Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Deg Uchaf y Cymro

Vaughan Roderick | 11:12, Dydd Mercher, 22 Medi 2010

Dydw i ddim yn ffan fawr o'r rhestri yna mae'r papurau mor hoff o'u cyhoeddi. Chi'n gwybod y fath o beth "traethau gorau'r byd", "y trigain brecwast gorau ym Mhrydain" ayb. Maen nhw'n bethau hynod o oddrychol ac os nad yw'r awdur, fel John Davies a'i 100 lle, yn rhywun a gwybodaeth helaeth a dawn sgwennu eithriadol go brin eu bod nhw'n werth eu darllen.

Ar y llaw arall o weld pennawd fel "Top-50-most-influential-Liberal-Democrats" mae'n anodd peidio cymryd cip i weld sut mae gwleidyddion Cymru fach yn gwneud!

Dim ond jyst cyrraedd y rhestr mae Kirsty Williams. Hi yw rhif 50, ychydig yn is na gwraig Nick Clegg a'r actor Colin Firth. Rwy'n amau mae'r hyn fydd yn brifo mewn gwirionedd yw gweld yr enw naw safle yn uwch na hi. Pa enw yw hwnnw? Un o'i rhagflaenwyr, Alex Carlile.

Cofiwch, mae'r cyfan yn nonsens. Sut mae cymryd rhestr o ddifri pan nad yw'n cynnwys enw Lembit?

Roeddwn yn tynnu coes un Democrat Rhyddfrydol am hyn oll ac roedd ganddo ateb digon parod - "o leiaf dyw'r person mwyaf dylanwadol yn ein plaid ni ddim wedi difannu i fod yn stiwdant yn America!"

At bwy oedd e'n cyfeirio, tybed?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 02:54 ar 23 Medi 2010, ysgrifennodd c:

    Adam Price.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.