Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trwy lygaid estron

Vaughan Roderick | 12:25, Dydd Sadwrn, 8 Mai 2010

kirsty.512.jpgAr wahân i'r ffaith bod y bleidlais Lafur yn hanesyddol o isel does dim llawer o sylw wedi ei roi i ganrannau'r pleidleisiau yng Nghymru yn yr etholiad. Dyma nhw;

Llafur; 36.2%
Ceidwadwyr; 26.1%
Dem. Rhyddfrydol; 20.1%
Plaid Cymru; 11.3%

Ar ôl ychwanegu cefnogwyr y pleidiau llai, 68% oedd cyfanswm pleidiau'r chwith yng Nghymru a 30% oedd cyfanswm pleidiau'r dde. Yn yr Alban pleidleisiodd 83% dros bleidiau'r chwith a 17.5% dros bleidiau'r dde. Yn Lloegr 53.3% oedd cyfanswm y chwith a 44.5% oedd cyfanswm y dde.

Nawr, fe fyddai rhai (gan gynnwys nifer sylweddol wnaeth bleidleisio iddi, dybiwn i) yn dweud mai plaid y canol ac nid rhan o'r chwith yw'r Democratiaid Rhyddfrydol. Nid fel 'na mae'r blaid yn gweld ei hun a does dim dwywaith mai perthyn i'r chwith y mae'r gwerthoedd sylfaenol sy'n cael ei amlinellu yn y rhagair i'w chyfansoddiad.

Gallai hynny fod o bwys wrth i bobol drafod clymbleidiau yn ystod y dyddiau nesaf ond nid dyna yw pwynt y post yma. Y gwahaniaeth rhwng y gwledydd sydd gen i dan sylw gan ymhelaethu rhyw faint ar y sylwadau yn y post "twll a chornel".

Y pwynt cyntaf i wneud wrth reswm yw nad gwlad gadarn ei Cheidwadaeth yw Lloegr. Ar ôl dweud hynny mae'n amlwg bod ei gwleidyddiaeth ym mhellach i'r dde na gwleidyddiaeth y ddwy wlad Geltaidd.

Gellir cynnig sawl esboniad am hynny. Mae traddodiadau teuluol, undebaeth, crefydd, iaith a hanes i gyd yn y mics yn rhywle ond yn aml y ffactorau pwysicaf yw'r ffactorau mwyaf amlwg. Yn yr achos hwn tlodi a maint y sector gyhoeddus yw'r rheiny.

Mae'n talu weithiau i weld ein hun fel mae eraill yn ein gweld. Yn ystod yr ymgyrch bu newyddiadurwr o Awstralia o'r enw Guy Rundle yn teithio o gwmpas Prydain yn ysgrifennu am ei argraffiadau. Mae ei erthygl am Gymru yn fan hyn. Mae'n werth ei darllen yn ei chyfanrwydd ond dyma flas ohoni;

"So to step out of Swansea station on a wet Monday night was to enter a wreck, a mausoleum, a natural disaster with the occasional functioning fried chicken shop scattered here and there. Down one street, there seemed nothing but a dour Chinese restaurant, and a pet food store called, with great accuracy, The Dog Food Shop. Down another there were three closed-up pubs. Things had to be bad if pubs were closing, in Wales. "

Mae pwynt sylfaenol Guy Rundle yn un syml. Y tu ôl i'r sglein Bae Caerdydd-aidd mae Cymru'n gythreulig o dlawd. Yn ei eiriau fe;

"Look, Wales is lovely in many of its parts. The rest of it was hit hard by the Luftwaffe, never really recovered, and was then whacked a second time by the Tory years.
Labour pumped some money in, but never enough to deal with the key problem, which is that of dependency and underdevelopment, the ribbon of communities spreading out beyond Cardiff all formed around a product that no longer exists, the black stuff, the slag, coal."

Mae 'na ambell i ffaith anghywir a beirniadaeth annheg yn yr erthygl ond mae'n anodd iawn anghytuno a'r pwynt sylfaenol. Mae gwleidyddiaeth Cymru yn adlewyrchu ei heconomi a than i'r economi newid cyfyngedig fydd y nifer o etholwyr sy'n cefnogi pleidiau'r dde.

Am y rheswm hynny mae nifer o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn torri eu boliau mewn pryder ynghylch effaith cytundeb a'r Ceidwadwyr yn San Steffan ar etholiad nesa'r cynulliad.

Edrychwch ar y niferoedd wnaeth bleidleisio i'r blaid ym Merthyr a Phontypridd a meddyliwch am effaith gwneud dêl a'r Ceidwadwyr ar y pleidleiswyr hynny. Meddyliwch hefyd am bobol fel Kirsty Williams a Peter Black yn gorfod eistedd yn y Cynulliad a gwrando ar bobol Llafur a Phlaid Cymru yn rhygnu ymlaen ynghylch "pleidiau'r dde", "toriadau Cameron a Clegg" a "gweision bach y Ceidwadwyr".

Efallai bod Kirsty wedi bod ar y ffon neu wedi paratoi'r lein yn barod. Dyma hi;

"I don't agree with Nick."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:27 ar 8 Mai 2010, ysgrifennodd Gwerinwr o Gymro:

    Dim ond gair i ddiolch ichi Vaughan am eich sylwadau a'ch dadansoddiadau yn ystod yr ymgyrch. Bu eich blog yn ddarllen hanfodol i mi bod dydd. Daliwch ati. Mae'n braf cael dadansoddi mor braff a blasus yn Gymraeg.
    Bydd yn ddiddorol gweld beth a wnaiff Clegg. A wyf yn iawn yn barnu ei fod ef ei hun yn nes at egwyddorion Cameron nag ydyw at egwyddorion Brown? Yn sicr fe ddaw o'r un stabl a Cameron: Sais a gafodd fagwraeth freintiedig.

  • 2. Am 14:59 ar 8 Mai 2010, ysgrifennodd Adferwr:

    Dyna beth yw y cwestiwn mawr i bleidiau llai wrth glymbleidio , ynde :
    Poblogrwydd neu ddylanwad ?

    Mae natur cefnogwyr (cynhenid, nid fewnfudol ) y Rhyddfrydwyr yn wahanol
    iawn yng Ngheredigion a Threfaldwyn i'w cefnogwyr yn y prifysgolion a maestrefi ein dinasoedd.

  • 3. Am 16:00 ar 8 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Gwerinwr, byswn yn barnu bod y tri yn ryddfrydwyr cymdeithasol. Y gwahaniaeth mawr rhwng Clegg a Cameron yw Ewrop. Hawdd anghofio pa mor wenwynig y mae'r dadlau ynghylch yr UE wedi bod yn y gorffennol ac mae'r potensial yna iddo fod felly eto.

  • 4. Am 16:29 ar 8 Mai 2010, ysgrifennodd Rhys :

    Sgwn I os fuddai gorfod symud tua'r rhyddfrwydwyr yn ergyd farwol i cais Cameron gwneud barti Newydd mas o'r Ceidwadwyr.

    Ceidwadwyr Newydd - hmmm ma hwnw'n debyg i rhywbeth glywes i rhywle arall o'r blaen.

    O leia wnath Blair ennill etholiad yn ysgubol a fellu gadw y chwith yn dawel.

    Sqwn i os odi'r ffaith ei fod heb ennill yr etholiath yn glir yn ddigon i danseilio ei fath e o Ceidwadeth feddal ac yn ddigon i danfon ei barti nol hydynoed yn bellach i'r dde.

    Mae yn anodd weld shwd ellai croesi'r blwch enfawr rhwng y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwadwyr ar: Ewrop, PR, Trident, a wasanaethau cyhoeddus, heb i Clegg neu Cameron colli rhan helaeth o'i cefnogwyr yn ei bartion ei hunan.

    Mae daliadau y blaid Rhyddfrydol lot yn agosach i werthoedd y blaid lafur ond byddai glymblaid efo lafur yn gweld Clegg yn cael ei groeshelio am gadw llafur mewn pwer gan papurau Murdoch.

    Ma'r holl beth yn gymleth ty hwnt.

  • 5. Am 17:47 ar 8 Mai 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    faswn i wrth fy modd gyda chynghrair Enfys - Llaf, LD, SNP, Plaid, SDLP a Gwyrdd (efallai hyd yn oed DUP). Dyma'r unig ffordd o gael PR go iawn.

    Ond bydd yn amddifadu y mwyafrif Ceidwadol sylweddol sydd gan Loegr. Byddai hynny'n achosi problem gyfansoddiadol dybryd fel soniaist mewn postiad blaenorol Vaughan.

  • 6. Am 23:29 ar 8 Mai 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    A chymryd y bydd clymblaid Ceidwadol Rhyddfrydol. Byddai yn ddiddorol petai aelod Llafur yn cynnig mesur preifat ar newid cyfansoddiadol. Nawr fe fyddai hynny yn ddiddorol petai mesur y ceiwadwyr yn wanach.

  • 7. Am 00:44 ar 9 Mai 2010, ysgrifennodd Guto Bebb:

    O VR be di hyn?

    Fe wn i ti ddatgan fod y blog hwn angen safonau newyddiadurol is na dy waith i'r cyfryngau torfol ond o ddifrif....

    Ers pryd mae'r Rhyddfrydwyr yn chwith? Fe fyddai'n gret pe byddet yn ail adrodd hynny i aelodau a cefnogwyr y Rhyddfrydwyr yn Aberconwy ac etholaethau eraill lle mae bod yn wrth-Lafur lawn mor allweddol a bod yn wrth Geidwadol. Pob croeso i ti ddweud dy ddweud ar y blog hwn ond fe fydde ymdrech i fod yn wrthrychol yn help. Wedi derbyn dau gywiriad gennyt sy'n rhyaid chwilio am drydydd?

  • 8. Am 08:22 ar 9 Mai 2010, ysgrifennodd Adferwr:

    Dyna fy mhwynt i , Guto. Yn ei ieuenctid, dyna blaid fy nhad. Yn sicr, nid gwr y chwith ydoedd. Ond wedyn, mae rhai pobl yn newid eu daliadau gwleidyddol am resymau rhyfedd.

  • 9. Am 10:30 ar 9 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Guto. Llongyfarchiadau ar dy fuddugoliaeth. Wrth gwrs bod "bod yn wrth-Lafur lawn mor allweddol a bod yn wrth Geidwadol" i rai o gefnogwyr y Dem. Rhydd. Mae'r post yn nodi'r union bwynt hynny ynghylch canfyddiad rhai o'u pleidleiswyr. Mae'r un peth y wir wrth gwrs am nifer o gefnogwyr Plaid Cymru. Nid yw hynny yn golygu nad pleidiau'r chwith yw'r naill blaid na'r llall. Ers dyddiau Joe Grimond mai'r Rhyddfrydwyr wedi bod yn gwbl agored mai cymryd lle Llafur fel prif blaid y chwith yw eu nod hir dymor.

  • 10. Am 14:01 ar 9 Mai 2010, ysgrifennodd Iestyn:

    #5 D.enw

    Y broblem gydag enfys o'r fath yw agwedd y cenedlaetholwyr tuag at faterion Lloegr-yn-unig. Sa'i wedi gwneud y mathemateg, a sai'n gwbod ychwaith beth yw union polisi pleidiau Gogledd Iwerddon, ond ansad iawn byddai cynghrair o'r fath am 2 reswm - am un peth, byddai'n wan iawn wrth drafod materion Seisnig (heb gefnogaeth yr SNP a PC), ac yn ail, byddai'r Saeson eu hunain (neu eu gweisg) yn gweld cynghrair an-Seisnig yn rheoli er eu bod nhw wedi pleidleisio o gryn dipyn dros lywodraeth doriaidd.

    Tybed faint o le fyddai 'na i PC a'r SNP gytuno i gefnogi enfys ar faterion Prydeinig, gan beidio ag amharu ar fwyafrif Doriaidd tra'n trafod materion Seisnig.

    Siwd mae'r mathemateg yn geithio yn yr achosion hyn, Vaughan?

  • 11. Am 16:58 ar 9 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Iestyn, Mi wyt ti'n codi pwynt diddorol. Yn sicr fe fyddai llywodraeth o dan arweinyddiaeth Llafur yn codi cwestiwn West Lothian mewn modd dramatig. A fyddai aelodau Plaid Cymru a'r SNP yn cadw at eu arfer o ymatal ar bynciau "Lloegr yn unig"? Gallai hynny achosi problemau difrifol i'r llywodraeth ond ar ben arall y cwrt mae'r bel ar hyn o bryd.

  • 12. Am 18:33 ar 9 Mai 2010, ysgrifennodd Al:

    Diolch am y darlledu a'r blogio a fu dros gyfnod yr Etholiad gennych chi a'r tim yn y BBC. Cytunaf gyda Gwerinwr, bod eich blog wedi bod yn ddarllen angenrheidiol dyddiol. Llongyfarchiadau i chi fel tim ar y rhaglen noson Etholiad a oedd gystal ag unrhywbeth a welwyd ar y sianelau eraill. Rydych yn esiampl o ddarlledu gwleidyddol rhagorol asy'n gwneud y Gymraeg a thrafod materion cyfoes trwy gyfrwng y Gymraeg mor berthnsasol.

  • 13. Am 18:41 ar 9 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diolch am y sylw. Mae cynnal y blog yn cymryd tipyn o amser personol y tu allan i oriau gwaith. Rwy'n cael pleser wrth wneud ond mae'n braf gwybod bod pobol yn ei fwynhau.

  • 14. Am 21:23 ar 9 Mai 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Hoffwn ategu sylwadau Al a Gwerinwr. Mae dy gyfraniadau yn ddiddorol a threiddgar ac mae'r trafod yn fonheddig bron yn ddiethriad sy'n golygu fod modd codi cwestiwn heb gael ymosodiad personol.

    Diolch a dal ati. Rwyf yn siwr fod nifer yr ymweliadau wedi bod yn uchel dros y mis diwethaf.

    Dwi yn gobeithio cael amser rwan i ddod i ail adnabod y wraig mae yn cwyno fy mod wedi treulio llawer gormod o amser ar lein.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.