Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mesur wrth fesur

Vaughan Roderick | 15:25, Dydd Gwener, 3 Rhagfyr 2010

Fe fydd y Mesur Iaith yn cyrraedd pen ei daith y Cynulliad wythnos nesaf a pharhau mae'r ddadl ynghylch union eiriad y cymalau yn ymwneud a statws y Gymraeg.

Mae'r gwrthbleidiau wedi cynnig gwelliant a fyddai'n cyflawni'r hyn y mae Cymdeithas yr Iaith a rhai ymgyrchwyr iaith yn dymuno gweld sef y datganiad diamwys yma.

"Y Gymraeg ar Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru, ac mae eu dilysrwydd a'u statws yn gyfartal."

Mae Llywodraeth ac ymgyrchwyr iaith eraill yn amheus ynghylch datganiad o'r fath gan ei bod hi'n bosib y byddai'r llysoedd yn gorfod barnu ei union ystyr - gan o bosib cyfyngu effaith y cymal i'r meysydd datganoledig.

Ta beth, does dim gobaith caneri i'r gwelliant basio. Beth bynnag yw eu safbwyntiau neu deimladau personol dyw Aelodau Cynulliad Plaid Cymru ddim yn debyg o bleidleisio o blaid gwelliant o eiddo'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond beth yw hyn? Gwelliant arall, y tro hwn wedi ei gynnig gan aelod Plaid Cymru, Bethan Jenkins. Dyma mae'n ei ddweud.

Adran 1, tudalen 12, ar ddechrau llinell 15, ychwanegwch-
"Heb gyfyngu ar effaith gyfreithiol gyffredinol adran 1(1) uchod‟

Beth mae'r gwelliant bach hwnnw yn gwneud?

Wel, fe fyddai'n cael union yr un effaith a gwelliant y gwrthbleidiau. Does dim rhyfedd bod Meredydd Evans Angharad Price a Ned Thomas, tri o'r 85 anfonodd lythyr agored at Alun Ffred Jones ynghylch statws swyddogol wrth eu boddau:

"Yr ydym yn llongyfarch Bethan Jenkins yn wresog am ei gweledigaeth a'i dewrder yn cynnig gwelliant syml i'r Mesur Iaith fydd yn sicrhau statws swyddogol cyflawn i'r Gymraeg. Dyma beth yw ystyr democratiaeth iach. Mae Bethan Jenkins wedi gwneud ei safiad."

Does dim dwywaith yn fy meddwl y bydd y gwrthbleidiau yn cefnogi'r gwelliant.

Y cwestiwn nawr yw a fydd eraill o rengoedd Plaid Cymru yn fodlon gwneud hynny?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:42 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Dewi:

    Ydion bosibl Vaughan i chwi roi link ir ddogfen- allai ond a gweld gwellianau hyd at 30fed Tachwedd- allai ddim ffeindio fy ffordd o gwmpas wefan y Cynulliad!

    Diolch!


    Os ydyr gwelliant yma yn wir, da ar y hogan i gael hwn allan. Ond fyswn i DDIM eisiau bod yn AC Plaid yr wythnos nesaf- pendefyniad anodd iawn. Ond dwi ddim yn rhy siwr beth maer gwelliant yn ei feddwl ar y funud- fysan rhaid i mi edrych be mae 1 (1) yn ei feddwl!.

    Pam bod o'n gormod o broblem fysa yr iaith ddim ond yn 'cyfri' i betha sydd wedi'i ddatganoli? H.y tydyr mesur yma ddim yn gallu rhoi bwysa ar cwmniau/cyrff sydd tu allan ir maes o fewn yr LCO cyntaf (a nawr y Mesur), na?.

  • 2. Am 17:04 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    http://www.cynulliadcymru.org/wl_stage3_ml_101130.pdf

  • 3. Am 17:10 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Aled:

    Mi wnes innau edrych ddwywaith pan welais i welliant BJ. Mae'n ymddangos ei fod e'n cyflawni'r union beth rydyn ni wedi bod yn gofyn amdano ers mis Mawrth, hynny yw datganiad clir, diamod ynglŷn â statws y Gymraeg yng Nghymru.

    Mae Bethan yn gyfrwys iawn yma, gan ei bod hi'n gadael y geiriad wnaeth Alun Ffred Jones geisio ein darbwyllo oedd mor bwysig, ond eto'n sicrhau nad yw 1(2) yn nacau 1(1). Gwych!

  • 4. Am 17:30 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Menna Machreth:

    Mae Bethan Jenkins hefyd wedi rhoi gwelliant sef hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg (sef addewid gwreiddiol Cymru'n Un). Byddai hawliau yn rhoi'r iaith Gymraeg yng ngyd-destun rhyngwladol hawliau dynol a rhoi grym i unigolion, yn hytrach na swyddogion yn unig. Mae hawliau yn cyd-fynd a statws felly byddai'n dda rhoi mwy o sylw iddo yn y wasg. Y ffaith yw nad yw gweddill yr aelodau Cynulliad yn gweld fod yr iaith yn ffitio mewn ag agenda cydraddoldebau eraill lle mae cyfiawnder wedi ei ennill ar gyfer y bobl hynny.

  • 5. Am 19:00 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Emyr Lewis:

    Mae Bethan Jenkins wedi gwneud peth dewr ac egwyddorol dros ben.

    Mae hi'n haeddu pob cefnogaeth, yn arbennig felly am ei hymgais i sicrhau nad yw Cymal 1(2) y Mesur yn cyfyngu ar statws yr iaith, fel y mae'n gwneud ar hyn o bryd.

    Mae statws swyddogol yn darian gref er mwyn amddiffyn iaith leiafrifol yn erbyn ymosodiadau y rhai hynny nad ydynt yn ei chefnogi. Byddai gwelliant Bethan Jenkins yn rhoi llawer mwy o amddiffyniad rhag ymosodiadau gelynon y Gymrseg. Byddai hefyd yn ein galluogi i ddatgan a balchder nad oes gyfyngiad ar statws swyddogol yr iaith: rhywbeth na allem ei wneud hebddo.

    Ni fyddai angen i genhedlaeth arall ail-ymweld a'r cwestiwn statws wedyn.

    Fel arall, mae'n fusnes anorffenedig.

    Yn y pen draw son yr ydym am barch i'r iaith.

  • 6. Am 23:08 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd jon jones:

    Y broblem gyda chyfartaledd hollol rhwng y ddwy iaith yw'r effaith ar, er enghraifft, polisi iaith Cyngor Arfon. Bydd e'n meddwl bod gennyf hawl i fynnu bod fy mhlant yn cael addysg uniaith Saesneg hollol yn y Sir? Be' mae'r Sais yn galw'r 'law of unintended consequences' neu byddwch yn ofalus be' da chi'n dymuno...ayb!!

  • 7. Am 23:59 ar 3 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Ned Thomas:

    Darllenais ddatganiad Alun Ffred yn cyfiawnhau'r mesur iaith y bwriedir ei gyflwyno yn ofalus, a hefyd barn cyfreithiol Emyr Lewis o blaid y gwelliant a gyflwynir yn awr gan Bethan Jenkins AC.

    Mae dadleuon Emyr Lewis yn glir ac yn fanwl ac yn fy argyhoeddi. Nid yw Alun Ffred yn datgelu manylion y cyngor cyfreithiol y seilir ei farn arno.

    Mae Alun Ffred yn haeru y gallai'r gwelliant a gyflwynir gan Bethan Jenkins arwain at gyfyngu ar hawliau'r Gymraeg, ond mae ei Brif Weinidog Carwyn Jones yn gwrthwynebu'r un gwelliant ar sail sydd yn gwbl anghyson â barn y Gweinidog Treftadaeth, sef y byddai'r gwelliant yn agor y drws i'r iaith Gymraeg gael ei ddefnyddio ar bob achlysur, ym mhob rhan o Gymru ac o dan unrhyw amgylchiadau.Gweler safle Golwg360: http://www.golwg360.com/Hafan/cat46/Erthygl_18066.aspx

    Rwy'n apelio ar i'r Aelodau Cynulliad o bob plaid ystyried eu bod yn sefyll o flaen tribiwnlys hanes yn y mater hwn. Hawdd iddynt yw taranu yn erbyn Llundain ym mater S4C, ac mae angen gwneud hynny. Dim ond nhw fydd ar fai, fodd bynnag, os collir y cyfle presennol i unioni cam canrifoedd lawer.

    O hyn tan fore Dydd Mawrth mae cyfle i bawb gysylltu a'u haelodau Cynulliad.

    Gwnewch hynny.



  • 8. Am 07:07 ar 4 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Emyr Lewis:

    Sylw diddorol gan Jon Jones.

    Mae dadl debyg i hon wedi ymddangos sawl gwaith yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae'n un elfen sydd wedi perswadio rhai na ddylid datgan bod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

    Ond dydi cyfartaledd satws ddim yn gyfystyr a chyfartaledd triniaeth.

    Er enghraifft, yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, Saesneg yw’r unig iaith y bydd modd ei defnyddio’n llawn, a bydd angen darpariaeth arbennig ar gyfer defnyddio’r Gymraeg. Ni fyddant yn cael eu trin yn gyfartal.

    hefyd, mae’n rhan hanfodol o hybu cydraddoldeb fod camau yn cael eu cymryd o blaid y rhai sydd yn is eu breiniau, nas cymerir o blaid y rhai breintiedig. Fel y dywed Erthygl 7(2) Siarter Ewrop dros Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol:

    The adoption of special measures in favour of regional or minority languages aimed at promoting equality between the users of these languages and the rest of the population or which take due account of their specific conditions is not considered to be ân act of discrimination against the users of more widely-used languages.

    Mae "specific conditions" yr iaith Gmraeg yn cynnwys y ffaith fod ganddi gadarnleoedd lle y mae hi'n iaith gymunedol fwyafrifol. Yn y cyd-destun hwnnw, ac yn wyneb y bygythiadau i'r iaith, peth cyfangwbl resymol ydi bod y Cyngor Sir yn sicrhau addysg yn yr iaith honno. Nid ydynt yn hepgor dysgu Saesneg yn yr ysgolion hynny. Mae honno'n cael ei lle teilwng hefyd.

  • 9. Am 15:20 ar 4 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Hedd:

    Hoffwn longyfarch Bethan Jenkins yn fawr iawn am ei dewrder yn cyflwyno'r gwelliant yma. Gwelliant syml, ond holl bwysig, a gobeithiaf y bydd Aelodau eraill Plaid Cymru, ac aelodau'r gwrthbleidiau yr un mor ddewr, ac yn cefnogi gwelliant Bethan.

    Rydych chi'n son Vaughan, mai dim ond 'rhai ymgyrchwyr iaith' sydd wedi bod yn galw am ddatganiad clir ddiamod, a bod 'ymgyrchwyr iaith eraill' yn cefnogi safbwynt y Llywodraeth. Nid wyf i wedi clywed am unrhyw ymgyrchydd iaith sy'n cefnogi barn y Llywodraeth. Ar y llaw arall mae nifer fawr iawn o ymgyrchwyr a degau o fudiadau wedi cefnogi'r alwad am ddatganiad clir diamod. At pa fudiadau/unigolion ydych chi'n cyfeirio felly?

  • 10. Am 17:22 ar 4 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Efallai y byddai 'caredigion' wedi bod yn well gair nac 'ymgyrchwyr'. Ceisio cyfleu'r ffaith oeddwn i mai dadl ynghylch polisi ac egwyddor yw hwn hy nad didwylledd nac ymroddiad y gweindog a'i gynghorwyr agosaf tuag at y Gymraeg sy'n cael eu beirniadu. Roedd y geirio braidd yn llac.

  • 11. Am 17:51 ar 4 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Hedd:

    Diolch am yr esboniad. Dwi ddim yn credu bod unrhyw un yn amau didwylledd nac ymroddiad AFfJ tuag at y Gymraeg, ond dwi yn credu mai beth sydd gyda ni yma ydy'r mesur cryfa' y mae AFfJ yn teimlo y gallai gyflwyno tra'n cadw cefnogaeth y Blaid Lafur. Fel nodwyd eisoes, mae Carwyn Jones yn dadlau yn erbyn statws diamod ar sail gwbwl wahanol, sef y byddai'n agor y drws i'r iaith Gymraeg gael ei ddefnyddio ar bob achlysur, ym mhob rhan o Gymru o dan unrhyw amgylchiadau. Dwi'n mawr obeithio y bydd AC'au Plaid Cymru a'r gwrthbleidiau yn edrych ar y dystiolaeth, a sylweddoli pwysigrwydd gwelliant Bethan Jenkins ac yn ei gefnogi. Mae ail welliant Bethan Jenkins yn holl bwysig hefyd, sef rhoi'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg. Gobeithio y bydd yr AC'au yn cefnogi'r gwelliant yma yn ogystal.

  • 12. Am 21:58 ar 4 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Richard Wyn Jones:

    Mae gwelliant Bethan Jenkins wedi ei lunio mewn ffordd hynod, hynod ddeheuig. O’i basio byddai ar y naill law yn caniatau i’r Llywodraeth gadw’n driw at fwriad gwreiddiol Cymru’n Un, sef (rwy’n cymryd) rhoi taw ar y ddadl am statws y Gymraeg unwaith ac am byth trwy sicrhau cydraddoldeb, tra ar y llaw arall yn osgoi’r bygythiad y mae Alun Ffred Jones a’i gynghorwyr yn poeni cymaint amdano, sef y gallai datganiad statws cyffredinol greu problemau yn llysoedd Cymru a Lloegr.

    Gan fy mod wedi arwyddo dau lythyr yn ddiweddar yn ceisio amlinellu pam fod datganiad statws cyffredinol yn gam mor bwysig, wna’i ddim ailadrodd y dadleuon rheini yma. Gwell canolbwyntio ar sut y buasai gwelliant Bethan Jenkins yn fodd o osgoi y bygythiad o gyfeiriad y Barnwyr sy’n poeni’r Gweinidog.

    Os wyf yn deall rhesymeg dadl Mr Jones, y pryder yw y byddai datganiad penagored yn golygu mai’r llysoedd fyddai’n penderfynu hyd a lled ‘statws swyddogol’. O dderbyn am y tro fod y ddadl honno’n gywir, mawredd gwelliant Bethan Jenkins yw nad ydyw yn altro mewn unrhyw fodd eiriad gweddill Cymalau 1(2) ac 1(2A) y Mesur. Felly byddai rheini’n parhau fel isafswm y byddai’n rhaid i’r Llysoedd eu parchu a’u gorfodi doed a ddel. Hynny yw, o basio gwelliant Bethan Jenkins, fe ellid cael yr effaith gyffredinol y bu caredigion/ymgyrchwyr yn ei ddeisyf ers cyhyd tra’n sicrhau fod na ‘lawr’ (fel petai) i ystyr statws na allai’r llysoedd syrthio oddi tano hyd yn oed pe bai na Farnwyr anghyfeillgar yn rhywle yn dymuno gwneud hynny. Yn yr ystyr yma, mae Aled (uchod) yn hollol gywir. Dyma gyfaddawd y gallai pawb uno o’i amgylch.

    Rwy’n mawr obeithio nad dim ond Aelodau mainc gefn yn unig (rhai Plaid Cymru a Llafur fel ei gilydd) fydd yn ystyried estyn eu cefnogaeth i welliant statws Bethan Jenkins dros y penwythnos. Fel y dywedaist ti Vaughan, nid oes unrhyw un yn amau diffuantrwydd Alun Ffred Jones. Oherwydd hynny, rwy’n gobeithio y bydd ef a gweddill y Llywodraeth hefyd yn dwys ystyried y dadleuon o blaid y gwelliant hwn hefyd. I’m tyb i mae’r dadleuon hynny yn anorchfygol o gryf.

  • 13. Am 17:50 ar 6 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Oes yna unrhyw symudiadau, Vaughan?

  • 14. Am 20:52 ar 6 Rhagfyr 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fedra i ddim ateb y cwestiwn. Rwyf i ffwrdd o'r gwaith. Fe fydd yfory yn ddiddorol.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.