Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhyfedd Iawn

Vaughan Roderick | 14:08, Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009

2093_13600_file_eng_Welsh-Assembly-Government-Logo_195_159.jpgFe wnaeth Betsan a finnau dynnu sylw ddoe at sianel "YouTube" Llywodraeth y cynulliad gyda dewis eang o fideos proffesiynol iawn yr olwg er eu bod yn cynnwys ambell i wall yn enwedig yn Gymraeg.

Dyma esiampl o'r cynnwys;

Sylwch ar y geiriau ar y diwedd "brought to you by the Welsh Assembly Government" ynghyd a logo'r Llywodraeth.

Mae'r cynnwys i gyd yn ffafriol i'r llywodraeth neu o leiaf yn niwtral ac mae'n cynnwys deunydd fideo o mor bell yn ôl a 1997 ac mor ddiweddar â ddoe.

Mae 'na broblem. Does neb yn y llywodraeth yn gwybod pwy sy'n gyfrifol! "Nid ni" medd swyddfa'r wasg. "Smo fi'n gwybod" medd... wel, medd un ddylai wybod!

Cwmni yn trial am gytundeb, efallai? Myfyrwyr? Y person mwyaf trist yn y byd? Dyn a ŵyr. Oes unrhyw un yn gallu helpu?

Yr awdur a'r darlledwr Hywel Williams, Yr Athro Howard Williams o Brifysgol Aberystwyth, a'r ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus Elin Wyn a fu'n byw yng Ngwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd yw'r gwesteion ar CF99 heno.

Fe fyddwn yn trafod yr effaith gafodd cwymp wal Berlin ar Ewrop a dyfodol y cyfandir yn sgil cadarnhau cytundeb Lisbon.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:49 ar 4 Tachwedd 2009, Gareth ysgrifennodd:

    Roedd hi'n eitha amlwg nad safle swyddogol mohoni, o ystyried y nifer o wallau sillafu a gramadeg yno...

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 15:51 ar 4 Tachwedd 2009, Dafydd Tomos ysgrifennodd:

    Wnes i sôn am hyn ddoe. Dwi'n dyfalu mai un o'r 'ymchwilwyr' enwog yna yw e sy'n gweithio i un o'r aelodau Llafur.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 17:37 ar 4 Tachwedd 2009, Hen Ferchetan ysgrifennodd:

    Mae'r fidios "Tales from the Chamber" yn ddiddorol i'w gwylio - ma nhw bron yn gwneud i ddigwyddiadau'r senedd edrych yn ddiddorol@

    Onid ddylsa rhywun holi Andrew Davies? Mae'n rhaid fod o'n gwybod pwy oedd y tu ol i'r camera pan oddo'n gwneud ei ptc!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 4. Am 20:18 ar 4 Tachwedd 2009, Dafydd Tomos ysgrifennodd:

    Mae fideo Andrew Davies wedi ei gymeryd o fan hyn - sianel 'swyddogol' (?) gyda un fideo unig - mae'r ansawdd llawer uwch fel y gwelwch chi, a dyma'r fideo gwreiddiol. Does dim ffilmio gwreiddiol yn unrhyw un o'r fideos ar sianel 'GovernmentofWales' - mae'r cyfan wedi ei ddwyn/fenthyg o ffynonnellau eraill - sy'n esbonio ansawdd ofnadwy y lluniau i'w gymharu a'r testun sydd wedi ei osod ar ei ben.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 5. Am 11:50 ar 5 Tachwedd 2009, Catrin Davies ysgrifennodd:

    Cwestiwn - am wefan "Democracy Live" .
    Pan fydd un o'r aelodau yn siarad yn Gymraeg yn y Senedd - beth a fydd ar wefan y BBC - y siaradwr/aig neu troslais gyda chyfieithiad i'r Saesneg ?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 6. Am 12:16 ar 5 Tachwedd 2009, FiDafydd ysgrifennodd:

    A gafwyd ateb/esboniad eto?

    (Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at ddiflaniad y blwming llythrennau 'na!!!)

    Cwyno am y sylw hwn

  • 7. Am 13:29 ar 5 Tachwedd 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Y Gymraeg sydd i'w chlywed o wylio ar "Democratiaeth Fyw/ Democracy Live/Cymru" Ceir y troslais Saesneg ar "Democracy Live/Wales" Mae'r un peth yn wir am iaith y capsiynnau

    Cwyno am y sylw hwn

  • 8. Am 13:31 ar 5 Tachwedd 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Dim eto! Mae'r llywodraeth yn cynnal ymchwiliad!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 9. Am 12:54 ar 6 Tachwedd 2009, Dafydd Tomos ysgrifennodd:

    Yr un person sy'n gyfrifol am sianel YouTube TeleduCymru sydd hefyd yn dwyn cynnyrch fideo rhywun arall a rhoi llwyth o destun ac effeithiau Apple iMovie arno. Trist yn wir..

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli (rheolau postio).

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.