Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gweledigaethau'r bardd di-gwsg

Vaughan Roderick | 09:28, Dydd Mercher, 5 Mai 2010

clock300.jpgFe fydd hi'n noson hir yfory. Gan amlaf mae rhaglenni etholiad BBC Cymru yn dirwyn i ben o gwmpas pedwar o'r gloch y bore. Fe'n rhybuddiwyd eisoes y bydd rhaglenni teledu eleni yn para tan 6.00 o leiaf. Hyd yn oed os ydyn nhw'n bennu bryd hynny fe fydd gen i ddyletswyddau ar y Post Cyntaf a Good Morning Wales. Digon i wneud felly, a thipyn o flogio byw ar ben hynny!

Os nad oes 'na ryw symudiad mawr munud olaf rwy'n tybio y bydd hi'n agos at doriad gwawr cyn i ni ddirnad y darlun cyflawn. Mae trefniadau'r arweinwyr heddiw yn awgrymu pa mor anodd i ddarllen yw'r etholiad anhygoel hwn.

Pwy fyddai wedi rhagweld fis yn ôl y byddai Kirsty yn treulio diwrnod ola'r ymgyrch yn Wrecsam neu mai troedio strydoedd Llanelli fyddai Ieuan?

Dydw i ddim yn darllen rhyw lawer mewn i benderfyniad David Cameron i alw mewn ym Maldwyn. Yn y bôn mae ei daith heddiw wedi ei chynllunio er mwyn cynnwys cymaint o ranbarthau teledu ac sy'n bosib. Mae Maldwyn yn siwtio'r "logistics". Ymddangos ar Wales Today, Wales Tonight a Newyddion nid rhoi hwb i Glyn Davies yw'r cymhelliad, dybiwn i.

Mae penderfyniad Peter Hain i ddefnyddio hofrennydd i deithio hyd a lled Cymru yn fwy dadlennol. Mae hofrennydd ar y diwrnod olaf yn gimig sydd mor hen â phechod- neu mor hen â hofrenyddion, o leiaf. Ar y llaw arall mae'n tanlinellu pa mor eang yw'r ffrynt y mae Llafur yn ceisio ei hamddiffyn. Y tu allan i'r cymoedd does 'na ddim un sedd Lafur y gall y blaid fod yn gwbl hyderus yn ei chylch a ni ellir llwyr ddiystyru'r posibilrwydd o ambell i sioc yn y maes glo.

Wrth edrych ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt mae 'na dri ffactor allweddol yn fy marn i.

Y cyntaf yw'r nifer anarferol o uchel o bobol sy'n dweud eu bod yn sicr o bleidleisio ond sydd heb benderfynu eto pwy fydd yn cael eu pleidlais. Teg yw casglu mai pobol wnaeth gefnogi Llafur yn y tri etholiad diwethaf yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw. A fydd y rheiny yn dychwelyd at Lafur neu a fyddant yn penderfynu bod unrhyw newid yn well na dim?

Yr ail ffactor yw pleidleisio tactegol. I ba raddau y bydd hynny'n digwydd ac at ba ddiben, i gadw Cameron mas neu i gael Brown allan?

Y ffactor olaf yw hwn. Does neb yn well ar dargedi etholaethau ac ennill pleidleisiau tactegol na'r Democratiaid Rhyddfrydol. Os ydy'r blaid honno yn llwyddo i gipio seddi Ceidwadol mae'r mynydd etholiadol sy'n wynebu'r Torïaid yn fwy o Gadair Idris nac o Garn Ingli. Pa mor gryf yw'r llanw melyn felly ac i ba gyfeiriad mae'n llifo?

Tri ffactor a thri cwestiwn felly. A'r atebion? Duw yn unig a ŵyr. Yn sicr dydw i ddim!

Cewch chi farnu, neu yng ngeiriau'r bardd cwsg "A Ddarlleno, ystyried".

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:25 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Daniel:

    Pob hwyl nos yfory Vaughan!

    Mae'r gymharaieth rhwng Cymru a'r Alban yn ddiddorol fan hyn:

    http://www2.politicalbetting.com/index.php/archives/2010/05/05/hows-your-region-changed-since-050505/

    Mae'r canrannau i Lafur a'r LibDems mwy neu lai yr un peth yng Nghymru a'r Alban. Y gwahaniaeth mawr yw'r gefnogaeth i'r Ceidwadwyr yng Nghymru, neu'r diffyg cefnogaeth i Blaid Cymru o'i cymharu a'r SNP.

    Ai mater o arweinyddiaeth yw hyn? Neu a yw Toriaid Cymru yn dueddol o fod yn llawer mwy Prydeinig eu hanian ac felly ni fyddent fyth yn cefnogi Plaid Cymru? Neu a yw Plaid Cymru yn dioddef am ei bod yn cyd weithio a Llafur yn y Cynulliad mewn etholiad lle mae swing anferth oddi wrth Lafur?

    Cyfuniad o'r rhain i gyd dybiwn i - efallai bod esboniadau eraill. Cawn weld beth ddigwydd ar y noson wrth gwrs. Gobeithio y bydd peth trafodaeth ar y gymhariaeth rhwng Cymru a'r Alban wrth i'r canlyniadau ddod i mewn.

    Nododd John Davies flynyddoedd yn ol fod Plaid Cymru'n llwyddiannus pan fo Llafur yn llwyddiannus(buddugoliaethau mawr Llafur yn 1966 a 1997 yn cael eu dilyn gan lwyddiannau nodedig i Blaid Cymru) ac yn methu pan fo Llafur yn wan. Mae'n ymddangos, hyd yn oed mewn etholiad anarferol fel hon, fod hynny dal yn wir.

  • 2. Am 11:45 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Harold Street:

    Mae'n argoeli'n noson ddiddorol yn sicr.

    O ran y rhaglen ei hun, y gobaith mawr sy gen i yw na fydd rhaid aros a disgwyl am y canlyniadau yn Gymraeg ymhell ar ôl iddyn nhw fod ar BBC1 neu ITV.

    Noson o neidio rhwng y sianeli yw noson etholiad yn aml, a'r cof sy gen i yw bod y rhaglen ar S4C wastod ar ei hôl hi. Roedd y graffeg ar waelod y sgrin yn sicr yn rhoi canlyniadau sbel ar ôl ichi eu cael nhw ar sianel arall.


  • 3. Am 12:07 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Harold, mae canlyniadau "gwaelod y sgrin" yn ymddangos ar S4C a BBC1 yr un pryd- yr un cyfrifiadur yn Llundain sy'n eu cynhyrchu. Gan amlaf mae canlyniadau'r BBC yn fwy araf na "chanlyniadau" ITV a SKY a hynny am reswm. Dyw'r BBC ddim yn cyhoeddi canlyniadau cyn i'r swyddog etholiadol wneud cyhoeddiad swyddogol. Mae sianelau eraill yn fodlon cyhoeddi ar sail gwybodaeth answyddogol. Mae 'na fanteision ac anfanteision y naill ffordd a'r llall. Polisi'r BBC yr bod hi'n fwy pwysig bod yn gwbl gywir na bod yn gyntaf. Barn sianeli eraill yw bod gorfod gwneud ambell i gyweiriad yn bris teg i dalu er mwyn rhyddhau cymaint o wybodaeth a sy'n bosib cyn gynted a bo modd.

  • 4. Am 12:07 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Dewi:

    Amser i ddarogan:

    Plaid 6 (+Ceredigion, Ynys Mon, Arfon a Llanelli)
    Rhydd Dem 5 (-Ceredigion & Maldwyn, + Gorllewin Abertawe, Dwyrain Casnewydd a Wrecsam)
    Toriad 10 (+Maldwyn, Gog Caerdydd, Bro Morgannwg, Delyn, Aberconwy, Dyffryn Clwyd Gorll Caerfyrddin)
    Annibynnol 1 - (er fy mod yn ansicr o be sy'n digwydd ym Mhlaenau Gwent)
    Llafur 18 (-Mon, Arfon, Llanelli, Aberconwy, Gorll Abertawe, Dwyr Casnewydd, Gog Caerdydd, Gorll Caerfyrddin, Bro Morgannwg, Delyn, Aberconwy Wrecsam a Dyffryn Clwyd)

  • 5. Am 14:02 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Os gen ti unrhyw amserlen arfaethedig o ba bryd bydd disgwyl y canlyniadau o'r wahanol etholaethau Cymreig?

  • 6. Am 14:19 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dim eto... rwy'n gwybod bod un ar gael. Fe wna i chwilo!

  • 7. Am 14:40 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Hedd:

    Cytuno gyda Alwyn, byddai gwybod hynny'n ddefnyddiol iawn. Diolch!

  • 8. Am 15:31 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r BBC yn defnyddio amserlen PA sydd i weld yn fan hyn.

    http://election.pressassociation.com/Declaration_times/general_by_time.php

  • 9. Am 16:11 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Harold Street:

    Diolch, Vaughan, am leddfu'r pryder oedd gen i ynghylch 'arafwch' yr wybodaeth Gymraeg: rhaid bod y nghof yn pallu!

    Diolch am y cyfeiriad at restr y PA hefyd, a gobeithio y gall Pen-y-bont ac Ynys Môn daro'r nod erbyn un o'r gloch.

    Dewi - ydych chi o ddifri?!

  • 10. Am 20:17 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    #1 Dwi yn meddwl hefyd fod poblogaeth yr Alban yn fwy cynhenid. Mae llawer mwy o fewnfudo wedi digwydd i Gymru gan ei fod yn nes at Loegr. Mae nifer uwch o boblogaeth yr Alban wedi ei geni a'i mhagu yn yr Alban


    #4 Dwi yn meddwl dy fod braidd yn optimistaidd. Dyna'r canlyniad ti'n obeithio ei weld yn hytrach na'r hyn ti'n feddwl fydd yn digwydd. Dwi ddim yn gweld Llafur yn disgyn yn is na 20.
    Plaid 5
    Ceidwadwyr 9
    Lib Dems 5
    Annibynnol 1
    Llafur 20

    a dwi hefyd yn bod yn fwy hael na'r hyn dwi'n ddisgwyl

  • 11. Am 22:30 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Iestyn:

    #1 a #10 Yn ogystal a'r wahaniaeth o ran poblogaeth gynhenid, mae rhesymau hanesyddol i'r gwahaniaethau. Mae cyfundrefn ddeddfwriaethol wahanol wedi bod gyda'r Alban erioed, felly does dim dadl gall ynglyn a "bod yn rhanbarth o Brydain" ymysg y Sgotiaid, fel sydd ymysg Cymry cynhenid. Hefyd, mae'n "normal" yn yr Alban i wylio / darllen cyfryngau Albanaidd, sydd eto yn wahanol iawn i Gymru. Yn olaf, does dim rhyw lawer o gyfle i neb ware'r garden iaith i hala ofn ar bobl rhag pleidleisio dros yr SNP - hen dric cas y Blaid Lafur (rhan fwyaf) yng Nghymoedd y De.

    Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r niferoedd sydd yn gweld Plaid Cymru, sydd yn clywed eu neges mewn ffordd gall, ac sydd yn ystyried y Blaid yn Blaid genedlaethol.

    Dyna 'nealltwriaeth i o'r sefyllfa, ta beth.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.