Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hap a damwain

Vaughan Roderick | 14:19, Dydd Iau, 3 Chwefror 2011

Mae'r erthygl yma hefyd yn ymddangos ar safle Cynulliad y Bobol lle gewch gyfarfod a'r unigolion fydd yn datblygu'n leisiau cyfarwydd yn ystod y misoedd nesaf.

Mae sylw Ron Davies fod datganoli yn broses yn hytrach na'n ddigwyddiad bron yn ystrydebol bellach.

Mewn gwirionedd roedd yr honiad mewn sawl ffordd yn gamarweiniol gan awgrymu bod 'na rhyw fath o uwch-gynllun cyfansoddiadol. Y gwir amdani yw bod y 'broses' wedi dibynnu i raddau helaeth ar hap a damwain, lwc ac anlwc ac ymroddiad a dylanwad unigolion.

Roedd maes llafur eang a phwerau grymus Ysgrifennydd Cymru yn ganlyniad i ddylanwad deiliad cyntaf y swydd Jim Griffiths. Fel cyn ddirprwy arweinydd y blaid Lafur roedd aelod Llanelli yn gallu sicrhau nad rhywbeth symbolaidd oedd y Swyddfa Gymreig ond adran â'r gallu i lunio'i pholisïau ei hun a'r gallu i wella bywydau pobl Cymru.

Yn yr un modd oni bai am gynsail refferendwm Ewrop yn 1975 a doniau carismataidd Neil Kinnock mae'n ddigon posib y byddai llywodraeth Jim Callaghan wedi gallu sefydlu Cynulliad yn 1979 heb gynnal y refferendwm wnaeth ddryllio'r cynllun.

Mae'n debyg mai'r cyfnod rhwng y ddau refferendwm yw'r cyfnod mwyaf allweddol yn hanes datganoli. Yn sgil crasfa 1979 roedd hi'n ymddangos yn debygol bod y 'broses' wedi dod i ben, ac na fyddai pethau'n mynd yn bellach.

Yn wir roedd rhai yn 1979 yn rhagweld y byddai pwerau'r Swyddfa Gymreig yn crebachu yn sgil dyfarniad clir etholwyr Cymru. Y gwrthwyneb ddigwyddodd.

O ganlyniad i ddirywiad cyflym y diwydiannau trymion a chynhyrchu yn y 1980au fe ddechreuodd Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol dorri cwys llawer mwy annibynol o Lundain na'u rhagflaenwyr.

O ganlyniad i'r un newidiadau economaidd, dechreuodd rhai o fewn y mudiad Llafur godi eu llais dros sefydlu cynulliad etholedig ac fe ddwysaodd y galwadau hynny yn ystod Streic y Glowyr gyda'r Undeb hyd yn oed yn sefydlu ei 'Gynulliad Cenedlaethol' ei hun.

Serch hynny roedd angen storom berffaith wleidyddol hyd yn oed i gael y mwyafrif tila o blaid cynulliad yn 1997. Ac eithrio efallai sefydlu'r Swyddfa Gymreig, y canlyniad hwnnw oedd y cam mwyaf allweddol yn hanes datganoli a chan fod unrhyw gorff o wleidyddion, o reddf bron, yn chwennych grym, gellid dadlau mai 'proses' trwy ddatblygiad yw datganoli ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999.

Er y 'mwyafrif tila', canlyniad 1997 'oedd y cam mwyaf allweddol yn hanes datganoli'
Yn sgil cymeradwyo dwy Ddeddf Llywodraeth Cymru yn 1998 a 2006 mae Llafur wedi cychwyn trwy amddiffyn y setliad cyn cytuno i'w adolygu fel rhan o drafodaethau i glymbleidio. Fe arweiniodd y glymblaid â'r Democratiaid Rhyddfrydol at Gomisiwn Richard a deddf 2006. Cytundeb â Phlaid Cymru sydd wedi arwain at y refferendwm hwn.

Mae'r newidiadau cyson ers 1999 yn deillio'n rhannol o agweddau carbwl y setliad gwreiddiol. Serch hynny yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle'r oedd y cynlluniau cyfansoddiadol yn llawer mwy eglur, cafwyd newidiadau hefyd, er bod y rheiny'n llai sylfaenol nac yn achos Cymru. Y tebygrwydd felly yw y bydd y wasgfa am ragor o bwerau yn parhau ar ôl y refferendwm - beth bynnag yw'r canlyniad.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.