'na 'reswm nad ydym yn clywed jôcs ciaidd ynghylch Gwyddelod, Iddewon neu bobol hoyw ar lwyfan neu ar deledu'r dyddiau hyn a'r rheswm hwnnw yw bod ambell i un wedi mynnu nad oedd jôcs felly yn dderbyniol bellach ac wedi llwyddo i ennill eu dadl.

Sut mae ymateb felly i adolygiad Roger Lewis felly? Ei anwybyddu oedd awgrym Matt Withers yn "Wales on Sunday". Wedi'r cyfan mae ei safbwyntiau yn perthyn i oes yr oedd J.E Jones yn gyfarwydd a hi. Yng ngeiriau Matt "The self-loathing Welshman turning on his own culture and heritage and culture is dying".

Efallai bod Matt yn iawn ac mae dinosoriaid yw'r rheiny sy'n mynegi safbwyntiau'r gorffennol trwy niwl y rhith fyd. Rwyf wedi hen ddysgu i beidio darllen sylwadau sy'n cael eu gadael ar ambell i flog a safle newyddion. Serch hynny mae 'na wahaniaeth rwy'n meddwl rhwng goddef sylwadau dienw a dienaid ay we a chadw'n dawel ynghylch erthygl mewn papur newydd sy'n gwerthu rhyw gan mil o gopïau yng Nghymru bob dydd. Coeliwch neu beidio y Daily Mail y papur mwyaf poblogaidd Cymru - yn gwerthu mwy o gopiau na'r Sun hyd yn oed a a llawer yn fwy na chyfanswm y Daily Post a'r Western Mail.

Does dim angen gofyn beth fyddai J.E Jones yn meddwl am benderfyniad Jonathan Edwards i godi twrw am y peth! Beth arall sydd i ddisgwyl gan Aelod seneddol Plaid Cymru?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.