Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mae rhywun yn brysur

Vaughan Roderick | 11:10, Dydd Iau, 21 Hydref 2010

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynhyrchu fideo i hysbysebu ei rali ynghylch S4C. Angharad Mair yw'r cyflwynydd. Dyma hi.

Fe fydd Angharad hefyd yn cadeirio trafodaeth ynghylch dyfodol S4C gyda Chadeirydd S4C a Phrif Weithredwr S4C ar S4C nos Lun.

Rwy'n sicr y bydd cwestiynau Angharad am S4C yn heriol ac y bydd y rhaglen yn werth ei gwylio!

Gallwch ddarllen llythyr Jeremy Hunt i John Walter Jones yn fan hyn.

Mae manylion y drefn newydd yn fan hyn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:29 ar 21 Hydref 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    O ystyried ein bod newydd gael 48 awr o ohebwyr y BBC yn holi penaethiaid y BBC er mwyn cadarnhau rhagoriaethau'r BBC parthed darlledu Cymraeg, dwi'n amau ai dyma'r amser gorau i'r BBC godi mater bach gwrthrychedd a buddiannau!

    Mae'r chwalfa sy'n wynebu teledu Cymraeg yn amlwg o'r dogfennau sydd ar y dolenni sydd ynghlwm wrth y post hwn. Fe wna i adael neges ar dy flog heno yn nodi rhai o'r cwestiynau/pwyntiau hyn.

    Fasa o ddim yn ddrwg o beth i ddarllenwyr eraill wneud yr un peth chwaith er mwyn inni gael trafodaeth gyhoeddus.

  • 2. Am 15:34 ar 21 Hydref 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Chware teg i Angharad Mair am ddangos ei hochr.

    Gobeithio y bydd gweddill cyfryngis Cymru yn rali'r Gymdeithas ac yn barod i ddangos bach o asgwrn cefn. Roedd teimlad dros y ddegawd ddiwethaf, ac roedd John Walter Jones yn un oedd yn rhoi'r argraff yma yn ystod ei gyfnod yn Bwrdd yr Iaith, fod cyfnod protestio a creu mudiad iaith lafar drosodd.

    Yn wir, rwy'n cofio John Walter yn anghytuno â Simon Brooks mewn cyfarfod yng Nglwb Ifor Bach pan oedd Seimon yn amlinellu pwysigrwydd creu mudiad iaith gref oedd yn barod i brotestio a mudiad iaith oedd yn gallu creu eu diwylliant a strwythurau cymdeithasol ei hunain. Bychanwyd hyn a cyhuddwyd Seimon o fod yn gul ac o eisiau creu 'ghetto' Cymraeg.

    Ysywaeth, pan welir fod angen sefyll dros S4C mae'n rhyfeddol fel fod pobl mewn pwer nawr yn gwarafyn nad oes neb yn y rhengoedd. Efallai fod hynny'n esbonio rhywfaint ar ddiffyg llythyru a lleisiau llafar rwyt ti wedi cofnodi Vaughan.

    Beth bynnag, mae'n amser dangos ochr.


  • 3. Am 15:48 ar 21 Hydref 2010, ysgrifennodd Dim ond gofyn:

    Vaughan, os ydi'r BBC yn traflyncu S4C allwn ni ddisgwyl i'r Sianel wedyn roi cyhoeddusrwydd i'r rhaglenni y mae Uned Gwleidyddol y BBC yn eu cynhyrchu ar ei chyfer? Mae rhywun yn synnu cyn lleied o sylw maent yn eu cael ar hyn o bryd...

    Dim ond gofyn, 'de?

  • 4. Am 21:02 ar 21 Hydref 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    I gychwyn: gair yn amodi fy mlog cynta'. Er bod y BBC wedi bod yn sbinio fel y diawl wythnos yma, rhaid pwysleisio mai penaethiaid Llundain ac nid newyddiadurwyr Cymru sydd wedi gosod yr agenda honno. Rhag ofn fod brawddeg gyntaf fy sylw diwethaf yn cael ei gamddehongli gan unrhyw aelod o staff y Bib.

    Ond mae'n amlwg o ddarllen llythyr y Llywodraeth at y BBC fod polisi corfforaethol newydd y BBC yn Llundain am arwain at chwalfa fawr i ddarlledu cyfrwng Cymraeg.

    Dyma ambell i ddyfyniad o'r llythyr. O safbwynt cyllid yn gyntaf:

    1. "The exact level of BBC funding [for S4C] is not set beyond 2014/15" -Dyma'r frawddeg hanfodol. Wrth lyncu S4C, nid yw'r BBC yn gwneud unrhyw ymrwymiad i'w hariannu'n iawn. Bydd S4C yn yr un pot ariannol â phob gwasanaeth arall gan y BBC trwy Brydain benbaladr. Pan ddaw'n fater o S4C yn cystadlu yn erbyn Radio 4 (dyweder), pwy tybed fydd yn ennill?

    2. "future funding [beyond 2014/15] will reflect continuing synergies and efficiencies" – yn wir mae'r Llywodraeth yn annog y BBC i dorri ar wariant ar S4C ar ol 2014/15, hyn ar ben y 24% o doriad rhwng 2010/11 a 2014/15.

    Sylwer hefyd pa mor hoff mae'r Llywodraeth a’r BBC o ddyfynnu BBC Alba fel model da ar gyfer S4C yn y dyfodol.

    Mae gan BBC Alba gyllideb o £14 miliwn. £102 miliwn sydd gan S4C ar hyn o bryd. Dwi'n siwr y bydd BBC Llundain am wthio'r gwariant ar S4C mor isel ag sy'n bosib. Maint cyllideb BBC Alba, a ‘chyfartaledd’ rhwng y ‘cenhedloedd’, fydd yr esgus dros ei wneud.

    O ran strwythur y sianel:

    1. "a new partnership model with the BBC is the best way forward" - S4C yn colli annibyniaeth corfforaethol

    2. "S4C coming under a BBC Trust Service Licence or other operating agreement which would be jointly agreed [by the BBC] with the S4C Authority and which would set out strategic goals and broad editorial requirements" – S4C yn colli annibyniaeth golygyddol

    3. "Combined Board of the Authority [S4C] and Trust [BBC] would oversee delivery" – S4C yn colli annibyniaeth rheoleiddio/ golygyddol/ corfforaethol ayyb

    Mae mwy yn y llythyr, ond wna i ei gadael hi fan 'na.

    Felly ar ol deuddydd o sbin, dyma'r gwirionedd yn dod allan. Mae’r BBC wedi gwneud cytundeb tu ôl i ddrysau caeedig i ddinistrio gwasanaeth teledu Cymraeg.

    Ysgrifennwch at eich Aelod Cynulliad a'ch Aelod Seneddol. A dewch i’r rali ar Dachwedd 6ed.

  • 5. Am 22:38 ar 21 Hydref 2010, ysgrifennodd Dewi:

    Ia chwarae teg ar Angharad am gymryd rhan- diom fatha eu bod hi yn manteisio yn arianol o S4C(!), ia hi fel Prif Weithdredwr o un o gwmniau mwyaf adnabyddus (a 'gwael'!) S4C.

    Yn amlwg dwi yn erbyn toriadau i S4C, ond dwi ddim yn deall sut bod y "cyfryngwyr Cymreig" yn cael ei talu gymaint, felly dwi yn meddwl dylai S4C gwario'r arian yn well. Ond pwynt mwy pwysig ydy dwin meddwl dylai S4C rhannu'r gwaith allan yn fwy deg (nid just i cwmniau megis Tinopolis). Pam? dwi fel Cymro yn edrych ar S4C chydig iawn, iawn, fellyn amlwg mae rhywbeth yn anghywir e.e y ffars ydi Wedi 3.

    Ynglyn a dod o dan y BBC- "whats the big deal"- os ydy nhw am rhoi digon o arian ir Sianel- gret. O be dwin glwad ma nhw wedi rhoi lot fawr o arian i BBC Alba. Dwin deall ni fydd y BBC yn 'cymeryd dros' y Sianel, dwin gweld hyn yn siomedig. Sa fon gret cael UN prifweithredwr, controller dros S4C/BBCWales/BBCCymru- pam gwario pres ir 'cyfryngwyr'.

    Felly i gloi- pam bod pobol yn erbyn y BBC gymaint? ydio i achub swyddi y 'cyfryngwyr' yntau oes pwynt gwell?
    Yn olaf, dwi wir yn gobeithio wneith y BBC newid pethau o fewn S4C- newid y 'jobs for the boys' sydd yn digwydd lawr yn y De. A cael rhaglenni ellith rhywun edrych ar- pam ddim rhywbeth "newydd, radical" fel sit-com Gymreig, pethe fel ma Channel 4 yn ei wneud?.

    Vaughan- os edrychwch ar erthyglau yn y Guaradian mae yn drafodaeth difyr yn 'comments' o sefyllfa S4C a lot fawr yn gytyn yn dweud mewn sawl maes maer sianel yn methu, o fod yn sianel wych 10-15mlynedd yn ol, mae o wedi troi i rywbeth ddiflas iawn.

    Vaughan 2- allwch chi drafod effaith y toriadau ERAILL, ar y blog- os edrychwch ar 'Druid of Anglesey' mae yna trafodaeth difyr iawn ynglyn a Ynys Mon- ar sioc mae LLAI na cyfartal y D.U a Chymru yn gweithio o fewn gwasanaethau cyhoeddus ar yr Ynys.

  • 6. Am 23:54 ar 21 Hydref 2010, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Mae’r wythnos yma wedi bod yn wythnos sur felys go-iawn o ran dyfodol yr iaith. Ddydd Mawrth roeddwn i yng nghyfarfod olaf Bwrdd Gweithredu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (enw newydd a gwell y Coleg Ffederal Cymraeg gynt). Er na fydd y sefydliad fydd yn cael ei sefydlu dros y misoedd nesaf yr union beth oeddem ni wedi bod yn ymgyrchu amdano dros y ddegawd diwethaf, does dim dadlau mae’r ymgyrchwyr rhagor na pobl y status quo sydd wedi cario’r dydd. Mae sefydliad newydd yn cael ei sefydlu er mwyn bod yng ngofal addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch. Ac mi fydd ganddo gyllideb digon derbyniol ag ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ond mae hwn yn rhywbeth i gadw llygad barcud arno.

    Dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i ni ddadlau o blaid yr angen am un corff penodol ac annibynnol i ddatblygu a darparu addysg Gymraeg yn y sector, roeddem ni yn defnyddio S4C fel enghraifft o’r hyn roeddem ni’n deisyfu. Cyn sefydlu S4C mi oedd yna beth darlledu Cymraeg ar y telibocs ond roedd y cyfan yn dameidiog. Wrth sefydlu S4C gwelwyd step change, ys dywed y Sais. Wedi sefydlu S4C roedd yna un corff a hwnnw’n gorff annibynnol a chanddo un cenhadaeth ac un ffocws yn unig sef darlledu Cymraeg o safon. Wrth ddangos i bobl y newid er gwell y gwnaeth sefydlu S4C i ddarlledu Cymraeg bu i ni ennill llawer drosodd i weld y byddai sefydlu Coleg Cymraeg yn dod a’r un dylanwad llesol i addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch.

    Ond, och! Ar yr wythnos lle gwthiwyd y Coleg Ffederal i’r dŵr fe long ddrylliwyd S4C gan Lywodraeth Llundain gyda’r BBC yn ceisio dwyn yr ysbail. Bellach, wrth geisio esbonio i bobl pam fod cadw S4C yn sefydliad annibynnol yn bwysig mi fydda i’n defnyddio’r Coleg Cymraeg fel enghraifft. Yr eironi.

    Mae’n tynnu yma i lawr,
    Yn codi draw:

  • 7. Am 11:08 ar 22 Hydref 2010, ysgrifennodd welbru:

    "Felly i gloi- pam bod pobol yn erbyn y BBC gymaint? ydio i achub swyddi y 'cyfryngwyr' yntau oes pwynt gwell?"

    Dwi ddim yn meddwl na bod yn erbyn y bbc ydy'r broblem ond y cyllid a fydd yn llai a cholli annibyniaeth S4C. Mae'n ddigon drwg bod ein newyddion i gyd yn dod o'r BBC yn barod ac nad o bersbectif Cymreig ond mae colli pob annibyniaeth i'r BBC yn broblem o safbwynt hunaniaeth Gymreig a'r angen am amrywiaeth yn y cyfryngau.

  • 8. Am 13:14 ar 22 Hydref 2010, ysgrifennodd Dylan Llyr:

    Dewi, fel mae Simon wedi esbonio mae dyfodol S4C yn y fantol. Yn un peth, mae rheolaeth dros gyllideb y sianel wedi'i rhoi yn nwylo ei phrif gystadleuwr!

    Mae Sbrec wedi colli ei hannibynniaeth. Ac wedi 2014/15, mae'n anochel mai cael ei wasgu bydd ei chyllideb.

    Roedd pawb yn disgwyl y byddai'n rhaid i S4C dderbyn toriadau, ond mae hyn yn frawychus. Dw i wedi fy nychryn braidd.

  • 9. Am 21:53 ar 22 Hydref 2010, ysgrifennodd EnglandandWales:

    Mae tua 800 o bobl yn gweithio yn y cyfryngau Cymraeg glywes i'r wythnos hon. Dylai pob un ohonynt fod yno ynghyd a'u teuluoedd! Felly, dylai o leia mil fod yn y rali yng Nghaerdydd.....yn ogystal a llu o garedigion yr iaith.

  • 10. Am 15:24 ar 26 Hydref 2010, ysgrifennodd EnglandandWales:

    Pyrdwn. Dylai fid o leia 200 fil yna!

    http://welshramblings.blogspot.com/2010/10/some-s4c-programmes-have-officially.html?utm_source=feedburner&utm_medium=feed&utm_campaign=Feed%3A+WelshRamblings+%28Welsh+Ramblings%29

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.