Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trioedd Ynys Echni

Vaughan Roderick | 14:15, Dydd Mercher, 7 Hydref 2009

seagull_bbc_203.jpg1. Rwyf wedi sgwennu o'r blaen am y symiau anferthol o arian cyhoeddus y mae "Eglwys yr Holl Genhedloedd" yn derbyn trwy farchnata ei hadeiladau fel canolfan gynadledda. Yn y ddwy flynedd diwethaf fe dderbyniodd yr Eglwys dros £120,000 gan Lywodraeth y Cynulliad. Gallwn weld nawr i ble mae peth o'r arian yna'n mynd.

Mae'r Eglwys wedi gosod posteri ar nifer o safleoedd masnachol yng Nghaerdydd gyda'r slogan "Claiming the Capital for Christ". Meddyliwch am eiliad beth fyddai'r ymateb os mai Mosg oedd wedi derbyn cymaint o arian cyhoeddus ac wedyn wedi lansio ymgyrch hysbysebu yn "hawlio'r brifddinas i Islam"? Mae canolfan yr Holl Genhedloedd yn lle hwylus a chyfleus i gynnal cynhadledd ond ydy hi'n briodol i unrhyw gorff crefyddol dderbyn cymaint o arian cyhoeddus?

01_Jessica_Fletcher.jpg2. Dyw cogyddion ffreutur Tŷ Hywel ddim yn hapus. Tan yn ddiweddar wrth i'r gweithwyr fwyta'u ciniawau eu hun roedd hi'n arfer ganddyn nhw i wylio rhywbeth fel "Loose Women" neu "Murder She Wrote" ar y sgrin ar y wal. Nawr mae ordyrs wedi cyrraedd oddi fri. Un peth ac un peth yn unig sydd i'w ddangos ar y sgrin fawr sef y Cynulliad ei hun. Os ydy'r person wnaeth lunio'r gorchymyn yna'n cael ei ganfod a chyllell yn ei gefn ni fydd angen Jessica Fletcher i weithio allan pwy oedd yn gyfrifol!


_46315367_rhonddaleader_226.jpg3. Mae gan y "Rhondda Leader" cythraul o sgŵp. Jyst wrth i Carwyn Jones geisio argyhoeddi aelodau Llafur nad yw'n asiant gudd o Blaid Cymru daw cefnogaeth iddo o gornel annisgwyl.

Yn ei cholofn yn y "Leader" mae AC Plaid Cymru, Leanne Wood yn dweud hyn "it is no secret that I will be supporting Carwyn Jones. Carwyn is passionate about social justice and he will be a leader for the whole of Wales". Mae'n rhaid bod y peth yn wir. Go brin y byddai'r papur wedi bod mor amhroffesiynol a gosod llun ac enw Leanne ar frig colofn gan Leighton Andrews!


Paul Davies Heledd Fychan ac Iestyn Davies yw'r gwesteion ar CF99 heno. Ymhlith y pynciau trafod fydd stori sydd i'w gyhoeddi ar y brif wefan rhywbryd yma prynhawn ynghylch ymdrechion i orfodi i Aelodau Seneddol ddefnyddio'r Gymraeg. Fe allai ddychmygu hynny'n achosi harten i ambell un!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:09 ar 7 Hydref 2009, Rhodri ysgrifennodd:

    Vaughan,

    Mae cysylltiad rhwng Murder She Wrote a gwleidyddiaeth. Tadcu Angela Lansbury, yr actores sy'n chware Jessica Fletcher, oedd arweinydd y Blaid Lafur, George Lansbury.

    http://en.wikipedia.org/wiki/George_Lansbury

    Efallai gall gwylio Murder She Wrote cyfri fel ymchwil wleidyddol?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 17:41 ar 7 Hydref 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Da Iawn! Mae stad "Lansbury park" yng Nghaerfili wedi enwi ar ei ol , os ydw i'n cofio'n iawn.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli (rheolau postio).

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.