Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y bregeth sabothol

Vaughan Roderick | 10:29, Dydd Sul, 2 Mai 2010

150pulpud.jpgDyma ni, Ddydd Sul olaf yr ymgyrch ac fel ym mhob etholiad heddiw yw diwrnod "boddi wrth y lan" yn BBC Cymru.

Heddiw fe fyddwn yn cynnal y rihyrsal gyntaf ar gyfer y rhaglen ganlyniadau. Fe wna i ddwy broffwydoliaeth. Yn gyntaf, fe fydd y peth yn siambolic. Yn ail, fe fydd Dewi Llwyd yn cwyno bod y stiwdio'n rhy boeth. Does dim angen becso. Fe fydd hi'n iawn ar y noson, neu felly maen nhw'n dweud.

Heno cynhelir dadl olaf yw arweinwyr Cymreig. Fe'i darlledir ar BBC1 am naw o'r gloch. Rwy'n cymryd rhan yn y fersiwn radio ar Radio Wales sy'n cychwyn am 8.30.

Dwn i ddim faint o ddylanwad y mae'r dadleuon Cymreig yma'n cael. Mae'n llawer llai na'r dadleuon prif weinidogol, heb os. Ar y llaw arall maen nhw yn cael eu darlledu yn yr oriau brig ac ar y prif sianelau. Fe ddylai'r gynulleidfa bod yn fwy nac yw hi i raglenni gwleidyddol Cymreig eraill felly.

Mae hi o hyd yn hynod anodd darogan beth sy'n mynd i ddigwydd nos Iau er bod 'na ambell i arwydd bod pethau'n gwella i'r Ceidwadwyr yn ystod y dyddiau diwethaf. Ond eisiau edrych yn ôl ydw i heddiw gan geisio canfod camgymeriadau pleidiau'r yn eu strategaethau a'u hymgyrchoedd.

Heb os, camgymeriad mawr y Ceidwadwyr oedd cytuno i gynnal y dadleuon teledu.

Camgymeriad yw meddwl nad yw'r rheiny wedi digwydd o'r blaen oherwydd amharodrwydd Prif Weinidogion i ddisgyn i'r un lefel a'i gwrthwynebwyr. Mae hynny'n wir gan amlaf ond mae'n werth nodi mai Margaret Thatcher, arweinydd yr wrthblaid, nid y Prif Weinidog, Jim Callaghan, wnaeth rwystro'r dadleuon rhag cael eu cynnal yn 1979. A'r rheswm? Roedd hi'n ofni y byddai'r dadleuon yn dyrchafu'r Rhyddfrydwyr i statws cydradd a'r ddwy blaid arall. Tw reit, Magi!

Mae camgymeriad mwyaf Plaid Cymru hefyd yn ymwneud a'r dadleuon, yn fy marn i. Rwy'n deall y teimladau cryfion yn iawn ac yn deall hefyd pam y byddai'r blaid yn cwffio hyd yr eithaf ynghylch y sefyllfa. Ond oedd angen mynd ymlaen cymaint am y peth yn gyhoeddus? Os nad yw'r blaid yn cael chwarae teg ar y cyfryngau onid gwell fyddai defnyddio'r cyfleoedd y mae hi yn eu cael i gyflwyno negeseuon positif?

O safbwynt y Blaid Lafur dydw i ddim yn gwybod ydy hi'n deg i alw "bigotgate" yn gamgymeriad. Hap a damwain oedd hi, o bosib ond yn sicr fe sugnodd yr egni allan o eneidiau nifer o'n nghyfeillion Llafur gydag ambell un yn awgrymu bod rhywbeth felly yn sicr o ddigwydd gyda Gordon Brown yn arwain. Does dim angen chwilio'n galed iawn i ganfod aelodau Llafur sy'n credu y gallasai pethau fod yn wahanol iawn o dan arweinydd arall.

Mae hynny'n dod a ni at y Democratiaid Rhyddfrydol. Ydy'r rheiny wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau o gwbl ac eithrio palu gormod yn y bocs gwisgo i fyny?

Rwyf ar dir dadleuol yn fan hyn ond mae nifer o hen bennau gwleidyddol yn rhyfeddu ynghylch sylwadau Nick Clegg yn cyfri Llafur allan ac yn honni bod yr etholiad yn ras dau geffyl rhwng ei blaid ef a'r Ceidwadwyr.

Mae'n sicr bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol siart i brofi'r peth! Efallai bod y dacteg yn effeithiol ar daflenni ffocws ond i nifer o sylwebyddion mae'n ymddangos yn groes i'r naratif sydd wedi mor llwyddiannus i'r blaid hyd yma.

Am wn i, mae'n ymgais i wneud i'r polareiddio munud olaf sydd wedi gweithio yn erbyn y blaid yn y gorffennol i'w gweithio o'i phlaid y tro hwn. Mae'n dipyn i gambl. Wedi'r cyfan, a fyddai plaid sydd "yn wahanol" ac yn "gwrando ar y bobol" yn cymryd canlyniad yr etholiad a'r etholwyr yn ganiataol? Dyna yw'r cwestiwn y mae rhai yn ei ofyn. Yn ôl pobol Llafur fe fydd y sylwadau yn gwylltio eu pleidleiswyr craidd ac yn eu troi nhw allan i bleidleisio. Yng ngeiriau un "fe ddylai Nick Clegg gofio mai canlyniad 'hubris' yw 'nemesis'."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:21 ar 2 Mai 2010, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Pam na fu dadl arweinwyr Cymreig gan y BBC yn Gymraeg ar S4C? Neu gael opsiwn iaith ar y rhaglen ar BBC 1? Mae BBC Cymru wedi colli cyfle eto fyth i brif ffrydio'r Gymraeg a dangos ein bod ni'n genedl hyderus yn ein dwyieithrwydd.

    Gellid bod wedi rhoi clustffonau cyfieithu ar y pryd i Cheryl, Hain a Kirsty ac wedyn wrth iddyn nhw ateb yn Saesneg gellid cael dybio byw i'r Gymraeg. Pan fo S4C yn darlledu o'r Cynulliad mae nhw'n gwneud hynny o'r Gymraeg i'r Saesneg.

    Hefyd, fel rhywun sydd heb areal deledu (am resymau daearyddol nid o ran dewis) ac yn cael fy holl newyddion a darpariaeth gan y BBC dros y wê dwi wedi gorfod bodloni ar naratif Gymraeg is eu darpariaeth nag yn y Saesneg. Mae y blog hwn yn wych o beth, ond does dim cymharu y ddarpariaeth ar-lein Saesneg yma: http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk_politics/election_2010/wales/default.stm yn glipiau sain a ffilm, yn fapiau, polau piniwn a swingometers rhyngweithiol i gymharu a'r ddarpariaeth ar-lein Gymraeg: http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newyddion/pobol_a_phwer/default.stm dim elfennau sain, ffilm na rhyngweithiol.

    Tybed at bwy y dylid cyfeirio cwyn ynglyn a'r gwahaniaeth darpariaeth yma rhwng y ddwy iaith?

  • 2. Am 21:23 ar 2 Mai 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    A son am Mrs Duffy a'i dim ond y fi sydd yn anghyfforddus gyda sibrydion y byddai wedi gallu derbyn mwy o arian petai wedi dweud y byddai yn pleidleisio i'r Ceidwadwyr???? Os yn wir dwi yn meddwl fod y fath beth yn hollol annerbyniol. Roeddwn yn meddwl fod talu i rhywun bleidleisio yn anghyfreithlon ers y 19ganrif. Mae'n ymddangos fod cryn gymhelliant wedi gosod ger ei brin . Tydwi ddim yn gweld bai o gwbwl ar Mrs Duffy mae wedi bod yn anrhydeddus.

    Er efallai na fydd yn ennill fawr mwy na threuliau blynyddol Aelod Seneddol o werthu ei stori rhaid cofio y byddai'rswm yn cyfateb i 6 blynedd o rhagor o bensiwn !!!!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.