Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Teledu Cymru

Vaughan Roderick | 10:28, Dydd Iau, 16 Rhagfyr 2010

Wel fe roddodd Mr Cairns tipyn o slamad i S4C yn y pwyllgor dethol yndo?

Mae'n debyg eich bod wedi dal lan a digwyddiadau diweddar yn y Pwyllgor Dethol Cymreig ddydd Mawrth erbyn hyn. Fe ddof i at y rheiny yn y man - ond pwyllgor arall a Mr Cairns arall sy'n denu fy sylw yn gyntaf.

Ddoe roedd y Pwyllgor Dethol Diwylliant yn holi cadeirydd ymddiriedolaeth y BBC Syr Michael Lyons ynghylch y drwydded darlledu. David Cairns yw'r 'Mr Cairns arall'. Mae'n aelod Llafur o'r pwyllgor ac yn gyn-weinidog yn Swyddfa'r Alban ac fe ofynnodd y cwestiwn yma;

"...to an outsider S4C appears to be a complete basket case with everybody resigning or being sacked, or industrial tribunals. Does this not strike you as another hospital pass from the Secretary of State, punting this basket case, particularly in light of how well BBC Wales is doing?"

Mae'n werth gweld pethau trwy lygaid estron weithiau ac o ben arall yr M4 mae bosib bod cynlluniau'r DCMS yn ymddangos yn fwy o faich i'r BBC nac o fygythiad i'r sianel.

Mae'n ymddangos mai dyna yw barn Syr Michael Lyons.

"...it's very important the BBC doesn't leave you with the impression that we went looking to fund S4C. We didn't. It was part of an agreement. It was indeed a component of the initial negotiations that we were most wary of for two reasons - firstly that there might be a danger of top-slicing and we think we've found a way around that - but also we know that in Wales the issue of the independence of S4C is felt very strongly and the BBC did not want to leave any suggestion that it was somehow the pioneer of this proposition. When you enter into negotiations you sometimes end up accepting things which you might have chosen not to, that is part of the discussions."

Nawr, wrth gwrs dyw David Cairns na Syr Michael ddim ymhlith gwylwyr S4C. Mae'n werth nodi wrth i eiriau fel "basket case" neu gael eu defnyddio nad cyfeirio at safon rhaglenni S4C na'i ffigyrau gwylio y mae gwleiddyddion ond at y methianau ymddangosiedig mewn rheoleiddio a rheoli sydd wedi nodweddi'r sianel dros y misoedd diwethaf.

Mae hynny'n dod a fi'n naturiol at ymddangosiad Rheon Thomas ac Arwel Ellis Owen ger bron y Pwyllgor Dethol Cymreig.

Ai ddim i fanylion ynghylch hynny ond mae ambell i gwestiwn wedi codi yn ei sgil - a gallai un ohonyn nhw olygu y bydd y ddau yn cael eu galw yn ôl i roi ychwaneg o dystiolaeth. Dyma i chi'r Mr Cairns gwreddiol yn holi Arwel Ellis Owen

Alun Cairns; What was your involvement in terms of the departure of the Chief Executive (Iona Jones)? What role did you have with S4C at that time or prior to the departure?

Arwel Ellis Owen; None at all.

Alun Cairns; So there wasn't a relationship between you or your company and S4C or the S4C Authority...Cambrensis?

Arwel Ellis Owen; None... Cambrensis produce programmes for S4C

Alun Cairns; Isn't that your company?

Arwel Ellis Owen; Well, I'm not a director of Cambrensis. I resigned from those responsibilities when I took over the public appointment as Chair of the Care Council for Wales - and that was twelve months before the date you're talking about here.

Alun Cairns; It's been suggested you were even in the building when the Chief Executive was walked out of the door?

Arwel Ellis Owen; I can deny that completely.

Nawr, does neb yn amau gair Arwel Ellis Owen yn ei ateb olaf. Ar y llaw arall mae'n ffaith ei fod ym Mhencadlys S4C yn fuan ar ol ymadawiad Iona Jones. Mae ymateb gan S4C i gais rhyddid gwygbodaeth yn datgelu bod Arwel Elis Owen wedi ei gyflogi yn ystod y cyfnod hwnnw trwy gwmni Cambrensis i roi cyngor cysylltiadau cyhoeddus i'r Awdurdod.

Ym marn rhai o aelodau'r Pwyllgor roedd Arwel, i ddefnyddio term cyfarwydd, yn "economical with the actualité" hynny yw bod gwybodaeth wedi ei ddal yn ôl o gorff sydd a'r hawl i'w wybod.

Mae'n werth cofio efallai mai dyna, yn ôl Rheon Thomas, oedd yr union reswm y diswyddwyd Iona Jones gan Awdurdod S4C.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:34 ar 16 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Mae'n werth nodi fod y BBC wedi cael llawer o broblemau llywodraethol hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf a dadleuon llawer mwy difrifol gyda'r llywodraeth flaenorol yn sgîl adroddiad Andrew Gilligan ac yna marwolaeth Dr David Kelly. Fe wnaeth Greg Dyke, Cyfarwyddwr-Cyffredinol y BBC ymddiswydo ac yna ffurfiwyd y BBC Trust fel corff rheoleiddio newydd yn 2007 yn union oherwydd y trafferthion hynny.

    Roedd yr amgylchiadau yn wahanol, ond roedd y dadleuon ynglyn a phenderfyniadau pennaeth y corff yn ogystal a'r dull o reoleiddio yn eitha tebyg.

  • 2. Am 14:29 ar 16 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd dewi:

    1. Diolch Dafydd Tomos am eglurhad hynny, ai Dafydd Tomos, PR Officer S4C ydwyt!?

  • 3. Am 15:11 ar 16 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd David J Thomas:

    Erthygl arall ar wefan y BBC yn ymosod ar reolaeth S4C. Oes patrwm tybed?

    Pryd oedd y tro diwethaf i'r BBC gydnabod bod y BBC eisiau cymryd S4C drosodd? Unrhyw fai ar Syr Michael Lyons? Na, dim yn ôl y BBC. Rhyfedd.

    Corfforaeth Ddarlledu Brydeinig ddiduedd? Dim siawns.

  • 4. Am 15:12 ar 16 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Emyr Lewis:

    Yma mae'r broblem:

    "firstly that there might be a danger of top-slicing and we think we've found a way around that"

    h.y. y pryder oedd y byddai'r llywodraeth yn tynnu'r arian i ariannu S4C oddi ar incwm drwydded y BBC.

    Y way out yw bod y BBC yn ariannu S4C ei hun.

    Y cwestiwn canolog yw pa amodau fydd y BBC yn eu gosod ar yr ariannu hwn?

    Os yw BBC eisiau’r hawl i archwilio er mwyn sicrhau bod pob dim ariannol wedi ei wneud yn gywir yn unol â’r rheolau, yna mewn ffordd does dim problem. Mae angen hynny ar S4C fel pob corff cyhoeddus arall.

    Os yw’n dymuno mwy na hynny, fodd bynnag, mae yna broblem.

    Dan y Communications Act 2003, mae dyletswyddau pendant iawn gan S4C i gyflawni’r hyn a elwir yn “public service remits”. Dyletswyddau S4C ac S4C yn unig ydyn nhw. Dan y Ddeddf honno hefyd a deddfau eraill, S4C ac S4C yn unig sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am beth sy’n cael ei ddarlledu ar S4C.

    Dyma pam bod S4C, fel pob darlledwr, yn mynnu mai hi sy’n cael y gair olaf ynglŷn â beth sy’n ymddangos ar y sgrin, a sut mae ei harian yn cael ei wario.

    Dan y trefniadau ariannu presennol rhwng y Llywodraeth ac S4C, diogelir yr annibyniaeth hon, gan nad oes amodau o gwbl yn cael eu gosod ar sut mae S4C yn gwario ei harian wrth gyflawni ei “public service remits”.

    Os mai’r bwriad yw y bydd y BBC yn cael y gair olaf am y materion hyn, yna bydd hynny’n golygu diwedd ar annibyniaeth S4C.

  • 5. Am 15:46 ar 16 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Dwi ddim yn gwybod pwy yw swyddog 'PR' S4C os oes ganddyn nhw y fath beth (anodd credu), ond nid y fi yw e. Mae fy mlog uchod yn cynnwys rhai erthyglau am S4C, nifer ohonyn nhw'n feirniadol.

    Y pwynt dwi'n wneud yw fod e'n eitha diddorol sut y mae'r BBC yn cael ei weld (gan y Toriaid o bawb!) fel rhyw fodel delfrydol o ddarlledwr cyhoeddus pan roedden nhw yr un cawl rhai blynyddoedd yn ôl.

  • 6. Am 09:15 ar 17 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd dewi:

    Dwi ddim yn meddwl bod Toriaid yn gweld y BBC yn ddelfrydol o gwbwl(!).
    Yr unig beth mae David Cameron eisiau wneud ydy chwalu'r BBC hefoi "delicious cuts". Gweler: http://blogs.telegraph.co.uk/news/jameskirkup/100061379/david-cameron-finds-bbc-cuts-delicious/

    Dim ond digwydd bod mae S4C yn tynu ychydig o arian yn fwy or drwydded hefo'r BBC World Service.

    A dwin poeni am hyn, heb law am y Guardian, does yna ddim llawer o son am y "delicious cuts" yn y cyfryngau os tyda ni ddim yn ofalus fydd un or petha gorau am Brydain wedi mynd.

  • 7. Am 16:55 ar 17 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Huw Jones:

    Mae sylw Emyr Lewis yn mynd at wreiddyn y mater (fel arfer!). Oes yna ffordd o ganiatau i'r BBC ddweud nad ydyn nhw'n cael eu "top-sleisio", tra'n sicrhau annibyniaeth ymarferol S4C? Fy awgrym i ydi fod "public service remits" S4C yn parhau i gael eu diffinio mewn statud, sy'n golygu bod yr Awdurdod yn atebol i'r Senedd am eu cyflawni nhw, tra bod yr un geiriad yn union yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pwrpas y gwasanaeth ym mha ddogfen bynnag sy'n diffinio perthynas S4C gydag Ymddiriedolaeth y BBC. Byddai disgwyl i'r geiriad yma fod yr un mor eang a'r "remit" presennol, gan roi rhyddid felly i Awdurdod S4C ei ddehongli o flwyddyn i flwyddyn yn ol ei ganfyddiad ei hun o flaenoriaethau ac o ddymuniadau'r gynulleidfa. Byddai Ymddiriedolaeth y BBC, mewn sefyllfa felly, a'r hawl i wneud sylwadau am y gwasanaeth, ond nid y nhw fyddai a'r gair olaf yn hynny o beth. Yn ymarferol,does yna run peirianwaith gan y DCMS i orfodi S4C i newid ei benderfyniadau; yn hytrach mae'r oruchwyliaeth yn deillio o allu'r Ysgrifennydd Gwladol i geryddu'n gyhoeddus, i drefnu adolygiad, ac i ddeddfu o'r newydd os yw'n dymuno. Dwi'n tybio, yn yr un modd, mai grym moesol a deallusol fyddai i unrhyw sylwadau adolygiadol fyddai Ymddiriedolaeth y BBC'n eu cynnig ar berfformiad S4C, yn hytrach na grym rheoleiddio - ond mae'n bwysig bod hynny'n cael ei gadarnhau yn y cytundeb rhwng S4C, yr Ymddiriedolaeth a'r DCMS.

  • 8. Am 20:16 ar 17 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Mae'r cwestiynau parhaus, dibendraw yma sydd gan y BBC ynglyn a llywodraethiant S4C yn ddadlennol iawn. Rydych chi'n hybu "naratif" a benderfynwyd ymlaen llaw. Wrth wneud hyn, a chan fod gennych fonopoli ar osod yr agenda newyddion yn y Gymraeg(ac yn medru rheoli hefyd pwy sy'n cael ei wahodd i raglenni trafod er mwyn mynegi barn), rydych chi'n llywio canfyddiad y cyhoedd o'r hyn sy'n digwydd mewn modd annheg.

    Rydym ni'n gwybod beth yw barn y gymdeithas sifil Gymraeg ei hiaith. Nid oes yno yr un obsesiwn a llywodraethiant S4C. Ond mae awch gwirioneddol i gael gwybod beth yw cynlluniau'r BBC ar gyfer y sianel Gymraeg - yn enwedig ar ol 2015.

    Fel unigolyn, Vaughan, rydych chi wedi bod yn ddigon teg o ran holi rhai o'r cwestiynau hyn wrth gael y cyfle - megis wrth holi Mark Thompson mis diwethaf. Ond fel Corfforaeth, nid ydych wedi cyflawni'ch dyletswyddau newyddiadurol yn ystod y misoedd diwetha yma yn iawn. Does yna ddim ymdrech wedi bod o gwbl i holi pobl fel Syr Michael Lyons ynglyn a chynlluniau'r BBC ar gyfer S4C wedi 2015.

  • 9. Am 10:27 ar 22 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Hedd:

    Hoffwn gefnogi sylwadau Simon Brooks. Pryd yn union bydd Syr Michael Lyons yn cael ei gyfweld gan y BBC ynglyn a chynlluniau'r BBC ar gyfer S4C wedi 2015?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.