Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y bardd a'r brotest

Vaughan Roderick | 14:52, Dydd Llun, 25 Hydref 2010

Fe fu 'na beth crafu pen gan rai ynghylch cefndir y llenor 'Siencyn Sionc', bardd llys y blog hwn.

Cyn i chi ddarllen ei englyn diweddaraf, felly dyma y dywed Siencyn ei hun am ei gefndir.

"Llygoden fach ydw i - un o deulu Lily Lwyd. Os ydych wedi darllen cofiant y teulu - fi yw'r un sy'n gallu dwyn y caws cyn i'r trap fy nal. Ond fe gofiwch, efallai, un noson doeddwn i ddim cweit yn ddigon sionc!"

Pwy yw fi i amau bod 'na ambell i lygoden coronog o gwmpas y lle!? Dyma gynnig diweddaraf Siencyn.

S4C

Tawed holl gathod tewion - y Sianel
â'u swnian a'u cwynion:
hwy eu hunain yn union
rôdd y taw i'r freuddwyd hon!

Dyna farn Siencyn.

Efallai bod rhai yn cytuno a fe ond mae'n ymddangos bod gwylwyr S4C yn paratoi i frwydro dros ei sianel. Bues i yn draw ym mhencadlys y sianel y prynhawn yma i holi John Walter ar gyfer rhaglen "Week In Week Out" sydd i'w darlledu nos yfory.

Cefais i gyfle i weld amryw o'r cannoedd ar gannoedd o e-byst swydd wedi eu derbyn ar gyfer rhaglen wylwyr S4C heno. Mae'r mwyafrif llethol yn canmol y sianel ac yn addo ei chefnogi.

Mae hynny yn fendith i S4C wrth gwrs ond hefyd yn broblem. Fe fyddai peidio cynnwys deunydd beirniadol ar y rhaglen yn gwneud iddi ymddangos fel propaganda. Mae croeso iddyn nhw ddarllen englyn Siencyn er mwyn rhoi ychydig o ddrwg yn y caws!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:45 ar 25 Hydref 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Rhagor o farddoniaeth i S4C. Bydd Siencyn, sy'n llygoden ddiwylliedig mae'n siwr, yn gwybod pwy ydi'r awdur:


    A gwybuom wrth ei menyg gwynion a'u hoglau camffor
    Yr hanfu o'r hen wlad.
    Claddwyd hi'n anenwadol gan y B.B.C.
    Ar donfedd yr ymerodraeth.


  • 2. Am 16:57 ar 25 Hydref 2010, ysgrifennodd Gofynnol wir:

    Os taw eich barn yw bod y cyfryngis wedi bod yn drachwantus, yn cael eu talu gormod, yn byhafio'n drahaus tuag at y gweddill ohonon ni, yn darparu ambell i raglen eitha diflas ... digon teg.

    Mae angen gwella S4C felly. Ac mae gwaredu unben o arweinydd wedi dechre'r broses honno'n barod.

    Dwi yn meddwl y dylai S4C golli peth o'i hannibyniaeth. Ond nid i'r BBC! Dylai hi fod yn fwy atebol i'r gwylwyr ac i gymdeithasau a mudiadau Cymru. Nid i'r Gorfforaeth Darlledu Brydeinig! Mae hynny'n drychineb!

  • 3. Am 21:30 ar 25 Hydref 2010, ysgrifennodd Dan Din:

    Saunders ap Siencyn Brooks

  • 4. Am 09:15 ar 26 Hydref 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Diddorol gweld y penawdau ar y BBC y bore ma sy'n canolbwyntio ar sylw beirniadol gan unigolyn ar Awdurdod S4C.

    Dyma sydd gen i mewn golwg pan ydyn ni'n son am "sbin" a diffyg cydbwysedd gan y BBC yn eu hymdriniaeth a'r pwnc hwn ar hyn o bryd. Ymateb y sefydliad gwleidyddol Cymreig - ac yn llawer pwysicach, y gwylwyr fel fi a ti - fu beirniadu'r Llywodraeth a'r BBC yn Llundain am danseilio darlledu Cymraeg yn y dull hwn.

    Ond yn hytrach nag adlewyrchu consyrn amlwg y cyhoedd, gan fynnu cyfweliadau treiddgar, Paxmanaidd (welodd unrhywun yr ymdriniaeth o John Walter Jones ar Dragon's Eye?) a'r bobl ganolog sydd wedi gwneud y penderfyniad hwn, megis Jeremy Hunt, Syr Michael Lyons a Mark Thompson, mae'r BBC yn dilyn sgwarnogod.

    Er enghraifft, ar Dragon's Eye, ai gwastraff ar arian cyhoeddus yw adolygiad barnwrol?

    Neu, ar raglenni eraill, beth yw barn hwn a hon am strategaeth gyffredinol S4C?

    Wel bu'r Strategaeth hon, fel mae pawb yn cytuno, yn ddigon anfedrus. Ond nid dyna'r cwestiwn newyddiadurol canolog pellach.

    Wrth gwrs, dwi'n eithrio newyddiadurwyr a golygyddion unigol yng Nghaerdydd rhag y feirniadaeth hon. Mae'r cwbl yn hunllef iddyn nhw. Sut allan nhw, er enghraifft, fynnu fod Thompson a Lyons yn cael eu croesholi'n fyw ar Dragon's Eye pan mae'n amlwg i bawb yn y BBC na fyddai pwysigion Llundain byth yn cytuno i ymddangos ar raglenni rhanbarthol dibwys fel hwnnw?

    Ond mae anallu'r BBC yng Nghymru i ofyn y cwestiynau treiddgar, canolog, caled yn ymwneud ag ymddygiad Thompson a Lyons yn ein hatgoffa o un ffaith hollbwysig. Nid corff annibynnol mo'r BBC yng Nghymru. Mae'r pwer yn y BBC yn gorwedd yn y pen draw yn Llundain. A dyna pam, wrth gwrs, mae'n rhaid inni frwydro mor galed dros annibyniaeth S4C.

  • 5. Am 23:48 ar 26 Hydref 2010, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Yn dilyn Week In Week Out dwi wedi anfon y cwyn yma mewn i'r BBC:

    "Roeddwn i'n ei gweld hi'n annheg fod rhaglen gan y BBC yn rhoi cyfle i Menna Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, werthu ac amddiffyn y syniad o fod y BBC ac S4C yn uno ond na roddwyd llais i'r ddadl gref gyhoeddus sy'n bodoli yn erbyn yr uno ar y rhaglen.*

    Ni roddwyd llais i gynhyrchwyr annibynnol, arbenigwyr yn y sector, S4C ei hunain a Chymdeithas yr Iaith sy'n gwrthwynebu'r uno er i'r BBC dderbyn datganiadau i'r wasg dros y dyddiau diwethaf yn arwain i fyny at ddiwrnod darlledu'r rhaglen yn mynegi'r farn yma.

    Roedd hon yn raglen gan y BBC yn rhoi llais dyrchafedig i safbwynt y BBC a'i Cyfarwyddwr yng Nghymru, Menna Richards. Rhoed yr argraff erbyn rhan olaf y rhaglen fod safbwynt golygyddol y rhaglen yn fwriadus weithredu fel apologia i bolisi presennol y BBC o gefngi polisi'r Llywodraeth o uno'r BBC ac S4C."

    [* wnes i gyfweliad i'r BBC ym Mangor am hyn ddoe, yn Saesneg yn ogystal ag yn Gymraeg, gellid bod wedi torri peth o'r cyfweliad hwnnw i mewn er mwyn rhoi gwrth ddadl i safbwynt y BBC]

  • 6. Am 21:52 ar 27 Hydref 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Newydd weld Week In Week Out. Mae newyddiaduraeth Vaughan yn ardderchog, wrth reswm - cymen, urbane, difyr, deallus. R. T. Jenkins y byd newyddiadurol!

    Ond, Vaughan, roedd 'na lawer iawn o'r hyn y byddwn yn eu galw yn "seibiannau" yn y rhaglen.

    Does gen i ddim gwrthwynebiad o gwbl dy fod yn holi cwestiynau treiddgar i Awdurdod S4C. Ond rwy'n credu y dylet ti fod yn holi cwestiynau yr un mor galed i'r BBC. Roedd ateb Menna Richards ynglyn a chyllid S4C wedi 2015 yn gyfangwbl benagored, niwlog ac annelwig. Fel cynulleidfa Gymraeg, rydym yn mynnu cael eglurder ar y pwynt hwnnw.

    Doedd dim cyfweliadau gyda Syr Michael Lyons a Mark Thompson - h.y. y bobl yn y BBC wnaeth y cytundeb i herwgipio teledu Cymraeg. Pam? Mae'n bwysig inni gael rhyw fath o esboniad ganddyn nhw. Ai "pawn" mewn gem fargeinio oedd teledu Cymraeg iddyn nhw? Ffordd gyfleus o osgoi ysgwyddo baich talu trwyddedau henoed?

    Eto, fel cynulleidfa Gymraeg, mae gennym hawl i gael gwybod.

    Ac fe fyddwn yn cytuno gyda Rhys Llwyd o ran ei gwyn yntau hefyd. Mae 90% a mwy o'r hyn y byddwn yn ei galw yn gymdeithas sifil Gymraeg ei hiaith yn wrthwynebus i gynlluniau'r Llywodraeth a'r BBC.

    Ar ba sail ydy'r BBC yn gallu dewis anwybyddu'r farn hon?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.