Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cadw Tŷ mewn Cwmwl Tystion

Vaughan Roderick | 09:52, Dydd Gwener, 3 Rhagfyr 2010

Rwyf wedi bod yn teimlo'n isel yr wythnos hon. Does a wnelo hynny ddim byd a'r tywydd, gwaith na gwleidyddiaeth. Yn hytrach mae tasg fach ddigon di-nod wedi bod yn chwarae ar fy meddwl.

Mae'r Capel lle'r roedd fy nhad-cu yn weinidog am ddeugain mlynedd yn y broses o gael ei gau a'i werthu ac roeddwn i eisiau sicrhau nad oedd ei dabl goffa yn glanio lan mewn sgip neu ar domen rwbel. Roedd yr hen foi wedi marw ymhell cyn fy nyddiau i ond rwy'n digwydd teimlo bod gan rywun ddyled a dyletswydd i aelodau 'r teulu - hyd yn oed y rhai sydd wedi ein gadael.

Doedd gen i fawr i gysylltiad â'r Capel chwaith. Llond dwrn o weithiau yr oeddwn wedi bod yna. Y tro diwethaf oedd gwasanaeth y Canmlwyddiant rhyw ddwy neu dair blynedd yn ôl. Roedd hi'n amlwg bryd hynny bod y diwedd y dod gyda chyflwr y nenfwd yn beryglus a'r rhan helaeth o'r gynulleidfa fechan yn wragedd oedrannus oedd wedi gweld eu dynion yn cael eu haberthu ar allor o lo caled.

Eto i gyd, roeddwn i'n teimlo fy mod yn nabod y lle. Mae straeon teuluol yn treiddio i gof dyn. Gallaf ddychmygu'n hawdd y ffraeo pan lwyfannodd y Gymdeithas Ddrama ddrama Saesneg, y ffordd yr oedd perchennog y bragdy yn derbyn rhybudd caredig os oedd 'na bregeth ddirwest i fod a phregeth heddwch fy nhad-cu wrth i'r Almaenwyr groesi ffin Gwlad Pwyl yn yr oedfa olaf i'r BBC ei darlledu cyn dechrau'r rhyfel.

Dydw i ddim yn ddyn capel a dylai cau un ohonyn nhw ddim effeithio arnaf - ond mae cau hwn wedi gwneud hynny a dwi'n meddwl fy mod yn deall pam.

Fe gefais i fy ngeni a'n magu yng Nghaerdydd. Yr unig brofiad neu gysylltiad â'r bröydd Cymreig oedd gen i fel crwt oedd yr ymweliadau cyson a Chwm-gors - y pentref bach gwyrthiol lle'r oedd pawb yn siarad yr un iaith a fi ac yn gwybod pwy o'n i er nad oeddwn i'n byw yno.

Trwy gydol fy mywyd rwyf wedi bod yn optimist ynghylch dyfodol y Gymraeg. Wedi'r cyfan, yn y ddinas hon rwyf wedi bod yn dyst i ddadeni Cymreictod gyda thwf aruthrol yn addysg a bywyd Cymraeg. Mae'r Capel Cymraeg lleol newydd godi estyniad er mwyn y nefoedd!

Rwyf wedi bod yn ymwybodol wrth reswm o'r ystadegau a'r straeon o'r ardaloedd Cymraeg - ond dydw i erioed wedi teimlo ing y sefyllfa o'r blaen.

Am y tro cyntaf efallai rwy'n deall teimladau pobol sy'n gwylio'r goleuadau'n cael eu diffodd un wrth un.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:06 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Aled:

    Rydym yn medru dadlau'n gyson mai ond cragen i ddal cnawd y ffydd yw'r addoldy, ond yn y pen draw mae'r atgofion am bobl - teulu, ffrindiau, cymdeithwyr ar hyd ffyrdd bywyd - yn llifo nôl tu fewn i hen furiau capel neu eglwys. Y cyfarwydd yn rhoi'r cip lleiaf o'r diflanedig.

    Nid eich capel teuluol yng Nghwmgors yw'r cyntaf (na'r olaf) yn ardal Aman-Tawe i wynebu'r dynged hon. Cwta dros ganrif wedi penllanw gwareiddiad Cymraeg a Chymreig y glo caled, mae bysedd yr hyn a fu bron â llacio'r llwyr ar dreftadaeth anweledig a gweledig y fro.

    Caeodd Abernant chwarter canrif yn ôl, a dim ond tipyn o loddio ar frig daear sy'n atgof o ddiwydiant anferth. Nid dim ond y gwaith sydd wedi mynd. Pobl. Iaith. Ffydd. Cymdogaeth.

  • 2. Am 12:20 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Ddim yn deimlad braf nac ydi! Er mi wn fy hun pa mor hawdd ydi bod yng a bod yn optimistaidd, ond mae dychwelyd adra yn ddos enfawr o realiti sy'n fy mrifo i'n fawr bob tro y bydda i'n ôl yno. I rywun o'r Fro fel fi efallai mai haws yn y bôn ydi cuddio yng Nghaerdydd a chau llygaid i raddau, wn i ddim.

    Dwinna ddim yn gapelwr chwaith ond mae gweld y capeli'n cau ac yn troi'n dafarndai neu'n adfeilion neu'n dai yn fy ngwneud innau'n ofnadwy o drist - mae o braidd yn apocolyptaidd oherwydd, fel y Gymraeg, i raddau mae'n symbol o'r Gymru fu y mae llawer ohonom yn hiraethu amdano p'un a oeddem yn ei hadnabod ai peidio; yr hen drefn yn gwneud lle i'r newydd.

    Pan o'n i'n fach dwi'n cofio'n iawn bod gan Gapel Carmel 150 o aelodau ac roedd bron pawb, yn llythrennol, yn siarad Cymraeg. Newid byd go iawn, a ddim rili am y gorau chwaith.

  • 3. Am 12:56 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Gareth William Jones:

    Mae'n ddrwg gen i ychwanegu at eich cyflwr o dristwch Vaughan ond y tristwch yw fod y mewnfudwyr wedi ein gwneud ni yn y gorllewin yn ddieithriaid yn ein gwlad ein hunain ac nad yw'r Cymry Cymraeg yn cael dim affliw o ddylanwad ar Seisnigrwydd y Dwyrain.

  • 4. Am 13:03 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Tom:

    A'i Capel y Bedyddwyr Seion Cwm- gors sydd wedi cau? Sefyllfa drist ond os nad ydym ni'n cefnogi'r capeli ein bai ni yw eu cau. Wnawn ni ddim sylweddoli pa mor werthfawr yw'r 'blychau sgwar di-addurn' yma tan fod pob un wedi cau. Capel Cymraeg artiffisal yw Salem, Canton - mae angen capeli yn mannau fel Cwm -gors i sicrhau parhad capeli Cymraeg Caerdydd.

  • 5. Am 14:08 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae Seion wedi mynd ers tro Tabernacl sy'n cau. Carmel sydd ar ol.

  • 6. Am 16:00 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Aled:

    Doeddwn i ddim wedi clywed bod Tabernacl yn cau. Drwg iawn gyda fi i glywed hynny, ond mae'r adeilad wedi ymddangos eithaf truenus o'r tu fas am beth amser. Wnes i ddim sylweddoli nad oedd yr aelodau yn bwriadau dyfalbarhau gyda'r capel.

    Mae'r pwynt cyffredinol yn aros: mae sawl Seion, Tabernacl, Bethel a Soar yn cau yn y bröydd oedd yn cael eu hystyried yn gonglfeini'r Gymraeg tan genhedlaeth yn unig yn ôl.

  • 7. Am 16:19 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd dienw:

    Falch o weld dy fod yn deall. Fel rhywun sy'n byw mewn ardal 'Gymraeg', mae diffyg dealltwriaeth pobl Caerdydd o realiti gweld ein cymunedau Cymraeg ni'n marw yn dorcalonnus gan taw yng Nghaerdydd mae polisiau yn cael eu llunio ac ry'n ni'n hollol ddiymadferth.

  • 8. Am 22:12 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Harri:

    Sentiment sydd wrth wraidd yr ysgrif hon ac i ba ddiben yn y byd yw sentiment?
    Debyg iawn gallwn edrych yn ol yn atgofus wrth feddwl am aelodau'r teulu sydd wedi'n gadael gyda chariad a pharch. Ond a oes angen i ni adael i sentiment ein llethu? Onid gwell derbyn fod pob cymdeithas yn esblygu dros amser ac yn siwr bydd yr hyn oedd yn amhrisidawy yng ngolwg un genhedlaeth efallai'n gwbl ddiangen gan genhedlaeth arall.
    'Sgwn i be' fydd yn digwydd i'r garreg goffa ar ol dy ddydd di Vaughan - a oes disgwyl i ni lethu ein plant a chyfrifoldeb am wrthrychau materol. Gadewch i'r to ifanc ddawnsio'n rhydd o'r fath lyffetheiriau ddyweda' i. Pa etifeddiaeth sydd well na trysor o gariad o fewn teulu - onid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun?

  • 9. Am 23:36 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Trist iawn a hyn ychydig llai na mis ers ers darfod Richard Jones y gweinidog olaf. Tra'n deall y teimladau, heb gynulliedfa a chefnogaeth pa obaith ???

  • 10. Am 14:29 ar 4 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Tom:

    Datgorfforwyd capel y Bedyddwyr Seion Cwm-gors ar Hydref 20fed 2010. Gwelir y manylion ar y wefan isod:
    www.bedyddwyrgm.co.uk

    O ran gapeli Caerdydd, rwy'n credu mai Tabernacl yw'r unig gapel Cymraeg a chanrhan nid ansylweddol o frodorion Caerdydd a'I teulu yn aerlodau yno am genedlaethau.

  • 11. Am 21:06 ar 4 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Tom, doeddwn i ddim yn sylweddoli bod cau Seion a Tabernacl mor agos at ei gilydd. O safbwynt Tabernacl (Caerdydd) mae'n debyg mai hwnnw yw capel y rhan fwyaf o deuluoedd traddodiadol Cymraeg Caerdydd. Ar y llaw arall yr hen Fethel oedd capel Mam a'r hen Ebeneser oedd Capel fy nhad.

  • 12. Am 11:45 ar 6 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd tom:

    Cyn hir Tabernacl, Caerdydd fydd yr Capel Anghydffurfiol olaf yng nghanol y ddinas. Gyda Bethany, Bedyddwyr Saesneg a Bethel Wesle Cymraeg wedi symud i Rhiwbeina degawdau yn ol ac o'r hyn dwi'n deall mae Ebeneser, Annibyns Cymraeg ar fin symud i'r maestrefi. Gobeithio na fydd Tabernacl yn gorfod dilyn y lleill. Mae iddo werth crefyddol a diwyllinanol yng nghanol ein prifddinas.

  • 13. Am 15:17 ar 6 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Digon gwir Tom, er mai capel Saesneg oedd adeilad presenol Ebebeser. Mae Eglwys Dewi Sant yn y canol o hyd ond eglwys Saesneg oedd yn yr adeilad hwnnw yn wreiddiol.

    Diddorol nodi wrth fynd heibio bod capel newydd Vernon, Dewi, ac Alun Higham Tabernacl, y Rhath yn cynnal peth o'i weithgareddau yn Gymraeg.

  • 14. Am 23:22 ar 6 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Tom:

    Ac mae'r Catholigion yn cynnig offeren Gymraeg bob dydd SuL yn Llanederyn. Sgwn i a gaiff Ysgol Gatholig Gymraeg ei sefydlu yng Nghaerdydd?

    Hen beth rhyfedd yw Anghyffurfiaeth Gymraeg - er i ni wrthryfela yn ei erbyn dro ar ol tro, rwy'n teimlo mai Duw a'n gwaredo ni allaf ddianc yw hanes nifer o Gymry Cymraeg am ein capeli. Sentiment efallai ond sentiment cryf iawn i lawer o Gymry. Ac hynny er fod fy nghariad yn fwslim.

    Vaughan efallai dy fod wedi fy merswadio i fynd nol i'r capel ond y v cwestiwn mawr - pa enwad?!! Roedd Mam yn Anibyn a Dad yn Fethodist. Falle dylai drio y Bedyddwyr ar yr Aes!

  • 15. Am 09:54 ar 7 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Tom, fel tithau am resymau teuluol dwi mewn Mosg yn amlach na chapel ond mae'n debyg bod capeli Cymraeg Caerdydd i gyd yn weddol fywiog y dyddiau hyn.

  • 16. Am 15:44 ar 7 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Mae'n sicr yn drist gweld unrhyw Gapel yn cau, nid yn gymaint am y Capel fel adeilad ond oherwydd ei fod yn rhyw reading bach o'r hinsawdd ysbrydol yng Nghymru. Cadarnhau yr hyn rydym ni i gyd eisioes yn gwybod.

    Ond fel ciw Weinidog dydw i ddim yn gofidio rhyw lawer oherwydd fod cau Capeli yn golygu y caiff fy nghenhedlaeth i ganolbwyntio ein hymdrechion ar lai o Eglwysi lle bu rhaid i'r genhedlaeth ddiwethaf rannu eu hunain yn rhy denau dros lwyth o eglwysi gwan. Fy ngobaith i yw medru canolbwyntio ar un (neu ddau) Eglwys ym mlynyddoedd cynnar fy ngweinidogaeth gyda'r bwriad o blannu yn ôl i un o'r pentrefi cyfagos pan fydd yr hîn ysbrydol yn decach gan gredu, mewn ffydd, y daw'r cyfnod yna rhywdro yn ystod fy oes i.

  • 17. Am 18:03 ar 7 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Rhodri:

    Tom fel aelod yn y Tab ar yr Aes gai estyn croeso cynnes i chi ddod i un o'n hoedfaon - 10.30 yn y bore a 6 yn yr hwyr!

  • 18. Am 23:05 ar 8 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Tom:

    Vaughan wrth son am anghydffurfiaeth Cymraeg rwy'n drist iawn heno i glywed am farwolaeth Glyn James, Glynrhedynog. Dyn oedd yn crisialu gorau Cymru yn ieithyddol, diwylliannol ac yn grefyddol. Coffa da amdano. Byddai'n braf gweld erthygl coffa amdano

  • 19. Am 00:27 ar 13 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Siân:

    Dw i wedi blogio mewn rhyw fath o ymateb i flog Vaughan -
    http://stwnsh.com/cadw

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.