Help / Cymorth

Archifau Ionawr 2011

Bang Bang Bangor

Vaughan Roderick | 09:43, Dydd Gwener, 28 Ionawr 2011

Sylwadau (11)

Mae gen i stori i ddweud wrthoch chi - un sy'n ymwneud a Rheon Thomas, Leighton Andrews a finnau. Nid stori ynghylch Cadeirydd Gweithredol S4C, y Gweinidog Addysg a Golygydd Materion Cymreig y BBC yw hon on un ynghylch tri myfyriwr ifanc yng ngholeg Bangor nol y saithdegau.

Doedd gan benaethiaid y Coleg fawr o amser nac amynedd i'r Gymraeg ar y pryd ac o ganlyniad penderfynodd Cymdeithas yr Iaith gychwyn ymgyrch yn eu herbyn. Doedd e'n fawr o beth, mewn gwirionedd. Paentiwyd ambell i slogan ar furiau'r hen goleg a chynhyrchwyd ambell i daflen a phoster.

Fe ddangosodd y penaethiaid ddyfnder eu cydymdeimlad a'r Gymraeg a'u deallusrwydd o fywyd Cymraeg y Coleg trwy ddiarddel pedwar myfyriwr. Roedd Rheon yn un ohonyn nhw.

Nid bod Rheon yn rhyw benboethyn eithafol. Gan ddangos dyfnder eu gwybodaeth roedd y coleg wedi anwybyddu swyddogion Cymdeithas yr Iaith gan ddiarddel yn eu lle swyddogion Cymdeithas y Cymric - cymdeithas oedd yn fwy enwog am drefnu disgos a helfeydd trysor nac am brotestiadau.

Os oedd y Cymric yn anwleidyddol cyn hynny fe newidiodd pethau'n ddigon sydyn ac fe feddiannodd y Gymdeithas adeiladau'r hen goleg. Mewn protest gyfochrog meddiannodd Leighton a chriw o fyfyrwyr Di-Gymraeg a thramor y twr màths. Fi oedd y swyddog cyswllt rhwng y ddwy brotest. Os mynnwch chi fy nyletswydd i oedd 'pontio' rhwng y ddwy garfan.

Mae hynny'n dod a ni'n ddigon taclus at 'Pontio' - y cynllun gwerth £37miliwn i godi canolfan gelfyddydau newydd fydd yn cymryd lle Theatr Gwynedd ac Undeb y Myfyrwyr.

Wrth i Carwyn Jones gychwyn y gwaith ar y prosiect y wythnos hon roedd criw o aelodau Cymdeithas yr Iaith wrth law i brotestio yn erbyn agwedd y ganolfan a'r coleg tuag at y Gymraeg. Dyw rhai pethau ddim yn newid!

Penodi ymgeiswyr Di-Gymraeg i fod yn bennaeth ac yn swyddog cymunedol 'Pontio' oedd wedi ysbarduno'r brotest ond mae'r peth yn mynd yn ddyfnach na hynny. Mae 'na deimladau cryf ymhlith rhai o staff a myfyrwyr Cymraeg y Coleg bod y sefydliad wedi dad-Gymreigio'n ddifrifol yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda thîm rheoli sydd bron yn gyfan gwbwl Di-Gymraeg a phenodiadau pwysig wedi ei wneud ar sail argymhellion cwmnïau recriwtio o Loegr.

Mae'n ymddangos bod y Prifathro newydd, John Hughes, sy'n Wyddel, yn ymwybodol o'r teimladau hyn ac fe benodwyd y cerddor Wyn Thomas yn is-brifathro (gofal y Gymraeg). Yn ôl ffynonellau o fewn y Coleg mae ganddo dipyn o dasg o'i flaen.

Cwestiwn sy'n ofyn gan rai yw hwn. Os ydy'r honiadau ynghylch dad-Gymreigio yn gywir pam na wnaeth y prifathro ar y pryd, Merfyn Jones, rywbeth ynghylch y peth?

Yn eironig ddigon mae Merfyn newydd ei benodi'n bennaeth ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol... gan Leighton!

Diawl, mae Cymru'n wlad fach!

Traed Moch Môn

Vaughan Roderick | 12:47, Dydd Iau, 27 Ionawr 2011

Sylwadau (3)

Roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth mawr o le pan welais un o swyddogion mwyaf rhadlon a chyfeillgar y Cynulliad yn gwgu fel y diawl y bore 'ma. Nid fe yw'r unig un. Mae sawl swyddog ac aelod cynulliad wedi eu gwylltio gan welliannau munud olaf y Llywodraeth i'r Mesur Llywodraeth Leol - gwelliannau fyddai'n rhoi'r pŵer i'r Llywodraeth orfodi cynghorau i uno.

Fe ddywedais yn y post diwethaf nad oes gan Gynghorwyr Môn lawer o gyfeillion yn y Cynulliad. Fe fyddai rhan fwyaf yn ddigon bodlon weld yr hyn a ddisgrifiodd un aelod fel "Wales' Comedy Council" yn cael ei uno a Gwynedd - yn enwedig gan fod y pwyllgor hwnnw eisoes yn gweithredu ar sail pwyllgorau ardal.

Aelodau Cyngor Môn yn hytrach na'i swyddogion na'i gweithwyr yw'r broblem yn nhyb gwleidyddion y bae ac fe fyddai cael gwared ar y mwyafrif ohonyn nhw yn ddatrysiad i broblem sydd wedi mynd a dod ers degawdau.

Mae'n demtasiwn wrth reswm i unrhyw lywodraeth a mwyafrif mawr drin ei deddfwrfa fel 'tipyn o boendod i'r rhai sy'n credu mewn trefn' ond ym marn rhai mae cyflwyno gwelliannau mor hwyr yn y dydd yn ymylu ar fod yn sarhaus ac yn hynod beryglus ar drothwy'r refferendwm. Yng ngeiriau un "fe fyddai hyn yn fel ar fysedd ymgyrch 'na' - pe bai un call yn bodoli."

Mam Fethedig Cymru

Vaughan Roderick | 15:10, Dydd Mercher, 26 Ionawr 2011

Sylwadau (10)

Fe fydd y rheiny ohonoch chi wnaeth ddarllen blog Betsan ddoe yn gwybod bod na arwyddion bod dyddiau Cyngor Ynys Mon wedi eu rhifo. Trwy'r dydd ddoe ac eto heddiw mae gweision sifil wedi bod wrthi'n ceisio drafftio gwelliant neu welliannau i'r Mesur Llywodraeth Leol fyddai'n galluogi i'r Llywodraeth orfodi awdurdodau lleol i uno. Hyd yma dydyn nhw ddim wedi llwyddo.

Nid mater o bwerau'r cynulliad yw hwn. Na phoenwch - does dim angen unrhyw artaith LCOaidd y tro hwn. Fe gafodd y Cynulliad yr hawl i ad-drefnu cynghorau trwy hap a damwain bron rhai blynyddoedd yn ôl. Y broblem yw bod y gwelliant yn mynd y tu hwnt i gwmpawd rhagymadrodd y mesur presennol. Ceisio canfod ffordd o gwmpas hynny mae'r Llywodraeth er mwyn osgoi gorfod cychwyn o'r cychwyn gyda mesur newydd.

Os oedd unrhyw amheuaeth yn bodoli ynglŷn â bwriad y Llywodraeth fe ddiflannodd yn ystod sesiwn gwestiynau'r Gweinidog llywodraeth leol y prynhawn yma. Mynnodd Carl Sargeant nad oedd unrhyw fwriad ganddo i ad-drefnu llywodraeth leol yn ei chrynswth ond dywedodd gan y Cynulliad ddewis ond gweithredu lle'r oedd Cyngor yn methu. Dim ond un cyngor yng Nghymru sydd yn y dosbarth hwnnw ar hyn o bryd. Ynys Môn yw hwnnw.

Ond ai uno Môn a Gwynedd fyddai diwedd y broses? Yn y tymor byr, efallai. Ond o gael yr hawl i uno cynghorau fe fyddai na demtasiwn i glatsio unrhyw awdurdod oedd yn llusgo traed ynglŷn â chydweithio. Am y rheswm hwnnw mae 'na sawl un ym myd y Cynghorau sy'n betrusgar.

Nid felly yn y Cynulliad. Mae 'na sawl un yn rhengoedd y gwrthbleidiau - a Phlaid Cymru hefyd - sy'n bryderus am y modd y mae'r Llywodraeth yn ceisio cyflwyno gwelliannau yn hwyr yn broses ddeddfu. Pryderon am y broses yw'r rheiny.

Dydw i ddim wedi llwyddo i ganfod un aelod cynulliad nad yw'n credu bod Cynghorwyr Môn wedi bratu eu cyfle olaf am achubiaeth.


Colli Tymer

Vaughan Roderick | 14:01, Dydd Mawrth, 25 Ionawr 2011

Sylwadau (2)

Mae dicter synthetig yn gallu bod yn arf gwleidyddol defnyddiol mae colli tymer go iawn ar y llaw arall gan amlaf yn arwydd o wendid os nad oes 'na reswm da iawn am wneud hynny.

Doedd na ddim llawer o newyddiadurwyr yng nghynhadledd newyddion y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw. Roedd dwy ran o dair o'r rhai oedd yn bresennol yng nghynhadledd y Llywodraeth wedi diflannu cyn i Kirsty Williams agor ei chynhadledd hi. Doedd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn yr ystafell arferol ond rwy'n amau bod canfyddiadau newyddiadurwyr o'r hyn sy'n debyg o ddigwydd ar Fai'r 5ed hefyd yn gyfrifol am benderfynniad rhai o fy nghydweithwyr i heglu hi yn ol i Dŷ Hywel.

Roeddwn i'n amau eu bod wedi gwneud y penderfyniad cywir am y rhan fwyaf o'r gynhadledd. Roedd Kirsty Williams yn trafod ymdrech gan y blaid i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i ganiatáu i Gomisiynydd Plant Cymru ymchwilio i faterion y tu hwnt i'r meysydd datganoledig. Nawr mae'r awgrym yn un digon synhwyrol ac mae'n debyg y byddai'n gwella'r gwasanaeth i blant Cymru. Serch hynny go brin fod hi'r fath o stori sy'n hela dyn i ruthro at y cyfrifiadur a'i wynt yn ei ddwrn.

Roedd hanner y newyddiadurwyr ar eu traed pan alwodd Kirsty ni yn ôl er mwyn codi pwnc arall. Adroddiad Prif Archwilydd Addysg Cymru ynghylch cyflwr ysgolion Cymru oedd hwnnw.

Dyw safonau bron traean ysgolion Cymru ddim yn ddigon da yn ol yr adroddiad ac mae gwelliannau mewn ysgolion wedi bod "yn araf".

Roedd hi'n warth o beth yn ol Kirsty nad oedd y Gweinidog Addysg yn ymddangos gerbron y Cynulliad i ymateb i'r feirniadaeth. Gyda gwir arddeliad mynnodd na fyddai Gweinidog yn San Steffan yn cael osgoi atebolrwydd yn y fath fodd.

Ychwanegodd fod gan Leighton Andrews dipyn o 'drac-record' yn hyn o beth gan ymateb i adroddiad damniol Pisa trwy ddatganiad ysgrifenedig ac wrth gyhoeddi newidiadau pwysig i addysg uwch mewn areithiau ym mhell tu hwnt i furiau'r Senedd.

Roedd Kirsty yn grac, yn wirioneddol grac. Go brin bod sesiwn gwestiynau Carwyn Jones wedi gwneud rhyw lawer o leihau ei phwysau gwaed. Wrth iddi geisio holi'r Prif Weinidog ynghylch yr adroddiad yr un ateb a roeddwyd bob tro. Fe ddylai pawb aros am araith bwysig gan Leighton Andrews wythnos nesaf yn ol Carwyn.

Ble mae'r araith honno yn cael ei thraddodi? Nid yn y Cynulliad ond yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

Fel y dywedais i mae colli tymer gan amlaf yn arwydd o wendid os nad oes 'na reswm da iawn am wneud hynny. Cewch chi farnu os oes 'na reswm yn yr achos hwn. Dyw Leighton Andrews ddim yn torri unrhyw reol ond onid yw hi'n rhyfedd fod un o brif ladmeryddion ymgyrchoedd Ie 1997 a 2011 yn ymddangos yn weddol o ddi-hid ynghylch y Cynulliad y mae'n atebol iddo?

Agor y drws i UKIP

Vaughan Roderick | 14:52, Dydd Gwener, 21 Ionawr 2011

Sylwadau (1)

Mae sawl esboniad wedi eu cynnig am benderfyniad Gwir Gymru i beidio â cheisio statws y brif ymgyrch na yn y refferendwm datganoli. Yn wir mae'r grŵp ei hun wedi cynnig mwy nac un esboniad! Un o'r rheiny - un a gynigiwyd gan Syr Eric Howells ar CF99 a Rachel Banner ar 'Dragon's Eye' - oedd nad o gan y grwp ddigon o gefnogwyr unigol a sefydliadol i gyrraedd trothwy'r Comisiwn Etholiadol.

Os oedden nhw'n credu hynny mae'n debyg eu bod yn anghywir. Roedd ymgyrchwyr Ie wedi derbyn sicrwydd answyddogol gan y comisiwn y byddai Gwir Gymru yn cyrraedd y trothwy. Roedd o leiaf un aelod o Wir Gymru wedi derbyn neges debyg.

Ta beth am hynny fyddai'r cwestiwn ddim wedi codi yn y lle cyntaf pe bai UKIP wedi tynnu eu pwysau. Mae peiriant y blaid honno yn fwy o gert nac o gadillac ond mae ganddi ryw faint o drefniadaeth leol a thrac record etholiadol fyddai'n galluogi i'r trothwy gael ei gyrraedd yn hawdd.

Pam felly na wnaeth UKIP naill ai gymryd awenau gwir Gymru neu geisio ffurfio grŵp ymbarél ei hun? Mae'r ateb yn ddigon syml, dybiwn i. Mae gan UKIP rhyw faint o siawns o gipio sedd neu ddwy yn etholiad y Cynulliad. Rhestr y gogledd yw eu cyfle gorau yn fy marn i ac fe fyddai'n gwneud synnwyr perffaith i'r blaid ymgyrchu yn y refferendwm yn ei henw ei hun er mwyn cynyddu ei phroffil ar drothwy'r etholiad. Cofiwch dyw synnwyr perffaith a UKIP ddim bob tro yn gyfeillion pennaf!

Yn y cyfamser mae'r Blaid Werdd yn ceisio ein hargyhoeddi bod ganddi gyfle o ennill sedd restr yng Nghanol De Cymru. Dydw i ddim yn diystyru'r posibilrwydd hwnnw - ond fe fyddai llawer yn dibynnu ar ganlyniadau etholaethol Canol a Gogledd Caerdydd.

Y Gwir yn Erbyn y Byd

Vaughan Roderick | 15:18, Dydd Mercher, 19 Ionawr 2011

Sylwadau (2)

Heno fe fydd "Gwir Gymru" yn lansio eu hymgyrch refferendwm. Rwy'n dewis fy ngeiriau'n ofalus. Gwir Gymru ddywedais i nid yr "Ymgyrch Na". Am resymau yr wyf wedi nodi o'r blaen does 'na ddim sicrwydd y bydd cais cefnogwyr Gwir Gymru i gael eu clustnodi fel ymgyrch swyddogol yn derbyn sêl bendith y Comisiwn Etholiadol.

Fe gawn ni wybod y naill ffordd neu'r llall cyn Chwefror 2il ond o'n safbwynt ni yn y BBC dyw'r penderfyniad ddim yn gwneud rhyw lawer o wahaniaeth. Mae rheolau'r gorfforaeth yn gwarantu cydbwysedd rhwng y ddwy ochor i'r ddadl os oes 'na ymgyrchoedd swyddogol neu beidio. O safbwynt yr ochor negyddol does 'na ddim ystod eang o siaradwyr ac ymgyrchwyr y tu hwnt i Wir Gymru. Gallwch ddisgwyl clywed Syr Eric Howells a Bill Hughes yn fynych iawn yn ystod yr wythnosau nesaf!

Yng nghyd-destun Gwir Gymru mae Syr Eric a Bill yn eithriadau gan eu bod o gefndir asgell dde - pobol o gefndir Llafur yw'r rhan fwyaf o gefnogwyr Gwir Gymru. Nid achos o'r blaid Geidwadol yn cuddio tu ôl i ambell i ffigwr Llafur yw hyn chwaith. Nid sefyllfa fel 1997 yw hon. Mae absenoldeb pobol y dde - a'u harian yn drawiadol.

Efallai bod yr awydd i ymddangos yn unedig wedi darbwyllo ambell i Geidwadwr i gadw ei ben i lawr ond sut mae esbonio absenoldeb UKIP o faes y gad? Mae'r blaid yn cefnogi pleidlais 'na'. Mae ganddi ryw fath o drefniadaeth yng Nghymru ond does dim arwydd o gwbwl bod y drefniadaeth honno'n cael ei defnyddio yn y refferendwm.

Sut mae esbonio hynny? Wedi'r cyfan gallai cysylltu ei hun a'r ymgyrch 'na' gynyddu proffil y blaid ar drothwy etholiad y Cynulliad.

Yr unig esboniad fedrai i gynnig am dawelwch cymharol y dde unoliaethol yw'r drindod o arolygon barn a gyhoeddwyd cyn y Nadolig gyda phob un yn awgrymu crasfa i wrthwynebwyr y pwerau ychwanegol. Mae sawl rhiant i bob lwyddiant meddai nhw ond mae methiant yn blentyn amddifad.

Diweddariad; Wel dydw i ddim yn mynd i ddarganfod beth fyddai dyfarniad y Comisiwn Etholiadol ynghylch cais Gwir Gymru am gydnabyddiaeth fel yr Ymgyrch Na swyddogol. Mae'r grŵp wedi penderfynu peidio gwneud cais am y statws hwnnw - er y bydd yn rhaid cofrestri er mwyn cael ymgyrchu o gwbwl.

Deallaf fod penderfynniad Gwir Gymru wedi ei gymryd ar y funud olaf. Gallwch chi farnu ai arbed arian cyhoeddus yntau ofni'r embaras o fethu'r trothwy neu ryw ffactor araill oedd yn gyfrifol.

Er y bydd y grwp yn colli mas yn arianol ac io safbwynd rhadbost a darllediadau mae'r sefyllfa hefyd yn ergyd i "Ie dros Gymru" sy'n wynebu uchafswm gwariant llawer mwy llym o'r herwydd.

Dywed Ie dros Gymru eu bod yn bwriadu trafod y sefyllfa gyda'r Comisiwn Etholiadol ond deallaf fod y grŵp wedi paratoi cynlluniau wrth gefn ar gyfer sefyllfa lle nad oedd Gwir Gymru yn llwyddo i gyrraedd yw trothwy angenrheidiol am gydnabyddiaeth swyddogol. Gyda Llafur, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a phob aelod cynulliad Ceidwadol yn cefnogi pleidlais ie mae'n debyg y bydd yn rhaid i'r ymgyrch dibynnu'n llawer mwy ar weithwyr y pleidiau i ymgyrchu ar lawr gwlad.

A'r wobr yw...

Vaughan Roderick | 13:11, Dydd Mawrth, 18 Ionawr 2011

Sylwadau (0)

'Oes 'na bwynt i rain bellach?'

Gareth Hughes wnaeth ofyn y cwestiwn ac mae ganddo bwynt. Cyfeirio oedd Gareth at gynadleddau newyddion wythnosol y Llywodraeth y Cynulliad.

Gyda chymeradwyo'r Gyllideb heddiw fe fydd oes Llywodraeth Glymblaid yn dechrau tynnu at ei therfyn. Fe fydd na ambell i dasg ar ôl i'w chwblhau ac angen ymateb i ddigwyddiadau allanol ond prin fydd unrhyw gyhoeddiadau newydd gan y Llywodraeth o hyn ymlaen. O'r pleidiau unigol y daw'r rheiny o hyn tan yr etholiad. Mae'n ddadlennol bod Plaid Cymru eisoes wedi dechrau cynnal ei chynadleddau newyddion wythnosol ei hun ar wahân i rai'r llywodraeth ac mae'n debyg y bydd Llafur yn dilyn ei hesiampl o fewn byr o dro.

Mae'r ddwy blaid hefyd yn dechrau cystadlu am y clod o gyflwyno polisïau y maen nhw'n meddwl sy'n boblogaidd gyda'r etholwyr. Dwn i ddim faint o weithiau rwyf wedi clywed y geiriau "Labour led government" yn cael eu hynganu gan aelodau Llafur yn yr wythnos ddiwethaf!

Mae'r datganiad yma gan Dai Lloyd sydd newydd fy nghyrraedd yn enghraifft o'r un ffenomen.

"Mae'r hyn mae Plaid Cymru wedi cyflawni yn ystod y llywodraeth hon yn rhywbeth allwn ni gyd bod yn falch ohono. Mae'r iaith wedi cymryd camau mawr ymlaen, gan gynnwys creu'r Coleg Cenedlaethol Cymraeg - y rhwydwaith Addysg Uwch drwy gyfrwng y Gymraeg - ac wrth gwrs, sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol. Fel rhan o'r llywodraeth mae Plaid Cymru wedi symud yr iaith ymlaen yn sylweddol gan sicrhau ei bod yn cael ei chryfhau i genedlaethau'r dyfodol."

Efallai bod hi'm amser priodol felly i geisio mesur sut mae'r ddwy blaid wedi elwa o'r glymblaid yn wleidyddol. Mae ateb y cwestiwn hwnnw'n ddigon hawdd yn achos Llafur ond yn anoddach efallai yn achos Plaid Cymru.

O safbwynt y Blaid Lafur yr hyn a gafwyd oedd pedair blynedd wrth y llyw yn hytrach na phedair blynedd fel gwrthblaid ac nae'n hawdd anghofio pa mor agos y daeth Llafur at golli grym yn 2007.

Nid beirniadaeth yw dweud bod Llafur Cymru yn blaid sy'n chwennych grym ac yn mwynhau ei ddefnyddio. Mae'n wir bod y blaid wedi gorfod cyflwyno ambell i bolisi na fyddai hi wedi ei gyflwyno o'i dewis eu hun ond doedd y polisïau hynny ddim yn gwbl wrthun i Lafur chwaith ac yn bris digon rhesymol i dalu er mwyn aros mewn llywodraeth.

Gall Plaid Cymru ar y llaw arall bwyntio at y fath o fuddugoliaethau polisi y mae datganiad Dai Lloyd yn cyfeirio atyn nhw ond mae'n werth cofio y byddai'r un polisïau wedi eu cyflwyno gan lywodraeth 'enfys'. Refferendwm Mawrth 3ydd yr unig beth na fyddai'r cyfuniad hwnnw wedi gallu eu sicrhau.

Mae'r bleidlais honno yn wobr sylweddol ond fe fydd strategwyr Plaid Cymru yn gobeithio am wobr arall - un llawer mwy annelwig ac anodd ei mesur.

Efallai eich bod yn cofio'r Ceidwadwyr yn defnyddio'r term "detoxifing the brand" byth a hefyd rhai blynyddoedd yn ôl. Fe wnaed hynny trwy gofleidio pynciau amgylcheddol a newid ambell i bolisi symbolaidd megis cardiau adnabod. Mae rhai o fewn Plaid Cymru'n gobeithio y bydd cyfnod mewn llywodraeth wedi cyflawni un gamp i'w plaid nhw.

Doedd delwedd Plaid Cymru ddim yn wenwynig, wrth gwrs. Y broblem oedd ei bod hi yn rhannau helaeth o Gymru yn ymddangos yn blaid amherthnasol, ymylol ac eithafol braidd. Gobaith rhai yw y bydd clywed gweinidogion Plaid Cymru yn trafod pynciau prif-ffrwd megis yr economi ac amaethyddiaeth wedi argyhoeddi'r etholwyr ei bod yn blaid ddifrifol a chenedlaethol.

Fe gawn weld.

????

Vaughan Roderick | 10:00, Dydd Iau, 13 Ionawr 2011

Sylwadau (5)

Rwy'n gobeithio y gwnewch chi faddau'r Saesneg yn y post hwn! Rwy'n meddwl bod angen dyfynnu'r darn bach yma o 'Good Morning Wales' yn yr iaith wreiddiol. Bethan Rhys Roberts oedd yn holi Cheryl Gillan.

BRR: And on that, your personal view, because much is being made of that too, whether or not politics are being played with, if you like, in this - you back the idea, do you, because if we look back, you proposed your own presumed consent Bill back in 2002, so do we therefore come to the conclusion that...

CG: Sorry - I did what?

BRR: You proposed your own presumed consent Bill didn't you, in Westminster in 2002?

CG: I think you had better check your facts on that.

BRR: You didn't do that?

CG: Not as far as I'm aware.

Oce. Sut mae esbonio hwn felly?


§ Mrs. Cheryl Gillan, supported by Mr. Stephen O'Brien, Dr. Julian Lewis and Mr. Desmond Swayne, presented a Bill to provide for the removal of organs for transplantation purposes, after death has been confirmed in a person aged 16 or over, except where a potential donor previously registered an objection or where a close relative objects; and for connected purposes: And the same was read the First time; and ordered to be read a Second time on Friday 19 July, and to be printed [Bill 169].


Ar y trothwy

Vaughan Roderick | 10:20, Dydd Mercher, 12 Ionawr 2011

Sylwadau (2)

Mae "Gwallgof" a "boncyrs" yn dau o'r disgrifiadau mwyaf cwrtais yr wyf wedi eu clywed ynghylch y rheolau sy'n cael eu defnyddio gan y Comisiwn Etholiadol wrth baratoi ar gyfer refferendwm Mawrth y 3ydd. Nid bai'r Comisiwn yw hynny. Mae'r cyfan wedi ei reoli gan y ddeddf gwlad ond mae'n anodd deall beth yn union oedd ym mhennau pwy bynnag wnaeth lunio'r Political Parties, Elections and Referendums Act, 2000 .

Y rheolau sy'n ymwneud a phwy sy'n cael cymryd rhan yn yr ymgyrch sy'n achosi'r dryswch.

Mae'r rhan gyntaf o'r system yn ddigon call a synhwyrol. Disgwylir i bleidiau gwleidyddol undebau Llafur a grwpiau eraill sy'n bwriadu ymgyrchu gofrestri gyda'r comisiwn ac yn gosod uchafswm ar wariant pob grŵp. Mae hynny'n gwneud synnwyr perffaith.

Yn anffodus go brin y gwellir dweud hynny am y rheolau ynghylch pennu prif grwpiau ymgyrchu. Fe fyddai'r grwpiau hynny'n derbyn rhyw £70,000 o gyllid cyhoeddus, yr hawl i ddanfon taflenni am ddim trwy'r post a darllediadau gwleidyddol.

Does dim rhaid bod yn guru etholiadol i wybod y byddai ymgyrch refferendwm gyda grwpiau ymgyrchu swyddogol yn wahanol iawn i un lle nad oedd grwpiau felly'n bodoli. Y broblem yn achos pleidlais Mawrth y 3ydd yw na fydd trefnwyr y naill ochor na'r llall yn cael gwybod tan diwedd y mis ydy maint eu cefnogaeth a'u cyllid a safon eu trefniadaeth yn cyrraedd y trothwy angenhreidol. Gellir canfod manylion y trothwy hwnnw yn fan hyn ac mae'n weddol amlwg o'u darllen mai cael a chael fydd hi i'r ymgyrch 'Na' gwrdd â'r anghenion. Os nad oes 'na ymgyrch 'Na' swyddogol fydd na ddim ymgyrch 'Ie' swyddogol chwaith.

Does dim dwywaith bod y sefyllfa yn boen tin i'r ymgyrch 'Ie' a 'Na' fel ei gilydd. Mae'n golygu bod yn rhai i'r trefnwyr baratoi ar gyfer dau ymgyrch gwahanol iawn i'w gilydd.

Y rhadbost a'r darllediau sy'n poeni'r ymgyrch 'Ie' - nid y £70,000. Mae 'na gyfyngiadau ar sut mae'r arian hwnnw i'w ddefnyddio. Mae'n anghyfreithlon defnyddio cyllid cyhoeddus ar ymgyrchu na chysylltu ag etholwyr. Rhaid ei ddefnyddio ar bethau fel cyflogi staff a llogi swyddfeydd - pethau sy'n ddigon hawdd eu cael am ddim neu ar fenthyg. Yng ngeiriau sarhaus un o drefnwyr yr ymgyrch 'Ie' "yr unig ffordd i ni wario £70,000 mewn mis fyddai trwy logi jacwsi yn yr Hilton".

Hen Hanes

Vaughan Roderick | 15:33, Dydd Mawrth, 11 Ionawr 2011

Sylwadau (2)

Dyma fi felly yn ôl y gwaith ar ôl pythefnos o wyliau a dadwenwyno digidol - y cyfrifiadur wedi diffodd y ffon symudol wedi ei dawelu a dim byd i ddifyrru dyn ac eithrio llyfrau, cerddoriaeth - a rhyw bum cant o sianelu teledu!

Dydw i ddim yn credu fy mod wedi colli rhyw lawer. Wedi'r cyfan dim ond ripits oedd ar Ddemocratiaeth Fyw dros yr calan!

Ta beth dyma ni ar drothwy cyfnod hynod brysur o wleidydda gyda un o'r dyddiau pwysicaf yn hanes cyfansoddiadol Cymru yn brysur agoshau. Mawrth y trydydd yw'r dyddiad hwnnw - dyddiad y refferendwm diweddara ynghylch datganoli.

Cyn i chi feddwl fy mod wedi colli fy synnwyr cyffredin a phob persbectif gwleidyddol ar ôl rhyddhau fy hun o grafangau'r we rwy'n rhuthro i ddweud nad yw union destun y refferendwm yn fawr o beth.

Go brin fod mwy 'na ychydig o filoedd o etholwyr yn deall union bwrpas y bleidlais a'r newid sy'n cael ei gynnig. Mae gen i gryn gydymdeimlad sy'n honni bod torri'r nifer o Aelodau Seneddol Cymreig yn newid cyfansoddiadol llawer pwysicach na symud na chyflwyno Adran 4 o Fesur Llywodraeth Cymru (2006). Go brin y byddai angen pleidlais o gwbwl oni bai am anghenion mewnol y Blaid Lafur wrth i fesur 2006 gael ei dywys trwy'r Senedd.

Pam felly y mae'r refferendwm hwn mor bwysig? Wel, yn union oherwydd mai'r angen am 'ffics' fewnol Llafur yw'r rheswm y mae'r bleidlais yn cael ei chynnal. Mae hynny'n creu'r potensial i sicrhau mai hwn fydd y tro olaf y bydd statws cyfansoddidaol Cymru yn dibynnu ar anghenion mewnol prif blaid y chwith.

Mewn gwrionedd dyw hanfodion gwleidyddiaeth Cymru ddim wedi newid rhyw lawer dros y ganrif a hanner diwethaf. Ers i'r bleidlais cael ei rhoi i drwch y boblogaeth (gwrywaidd) yn 1867 ac 1884 mae plaid chwith-ganol wedi tra-arglwyddiaethu mewn gwleidyddiaeth Cymru. Y Blaid Ryddfrydol oedd y blaid honno cyn i Lafur gymryd ei lle - ond roedd y gwahaniaethau barn ynghylch statws cyfansoddiadol Cymru yn ddigon tebyg o fewn y ddwy blaid.

Yn y ddwy blaid doedd y "cwestiwn cendlaethol" ddim yn fater o unryw bwys mawr i drwch yr aelodaeth. I raddau helaeth felly roedd datblygiad cyfansoddiadol yn dibynnu ar ymdrechion carfannau bychan o ddatganolwyr ac unoliaethwyr pybyr oedd o bryd i gilydd yn dadlau eu hachosion gerbron y miloedd di-hid.

Weithiau, yn 1896 a 1979 er enghraifft, yr unoliaethwyr fyddai'n fuddugol. Ar adegau eraill fel 1964 a 1997 y datganolwyr fyddai'n mynd a hi. Pwy bynnag oedd yn fuddugol doedd yn deinamig o fewn y ddwy blaid ddim yn newid yn sylfaenol. Fe fyddai 'na frwydr arall i ddod rhyw bryd.

Camp fawr Ron Davies yn 1997 oedd celu y rhaniadau o fewn y Blaid Lafur trwy gyfuniad o hudo, bygwth a bwlian. Heb hynny go brin y byddai'r refferendwm wedi ei hennill. Ond am bob Carys Pugh a Betty Bowen oedd yn ymgyrchu'n gyhoeddus roedd 'na gannoedd o aelodau Llafur - a hen ddigon o Aelodau Seneddol yn eu plith - oedd yn dawel wrthwynebus.

Bodolaeth y garfan honno oedd yn gyfrifol am 'ffics' 2006 ond canlyniad y cytundeb hwnnw yw y gallai'r hen ranniadau ddiflanu am byth yn 2011.

Mae cyfuniad o ffactorau yn golygu bod y Blaid Lafur Gymreig am y tro cyntaf yn ei hanes bron yn gyfangwbwl unedig ynghylch datganoli gan gefnogi pleidlais 'Ie'. Mae'r Llywodraeth Glymblaid yn San Steffan, y toriadau gwariant a chwtogi'r nifer o Aelodau Seneddol Cymreig yn bennaf gyfrifol am hynny. Ar ben hynny mae haelioni cymharol Llywodraeth Cymru tuag at yr Awdurdodau Lleol wedi cau pen y mwdwl ym meddyliau sawl cynghorydd oedd cyn hyn yn ddrwgdybus ynghylch y Cynulliad.

Yr hyn y gallai refferendwm 2011 wneud yw troi'r Blaid Lafur Gymreig yn blaid o ddatganolwyr pybyr. Fe fyddai hynny newid hanesyddol gyda goblygiadau pellgyrhaeddol i Lafur, i'r pleidiau eraill - ac i Gymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.