Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yn y gornel las

Vaughan Roderick | 13:37, Dydd Mercher, 6 Hydref 2010

Os ydych chi'n rhywun sy'n crwydro ffyrdd a chaeau'r we wleidyddol Gymreig efallai eich bod wedi sylwir ar ba mor hollbresennol y mae Jonathan Morgan y dyddiau hyn. Mae'n canu fel cana'r aderyn ar Twitter. Mae ganddo'i flog ei hun ac mae'n cyfrannu i flogiau eraill megis Wales Home ac ITV Wales

Pam mae Jonathan mor weithgar, tybed? Mae'n rhaid i fi dderbyn peth o'r bai neu'r clod - os oes clod neu fai i fod!

Fe wnes i dynnu sylw Jonathan at gyhoeddiad diweddar gan y grŵp asgell chwith 'Progress' o'r enw "Organising to Win" sy'n croniclo ymgyrchoedd lleol Llafur wnaeth lwyddo i ddal y don Geidwadol yn ôl yn yr Etholiad Cyffredinol. Un o'r enghreifftiau sy'n cael ei thrafod yw'r ymgyrch ym Mlaenau Gwent. Nes i mi ddarllen y bennod honno doeddwn i ddim wedi sylweddoli cymaint o ran oedd gan y rhyngrwyd yn yr hyn ddigwyddodd yn yr etholaeth honno.

Mae llawer o drafod wedi bod ynghylch pryd a lle y byddai e-ymgyrchu yn dechrau effeithio ar ganlyniadau ar lawr gwlad yng Nghymru. Yr ateb i'r cwestiynau hynny yw 2010 a Blaenau Gwent a dwi'n awgrymu y dylai cydlynwyr ymgyrchu pob un o'r pleidiau heglu draw i wefan 'Progress' ar fyrder! Rwy'n amau bod Jonathan eisoes wedi gwneud!

Yn sicr mae'r misoedd nesaf yn rhai tyngedfennol i aelod Gogledd Caerdydd. Mae penderfyniad Julie Morgan i geisio am yr enwebiad Llafur yn golygu ei fod yn wynebu brwydr go-iawn i gadw ei sedd. Yn wahanol i Jonathan Evans yn y ras seneddol mae gan Jonathan M gefnogaeth bersonol yn yr etholaeth. Ef, dybiwn i, yw'r ffefryn ar hyn o bryd ond dyn a ŵyr beth fydd yr hinsawdd wleidyddol erbyn Mai 2011. Heb os gallai pob pleidlais gyfri.

Os ydy Jonathan yn dychwelyd i'r bae gallai fe wynebu gornest arall o fewn byr o dro. Mae'n ddigon posib y gallai Nick Bourne golli ei sedd yn rwlét etholiadol y Canolbarth a'r Gorllewin. Hyd yn oed pe na bai hynny'n digwydd mae'n ddigon posib y bydd Ceidwadwyr y Cynulliad yn chwilio am arweinydd newydd yn sgil yr etholiad.

Mae'n hawdd anghofio mai Jonathan oedd mab darogan y Ceidwadwyr yn y Cynulliad tan iddo bwdu ynghylch colli'r portffolio iechyd. Ers hynny mae ambell i seren arall wedi ymddangos ar y ffurfafen - pobol fel Darren Millar ac Andrew R. T. Davies. Mae'n ddealladwy efallai bod Jonathan am atgoffa'r Ceidwadwyr o'i fodolaeth. Nid brwydr bersonol yn unig yw hon - mae iddi elfen wleidyddol.

Mae nifer o hen stejars y Torïaid yn y Bae yn ofni y gallai'r fath o Geidwadaeth Ryddfrydol Gymreig sydd wedi nodweddu'r grŵp yn y cynulliad gael ei herio mewn etholiad i ddewis arweinydd newydd. Nid ar chwarae bach felly y mae Jonathan yn dweud hyn mewn un post diweddar;

"After spending nearly 12 years working to rebuild the Welsh Conservative Party as a credible force in Welsh politics, I have no ambition to see it flounder."

Mae'n debyg y gellid defnyddio'r un geiriau i ddisgrifio ei deimladau am ei yrfa ei hun!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:22 ar 6 Hydref 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Mae'n siwr dylai dyn ymatal rhag ymateb i blogs yn rhy aml, ond mae'n anodd gwneud hynny, yn enwedig yn ystod cyfnod y dadeni rhyfeddol hwn o newyddiaduraeth brint wleidyddol Gymraeg dan ni'n ei mwynhau ar hyn o bryd ar flog Vaughan, blog Menai, blog Guto Dafydd ac mewn amryw o lefydd eraill. Melys moes mwy.

    Wedi dweud hynny, onid y stori yma yw geiriad Jonathan Morgan ynghylch S4C, sef fod amddiffyn cyllideb y Sianel "an issue of great principle" a "We [ACau ac ASau Ceidwadol Cymreig) must show that we are the voice of Wales even if it sets us on a collision course with the UK Government [...] and it is my view that with the future of S4C, of its budget and of Welsh broadcasting, we have reached that point."

    Dwi ddim yn naif ynglyn a gofynion gwleidyddol etholaeth gogledd Caerdydd. Ar ol codi cymaint o stwr ynghylch cynlluniau i atrefnu addysg Gymraeg a Saesneg yn yr Eglwys Newydd, mae'n rhaid i Jonathan Morgan apelio at bleidleiswyr o Gymry Cymraeg mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mae amddiffyn S4C ar goedd yn un ffordd o wneud hynny.

    Ond hyd yn oed wedyn, rhaid dweud fy mod i'n ystyried datganiad Jonathan Morgan yn un pellgyrhaeddol, a'i amseriad yn ystod y gynhadledd Geidwadol yn hynod gogleisiol: "a matter of principle", "a collision course".

    Mae'n haeddu mwy o sylw na mae wedi ei gael hyd yma.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.