Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Oren a Melyn

Vaughan Roderick | 09:50, Dydd Llun, 12 Gorffennaf 2010

SDPPoster.jpgMae'n debyg y bydd rhai o ddarllenwyr y blog yma yn cofio Tim Hirsch, gohebydd gwleidyddol rhadlon a chraff BBC Cymru yn y dyddiau cyn datganoli.

Ers rhai blynyddoedd mae Tim wedi troi ei law at ffermio a newyddiadura ym Mrasil ac mae clywed ei ddadansoddiad o'n gwleidyddiaeth wastod yn ddiddorol. Fel yn achos Andy Bell yn Awstralia mae clywed barn rhyw un sy'n ddeall pob twll a chornel o wleidyddiaeth Cymry ond sydd uwchlaw niwl y bore a stormydd Awst yn gallu bod yn ddadlennol.

Mae Tim yn ôl o'r jyngl ar hyn o bryd ac fel y byswch chi'n disgwyl mae'r ddau ohonom wedi bod yn pendroni ynghylch y sefyllfa bresennol. Fel mae'n tueddu gwneud fe ddywedodd Tim rywbeth amlwg ond hawdd ei anghofio sef hyn "mae'n rhaid cofio mai plaid newydd yw'r Democratiaid Rhyddfrydol... dyw hi ddim yn gyfluniad na charfan hanesyddol".

Mae'n bwynt da a phwysig. Rhannu, gwahanu ac yna dod yn ôl at ei gilydd oedd hanes y Rhyddfrydwyr yn y ganrif ddiwethaf. Fe rannodd y blaid yn ddwy garfan yn y dauddegau ac yn dair yn y tridegau cyn i ystyfnigrwydd Clement Davies a hud a lledrith Jo Grimmond codi ffenics o'r lludw.

Daeth chwalfa arall yn sgil y briodas gyda'r Democratiaid Cymdeithasol. Fe ddisgynnodd y gefnogaeth i'r blaid newydd i lai na 5% yn ei blwyddyn gyntaf. Treuliodd y blaid rhan helaeth o'r flwyddyn honno yn ymgecru ynghylch ei henw.

Mae Leighton Andrews yn rannol gyfrifol am y ffaith mai "Democratiaid Rhyddfrydol" ac nid "Democratiaid" yw enw'r blaid heddiw gyda'i ble mewn cynhadledd "just let's get on with Paddy's party" yn ddigon i gnocio synnwyr mewn i ambell i ben.

I raddau helaeth roedd y blaid newydd yn cyfuno rhyddfrydiaeth gymdeithasol a syniadau economaidd oedd a'u gwreiddiau mewn democratiaeth gymdeithasol.

Roedd y briodas honno'n un naturiol. Wedi cyfan mae'n debyg mai Roy Jenkins, pen-bandit yr SDP, oedd ysgrifennydd cartref mwyaf rhyddfrydol yr ugeinfed ganrif ac roedd democratiaeth gymdeithasol wedi bod yn ddylanwad pwysig o fewn y Blaid Ryddfrydol ers dyddiau "Llyfr Melyn" Lloyd George a Keynes.

Yr hyn nad oedd yn rhan o'r briodas rhwng y Rhyddfrydwyr a'r SDP oedd rhyddfrydiaeth economaidd oes Fictoria gyda'i phwyslais ar fasnach rydd a daioni'r marchnadoedd. Fe geisiodd grŵp o Ddemocratiaid Rhyddfrydol atgyfodi rhai o'r syniadau hynny yn y "Llyfr Oren" a gyhoeddwyd yn 2004 llyfr oedd, ac sydd, yn wrthun i sawl Ddemocrat Rhyddfrydol. Roedd pedwar allan o'r pum Democrat Rhyddfrydol yng nghabinet gwreiddiol David Cameron yn gyfranwyr i'r "Llyfr Oren". Does rhyfedd eu bod yn teimlo'n gysurus!

Rwy'n synhwyro ar hyn o bryd bod trwch aelodaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn credu nad oedd gan y blaid fawr o ddewis ond ffurfio clymblaid a'r Ceidwadwyr a'u bod yn deisyfu gweld y glymblaid honno yn llwyddo. O dan yr wyneb ar y llaw arall mae 'na wahaniaeth barn, gwahaniaeth athronyddol bron, rhwng etifeddion y "Llyfr Melyn" a selogion y "Llyfr Oren".

Dyw'r peth ddim yn rhwyg nac yn hollt, dim eto o leiaf, ond fe allai fod yn ffactor bwysig mewn blynyddoedd i ddod. Yn sicr mae ambell un o fewn y blaid Lafur yn gweld y potensial i geisio cymryd mantais o'r gwahaniaeth barn hwnnw. Wrth gyflwyno darlith Keir Hardie yn Aberpennar y noson o'r blaen fe ddywedodd David Miliband hyn;

Hardie said, repeatedly, that although there were many things that we can agree on with liberals, when it came to the conflict between capital and labour, between the banks and the real economy, they would always side with the Conservatives. He didn't have a crystal ball, but he would have predicted that Nick Clegg would be busy defending a Conservative Budget over 100 years after he was elected MP for Merthyr Tydfil and Aberdare. We must retain a strong connection with that tradition of social liberalism that recognises that liberty and solidarity are two sides of the same coin, while being vigilant in opposing that form of economic liberalism that rules the world in the interests of the richest.

Does dim angen bod yn athrylith i synhwyro beth yw bwriad David Miliband yn fan hyn. Mae'n amlwg mai tacteg u Blaid Lafur yn ystod y blynyddoedd nesaf, pwy bynnag yw'r arweinydd, fydd ceisio polareiddio gwleidyddiaeth rhwng y 'ni' a'r 'nhw'. Y 'ni' yw'r "progressive majority" y mae Peter Hain mor hoff ohoni, y 'nhw' yw'r glymblaid yn San Steffan. Os ydy'r dacteg yn llwyddo fe allai'r canol hollti, ond fel gwnaeth Tim f'atgoffa dyna mae'r canol yn tueddu gwneud.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:17 ar 12 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd huw:

    Petai D.Enw yn edrych ar wefan Golwg360 fe welai stori ar y brotest: 'Cataluniaid yn mynnu eu bod nhw'n genedl'

  • 2. Am 12:31 ar 13 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Diolch Huw, a do, welais i hwn wedyn hefyd wedyn!

    Diolch i Golwg360.

    Piti nad oes dolenni ar storiau htt://www.golwg360.com i wefannau perthnasol eraill.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.