Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mae'r hon a gar fy nghalon i...

Vaughan Roderick | 14:05, Dydd Iau, 19 Tachwedd 2009

_45405741_45403811.jpgDydw i ddim cweit yn deall pwrpas arolwg blynyddol cwmni Ipsos Mori o safbwyntiau Aelodau Cynulliad.

Dim ond trigain ohonyn nhw sy' na wedi cyfan ac fe ddylai eu safbwyntiau bod yn ddigon amlwg o'u hareithiau a'u pleidleisiau yn y senedd. Efallai bod y cwmni'n amau bod gwleidyddion yn fwy gonest wrth ymateb i arolwg yn ddienw! I fod yn deg mae 'na ambell i ganlyniad difyr.

Un enghraifft yw'r ateb i'r cwestiwn yma "pwy yn eich barn chi yw'r gwleidydd mwyaf nodedig (impressive) yn y cynulliad?

Edwina Hart; 25%
Rhodri Morgan; 24%
Elin Jones; 12%

Huw Lewis, Carwyn Jones a David Meding ddaeth nesaf yn gydradd ar 5%. Roedd 'na un awrweinydd plaid na chafodd ei henwi o gwbl. Unwaith yn rhagor mae treigliad yn adrodd cyfrolau.Yn fwy difyr fyth roedd 8% o'r aelodau naill ai'n gwrthod dweud neu o'r farn nad oedd unrhywun yn y Cynulliad yn nodedig!

ON Er bod y canlyniadau'n ddienw fe holwyd yr aelodau wyneb yn wyneb. Fe ddywedodd un aelod mai Nick Ramsey yw'r AC mwyaf nodedig. Does bosib... ond os nid fe'i hun, pwy?

OON Yn ôl Ipsos Mori nid oes modd i aelod enwebu ei hun. Rwy'n gofyn eto felly PWY?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:26 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    'Sgwn i pwy bleidleisiodd Lynne Neagle drosto?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 19:58 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Efallai y byddai arweinydd y Lib Dems wedi dod ar y blaen petai system pleidlisio gyfrannol !!!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 20:22 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fedra i ddim meddwl am system lle nad yw dim yn ddim!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 4. Am 10:39 ar 23 Tachwedd 2009, ysgrifennodd seren24:

    Vaughan yn hollol. Ramsey - Os nad mai fe yw'r AC mwyaf nodedig, mae'n sicr mai fe yw'r mwyaf golygus!

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli (rheolau postio).

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.