Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Paul a'r Pethe

Vaughan Roderick | 10:42, Dydd Sul, 7 Mawrth 2010

419Z3ezhhlL._SL210_.jpgAm amryfal resymau rwy'n colli cynhadledd y Ceidwadwyr yn Llandudno'r penwythnos yma. Mae hynny'n biti mewn sawl ystyr. Rwy'n colli cyfle i fesur tymheredd y blaid ar gyfnod nerfus iddi. Rwyf hefyd, mwy na thebyg, wedi colli fy nghyfle olaf i frecwasta ym mar llaeth Llanidloes ar y ffordd i fyny! Sic transit NMB!

Rwyf wedi bod yn cysuro fy hun trwy ddarllen hunangofiant Paul Flynn "The Unusual Suspect". Mae Paul, wrth gwrs, yn dipyn o wleidydd "marmite"- rhywun y mae pobol naill ai'n dwli arno neu yn ei gasáu.

Rwy'n cymryd bod nifer o'i dargedi yn perthyn i'r ail ddosbarth. Dyna i chi Kim Howells sy'n esiampl yn ôl Paul o'r "woeful junior ministers on endless odysseys of futility"! Go brin y bydd ffans George Thomas yn falch o glywed e'n cael ei ddisgrifio fel "grovelling royal groupie" oedd yn euog o "emetic sentimentality".

Mae rhai o'r straeon yn "The Unusual Suspect" eisoes wedi ymddangos yng nghyfrol Gymraeg Paul "Baglu Ymlaen" ond mae'r gyfrol Saesneg yn werth ei darllen oherwydd safon yr ysgrifennu a'r ddawn eiriol.

Mae darlun Paul o'i blentyndod tlawd yn Grangetown, Caerdydd yn arbennig o lachar ac mae ei ddadansoddiad o natur Cymreictod y Gymru ddinesig yn hynod ddadlennol. Yn ôl Paul doedd plant y Grenj yn y tridegau ddim yn amau am eiliad eu bod yn Gymry yn yr ystyr eu bod wedi geni yng Nghymru ac nad oeddynt yn Saeson. Fe fydd unrhyw un sydd yn nabod Caerdydd neu Gasnewydd yn gyfarwydd iawn â'r diffiniad negyddol yna o Gymreictod!

Roedd mam Paul hefyd yn gwahaniaethu rhwng pobl Caerdydd a'r "real Welsh" sef trigolion y cymoedd a'r "proper Welsh" sef y Cymry Cymraeg. Roedd yr hen ledi wedi canfod model gwleidyddol y tri rhanbarth ddeugain mlynedd cyn i'r seffolegwyr wneud hynny!

Fel mae digwydd mae'r Grenj yn enghraifft berffaith o'r ffaith bod defnyddioldeb y model hwnnw yn tynnu at ei derfyn o ganlyniad i fewnfudo i Gaerdydd o rannau eraill o Gymru a thwf addysg Gymraeg.

Mae'n rhyfeddod i mi nad oes unrhyw un, hyd y gwn i, wedi gwneud gwaith ymchwil ynghylch y cysylltiad posib rhwng dewisiadau rhieni ynghylch iaith addysg eu plant a phatrymau pleidleisio. Mae 'na ddoethuriaeth i rywun yn fanna!

Ta beth yn 2001 roedd oddeutu 14% o boblogaeth y Grenj a rhyw fath o grap ar y Gymraeg. Rwy'n tybio bod y ffigwr yn agosach at ugain y cant neu'n uwch erbyn hyn. Dyma oedd cyfartaledd pleidleisiau'r pleidiau yn y ward yn 2007;

Democratiaid Rhyddfrydol; 1331
Llafur; 1124
Plaid Cymru; 1009
Ceidwadwyr; 520

Dydw i ddim yn gwybod beth i alw'r patrwm pleidleisio yna ond yn sicr dyw 'e dim yn perthyn i "Gymru Brydeinig"!

Fel mae'n digwydd mae 'na sibrydion o gwmpas y lle bod Cyngor Caerdydd a'r Egwlys Gatholig mewn trafodaethau i agor Ysgol Gatholig Gymraeg yn y ddinas oherwydd y galw gan Gatholigion am addysg o'r fath. O ystyried o ble mae'r galw'n debyg o ddod fe fyddai hi'n syndod pe na bai hen ysgol Paul Flynn, "Saint Pats" fel mae pawb yn ei galw hi, ar y restr fer o safleoedd posib.

Nawr, fe fyddai hynny yn dipyn o beth!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:42 ar 7 Mawrth 2010, ysgrifennodd paul:

    byddai ysgol gatholig gymraeg yn ddatblygiad calonogol iawn. Ond yr arwydd mwyaf pendant o newid yn ein cymdeithas o ran troi'r gymraeg yn beth inclusive byddai ysgol gymraeg islamaidd, neu o leiaf twf mawr yn y teuluoedd o leiafrioedd ethnig yn danfon eu plant i'r ysgolion cymraeg!

  • 2. Am 22:19 ar 7 Mawrth 2010, ysgrifennodd Emyr:

    Dwi mewn dau feddwl.

    Ar y naill law, dwi'n llawenhau fod y Gymraeg yn ennill ei thir mewn cymunedau newydd.

    Ar y llaw arall, dwi'n poeni.

    Beth pe basefydlid Ysgol Gymraeg Caerdydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undebau'r Annibynnwyr a'r Bedyddwyr Cymraeg? Pwy fyddai'n debygol o fynd i'r ysgol honno, a beth fyddai'r effaith ar yr ysgolion Cymraeg seciwlar? 'Rwy'n ofni y byddai'r effaith yn debyg i'r effaith ar yr iaith Gymraeg mewn ysgolion Cymraeg "traddodiadol" mewn ardaloedd lle sefydlwydd ysgolion "penodedig" Cymraeg.

  • 3. Am 19:12 ar 8 Mawrth 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Nid yw hyn yn gwbl berthnasol, falle. Ond, pan fydd pawb arall ar Wales Today yn gwneud ymdrech arbennig i ynganu'n gywir, a ydi'r BBC yn meddwl ei bod hi'n dderbyniol fod Jamie Owen yn cyfeirio at lefydd fel 'Llandailow' o hyd?

    ON - ro'n i'n meddwl i ti ddweud fod y llythrennau diflas yna i fod i ddiflannu!

  • 4. Am 20:53 ar 8 Mawrth 2010, ysgrifennodd blogmenai:

    Diddorol - dwy ysgol Babyddol cyfrwng Cymraeg - y naill yng Nghaernarfon a'r llall yng Nghaerdydd.

  • 5. Am 22:50 ar 8 Mawrth 2010, ysgrifennodd Hugo:

    Erthygl diddorol iawn. Fel rhywun sydd wedi byw yn Grangegtown ers dros 10 mlynedd dwi wedi gweld shift yn agweddau pobl. Mae'r Gymraeg iw glywed o gwmpas y strydoedd, siopau a thafarndau. Mae yna gefnogaeth gref am ysgol Gymraeg iw sefydlu yn Gragetown / Butetown. Dwi'n ymwybodol bod plant o Butetown sydd eisiau addysg Gymraeg yn mynychu ysgolion yn Penarth.

  • 6. Am 15:01 ar 10 Mawrth 2010, ysgrifennodd Sion:

    Tra fy mod o ran egwyddor yn wrthwynebus i sefydlu ysgolion ar sail ffydd neu grefydd gan ei fod yn fy marn i'n atgyfnerthu arwahanrwydd crefyddol mewn cymdeithas, dwi'n credu byddai sefydlu ysgol Gymraeg Gatholig yn gam diddorol iawn o ran gweld os oes elfen sylweddol o'r boblogaeth sydd am weld eu plant yn cael eu addysgu i fod yn ddwyieithog ond nad ydynt am wneud hynny ar drael derbyn addysg Gatholig. Os yw'n cael ei wireddu byddai'n sefyllfa diddorol iawn yn wir.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.