Help / Cymorth

Archifau Hydref 2009

Rialtwch

Vaughan Roderick | 08:58, Dydd Sadwrn, 31 Hydref 2009

Sylwadau (1)

Does na ddim thema i ffilmiau'r wythnos hon.

Eich awgrymiadau chi yw rhain i gyd gan gychwyn gyda phwnc wnaeth godi ar y blog yn ddiweddar sef Romani Cymru.

Am wn i mae gan bob gwlad a phob iaith eiriau fel "josgin" a "hambon" termau sy'n cael ei defnyddio'n ddilornus gan bobol drefol ynghylch pobol cefn gwlad ac sy'n cael eu harddel a balchder gan y bobol hynny.

"Culchie" yw'r term yn Iwerddon. Mae'n cymryd rhai eiliadau i sylweddoli'r pwynt clyfar y mae'r ffilm yma'n ei wneud.

Un ar hugain o acenion mewn dwy funud a hanner.

Rwy'n ymweld a'r teulu ym Malaysia cyn bo hir. Wrth gwrs mae'r diwylliant yn y wlad fwyafrifol Fwslimaidd honno yn gwbwl wahanol i wledydd y gorllewin... neu efallai ddim!


Newyddion da o lawenydd mawr

Vaughan Roderick | 15:51, Dydd Gwener, 30 Hydref 2009

Sylwadau (0)

logos_batwing_ident.jpgMae 'na bodlediad newydd wedi ei gyhoeddi. Gan fod hi'n hanner tymor y cynulliad does 'na ddim bonws yr wythnos hon ond fe fydd 'na goblyn o anrheg ar eich cyfer wythnos nesaf.

Fe fydd gwasanaeth newydd y BBC "Democratiaeth Fyw/ Democracy Live" yn cael ei lansio ddydd Llun. Rwy'n gwybod bod nifer yn ysu arbrofi gyda'r gwasanaeth "llais i destun" newydd ond mae 'na lawer mwy ar y safle gan gynnwys deunydd archif (gyda mwy i ddod) ac eitemau cefndir. Dydw i ddim yn ffan enfawr o'r enw. Yn anffodus fe gafodd fy awgrym i "Afallon yr Anoracs" ei wrthod!

Handbags

Vaughan Roderick | 10:57, Dydd Gwener, 30 Hydref 2009

Sylwadau (8)

dafyddelisthomas203x300.jpg
Mae'n werth prynu Golwg yr wythnos hon. I fod yn deg, mae'n werth prynu Golwg bob wythnos ond mae 'na reswm arbennig i gael gafael mewn copi o'r rhifyn gyfredol, rheswm sydd wedi ei gladdu ar y tudalennau llythyrau o dan y pennawd "Angen cydnabod ffrwythau Edwina".

Dafydd Elis Thomas yw awdur y llythyr sy'n ymosod yn ffyrnig ar sylwadau gan Angharad Mair ynghylch agwedd Edwina Hart tuag at yr iaith Gymraeg. Mae'n cyfeirio at nifer o bethau mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyflawni dros yr iaith ac yn gorffen fel hyn;

"Wrth eu ffrwythau yr adnabyddir gweleidyddion. Onid doeth fyddai i Angharad Mair ddysgu hynny cyn dilyn gyrfa wleidyddol ei hun."

Sgwennu fel unigolyn ac Aelod Cynulliad ac nid yn rhinwedd ei rôl fel Llywydd mae Dafydd. Serch hynny dyw e ddim yn bosib llwyr gwahanu'r dyn a'i swydd. O gofio hynny, rwy'n amau na fyddai Dafydd wedi sgwennu llythyr o'r fath pe bai Angharad yn aelod o blaid arall yn hytrach na'i blaid ei hun.

Rwy'n sicr bod y pwyntiau mae Dafydd yn gwneud am record Edwina yn gywir. Ar y llaw arall rwyf wedi dweud o'r blaen bod yr hyn y mae maniffesto Edwina yn dweud ynghylch ysgolion Cymraeg yn rhyfedd ar y naw ac onid teg yw barnu gwleidydd wrth ei maniffesto yn ogystal â'i ffrwythau?

Banciwch arni

Vaughan Roderick | 15:50, Dydd Iau, 29 Hydref 2009

Sylwadau (4)

_40286867_atm_bbc203.jpgMae darlith Peter Hain yn awr wedi ymddangos ar wefan Swyddfa Cymru. Mae hi werth ei darllen ond mae 'na un frawddeg braidd yn rhyfedd. Wrth ddadlau yn erbyn annibyniaeth mae'r ysgrifennydd Gwladol yn dweud hyn.

"Wales alone could not have raised the capital to shore up the banking system"

Pa system fancio?

Banc y Ddafad Ddu? Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy?

Y tro diwethaf i mi edrych doedd gan Gymru ddim banciau.

DIWEDDARIAD. Roedd 'na gwestiwn diddorol iawn yn dilyn darlith Peter Hain sef hwn. Gan ei fod mor ffyrnig yn erbyn cynnal refferendwm yn fuan a fyddai'n defnyddio feto yr Ysgrifennydd Gwladol a gwrthod cais i gynnal pleidlais? Yr ateb oedd na fyddai fe.

Gallwch ddisgwyl ateb tebyg gan David Cameron cyn bo hir. Mae'r arweinydd Ceidwadol wedi penderfynu peidio gwneud araith fawr ynghylch datganoli a Chymru ond fe fydd yn gwneud addewid "wrth fynd heibio" y byddai llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn derbyn cais gan y Cynulliad i gynnal pleidlais.

Dilyn ei drwyn

Vaughan Roderick | 11:24, Dydd Iau, 29 Hydref 2009

Sylwadau (0)

_45499596_003129110-1.jpgYr economegydd Adam Smith, tad Ceidwadaeth fodern, wnaeth lunio'r "law of unintended consequences". Mae'n fwy o ddadl nac o reol mewn gwirionedd. Mae'n honni bod unrhyw weithred neu fesur yn esgor ar ganlyniadau nad oedd yn rhan o'r bwriad. Gwneud dim yw'r peth call yn amlach na pheidio yn ôl Smith. Dyna i chi esboniad o "Laissez-faire" mewn brawddeg!

Fe gefais fy atgoffa o gyfraith Adam Smith wrth ddarllen am y cynlluniau i sefydlu gwasanaeth fferi rhwng Abertawe a Gogledd Dyfnaint. Roedd gwasanaethau o'r fath yn gyffredin tan y chwedegau gyrfa llongau ysblennydd P&A Campbell yn cysylltu porthladdoedd Mor Hafren a'i gilydd. Nid Pont Hafren wnaeth ladd y gwasanaethau ond rhywbeth nad oedd unrhyw un wedi ei ragweld sef agor y tafarnau ar y Sul. Heb y tripiau lysh i Gymry sychedig doedd y gwasanaethau ddim yn talu.

Rwy'n amau bod y Peter Hain yn teimlo ei fod e'n dioddef ychydig oherwydd cyfraith Adam Smith. Pan lywiodd ail Fesur Llywodraeth Cymru trwy'r senedd doedd hi erioed yn fwriad i refferendwm gael ei chynnal i mewn byr o dro. Pan gytunodd Lafur i sefydlu Confensiwn Syr Emyr, doedd neb yn disgwyl y byddai'r diplomydd gofalus yn mynd yn gwbwl "gung-ho" ynghylch cynnal pleidlais gynnar.

Yr hyn sy'n ddiddorol am sylwadau Ysgrifennydd Cymru yw'r amseriad nid y cynnwys. Mae Peter Hain wedi dweud pethau digon tebyg o'r blaen ond mae'r ffaith ei bod wedi dewis siarad mas yn y ffordd fwyaf cyhoeddus posib ar drothwy cyhoeddi adroddiad y Confensiwn yn ddadlennol.

Craidd dadl Peter yw bod y system bresennol yn gweithio'n effeithiol ac y byddai refferendwm yn cael ei cholli. Mae 'na ddigon o bobol fyddai'n anghytuno a 'r gosodiad cyntaf ond, i fi, yr ail un sy'n ddiddorol.

Mae'n ymddangos i mi bod yr ysgrifennydd gwladol yn seilio'i farn am ganlyniad y refferendwm ar ei grebwyll gwleidyddol eu hun. Pa mor bynnag dda yw'r crebwyll hwnnw mae'n rhaid gofyn y cwestiwn yma. P'un sydd orau- gwneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth sydd wedi ei chasglu gan y Confensiwn yn ystod y ddwy flynedd diwethaf neu ei wneud ar sail "trwyn" un gwleidydd?

Dyna dderyn hardd wyt ti...

Vaughan Roderick | 09:43, Dydd Iau, 29 Hydref 2009

Sylwadau (2)

kookaburra_203_getty.jpgDoes a wnelo'r stori nesaf ddim byd a gwleidyddiaeth ond mae'n rhy dda i beidio rhannu.

Yn y Llys Ffederal yn Sydney mae rhai o fargyfreithwyr gorau a drytaf Awstralia yn dadlau ynghylch tarddiad cân werin Gymraeg. Yn fwy penodol mae'r llys yn ystyried y cwestiwn dwys "p'un ddaeth gyntaf y deryn du neu'r Kookaburra?"

Cwmni o'r enw Larrakin Music sydd wedi dwyn yr achos gan honni bod record enwog Men at Work, "Down Under", yn cynnwys rhannau o dôn y gân "Kookaburra Sits in an Old Gum Tree". Larrakin sy'n berchen ar hawlfraint y gân.

Nonsens yw hynny medd Men at Work. "Dacw di yn eistedd aderyn du" yw'r dôn yn ôl cyfreithwyr y band. Cyfieithiad yw "Kookaburra" ac mae Larrakin wedi bod yn camhawlio arian am ei defnyddio ers degawdau. Dydw i ddim yn gwybod pwy sy'n iawn. Efallai bod pobol Tŷ Siamas yn gallu helpu!

Ta beth mae ychydig o "track record" gan Awstralia yn hyn o beth. Mae 'na gythraul o debygrwydd rhwng "Waltzing Matilda" a'r gân Albanaidd "Thou Bonnie Wood Of Craigielea" ac mae rhannau o'r anthem genedlaethol "Advance Australia Fair" yn bur debyg i "God Bless The Prince of Wales". Cofiwch, rwy'n amau bod sawl un yn ddigon parod iddyn nhw gael honna!

Aeth fy nwy fil yn un ddafad

Vaughan Roderick | 11:17, Dydd Mercher, 28 Hydref 2009

Sylwadau (6)

rocket_body_152x203.jpgDyw'r ffaith bod stori wedi ei hadrodd a'i hailadrodd hyd syrffed ddim bob tro yn ei gwneud yn llai difyr na'n llai dadlennol. Rwy'n sicr eich bod yn gyfarwydd â hanes achub lein reilffordd y Canolbarth gan ei bod yng ngeiriau George Thomas yn "rhedeg trwy bum etholaeth ymylol". Mae'n anodd credu nad yw ffactorau tebyg ym meddyliau gwleidyddion wrth ystyried y cynlluniau i drydaneiddio'r lein rheilffordd o Lundain i Abertawe.

Dydw i ddim wedi eu cyfri nhw ond mae'r lein yn rhedeg trwy oddeutu ugain o etholaethau ymylol ac yn gwasanaethu llwyth o rai eraill. Cymerwch gip ar y rhestr yma o seddi targed y Ceidwadwyr a sylwch ar rai o'r enwau. Cheltenham, Stroud, Gogledd Orllewin Bryste, Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Gogledd Swindon ayb ayb. Mae'r peth bron yn ddiddiwedd.

Cyhoeddwyd y cynllun i drydaneiddio'r lein gan Gordon Brown yn ystod ymweliad y cabinet a Chaerdydd yn ôl ym Mis Gorffennaf. Fe fyddai'n costio biliwn o bunnau i wireddu ac mae'n anodd peidio credu nad oedd y cyhoeddiad yn drap wedi ei osod yn fwriadol ar gyfer y Ceidwadwyr.

Gyda'r Ceidwadwyr yn seilio eu hymgyrch etholiad ar yr angen i gwtogi ar wariant cyhoeddus a llehai dyled y wlad mae'n ddigon hawdd i Lafur sbino y byddai'r cynllun mewn peryg be bai'r Toriaid yn ffurfio llywdraeth.

Lein swyddogol y Ceidwadwyr yw eu bod yn croesawu'r cynllun ond yn poeni ynghylch o ble y bydd yr arian yn dod. Mae'n lein glyfar sy'n osgoi dweud p'un ai y byddai'r blaid yn bwrw ymlaen a'r cynllun ai peidio.

Heddiw cyhoeddodd "Network Rail" asesiad terfynol o'r prosiect. Yn ol yr asesiad fe byddai'r cynllun yn talu am ei hun o fewn oes y trenau newydd. Mae hynny'n fendith i'r wrthblaid. Mae'r ffaith bod yr achos busnes yn gadarn yn gwneud hi'n llawer haws i'r Ceidwadwyr gefnogi'r cynllun fel "buddsoddiad hanfodol" yn hytrach na gorwariant afradlon.

Yn wyneb hynny ac o gofio'r holl seddi ymylol yna fe fyddai'n rhyfeddod pe na bai'r blaid yn cadarnhau y bydd y cynllun yn cael ei wireddu o dan lywodraeth Geidwadol. Fe fyddai hynny'n newyddion da iawn i Gymru ac yn newyddion da iawn i deithwyr. Ar y llaw arall fe fyddai'n newyddion drwg i Lafur.

*Mae ambell un yn y gwaith wedi gofyn ynghylch ystyr y pennawd. Mae'n ran o hen bennill. Mae Google yn awgrymu nad yw'n gyfarwydd. Mae hynny'n syndod i mi! Mae'r un mor gyfarwydd ac "nid aur yw popeth melyn" i fi. Roeddwn yn meddwl ei fod yn bennill sy'n gyfarwydd i bawb. Ydw i'n anghywir?.

"Bum yn byw yn gynnil,gynnil,
Aeth un ddafad i mi'n ddwy fil,
Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth fy nwy fil yn un ddafad"

Ar y llaw arall, Syr Emyr

Vaughan Roderick | 15:54, Dydd Mawrth, 27 Hydref 2009

Sylwadau (3)

_44802941_44631530.jpgUn rhan o arolwg YouGov sydd heb dderbyn rhyw lawer o sylw yw'r rhannau yn ymwneud a chynyddu pwerau'r cynulliad. Mae'n bosib bod hynny oherwydd bod arolygon eraill wedi mynd dros yr un tir yn gymharol ddiweddar. Rheswm arall yw bod y negeseuon yn arolwg YouGov yn weddol gymysg.

Mae'r arolwg yn awgrymu i ddechrau bod pobol Cymru rili, rili eisiau refferndwm gyda 63% o blaid cynnal un a dim ond 20% yn erbyn.

Y broblem yw bod holi ynghylch refferendwm ynglŷn ag unrhyw bwnc fel gofyn i bobol ydyn nhw'n gwrthwynebu pechod. Ymateb y rhan fwyaf o bobol yw teimlo y dylid cynnal pleidlais ar bwnc os oes 'na bobol eraill yn dymuno cael un. Dyw cefnogi cynnal pleidlais ddim yn gyfystyr a bwriad i bleidleisio'r naill ffordd neu'r llall neu hyd yn oed pleidleisio o gwbwl. Gellir gweld hynny o'r cwestiwn yma.

"Os oedd 'na refferendwm yfory ynghylch rhoi pwerau deddfu llawn i'r cynulliad sut fyddech chi'n pleidleisio?"

Ie; 42
Na;37
Ymatal/ansicr 21%

Ond mae 'na broblem gyda'r ateb yna er bod cwestiwn YouGov yn gyfan gwbwl eglur. Mae 'na gwestiwn arall sy'n gofyn mwy neu lai'r un peth ac yn derbyn ateb gwahanol iawn.

"Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cynulliad gael yr un pwerau a Senedd yr Alban?"

Cytuno/Cytuno'n gryf; 63%
Anghytuno/Anghytuno'n gryf;28%
Ansicr; 9%

Beth sy'n mynd ymlaen fan hyn? Yr unig esboniad fedra'i gynnig yw nad yw pawb yn deall ystyr y cwestiwn fyddai'n cael ei ofyn mewn refferndwm. Os felly fe fyddai rhyw un yn disgwyl i'r gefnogaeth i'r ochor "Ie" gynyddu yn ystod ymgyrch refferendwm, yn enwedig o ystyried yr atebion i un arall o gwestiynau YouGov.

"Pa effaith yr ydych chi'n credu y mae sefydlu'r cynulliad wedi cael ar y ffordd y mae Cymru'n cael ei llywodraethu?"

Wedi gwella ; 55%
Dim gwahaniaeth; 24%
Wedi gwaethygu; 10%
Ansicr 11%

Ar Dachwedd 18fed fe fydd Confensiwn Cymru Gyfan yn cyflwyno ei argymhellion. Y disgwyl yw y bydd Syr Emyr yn argymell cynnal refferendwm cyn gynted a bo modd. Does dim byd yn y pôl yma i newid ei feddwl.

Mae'r canlyniadau llawn yn fan hyn.

Iaith Pawb

Vaughan Roderick | 12:26, Dydd Mawrth, 27 Hydref 2009

Sylwadau (20)

tryweryn.jpgI Gymry Cymraeg oedd yn byw yng nghanol yr ugeinfed ganrif roedd clywed canlyniadau'r cyfrifiad diweddaraf yn brofiad arswydus. Fel cloch y llan yn eich galw i angladd roedd y cyhoeddiadau'n brawf bod cyflwr y Gymraeg yn mynd o ddrwg i waeth.

1951; 36.8%
1961; 28.9%
1971; 26%
1981; 18.9%

Fe wnaeth pethau sefydlogi ar ôl 1981. Doedd y Gymraeg ddim yn ddiogel, yn enwedig yn ei chadarnleoedd, ond o leiaf roedd hi wedi dianc o'r "ski slope" dieflig yna.

Yn 2001 fe newidiwyd y cwestiwn iaith er mwyn cydnabod nad oedd y ffin rhwng bod yn Gymraeg ac yn ddi-Gymraeg yn beth cwbl eglur ac i gymryd i ystyriaeth pobol oedd yn siarad neu'n deall rhyw faint o Gymraeg. Yn ôl y cyfrifiad hwnnw roedd hyd at 28% o boblogaeth Cymru a rhyw fath o grap ar y Gymraeg.

Gadewch i ni droi at arolwg Aber/YouGov. Mae'r canran sy'n dweud eu bod yn rhugl yn y Gymraeg yn 18% tra bod 24% yn dweud eu bod yn medru rhyw faint o Gymraeg. Nawr mae arolygon barn wastod yn cofnodi nifeoredd uwch o siaradwyr Cymraeg na'r cyfrifiad ond mae 42% yn ffigwr anhygoel o uchel. Rhyw 30% yw'r ffigwr arferol. Mae'r un ffenomen wedi ymddangos mewn arolygon barn eraill yn ddiweddar. Er engharifft, yn arolwg BBC Cymru yn gynharach eleni 35% oedd y ffigwr.

Go brin bod sgiliau ieithyddol pobol Cymru wedi newid rhyw lawer yn ddiweddar. Yr hyn sydd wedi newid, o bosib, yw canfyddiad pobol ohonyn nhw eu hun. Mae'n ymddangos bod mwy o bobol yn ystyried ei hun yn Gymry Cymraeg o ryw fath neu yn dymuno cael eu hystyried felly.

Os ydy'r arolygon yn gwyir rydym yn agos iawn at sefyllfa lle mae mwyafrif o bobol sydd wedi eu geni a magu yng Nghyrmu yn ystyried eu hun yn Gymry Cymraeg i ryw raddau ac felly yn ddefnyddwyr posib i wasnaethau Cymraeg. Os ydy'r patrwm yna yn parhau gallai holl ddynamig y ddadl wleidyddol ynghylch yr iaith newid.

Yn sicr fe ddylai ambell i wleidydd ystyried p'un ai ydy colbio'r iaith yn dacteg effeithiol y dyddiau hyn.

Bant a ni

Vaughan Roderick | 08:32, Dydd Mawrth, 27 Hydref 2009

Sylwadau (7)

_44677238_ballotbox_bbc226.jpgMae'n hanner awr wedi wyth ac mae'r cyffion wedi eu cymryd oddi ar ein traed ynghylch arolwg barn Aber/YouGov. Dydw i ddim am atgynhyrchu'r ystadegau i gyd ond mae 'na gymaint o bethau diddorol i drafod mae'n debyg y bydd na fwy nac un post ynghylch hyn yn ystod y dydd heddiw!

Y peth cyntaf sy'n fy nharo i yw cymaint o gawr gwleidyddol yw Rhodri. Mae 63% o'r panel yn credu ei fod yn gwneud gwaith da fel Prif Weinidog a dim ond 19% yn credu ei fod yn gwneud jobyn gwael. Mae hynny'n yn farc o +44% sy'n ffigwr anhygoel i rhyw un sydd wedi bod mewn grym am ddeng mlynedd. Cymharwch hynny a'r -24% y mae Gordon Brown yn ei dderbyn!

Mae marciau rhai o wleidyddion eraill y cynulliad hefyd yn ddiddorol er bod o gwmpas hanner y panel wedi ateb "dim yn gwybod" i'r cwestiynau ynghylch p'un ai y byddai'r gwleidyddion a ganlyn yn brif weinidogion da ar Gymru ai peidio. Mae un gwleidydd pen ac ysgwydd yn uwch na'r gweddill a Carwyn Jones yw hwnnw. Dyma'r sgoriau'r ymgeiswyr i olynu Rhodri fel arweinydd Llafur.

Carwyn Jones +18
Huw Lewis +3
Edwina Hart -1

Gallwch ddisgwyl i bobol Carwyn wneud mor a mynydd o'r canlyniad yna yn enwedig gan fod 24% o bleidleiswyr Llafur yn credu na fyddai Edwina yn brif weinidog da! Mae'n werth nodi hefyd bod Carwyn yn rhyfeddol o boblogaidd ymhlith cefnogwyr Plaid Cymru. Mae 51% o'i chefnogwyr yn credu y byddai Carwyn yn brif weinidog da. Dim ond 44% o gefnogwyr Llafur sy'n credu hynny!

Mae canlyniadau arweinwyr y pleidiau eraill hefyd yn ddiddorol.

Ieuan Wyn Jones +8
Kirsty Williams -2
Nick Bourne -12

Os ydy cefnogwyr Plaid yn dwli ar Carwyn mae cefnogwyr Llafur yn twymo tuag at Ieuan. Roedd 36% o bobol y blaid Lafur yn credu y byddai arweinydd Plaid Cymru'n brif weinidog da. Dim ond 26% oedd yn credu i'r gwrthwyneb.

Does gen i ddim byd llawer i ddweud am y cwestiynau ynghylch bwriadau pleidleisio. Mae'r ffigyrau ynghylch San Steffan wedi bod o gwmpas ers rhai oriau ac mae nhw'n awgrymu bod Cymru mwy neu lai yn dilyn yr un patrwm a'r polau Prydeinig ar lefel seneddol. Mae'r patrwm yn wahanol yn y cynulliad. Dyma'r ffigyrau. Y bleidlais etholaeth yw'r ffigwr gyntaf a'r bleidlais ranbarthol yw'r ail.

Llafur ; 32% 30%
Ceidwadwyr ; 25% 27%
Plaid Cymru; 24% 21%
Dem. Rhydd; 12% 11%
Eraill 7% 12%

Mae hynny'n reit debyg i 2007 gyda Llafur a'i thrwyn ar y blaen a'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cwffio am yr ail safle. Mae patrwm aml-bleidiol y cynulliad yn weddol sefydlog erbyn hyn.

Deng neu hyd yn oed pum mlynedd yn ôl fe fyddai ffigyrau fel 'na wedi ysgwyd dyn. Erbyn hyn maen nhw'n normal. Does dim gobaith cath i unrhyw blaid ennill mwyafrif yn 2011.

Un ystadegyn anhygoel i orffen. Mae 52% o'r panel yn ymddiried yn aelodau'r cynulliad i ymddwyn mewn modd gonest a didwyll. Dim ond 19% sy'n ymddiried mewn Aelodau Seneddol i wneud hynny.

Holwyd 1,078 o oedolion. Hydref 21-23.

Elvis, Tegi a Peter Kellner

Vaughan Roderick | 13:22, Dydd Llun, 26 Hydref 2009

Sylwadau (8)

bookie1.jpg1. Fe fydd Elvis yn cael yn cael ei ganfod yn fyw ac yn iach ym Mhenmachno.

2. Fe fydd 'na brawf pendant o fodolaeth anghenfil yn Llyn Tegid.

3. Fe fydd arolwg barn awdurdodol a chynhwysfawr yn cael ei gyhoeddi ynghylch bwriadau pleidleisio yng Nghymru.

Fe fydd un o'r straeon amhosib yma yn dod yn wir yfory. Y lleiaf tebygol ohonyn nhw i gyd, sef rhif tri, sydd yn mynd i gael ei gwireddu. Mae hyn yn fanna o'r nefoedd i newyddiadurwyr a gwleidyddion fel ei gilydd!

Nawr mae'r peth wedi clymu lan mewn mwy o embargos nac oedd 'na yn erbyn De Affrica yn nyddiau apartheid ond mae 'na un neu ddau o bethau rwy'n awyddus i gael allan o'r ffordd cyn cychwyn.

Yn gyntaf diolch i'r academyddion hynny sydd wedi gwneud i'r peth ddigwydd. Diolch iddyn nhw hefyd am lunio'r union gwestiynau oedd angen eu gofyn. Fe wnewch chi synhwyro bod 'na "ond" yn dod!

Dydw i ddim yn credu y byddai Roger Scully na Richard Wyn na neb arall yn anghytuno a hyn. Mae cael un arolwg gan un cwmni yn wych. Fe fyddai pethau hyd yn oed yn well pe bawn yn cael hanner dwsin o arolygon gan wahanol gwmnïau. Ni fydd modd gwybod os oes ydy'r pôl yma yn "outlier" (ac mae unrhyw arolwg yn gallu bod) heb arolygon eraill i ddefnyddio fel cymhariaeth. MWY! Mae angen mwy! Mae'r polau 'ma fel losin. O gael un mae'r awch am un arall bron yn ormod!

Gair yn olaf am fethodoleg YouGov y cwmni wnaeth gynnal yr arolwg. Mae system y cwmni yn wahanol iawn i'r dull traddodiadol o gynnal arolygon lle mae'r cwmnïau'n cysylltu â phobol newydd bob tro. Yn lle hynny mae YouGov yn talu panel o bobol i ateb cwestiynau ar y rhyngrwyd gyda rhyw faint o waith atodol yn mynd ymlaen i gymhwyso'r canlyniadau a natur y boblogaeth gyfan.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i ac eraill yn amheus iawn am y dull yma o bolio pan ddechreuwyd ei ddefnyddio rhyw ddeng mlynedd yn ôl. Ond prawf y pwdin yw ei flas ac mae canlyniadau YouGov cystal os nad gwell na chanlyniadau cwmnïau sy'n defnyddio dulliau traddodiadol.

Gwerth Pob Ceiniog

Vaughan Roderick | 19:52, Dydd Sul, 25 Hydref 2009

Sylwadau (0)

collection_box_bbc_226170.jpgFaint mae'n costi i ymladd etholiad? Nid cyfeirio at yr ymgyrch ar lefel genedlaethol ydw i fan hyn ond at yr ymgyrchu lleol ar lefel etholaeth.

Mae'r ateb yn dibynnu ar y sefyllfa wleidyddol yn yr etholaeth wrth gwrs. Mewn etholaeth sy'n ddiogel i blaid neu un lle nad oes ganddi obaith ennill fe wnaiff rhyw £2,000 y tro. Mae hynny'n ddigon i dalu am argraffu un daflen i'w dosbarthu gan y Swyddfa Bost fel prawf bod y blaid yn "cymryd y peth o ddifri".

Mae ymgyrch go iawn mewn etholaeth y mae gobaith ei hennill, neu beryg ei cholli, yn fater arall. Mae'r rheolau cyfreithiol ynghylch uchafswm y gwariant yn gymhleth ac maen nhw wedi newid ar gyfer etholiad 2010 ond ychydig iawn o ymgyrchoedd yng Nghymru sy'n gwario hyd at yr uchafswm cyfreithiol.

O ofyn o gwmpas y gred yw bod ymgyrch ymosodol effeithiol yn costio rhwng £15,000 a £20,000. Mae ymgyrch amddiffynnol ychydig yn rhatach oherwydd effaith y lwfans gyfathrebu a gallu deiliad y sedd i sicrhau cyhoeddusrwydd a sylw yn y wasg leol. £10-15,000 yw'r ffigwr sy'n cael ei chrybwyll gan amlaf.

Rwyf wedi sgwennu o'r blaen ynghylch y ffrynt eang iawn fydd yn bodoli yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf gyda mwy na dwbl y nifer arferol o etholaethau'n gystadleuol. Fe fydd angen tomen o bres i redeg ymgyrchoedd ar lawr gwlad felly.

Dyw hynny ddim yn broblem i'r Ceidwadwyr sy'n morio mewn arian ar hyn o bryd. Dyw hi ddim yn llawer o broblem i'r Blaid Cymru na'r Democratiaid Rhyddfrydol chwaith sydd â nifer cyfyngedig o seddi targed. Fe fydd y ddwy blaid felen yn ceisio gosod sylfaen ar gyfer 2011 mewn ambell i le ond mater o ddewis nid o reidrwydd yw hynny.

Mae hynny'n gadael y Blaid Lafur a chythraul o broblem. Mae'n bosib dadlau ynghylch yr union nifer a'r union seddi ond mae fy radar gwleidyddol i yn awgrymu y bydd yn rhaid i Lafur ariannu ymgyrchoedd llawr gwlad go iawn mewn rhyw ugain o etholaethau. Dim ond un o'r rheiny, sef Blaenau Gwent, sy'n ymgyrch ymosodol.

Gyda'r pleidiau lleol mewn sawl ardal a'u coffrau'n gymharol wag fe fydd yn rhaid i o leiaf peth o'r arian dod o'r canol. Y teimlad rwy'n cael yw bod aelodau llawr gwlad Llafur yn barod i gwffio. Dydyn nhw ddim yn barod gweld Llafur yn colli heb gythraul o ffeit ond nid yw'n filwr heb fwled ac mae'n rhaid i rywun dalu am y bwledi.

Mae'r fathemateg yn ddigon syml, Os oes 'na ugain etholaeth angen o gwmpas £15,000 yr un mae'n rhaid dod o hyd i £300,000 o rywle. Gyda'r ymgyrch canolog yn llyncu pres a fydd gan Lafur swm o'r fath? Gyda'r blaid eisoes yn ddwfn mewn dyled- rwy'n amheus.

Mae hynny yn mynd a ni at graidd y broblem. Yr unig ffordd i arbed arian yw trwy ildio tir. Mae'n bosib y byddai'n peth call i ddweud "anghofiwch am Ogledd Caerdydd, Blaenau Gwent ac Aberconwy fe wnawn i wario'n pres ym Mhen-y-bont a De Clwyd". Peth call, efallai, ond fe fyddai'n gyfaddefiad hefyd bod yr etholiad, i bob pwrpas, eisoes wedi ei golli.

Un o'r pethau mwyaf diddorol dros y misoedd nesaf fydd ceisio canfod yn lle yn union y mae Llafur yn torri ei ffosydd a ble y mae'r pleidiau eraill yn gosod eu magnelau. Mae'n bosib y byddwn yn gallu synhwyro'n well bore fory.

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 11:01, Dydd Sul, 25 Hydref 2009

Sylwadau (1)

_41092959_phish-bbc203.jpgFe wnes i anghofio postio ddydd Gwener i'ch atgoffa am y podlediad. Mae'n cynnwys "Dau o'r Bae" fel arfer ynghyd a sgwrs ac Archesgob Cymru ynghylch y cysylltiad rhwng crefydd a gwleidyddiaeth. Mae modd gwrando neu danysgrifio i'r podlediad trwy wasgu'r botwm ar y dde ac mae 'na restr lawn o bodlediadau Cymraeg y BBC yn fan hyn.

Fydd 'na ddim CF99 yr wythnos hon, gyda llaw, oherwydd hanner tymor y cynulliad. Dyw hynny ddim yn effeithio ar y blog. Yn wir fe ddylai hon fod yn wythnos ddifyr i flogio. Un gair. PÔL!!!!

Dyma gasgliad o ddolennau difyr gan gychwyn gyda "blog wars" yng Ngwynedd.

Darllenwch Gwilym Euros yn gyntaf ac yna ymateb Blog Menai.

Os ydy pethau mynd yn waeth rhyngddyn nhw gallai'r dolennau nesaf fod o gymorth! Mae 'na rybudd o anweddustra ynghylch y rhain. Mae angen stumog gref!

Sut mae rhegi yn Saesneg (Esquire), Cymraeg (Rhegiadur) a Chernyweg.
Rwy'n dwli ar y ffaith mai "mollethi" yw'r gair Cernyweg am regi!

Sut mae dysgu iaith ar "Twitter"

Trump's director learning Gaelic from Scots singer STV

Fedra i ddim yr wrthsefyll y demtasiwn i gyflythrennu. Hanes yr hyrliwr hoyw.

Why hurler's coming out is so crucial for gay pride Irish Independent

Mae'n werth cofio weithiau bod 'na lefydd lle mae'r Saesneg yn iaith leiafrifol.

A qualified win for minority language rights National Post (Canada)

Maes-e
Blogiadur
Golwg 360

Rialtwch

Vaughan Roderick | 15:40, Dydd Sadwrn, 24 Hydref 2009

Sylwadau (1)

cinema_projector203.jpgGan fy mod wedi crybwyll problemau "Maes-e" rhai dyddiau yn ôl fe ddylwn i ddweud bod y safle wedi dychwelyd. Hwre! Galwch draw ond dim cyn gwylio'r ffilmiau!

Dydw i ddim yn gwybod pam (y parti cyd-adrodd yna, o bosib) ond mae'r awgrymiadau'n llifo i fewn ar hyn o bryd. Dyma rhai o'r goreuon.

Gan ein bod wedi bod yn trafod ieithoedd cynhenid yr ynysoedd hyn yn ddiweddar mae'n ddifyr clywed bod cwmni cyfieithu o Lundain yn hysbysebu am gyfieithwyr i drosi Saesneg/Sgoteg Glasgow i Saesneg safonol. Gellir gwylio adroddiad STV ynghylch y stori yn fan hyn. A nawr dyma gwrs wlplan...

Diolch i Andy am honna ac i Dewi am yr enghraifft yma o "Doric"

Fe gawn i ychydig o Aeleg nesaf - rhan o raglen grefyddol ar BBC Alba. Na, fedra i ddim esbonio y set rhyfedd yn llawn creaduriaid Doctor Who a does dim clem da fi beth mae'r cyflwynydd yn gwisgo o gwmpas ei wddw. Tei? Scarff? Tarff?

Un iaith fach arall i chi o nid nepell i ffwrdd. Dyma'r newyddion yn Ffaroeg os mai dyna yw'r term cywir am iaith Ynysoedd y Ffaro.

Caewch y drysau...

Vaughan Roderick | 11:56, Dydd Gwener, 23 Hydref 2009

Sylwadau (3)

van226.jpgDydw i ddim wedi blogio cyn hyn ynghylch y busnes BNP yma. Mae bron popeth sy 'na i ddweud wedi cael ei ddweud ond efallai bod 'na werth mewn cymryd cam yn ôl ac edrych ar hanes a gobeithion y dde eithafol yng Nghymru.

Mae'n gamgymeriad i feddwl na allai'r garfan honno gael llwyddiant etholiadol yng Nghymru. Yn ôl yn 1931 fe lwyddodd un o gefnogwyr Syr Oswald Mosley i ennill dros ddeg mil o bleidleisiau ym Merthyr, er mai yn nyddiau'r "New Party" ac nid y BUF oedd hynny.

Yn fwy diweddar fe ddaeth y BNP o fewn rhyw fil o bleidleisiau i ennill sedd cynulliad yn rhanbarth y Gogledd yn 2007. O'r Gogledd Ddwyrain y daeth y rhan fwyaf o bleidleisiau'r blaid a theg yw awgrymu mai adlewyrchiad o gryfder y blaid yng Ngogledd Orllewin Lloegr oedd y bleidlais honno.

Mae pleidlais y blaid yn yr etholiadau Ewropeaidd eleni yn dangos patrwm hynod ddiddorol. Unwaith yn rhagor fe wnaeth y blaid yn gymharol dda yn y Gogledd Ddwyrain gan ennill dros fil o bleidleisiau yn Alun a Glannau Dyfrdwy, De Clwyd a Wrecsam.

Mae 'na dair ar ddeg o etholaethau eraill lle dderbyniodd y blaid dros fil o bleidleisiau sef Pen-y-bont, Castell Nedd, Dwyrain Abertawe, Gogledd Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Pontypridd, Bro Morgannwg, Blaenau Gwent, Caerffili, Islwyn, Gorllewin Casnewydd, Dwyrain Casnewydd a Thorfaen.

Mae'n ddiddorol bod yr etholaethau yna (ac eithrio Bro Morgannwg, efallai) i gyd yn rhai trefol. Mae'n fwy diddorol fyth nad oes 'na unrhyw gysylltiad amlwg rhwng cryfder y gefnogaeth i'r blaid a'r niferoedd o bobol o gefndiroedd ethnig yn yr etholaethau unigol.

Fe fethodd y BNP gyrraedd y mil yng Ngorllewin a Chanol Caerdydd, er enghraifft, tra'n llwyddo ym Mlaenau Gwent.

Dydw i ddim yn dweud nad yw hil yn ffactor yn y gefnogaeth i'r blaid ond mae 'na elfen arall hefyd. Mewn un ystyr mae pleidlais BNP yn bleidlais "twll eich tinau chi i gyd" a dyw hi ddim yn syndod efallai bod y blaid wedi gwneud yn dda yn sgil y sgandal treuliau.

Efallai y dylai rhai o'r gwleidyddion sydd wedi bod yn uchel eu cloch yn eu beirniadaeth o'r BBC ystyried ai eu trachwant ariannol nhw wnaeth osod y gorfforaeth yn y sefyllfa o orfod ystyried y gwahoddiad yn y lle cyntaf.

Iaith Pwy?

Vaughan Roderick | 19:35, Dydd Iau, 22 Hydref 2009

Sylwadau (12)

question_mark_203_203x152.gifSawl iaith gynhenid sy na yn yr ynysoedd hyn ar wahân i Saesneg a'r ieithoedd Celtaidd?

Mae 'na fwy na mae'r rhan fwyaf ohonom yn meddwl ac mae hynny cyn i ni ddechrau trafod pethau fel "Ulster Scots"!

Pa iaith, er enghraifft, sydd yn cael ei siarad gan ychydig dros fil o bobol, y rhan fwyaf yn oedrannus a sydd a'i bywyd yn troi o gwmpas eisteddfod flynyddol? Mae'r iaith honno ar fin cael ei dysgu yn yr ysgolion am y tro cyntaf yn ei hanes.

Pa iaith yw hi? Mae'r ateb yn fan hyn ac mae'r stori am yr ymdrech i'w hachub yn f'ama.

Yn fwy ddiddorol byth mae'r ymdrech i ddiogelu'r iaith yn digwydd ar yr un pryd ac ymdrech i symud tuag at annibyniaeth. Gellir darllen am hynny yn fan hyn.

Torri Glo Mân...

Vaughan Roderick | 16:31, Dydd Iau, 22 Hydref 2009

Sylwadau (0)

_41263766_tower_bbc_203.jpgDiddorol yw gweld yr ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth Llafur yn gweithio mor galed i ennill calonnau glowyr y de. Dyna i chi'r datganiad yma gan ymgyrch Edwina.

"Welsh Folk Hero Tyrone O'Sullivan Joins Edwina Hart's 'Team Wales'"

Nawr mae Tyrone yn "catch" go dda ond efallai bod penderfyniad arweinwyr yr NUM i gyd-enwebu Carwyn yn bwysicach. Dyna fydd yr argymhelliad i'r oddeutu pum mil o lowyr sydd yn ne Cymru...

Arhoswch eiliad!!! Oes 'na bum mil o lowyr yn ne Cymru? Ydyn nhw'n cuddio mewn rhyw bwll dwfn yn rhywle? Ble bynnag maen nhw, mae'n rhaid eu bod nhw'n bodoli. Wedi'r cyfan mae rhyw un yn talu'r lefi gwleidyddol. Mae 'na ddigon ohonyn nhw hefyd i gyfiawnhau brwydro dros eu cefnogaeth.

Ond mae 'na reswm arall am y frwydr i sicrhau cefnogaeth y grŵp yma o weithwyr. Mae nifer sylweddol o aelodau unigol y blaid yn gyn-lowyr neu'n bobol a chysylltiad agos a'r diwydiant. Iddyn nhw gallai barn yr Undeb a barn Tyrone fod yn ddylanwadol. Mae'r ffaith na lwyddodd Huw i sicrhau cefnogaeth y naill na'r llall yn ergyd i ymgeisydd sy'n portreadu eu hun fel y crwt o'r cymoedd.


Trioedd Ynysybwl

Vaughan Roderick | 14:14, Dydd Iau, 22 Hydref 2009

Sylwadau (1)

_42553407_snow1.jpg Mae Blog Menai wedi nodi'r ffenomen ryfedd ar flogiau Cymraeg mai'n aml iawn y deunydd talcen slip sy'n denu'r sylw. Mae'r stwff dadansoddol, sy'n gallu cymryd llwyth o waith paratoi, ar y llaw arall yn aml yn denu cymaint o sylw a'r ffôn yna'n canu yn swyddfa gwynion Carlsberg.

Enghraifft o hynny yw post ddoe ynghylch Plaid Cymru a Chwm Cynon. Rwy'n fodolon ildio i'r galw a chyflwyno (am un diwrnod yn unig) Trioedd Ynysybwl. Cyn i unrhyw un ddweud, rwy'n gwybod nad yw Ynysybwl yn dechnegol yng Nghwm Cynon ond mae'n ddigon agos i fi!

1. Mae gan Gwm Cynon rhan ddiddorol a phwysig yn hanes Cymru ar mae'r cyfan wedi ei groniclo ar wefan rhagorol Cymdeithas Hanes Cwm Cynon. Yno cawn ddysgu mai yn y cwm y cynhaliwyd y Gymanfa Ganu a'r Eisteddfod Genedlaethol gydnabaddedig gyntaf. Mae'r gwefan hefyd yn nodi hyn;

"1872-73: aeth Griffith Rhys Jones (Caradog) â Chôr Mawr Deheudir Cymru i'r Palas Grisial yn Llundain, gan ddechrau'r broses araf o adennill hunan-barch i'r Cymry yn dilyn Brad y Llyfrau Gleision (1842) ac oes o wawdio'u hiaith a'u cymeriad."

Dyw'r gwefan ddim yn nodi nad oedd Caradog yn arwr i bawb. Ef oedd sylfaenydd bragdy Trelái. "Ely Beers" oedd un o'r pedwar cwmni bragu fu'n torri syched gweithwyr y de am ganrif a mwy. Go brin y byddai'r geiriau Ely, Hancocks, Brains na Rumney yn cael eu hyngan yn....

2. ...Capel Bethesda Abercwmboi. Mae ambell i sylw wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y capel hwn yn hanes Plaid Cymru. Sefydlwyd y gangen gyntaf o Blaid Cymru y tu fas i Sir Gaernarfon yn ei festri yn 1928. Mae Bethesda yn gapel arbennig o hardd a hynny yn rhannol oherwydd ymdrechion ei ysgrifennydd, Aled Morris. Fel gweithwyr eraill y Phurnacite roedd Aled yn rhan o'r streic fawr yn 1984-85. Treuliodd y flwyddyn honno yn adnewyddu ac ail-addurno'r capel er mwyn yn sicrhau na fyddai'n wynebu un ffawd a chymaint o gapeli Cymraeg eraill y cymoedd.

3. Mae Plaid Cymru wedi gobeithio cipio Cwm Cynon ar sawl achlysur ond wedi methu gwneud. Fe enillodd y blaid y bleidlais ranbarthol yn yr etholaeth yn etholiad cynulliad 1999 gan golli'r bleidlais etholaethol. Serch hynny, mwy fyth dwi'n meddwl am y peth os oeddwn yn chwilio am etholaeth i roi "outside bet" i Blaid Cymru arni yn etholiad 2011 Cwm Cynon fyddai'r un.

Bonws bach; un o gymeriadau mwayf lliwgar Cwm Cynon oedd Harri Webb y bardd a meistr y cwpled bachog. Dyma fy ffefryn;

"When Christ was hanged in Cardiff jail
Thank goodness said the Western Mail"

Taro Tant

Vaughan Roderick | 12:11, Dydd Iau, 22 Hydref 2009

Sylwadau (0)

clarkspie200.jpgDydyn nhw ddim o dragwyddol bwys ar ddiwedd y dydd ond mae rhai o'r undebau llai wedi bod yn trafod yr arweinyddiaeth Llafur a dewis eu ffefrynnau.

Fe fydd hi'n ergyd i Edwina, fel cyn aelod o gerddorfa ieuenctid Cymru, bod Undeb y Cerddorion wedi dewis cefnogi Carwyn.

Mae'n llai o syndod efallai bod y Cwnsler Cyffredino wedi denu cefnogaeth Undeb y Pobwyr. Pwy wnaeth fwyta gyd o'r peis?

Yn anffodus does dim pleidlais gan Undeb y Pobwyr. Rwy'n sicr y bydd Carwyn yn falch o gael wobr gysur ganddyn nhw. Unrhyw beth i gael crwsten!

Trwy yr afon yn droednoeth

Vaughan Roderick | 15:34, Dydd Mercher, 21 Hydref 2009

Sylwadau (11)

_44613805_whisky4_226.jpgMae Marc Phillips wedi penderfynu ymgeisio am enwebiad seneddol Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Doedd ei enw ddim wedi croesi fy meddwl ond fel un sydd wedi sefyll dwywaith yn Llanelli byswn i'n tybio bod siawns go lew da fe.

Ar hyn o bryd mae Marc yn bennaeth Cymreig Plant Mewn Angen y BBC ac yn cynrychioli Plaid Cymru ar Gonfensiwn Syr Emyr. Mae Pudsey a Syr Emyr ill dau wedi addo aros yn gyfan gwbwl niwtral yn ystod yr ornest!

Roedd 'na gyfnod lle'r oedd Plaid Cymru yn cael ei gwatwar fel "Plaid Gwynedd". Hwyrach y byddai "Plaid Cynon" yn fwy addas y dyddiau hyn.

Yn y cwm hwnnw mae gwreiddiau Marc. Mae cyn brif weithredwr y blaid, Dafydd Trystan o'r un ardal. O Benderyn cartref y chwisgi y mae fe'n dod. Yng Nghwmaman ac Aberdâr y magwyd Rhuanedd Richards a Simon Thomas, dau sbad Plaid Cymru. Mae Morgan Lloyd ei phennaeth cyfathrebu yn dod o Lwydcoed.

Faint o bobol Cwm Cynon sy'n uchel yn y blaid? "Gormod" oedd ateb gwatwarus Ieuan!

Mae 'na ambell i un wedi llwyddo i ddianc o grafangau'r maffia. Mae Alun Davies, wnaeth sefyll i'r blaid yn y cwm yn un. Mae un arall i'w weld yn eistedd rhwng Rhuanedd a Dafydd yn eu llun ysgol. Ioan Gruffudd yw hwnnw. Ydy e'n gwybod cymaint mae fe'n colli mas? Beth sydd gan Hollywood i gynnig sy'n well na desg yn Nhŷ Gwynfor neu Tŷ Hywel?

*ON; Mae rhywun newydd fy atgoffa mae un o gwm Cynon yw Syr Emyr hefyd! Mae 'na rywbeth yn y dŵr mae'n rhaid!

**OON; Mae rhai wedi gofyn am y pennawd. Llinell gyntaf "Cwm Cynon yn yr Haf" gan Hergest yw e. Fe safodd y cyfansoddwyr Delwyn Sion fel ymgeisydd i Blaid Cymru... Digon yw Digon!

***OOON; Oce, Gerald Holtham hefyd.

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 14:35, Dydd Mercher, 21 Hydref 2009

Sylwadau (0)

3701488512_265661a12b_m.jpgMae nifer o bobol wedi gofyn i mi beth sydd wedi digwydd i Faes-e. Dydw i ddim yn deall pam maen nhw'n gofyn i fi ond o'r hyn dw i'n ddeall mae'r maes yn symud gweinydd ac fe fydd yn dychwelyd maes o law.

Os oes unrhyw un yn gwbod mwy mae croeso i chi adael sylwad!

Yn absenoldeb y "maes" dyma eisteddfod bentref o ddolenni diddorol neu efallai y dylwn i ddweud "Mod" o ddolenni!

Gaels just want to have fun HeraldScotland

Peryglon Teledu byw...

Presenter sorry for loopy polly moment Australian

Dydw i erioed wedi deall pam y mae pobol yn fodlon talu ffortiwn am drowsus neilon neu bâr o daps oherwydd bod 'na dair streipen ar eu hochrau. Ar y llaw arall mae stori'r ddau frawd wnaeth sefydlu Adidas a Puma yn rhyfedd ar y naw.

Adidas v Puma: the bitter rivalry that runs and runs Guardian

Visitors flock to open day commemorating Welsh-English battle
Leader

Ar ei flog mae Glyn Davies yn cwyno fy mod wedi rhoi'r gorau i gyhoeddi rhai o berlau lembit o'r Daily Sport. Oce, Glyn jyst i ti.

THERE was a stir in Cornwall this week when anti-student graffiti appeared. Apparently, it was scrawled by a group called the Cornish Republican Army who want Cornwall to be independent from England and don't like new flats being given to students, instead of local folk. No one knows if the Cornish Republican Army -- or CRA -- has any real support, or even exists! Some claim CRA members get training and funds from other terrorist groups, others reckon it's just a clever hoax and their boss might as well be the Loch Ness monster. I'm not keen on Cornish independence -- it would make scrumpy cider a foreign beverage. And it would mean Sport stunna Marlena Lewis from Cornwall would need a passport to get her Cornish pasties into this paper!

Maes-e
Blogiadur
Golwg 360

Rialtwch- Eisteddfod Genedlaethol China

Vaughan Roderick | 03:09, Dydd Mercher, 21 Hydref 2009

Sylwadau (3)

Rwy'n ceisio safio'r ffilmiau ar gyfer y penwythnos. Roedd hon yn yn rhy dda i ddal yn ôl!

Blydi cydadrodd! Ai dyna yw'n cyfraniad i'r byd? Fe gewch chi weithio allan beth yn union oedd y digwyddiad!

Cod da Vinci

Vaughan Roderick | 15:19, Dydd Mawrth, 20 Hydref 2009

Sylwadau (1)

da_vinci_leonardo.jpgFe fyddai rhywun yn credu y byddai aelodau cynulliad y gogledd wrth eu boddau a'r newydd fod Prifysgol Bangor yn gobeithio agor ei chanolfan gelfyddydau a gwyddorau newydd yn 2012.

Nid felly mae pethau a nid dim ond yr enw siwdo-eidalaidd "Canolfan da Vinci" sydd wedi eu cythruddo. Yng ngeiriau un "does gen i ddim ffydd ynddyn nhw". Y "nhw" yw awdurdodau'r Brifysgol a sail yr amheuon yw'r hyn ddigwyddodd i Theatr Gwynedd.

Y Brifysgol oedd yn berchen ar adeilad y Theatr ond roedd yn cael ei rhedeg gan fwrdd annibynnol. Yn ôl un ddylai wybod dangosodd awdurdodau'r coleg fawr o ddiddordeb yng ngwaith y Theatr nac unrhyw ymroddiad iddi.

Dyw'r sgeptigiaid yn y Bae ddim yn credu bod panjyndryms Bangor yn sydyn wedi datblygu diddordeb ysol mewn cyflwyno'r celfyddydau i drigolion lleol. Yn eu barn nhw ffordd o gael llond bwced o bres cyhoeddus yw'r theatr newydd. Y gwir bwriad yw datblygu adeilad a fydd o lawer mwy o werth i'r Brifysgol a'i myfyrwyr nac i bobol y cylch a'r theatr broffesiynol yng Nghymru.

Mae Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn enghraifft ardderchog o'r ffordd y mae coleg yn gallu datblygu canolfan sydd o bwys cenedlaethol ac yn gaffaeliad i'w hardal. Mae 'na fwy nac un aelod cynulliad sy'n amau nad canolfan felly fydd Canolfan Dan Brown da Vinci. Maen nhw'n benderfynol o beidio gadael i hynny ddigwydd.

Roedd pobol arfer dweud bod y "Coleg ar y Bryn" wedi adeiladu ar dir uchel er mwyn i'r penaethiaid gallu edrych i lawr ar bawb o'i gwmpas. Yn ôl rhai dyw pethau ddim wedi newid!

Bajyrwatch

Vaughan Roderick | 13:28, Dydd Mawrth, 20 Hydref 2009

Sylwadau (0)

_1109309_badger_bbc_150.jpgRoedd nifer o aelodau'r Gogledd yn hwyr yn cyrraedd y cynulliad heddiw oherwydd problemau gyda gwasanaeth trenau'r Gerallt Gymro.

Beth oedd y broblem? Mae'n debyg bod y trên wedi taro mochyn daear.

Yn groes i'r gred cyffredinol nid Elin Jones oedd yn gyrru ac nid protestio yn erbyn y cynllun difa oedd y creadur druan!

Llwyfan Llawn

Vaughan Roderick | 10:23, Dydd Mawrth, 20 Hydref 2009

Sylwadau (4)

theatre_masks_203x152.jpgDoeddwn i ddim yn gwybod, onest a dydw i ddim yn mynd i hawlio'r peth fel buddugoliaeth i'r blog!

Mae'r llywodraeth newydd gyhoeddi cymhorthdal o £15 miliwn tuag at y gost o godi canolfan gelfyddydau newydd ym Mangor.

Mae hynny ar gyfer y flwyddyn 2010-2011. O'r diwedd! Ond oedd angen cau Theatr Gwynedd yn y cyfamser?

Trwy gyd-ddigwyddiad bues i'n sgwrsio bore 'ma a Judith Isherwood, pennaeth Canolfan y Mileniwm sy'n gadael am Awstralia ddiwedd yr wythnos hon.

Buodd hi'n son am y problemau oedd yn wynebu'r ganolfan cyn iddi agor ac fe dynnodd gymhariaeth ddiddorol rhwng Cymru ac Awstralia. "Gwlad y medra" go iawn oedd Awstralia meddai lle'r oedd pawb yn ystyried popeth yn bosib. Mae pethau'n newid yng Nghymru, meddai, ond yn rhy aml yn y gorffennol mae pobol wedi chwilio am resymau neu esgusodion i beidio gwneud pethau.

Ta beth, fe fydd Judith yn cymryd yr awenau yng nghanolfan gelfyddydau fwyaf Awstralia ym Melbourne. A fydd 'na gydweithio rhwng y ganolfan honno a chanolfan Caerdydd? Dyw Judith ddim am ddweud gormod ond mae 'na rhywbeth ar y gweill- rhywbeth sy'n ymwneud a'r Urdd a Chapel Cymraeg Melbourne. " Cysylltiad Methodistiaid Calfinaidd Talaith Victoria- the Opera" efallai!

Llwyfan Gwag

Vaughan Roderick | 22:20, Dydd Sul, 18 Hydref 2009

Sylwadau (4)

_45965027_dsc03570.jpgMae 'na erthygl ddiddorol iawn draw ar Wales Home ynghylch moderneiddio adeiladau'r celfyddydau yng Nghymru ond mae'n cynnwys gythraul o "non-sequitur".

Mae'r erthygl yn cynnig tair enghraifft o'r broses o foderneiddio sef cynlluniau Sherman Cymru a Chapter yng Nghaerdydd a Theatr Gwynedd ym Mangor.

Mae'r erthygl yn dweud hyn am y cynlluniau ym Mangor. "The plans would, according to the university, improve arts facilities for the whole community and include a theatre, lecture theatres, exhibition spaces, bar and cafe." Sylwch ar y gair "would". Mae brics a morter i'w gweld yng Nghaerdydd dim ond addewidion a geiriau sy 'na ym Mangor.

Fel mae'n digwydd roeddwn i'n aelod o fwrdd rheoli Chapter am flynyddoedd yn ystod yr union gyfnod y paratowyd y cynlluniau i'w hail ddatblygu. Reit ar gychwyn y broses cytunwyd ar rai egwyddorion sylfaenol. Yn eu plith roedd rhain;

1. Ni fyddai'r gwaith yn dechrau cyn i'r adnoddau angenrheidiol gael eu sicrhau.

2. Ni fyddai'r ganolfan yn cau am unrhyw gyfnod sylweddol o amser.

3. Fe fyddai unrhyw rhaglenni celfyddydol nad oeddynt yng gallu cael eu cynnal yn y ganolfan yn ystod yr ail-ddatblygu yn cael eu hadleoli i lefydd eraill yn y brifddinas.

Fe fydd y Chapter "newydd" yn agor yfory ar ôl deunaw mis o waith adeiladau. Mae cyfanswm y dyddiau pan yr oedd y ganolfan gyfan ar gau yn llai nac wythnos.

Mae cynlluniau Sherman Cymru yn adlewyrchu'r un egwyddorion er y bydd yr adeilad yn cau am gyfnod penodedig. Mae'r sefyllfa'n cael ei esbonio ar wefan y Theatr.

"Bydd y drysau'n cau ar adeilad presennol y Sherman ym mis Ionawr 2010 ar gyfer y cyfnod adnewyddu, yn dilyn cynhyrchiad Nadolig y Sherman yn 2009, sef A Christmas Carol. Bydd Sherman Cymru yn symud i swyddfeydd dros dro yng Nghaerdydd ac yn parhau i gynhyrchu a theithio gwaith theatrig ledled y DU, a hefyd yn parhau â'r gwaith Dysg ac Ymgysylltu."

Barn bwrdd Chapter a bwrdd Sherman Cymru oedd y byddai cwtogi ar raglenni'r naill theatr neu'r llall yn ystod y broses ail-adeiladu yn beth cyfan gwbwl annerbyniol a hurt. Fe fyddai'n cymryd blynyddoedd i ailadeiladu cynulleidfaoedd a hynny, cofiwch, mewn ddinas lle mae 'na hen ddigon o ganolfannau celfyddydol eraill.

Yn y cyfamser mae Theatr Gwynedd, yr unig theatr ym Mangor a'r theatr bwysicaf yng Ngogledd Orllewin Cymru yn dal i bydru. Dim ond nawr, bron i flwyddyn ar ôl i'r Theatr gau, y mae rhaglen gelfyddydol i Fangor wedi cael ei chyhoeddi.

Hyd yn oed os oedd 'na rhyw rheswm dros gau'r adeilad heb yn gyntaf sicrhau'r arian ar gyfer ail-ddatblygu pam ar y ddaear y cafodd y rhaglen ei dileu a'r gwefan ei gau? Mae'n ymddangos bod Cyngor y Celfyddydau yn talu i ddiogelu enw'r gwefan. Pam beidio cynnwys dolenni i Galeri, Venue Cymru, Theatr Clwyd ac eraill felly? Yn lle hynny ceir hyn;

"Mae Theatr Gwynedd wedi cau am byth, os am fanylion am weithgareddau celfyddydol yn yr ardal cysylltwch â Cyngor Celfyddydau Cymru: 01492 533440 / e-bost gogledd@celfcymru.org.uk"

Mae'n cymryd degawdau i feithrin cynulleidfaoedd ar gyfer y celfyddydau byw. Oni ddylid gwneud rhyw ymdrech i ddiogelu cynulleidfa Theatr Gwynedd ar gyfer y dyfodol? Ydy hynny'n ormod i ddisgwyl?

Mae pobol wedi ceisio esbonio'r sefyllfa i mi ond, sori, dydw i ddim yn credu bod problemau Theatr Gwynedd yn waeth na'r rhai oedd yn wynebu Chapter na'r Sherman. Yr unig wahaniaeth, hyd y gwelaf i, oedd diffyg ewyllys ym Mangor a'r awydd gan rai i gael gythraul o gaffi!

Sori eto, ond i fi mae diffyg Theatr ar Ffordd Deiniol yn fwy o broblem na diffyg "Starbucks" yn y Theatr honno!

Rialtwch

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Sul, 18 Hydref 2009

Sylwadau (1)

_42302244_burton1977_416_bbc.jpgFe ddigwyddodd rywbeth rhyfedd gyda "Rialtwch" wythnos ddiwethaf.

Fe wnes i gynnwys dolen i gyfweliad hanner awr gyda Richard Burton. Roedd y peth wedi bod ar safle'r "New York Times" am rai misoedd. Cwpwl o ddyddiau wedyn wnaeth y stori yma ymddangos yn y "Western Mail"

"FORGOTTEN footage of Richard Burton has been unearthed on the 25th anniversary of his death, showing the screen legend revealing a wealth of behind-the-scenes Hollywood tittle-tattle."

Dydw i ddim yn beirniadu'r papur. Rwy'n cicio fy hun na wnes i feddwl wneud mwy am y peth fy hun! Serch hynny, fe fyddai "credit" neu "hat-tip" i "Obell" wnaeth dynnu fy sylw at y cyfweliad wedi bod yn neis! Ta beth dyma Richard Burton yn canu (neu'n siarad) y gân wnaeth roi enw ar gyfnod yng ngwleidyddiaeth America.

Nid fi yw'r newyddiadurwr cyntaf i fethu troi ceiniog o stori ynghylch Richard Burton, gyda llaw. Am flynyddoedd Ceri Garnon oedd hunan-liwtiwr Cymraeg y BBC yn Abertawe. Roedd Ceri yn weinidog a chan wisgo'r het yna fe wnaeth dorri'r newydd am farwolaeth Richard Burton i'r teulu ym Mhont-rhyd-y-fen. Fe fyddai Ceri wedi gallu gwneud ffortiwn trwy werthu'r stori ond fe wnaeth e ddewis peidio gwneud. Fe ddylai rhyw un adrodd y stori yna wrth Jan Moir!

Mae gweddill ffilmiau'r wythnos hon hefyd yn awgrymiadau gan Obell. Dyma ddarllediad rhyfedd iawn gan y Ceidwadwyr. Ydy William Hague yn troi mewn i Winston Churchill?

Ydy chi'n cofio'r dyddiau pan doedd bron dim byd ond hwn i weld ar setiau teledu ym Mhen Llŷn...

...nes i hwn gyrraedd?


Jyst dweud

Vaughan Roderick | 23:17, Dydd Sadwrn, 17 Hydref 2009

Sylwadau (2)

ebbwvaleparkway200.jpgMae hyn ond o ddiddordeb i flogwyr, mewn gwirionedd. Mae brenin y blogwyr Iain Dale wedi methu ennill enwebiad y Ceidwadwyr yn Bracknell. Does dim clem da fi lle mae'r lle ond mae'r dyn wnaeth ennill, Phillip Lee, yn gythraul o foi yn ôl Iain.

" He will be an absolutely brilliant candidate and I offer him my genuine congratulations."

Dyma ganlyniad Blaenau Gwent yn 2005.

Peter Law Annibynnol 20,505
Maggie Jones Llafur 11,384
Ian Thomas Dem. Rhydd. 1,511
John Price Plaid Cymru 843
Phillip Lee Ceidwadwr 816

Pam nad oedd etholwyr Blaenau Gwent yn gallu gweld pa mor "brilliant" oedd Phillip Lee? Ydy Alun Davies yn fodlon ymddiried ei ddyfodol i etholwyr mor gibddall? Os nad ydynt yn gallu gweld bod Phillip Lee yn "brilliant" oes na beryg na fyddent yn llwyr werthfawrogi talentau Alun?

Jyst rhag ofn i rywun gwyno, cellwair yw'r post yma ond dyma i chi ffaith ryfeddol. Yr wythnos hon fe fydd teithiwr rhif 1,000,000 yn teithio ar lein Glyn Ebwy. Mae'r defnydd o'r gwasanaeth yn fwy na dwbl y disgwyl.

Fe gefnogwyd ail-agor y lein gan bob un o bleidiau'r cynulliad. Beth am roi tipyn o glod am unwaith? Gall y cynulliad a'i lywodraeth frolio ynghylch hyn ac mae'n gwneud i bolisi adran drafnidiaeth Lloegr o wrthod pob cais i ail agor rheilffyrdd edrych yn rhyfedd ar y naw.

Yr Argyfwng Cwacter Ystyr

Vaughan Roderick | 15:45, Dydd Sadwrn, 17 Hydref 2009

Sylwadau (0)

wilcwac-3.jpgOce, rwy'n gwybod bod y pennawd yn uffernol, ond weithiau mae'r demtasiwn yn ormod!

Mae 'na ddatblygiadau pwysig yn y ras i arwain Llafur. Heddiw penderfynodd arweinwyr undeb mwyaf Cymru "Unite" argymell i'w aelodau gefnogi Edwina Hart. Roedd hynny i'w ddisgwyl.

Ddoe cytunodd arweinwyr yr ail fwyaf o'r undebau, Unsain i gefnogi Carwyn Jones. Rwyf yn cael ar a ddeall na fydd arweinwyr yr Undeb mawr arall, y GMB, yn gwneud argymhelliad. Nawr cofiwch mai hwn yn etholiad un aelod- un bleidlais ond y gwir amdani yw bod aelodau undebau ar y cyfan yn derbyn cyngor eu harweinwyr.

Mae na o gwmpas 290,000 o bobol a phleidlais yn y rhan yma o'r coleg. Mae arweinwyr 110,000 wedi datgan dros Edwina (sef "Unite", "Community" ac ASLEF) 52,000 dros Carwyn (Unsain) a 10,000 dros Huw (y blaid Gydweithredol). Gyda arweinwyr y GMB yn cadw allan o bethau USDAW yw'r unig gorff o unryw faint sylweddol sydd heb ddatgan barn eto.

Gallwn ddyfalu felly beth fydd y canlyniad yn y rhan yma o'r coleg. Gan gofio ein bod yn siarad am draean o'r coleg mae'n debyg y bydd Edwina ar y blaen ar ôl i'r pleidleisiau yma cael eu cyfri gyda rhywbeth fel 15-20% o'r 50% sydd angen i ennill y coleg cyfan. Mae'n ymddangos y gallai Carwyn ennill rhywbeth rhwng deg a phymtheg y cant.

Mae'n bosib cynnig ffigyrau llawer fwy cadarn ynghylch y rhan o'r coleg sy'n cynnwys aelodau etholedig. Ar hyn o bryd gall Carwyn fod yn hyderus o gael oddeutu 17% yn y adran yna gyda Huw ac Edwina yn cael rhywbeth fel 8% yr un.

Rhowch y ddau at eu gilydd ac dyma'r darlun cyn i bleidleisiau aelodau cyffredin y blaid gael eu cyfri. Cofiwch mae 50%+1 yw nod mae'r ymgeiswyr yn anelu cyrraedd.

Carwyn; 27-33%
Edwina; 23-28%
Huw; 10-15%

Cofiwch bod ail-ddewisiadau yn mynd i gyfri ar ddiwedd y dydd ac os ydy'r gefnogaeth i Carwyn yn agosach i 27% na 33% fe allai fe golli oherwydd y rheiny. Os ydy e'n llwyddo i gyrraedd 33% yn ddwy ran gyntaf o'r coleg mae'n coleg cyfan yn agos iawn at fod yn y bag i aelod Pen-y-bont. Yn sicr gall neb ddadlau nad Carwyn yw'r ceffyl blaen ar hyn o bryd.

Chwaden Rost

Vaughan Roderick | 09:54, Dydd Sadwrn, 17 Hydref 2009

Sylwadau (0)

ducks_dewaal416.jpgEfallai na ddylwn i geisio camu cyn cerdded na cherdded cyn cropian. Mae 'na wythnosau i fynd cyn i arweinydd Llafur newydd gael ei ddewis. Siawns ei bod hi'n rhy gynnar i drafod pwy y bydd e neu hi yn rhoi yn ei gabinet? Wel nac ydy, mewn gwirionedd!

Er bod yr ymgeiswyr i gyd yn mynnu nad ydyn nhw wedi dechrau meddwl am y peth mae gyrfaoedd nifer o wynebau cyfarwydd yn debyg o ddod i ben yn weddol o fuan. Yn sicr fe fydd y cabinet newydd yn wahanol i'r un presennol pwy bynnag sydd wrth y llyw.

Gadewch i ni feddwl, er enghraifft beth fyddai'n digwydd pe bai Carwyn Jones yn ennill. Rwy'n dewis Carwyn, nid allan o unrhyw ffafriaeth ond oherwydd y byddai statws bresennol y dyn ei hun yn gorfodi un newid yn syth.

Naw yw uchafswm aelodau'r cabinet er bod 'na ddeg ar hyn o bryd! Sut felly? Wel, fe ychwanegwyd Carwyn at y cabinet gan Rhodri trwy ei benodi'n Cwnsler Cyffredinol, swydd 'na fwriadwyd iddi fod yn un wleidyddol. Does dim un aelod Llafur arall yn gymwys i'r swydd honno ac yn sicr ni fyddai'n bosib "dyblu lan" fel Cwnsler Cyffredinol a Phrif Weinidog.

Nawr, oherwydd bod Rhodri ei hun yn mynd dyw hynny ddim yn golygu y byddai'n rhaid saco rhywun ond mae'n golygu mai naw aelod yn unig fyddai yng nghabinet Carwyn. Fyddai 'na ddim llefydd gwag o gwmpas y bwrdd a dim slac o gwbl.

I ychwanegu at y broblem o'r naw fyddai ar ôl o'r cabinet presennol mae 'na bum aelod sydd i bob pwrpas yn "bomb-proof" sef Carwyn ei hun, wrth reswm, tri aelod Plaid Cymru ac Edwina Hart- o gymryd ei bod wedi gwneud yn iawn yn yr etholiad. Sut mae cael wynebau ffres wrth y bwrdd felly? Sut mae gwobrwyo Leighton a sut mae dod o hyd i le i Huw os ydy e wedi gwneud yn dda yn yr etholiad? Beth am Carl Sargeant a'r angen i gael llais Llafur o'r Gogledd wrth y bwrdd?

Mae 'na bedwar aelod Llafur a'u pennau ar y bloc. Fe fyddai'n rhesymegol efallai i ofyn i Brian Gibbons a Jane Davidson ildio eu llefydd gan fod y ddau yn ymddeol o'r cynulliad yn 2011. Ar y llaw arall mae'r ddau ymhlith yr aelodau wnaeth enwebu Carwyn. Tric brwnt fyddai saco'r naill neu'r llall os nad oeddynt yn dymuno rhoi eu twls ar y bar.

Mae hynny'n gadael Jane Hutt ac Andrew Davies ill dau yn gefnogwyr i Edwina. Gallai Andrew fod yn ddyn peryg ar y meinciau cefn fel un sy'n gwybod lle mae'r cyrff wedi eu claddu. Fe fyddai saco Jane Hutt ar y llaw arall yn ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy anodd iddi amddiffyn ei mwyafrif o 83 ym Mro Morgannwg. Yn wir, gallai na fod peryg y byddai Jane yn ystyried cerdded i ffwrdd o'r ornest honno pe bai'n colli ei lle ar bumed llawr Tŷ Hywel.

Fe fyddai dewisiadau'r un mor anodd yn wynebu Huw neu Edwina pa bai'r naill neu'r llall yn ennill. Fel dywedais i, dim slac o gwbl... neu bron dim slac.

Mae'r uchafswm yna o naw aelod y soniais amdano yn uchafswm o weinidogion sy'n gallu derbyn cyflog aelod cabinet. Oes 'na unrhyw un sy'n ddigon ymroddedig i fod yn aelod digyflog o'r cabinet? Oes, dw i'n meddwl. Dydw i ddim wedi siarad â'r naill na'r llall ond rwy'n amau y byddai Huw, ac, o bosib Leighton, o leiaf yn fodlon ystyried y peth.

Y ddinas fawr ddrwg...

Vaughan Roderick | 14:28, Dydd Gwener, 16 Hydref 2009

Sylwadau (0)

shopsign.jpgFe wnes i addo sgwennu gair y dydd o'r blaen am y rhagolygon ar gyfer etholaethau Caerdydd yn yr etholiad cyffredinol. Dydw i ddim am ail-adrodd rhai o'r pwyntiau rwyf wedi gwneud o'r blaen yn y post yma. Mae gan Hogyn o Rachub bost ynghylch Gorllewin Caerdydd sy'n werth ei ddarllen hefyd.

Cofiwch fod unrhyw beth sy gen i ddweud fan hyn yn ddibynnol ar yr hinsawdd wleidyddol. Fe fyddai newid yn yr hinsawdd Brydeinig, cynnydd yn y gefnogaeth i Lafur, er enghraifft, yn saff o gael effaith ar wleidyddiaeth y Brifddinas.

_42413518_willott203.jpgFe wna i gychwyn gyda'r un sedd yng Nghaerdydd rwy'n sicr na fydd hi'n newid dwylo. Yn ddigon rhyfedd mae honno'n sedd sydd wedi ei chipio dwywaith yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf sef Canol Caerdydd. Er mai dim ond yn 2005 y cafodd Jenny Willott ei hethol mae ei gafael ar yr etholaeth yn gadarn. Does dim modd yn y byd yn yr hinsawdd bresennol i Lafur ennill hi yn ôl ac o gofio bod pleidlais y Ceidwadwyr (deiliaid y sedd tan 1992) wedi gostwng i lai na 10% yn 2005 dydyn nhw ddim yn fygythiad chwaith. Mae'n rhyfedd o beth bod sedd a chipiwyd pum mlynedd yn ôl bellach ymhlith seddi mwyaf diogel y Democratiaid Rhyddfrydol trwy Brydain.

_42485680_juliemorgan203.jpgOs ydy Canol Caerdydd yn saff o beidio newid dwylo mae Gogledd Caerdydd yn saff o wneud. 1,146 oedd mwyafrif Julie Morgan yn 2005. Ers hynny mae'r blaid Lafur wedi colli pob un sedd cyngor oedd ganddi yn yr etholaeth. Mae Julie'n boblogaidd ond mae gan y Ceidwadwyr yr ymgeisydd perffaith yn Jonathan Evans, Tori peniog, cymhedrol ac adnabyddus sy'n ffit berffaith i'r etholaeth.

Mae hynny'n dod a ni at ddwy etholaeth sydd, yn fy marn i, ymhlith y mwyaf diddorol yng Nghymru.

_40857587_alun_michael_bbc_203.jpg Mwngrel o etholaeth yw De Caerdydd a Phenarth gan gyfuno rhai o ardaloedd tlotaf y brifddinas, llwyth o fflatiau sy'n gwerth llai na'u morgeisi yn y Bae a Phenarth y faestref gefnog sy'n esgus bod yn dref. Dyma ganlyniad 2005.

Llafur 17,447 (47.3%)
Ceidwadwyr 8,210 (22.2%)
Dem. Rhydd. 7,529 (20.4%)
Plaid Cymru 2,023 (5.5%)

Chwi welwch y broblem y syth. Mae Llafur o dan 50% syn golygu bod ei gafael ar y sedd yn fregus. Y broblem yw nad yw'r Ceidwadwyr na'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi sefydlu ei hun fel y prif fygythiad. Mae'r Torïaid yn gryf ym Mhenarth a'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd. Mae hon yn sedd y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei thargedi. Gall ei thrigolion ddisgwyl llwyth o daflenni Focus a "bar charts" felly. Y broblem yw y bydd gan y Ceidwadwyr eu graff eu hun yn seiliedig ar ganlyniad etholiad Ewrop.

Ceidwadwyr; 4,329
Llafur; 4,191
Dem. Rhydd. 2,657
Plaid Cymru 2,186

Yn bersonol rwy'n meddwl bod y rhaniad yn y bleidlais wrth lafur yn golygu bod Alun Michael yn saff. Er bod Llafur wedi ennill y bleidlais Ewropeaidd yng Ngorllewin Caerdydd dydw ddim mor sicr ynghylch Kevin Brennan.

_44145041_brennan203.jpgMae ein cyfaill o Rachub wedi gwneud y gwaith ystadgol felly gwna i ddim palu trwy'r holl ganlyniadau. Y pwynt i gofio yw bod hon yn etholaeth lle mae Plaid Cymru yn bresenoldeb pwysig ar lefel cyngor a chynulliad. Hi yw'r blaid fwyaf o safbwynt nifer ei chynghorwyr a gallai 2011 fod yn ras tri cheffyl go iawn. Yn realistig ras dau geffyl rhwng y Torïaid a Llafur yw 2010 ac mae'r bloc yna o bleidleiswyr Plaid Cymru yn cynnig achubiaeth a phroblem i Kevin Brennan.

Fe fydd Kevin yn saff os ydy e'n llwyddo i ddarbwyllo cefnogwyr Plaid Cymru i fwrw pleidlais dactegol drosto. Fel un sydd wedi dysgu Cymraeg mae'n boblogaidd ymhlith y Cymry Cymraeg ond dyw Rhodri Morgan a chynghorwyr Llafur lleol ddim wedi gwneud unrhyw ffafrau a fe.

Mae 'na ffrae wenwynig ynghylch ad-drefnu ysgolion yng Ngorllewin Caerdydd cynllun a fyddai'n ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg yn sylweddol. Mae Rhodri a'r cynghorwyr wedi dewis gwrthwynebu rhannau o'r cynllun hwnnw gan elyniaethu'r union bleidleiswyr a allai gynnig polisi yswiriant i Kevin Brennan.

Os oeddwn i yn ei sgidiau fe fyddwn yn gobeithio y bydd Jane Hutt yn rhoi rhwydd hynt i'r cynlluniau cyn gynted a bo modd.

Siarad Plaen

Vaughan Roderick | 11:37, Dydd Gwener, 16 Hydref 2009

Sylwadau (2)

jiwmc203.jpgMae rhywun yn cael dweud pethau ar ôl gadael swydd nad oedd modd eu dweud tra'n was cyflog. Diddorol yw gweld bod Judith Isherwood, sy'n gadael y Ganolfan Mileniwm ar ôl ei llywio o'r cychwyn, wedi dewis gwneud hynny. Heb os fe wnaeth Judith jobyn ardderchog ac mae'n gadael gyda phawb yn canu ei chlodydd.

Erbyn hyn mae'n bennaeth canolfan celfyddydau Melbourne, dinas eu mebyd. Mewn cyfweliad gyda "The Age" mae'n cyfaddef am y tro cyntaf pa mor anodd oedd sefydlu'r ganolfan yng Nghaerdydd gan ddweud hyn;

''On the ground, the politics were brutal. There were huge divisions about the investment of £106 million on a cultural facility the likes of which Wales had never seen. There were those who actually wanted to see us fail.''

At bwy mae'n cyfeirio, tybed?

Gwyliwch eich iaith...

Vaughan Roderick | 15:27, Dydd Iau, 15 Hydref 2009

Sylwadau (8)

duck300.jpgLansiodd Edwina Hart ei hymgyrch i fod yn arweinydd Llafur Cymru heddiw gan gyhoeddi maniffesto llawer mwy manwl na rhai Huw Lewis a Carwyn Jones. Chwarae teg iddi ond mae 'na un paragraff allai ganu clychau larwm ymhlith cefnogwyr addysg Gymraeg.

Yn yr adran yn ymwneud a'r iaith mae Edwina yn dweud hyn;

"Rwyf eisiau i addysg gyfrwng Cymraeg fod ar gael i bawb sydd ei heisiau ac i ysgolion Cymraeg fod yn wirioneddol agored i bawb sy'n dymuno eu mynychu."

Nawr mewn un ystyr gellid darllen y frawddeg fel un sydd ond yn galw am gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg a datrys y prinder llefydd sy'n bodoli mewn rhai mannau ond mae hi wedi ei hysgrifennu mewn ffordd ryfedd iawn. Mae hi fel pe bai 'na awgrym bod yr ysgolion eu hun yn dewis a dethol eu disgyblion. Beth arall y mae awgrym nad ydynt yn "wirioneddol agored" yn gallu golygu?

Mae'r frawddeg nesaf yn ymhelaethu;

"Rwyf yn pryderu nad yw rhai ysgolion Cymraeg yn adlewyrchu'r cymunedau o'u cwmpas. Pam mae cyn lleied o wynebau duon mewn ystafelloedd dosbarth rhai o'r ysgolion Cymraeg yng nghanol ein dinasoedd mawrion, Casnewydd Caerdydd ac Abertawe? Y peth gwaethaf sy'n gallu digwydd i iaith yw ei bod hi'n troi'n eiddo ecscliwsif i leiafrif hunan dewisedig"

Nawr mae'r frawddeg olaf yna yn peri pryder i rai o wleidyddion y cynulliad. Dyw hi ddim mor wahanol â hynny i'r fath o ymosodiadau yr oedd gwleidyddion Llafur arfer cyfeirio at y "crachach" a'r "Welsh speaking elites " yn y dyddiau pan oedd yr iaith yn fwy o bwnc llosg.

Mae awgrymu bod y ffaith nad yw rhieni o gefndiroedd ethnig yn dewis danfon eu plant i ysgolion Cymraeg (os ydy hynny'n wir) yn golygu nad yw'r ysgolion hynny'n "wirioneddol agored i bawb" jyst yn od.

Elystan

Vaughan Roderick | 11:27, Dydd Iau, 15 Hydref 2009

Sylwadau (8)

elystanmorgan203_s4c.jpg
Peth rhyfedd yw'r blogio 'ma. Ar adegau mae dyn yn teimlo'r angen i bostio rhywbeth ond mae amser yn brin a dyw'r awen ddim yn dod. Mae'n bosib mai rhywbeth felly wnaeth arwain at bost Blogmenai ynghylch ei gas wleidyddion. Go brin ei fod yn disgwyl y nyth cacwn wnaeth lanio ar ei ben!

Cynnwys enw Elystan Morgan ar fersiwn wreiddiol y rhestr oedd asgwrn y gynnen ac fe ddiflannodd yr enw o'r ail fersiwn. Ond pam ei gynnwys yn y lle cyntaf?

Hyd y gwn i ddau beth a dau beth yn unig y mae Elystan wedi gwneud i bechu cenedlaetholwyr. Ei agwedd tuag at sefydlu Ysgol Penweddig oedd un ohonyn nhw. Ei benderfyniad i gefnu ar Blaid Cymru ac ymuno a'r blaid Lafur yn 1965 oedd y llall.

Mae 'na hen ddigon o wleidyddion wedi newid plaid heb wynebu'r fath lid a dirmyg. Mae'n anodd osgoi'r casgliad mai'r rheswm am y teimladau gelyniaethus tuag at Elystan oedd ei fod yng ngolwg llawer nid yn unig wedi "bradychu'r blaid" neu "fradychu Cymru" ond ei fod wedi "bradychu Gwynfor".

Elystan oedd etifedd Gwynfor. Ef oedd y mab darogan. Ar ôl i Gwynfor fethu ennill Meirionydd yn 1959 Elystan gafodd y fraint o sefyll yn "sedd y Llywydd" yn 1964. Ei fethiant yno wnaeth ei ddarbwyllo i droi at Lafur gan arwain at ethol yn aelod Ceredigion yn 1966. Dyma'r esboniad a roddwyd gan Elystan yn ei ddarlith i'r archif wleidyddol Gymreig yn 2008.

"Er bod gen i'r parch eithaf i amcanion Plaid Cymru i ennill statws cyfansoddiadol teilwng i'r genedl, fe ddes i deimlo fwy a mwy nad oedd strategaeth y Blaid yn cyfateb â realaeth y sefyllfa na'r tymheredd gwleidyddol ychwaith. Fe deimlwn o ran fy hunan pe bai'r ddegrif nesaf yn ailadrodd patrwm y ddegrif flaenorol nad oedd yna yn wir ddim cyfraniad o werth y medrwn i ei wneud i'r sefyllfa o fewn Plaid Cymru. Yr ail oedd yr honiad a oedd yn un o ganonau canolog Plaid Cymru fod Llafur yn wrth-Gymreig ac na fuasai Llafur fyth yn arwain Cymru yn sylweddol i statws cyfansoddiadol uwch. Pan felly y bu i Lywodraeth Lafur yn ail ddydd ei bodolaeth ar ôl etholiad Hydref 1964 sefydlu'r swydd o Ysgrifennydd i Gymru, fe deimlais ysfa gref i ymuno â'r Blaid Lafur. Wedi'r cyfan yr oedd creu'r ysgrifenyddiaeth yn gydnabyddiaeth gwbl bendant o fodolaeth Cymru fel gwlad a chenedl."

Y gwir oedd, wrth gwrs, bod Elystan wedi llwyr camddarllen y "tymheredd gwleidyddol". Fe drodd ei fuddugoliaeth ei hun yng Ngheredigion yn llwch yn ei geg gyda buddugoliaeth Gwynfor yng Nghaerfyrddin rhai misoedd yn ddieddarach. Roedd Nans Jones, hoelen wyth pencadlys Plaid Cymru yn adrodd hanes amdano yn dod ati yn fuan wedyn gyda dagrau yn ei lygaid gan ofyn "beth wnes i"? Yn ol bywgraffiad Rhys Evans o Gwynfor roedd Elystan yn "gyfaill cywir" iddo yn San Steffan yn sgil yr isetholiad.

Fe gollodd Elystan yng Ngheredigion yn 1974. Fe gollodd eto yn ynys Môn yn 1979 yn rhannol am iddo dreulio llawer o'i amser yn y flwyddyn honno yn arwain yr ymgyrch "ie" yn y refferendwm datganoli. Ni fyddai wedi gwneud hynny pe na bai'n wleidydd o argyhoeddiad ac yn Gymro gwlatgar.

Pe na bai Elystan wedi troi at Lafur mae'n debyg y byddai wedi ei ethol dros Blaid Cymru ym Meirionnydd yn 1970 neu 1974 ac wedi dal y sedd am gyhyd yr oedd e'n dymuno. Mae'n ddigon posib y byddai wedi diweddu ei yrfa yn arwain Plaid Cymru yn y Cynulliad.

Dim ond Elystan all ddweud ond dw i'n meddwl y byddai fe wedi cael mwy o foddhad o'r yrfa honno nac o fod yn Farnwr ac yn Arglwydd.

Fe wnaeth Elystan gamgymeriad gwleidyddol. Dyna i gyd. "Get over it" fel maen nhw'n dweud.

Dynion Diarth

Vaughan Roderick | 10:59, Dydd Iau, 15 Hydref 2009

Sylwadau (0)

newstatesman.jpgMae gwyleidd-dra rhai o'n aelodau seneddol yn rhyfeddu dyn, weithiau! Ar ganol yr helynt treuliau mae pymtheg ohonyn nhw wedi cyflwyno cynnig yn cwyno bod y nifer o seddi sydd wedi eu clustnodi ar gyfer aelodau seneddol yn y "stranger's cafetria" wedi ei chwtogi. Mae 'na gliw yn enw'r "stranger's cafeteria" ynghylch pwy y sefydlwyd y lle i wasanaethu!

Does dim aelod o Gymru ymhlith y pymtheg, diolch byth, ac i fod yn deg mae gan yr aelodau bwynt. Wedi'r cyfan yn ôl y cynnig "no consultation of hon. Members took place prior to the decision."

Diolch byth byddai awdurdodau'r cynulliad byth bythoedd yn gwneud newidiadau pwysig heb ymgynghori a'r aelodau. Ac eithrio ynghylch trefniadau cyfieithu.

Trioedd Ynys Echni

Vaughan Roderick | 18:09, Dydd Mercher, 14 Hydref 2009

Sylwadau (1)

cliff_gulls.jpgRwyf wedi bod yn brwydro annwyd yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae'r blogio wedi bod yn ysgafn felly ond rwyf wedi llwyddo i ymlwybro i mewn ar gyfer CF99. Keith Davies, Myrddin Edwards a Trefor Jones yw'r gwesteion heno. Yn y cyfamser dyma gasgliad o bethau difyr oedd yn fy nisgwyl ar y cyfrifiadur gan gychwyn gyda fideo bach.


1. Diolch i Sion am y cyfle i weld un o fy nghydweithwyr yn cael slap! Nid fy lle i yw dweud pu'n ai oedd hynny'n haeddianol ai peidio!

2. Mae Dewi, sy'n gadael sylwadau yn rheolaidd ar y blog yma wedi dechrau sgwennu am wleidyddiaeth Cymru ar safle rhagorol Slugger O'Toole- blog mwyaf dylanwadol gogledd Iwerddon.

3. Mae manylion cynadleddau'r gwanwyn wedi eu cyhoeddi. Dim ond un (Y Torïaid) sydd yn Llandudno. Mae Lafur yn ôl yn Brangwyn (eto!!!), Plaid Cymru yn Stadiwm Swalec am y tro cyntaf a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Theatr y Grand, Abertawe. Hwn yw'r tro cyntaf i mi gofio i gynhadledd gael ei chynnal yn y Grand. Beth ddigwyddodd i'r canolfannau traddodiadol, tybed? Llefydd fel Bedwas, y DVLA a Tymbl?

Galw Draw

Vaughan Roderick | 12:12, Dydd Mercher, 14 Hydref 2009

Sylwadau (7)

telephone_203bbc.jpgFe fydd y rheiny ohonoch chi sy'n byw yn un o'r etholaethau ymylol traddodiadol wedi hen arfer erbyn hyn a chanfasio ffôn. Doeddwn i erioed wedi cael y profiad tan neithiwr.

Er nad yw Gorllewin Caerdydd, yr etholaeth dwi'n byw ynddi, yn gadarnle Lafur does 'na ddim brwydr go-iawn wedi bod yma ers i Rhodri Morgan gipio'r sedd o'r Ceidwadwyr yn 1987. Roedd y Torïaid wedi ei hennill yn '83 am y tro cyntaf ers yr ail rhyfel byd yn rhannol oherwydd dryswch ynghylch enwau ymgeiswyr y Blaid Lafur a'r SDP. Ta beth, ers '87 mater o ambell i daflen a chnoc ar ddrws oedd yr ymgyrchu etholiadol yn fan hyn. Tan eleni.

Llafur oedd ar y ffôn ac, o farnu o'r acen, aelod lleol oedd wrthi nid gweithwr mewn rhyw fanc ffôn ym mhellafion Lloegr. Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod Llafur yn gweld yr angen i wneud hyn. O safbwynt ystadegol mae Gorllewin Caerdydd yn rhif 194 ar restr dargedau'r Ceidwadwyr. I fod yn deg mae newid cymdeithasol, canlyniadau etholiadau lleol, cynulliad ac Ewrop ynghyd a gweithgarwch y Ceidwadwyr lleol yn awgrymu y gallai hi fod yn uwch mewn gwirionedd.

Nawr, pe bai Llafur yn dewis gosod ei llinellau amddiffynnol mewn seddi sydd (ar bapur) mor ddiogel a Gorllewin Caerdydd fe fyddai hynny'n gyfaddefiad bod y blaid nid yn unig am golli'r etholiad nesaf ond ei bod hi'n debyg o gael crasfa. Rwy'n amau mai mesur maint y bygythiad yw pwrpas y canfasio presennol yn hytrach nac arwydd bod penderfyniad strategol eisoes wedi ei wneud ond mae'r ffaith bod Llafur hyd yn oed yn ystyried torri ei ffosydd a gosod ei magnelau ar gaeau Llandaf ac ym Mharc Victoria yn dweud rhywbeth!

Yn y cyfamser fe fydd hi'n fwy eglur sut mae pethau'n sefyll yn wleidyddol yng Nghymru ymhen pythefnos. Draw ar flog Betsan mae 'na fanylion am gynllun newydd i gynnal arolygon barn rheolaidd yng Nghymru. Hen **#$** bryd, fe ddweda i!

Mam fach...

Vaughan Roderick | 12:31, Dydd Mawrth, 13 Hydref 2009

Sylwadau (3)

menai300245.jpgMae 'na gonswensws ymhlith y pleidiau bod gan Gymru ormod o gynghorau lleol. Mae 'na gonsensws hefyd na ddylid gwneud unrhyw beth ynghylch y peth, neu mi oedd yna.

Ar hyd y blynyddoedd mae'r llywodraeth (a'r gwrthbleidiau) wedi annog cynghorau ac awdurdodau eraill i gydweithio a'i gilydd gan gyfuno adrannau a gwasanaethau. Os oedd hynny'n digwydd ni fyddai angen newid nifer y cynghorau na'u ffiniau. Heddiw aeth y Gweinidog Llywodraeth Leol gam yn bellach.

Yn ôl Brian Gibbons mae'n bryd i'r cynghorau sylweddoli bod dyddiau "busnes fel arfer" ar ben. Fe fyddai'r llywodraeth meddai yn "ymateb yn ffafriol" i gynlluniau i uno cynghorau a byrddau iechyd, fel sy'n digwydd ym Mhowys ar hyn o bryd, neu i uno cynghorau cyfagos. Dyw e ddim yn gam mawr iawn o "ymateb yn ffafriol" i gymell neu orfodi.

Mae'n bosib mai sefyllfa Ynys Môn sydd wedi newid y meddylfryd. Gwella effeithlonrwydd a safon gwasanaethau yn pwrpas cydweithio a chyfuno adrannau. Ond nid safon nac effeithlonrwydd y gwasanaethau yw problem Cyngor Môn. Problem yr ynys yw ymddygiad rhai o'i chynghorwyr.

Yn y cyd-destun hwnnw mae'n bosib gweld sylwadau Dr Gibons fel rhyw fath o gerdyn melyn i gynghorwyr yr ynys. Wedi'r cyfan mae 'na ambell i wleidydd yn y Bae o'r farn mai chwaer fach Gwynedd yw mam Cymru mewn gwirionedd.

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 18:01, Dydd Llun, 12 Hydref 2009

Sylwadau (0)

naze_semaphore.jpgMae'r rhain yn ddyddiau pur dywyll i'r cyfryngau a newyddiaduraeth Saesneg yng Nghymru. Braf yw gweld un llygedyn bach o obaith felly.

Mae perchnogion y Guardian wedi cyhoeddi eu bod am lansio gwasanaeth newyddion lleol i Gaerdydd ar y we flwyddyn nesaf. Mae'r safle yn rhan o arbrawf gan y cwmni gyda gwefannau tebyg i'w lansio yng Nghaeredin a Leeds. Mae gan y cwmni bresenoldeb yn y tair dinas yn barod fel perchnogion gorsafoedd llwyddiannus "Real Radio".

Guardian Local planned to launch next year Guardian

Gobeithio nad "strangled at birth" fydd ffawd y gwasanaeth newydd! Dyna ddigwyddodd i flog Gareth Hughes yn gynharach eleni. Prin fod yr hen foi wedi cychwyn postio cyn i dranc "ITV Local" dagu ei ymdrechion. Wel mae Blog Gareth yn ôl- ar ei liwt ei hun y tro hwn!

Wrth yrru trwy Lanelwedd yn ddiweddar sylwais fod siop Co-op newydd wedi agor yno. Mae hynny'n ychwanegol at yr un ar draws y bont yn Llanfair. Ai Buallt yw'r unig le yn y byd lle mae gan yr hen go-op fonopoli? Hwyrach na ddylwn i chwerthin.

Co-op's food sales beat supermarket rivals Times

Rwyf wedi clywed rhywbeth fel hyn o'r blaen yn rhywle...

Labour: Vote for SNP is vote for Tories Scotsman

Ac ambell i beth arall...

What's with all the @#%! language? Politico (UDA)
UN body designates Swedish dialect a 'threatened language' The Local (Sweden)
Language issue puts government in silent mode The Hindu

Mae'n gwestiwn da. Sut mae ffitio 50 iaith ar bapur 5 rupee?

Maes-e
Blogiadur
Golwg 360


Gwael yw'r Gwedd

Vaughan Roderick | 13:07, Dydd Llun, 12 Hydref 2009

Sylwadau (5)

eira.jpgWyddoch chi pwy neu beth yw Olympia Snowe? Ydy hi'n;

A. Canolfan sgïo.
B. Cerbyd 4x4 newydd.
C. Gwleidydd Americanaidd.

Y trydydd ateb sy'n gywir. Seneddwraig Weriniaethol o dalaith Maine yw Olympia Snowe. Dros y misoedd diwethaf mae llawer o'r dadleuon ynghylch diwygio gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi eu llunio gyda'r bwriad o ddenu ei chefnogaeth.

Y rheswm am hynny yw hyn. Hi yw'r unig aelod Gweriniaethol o'r senedd, neu o leiaf yr unig aelod o bwyllgor cyllid y Senedd, sy'n fodlon ystyried cefnogi cynlluniau iechyd y Democratiaid.

Does dim angen ei phleidlais hi i basio'r mesur. Dyw hi ddim yn allweddol ond mae pawb wedi bod yn ymddwyn fel pe bai hi. Anghofiwch fod yr arolygon barn yn awgrymu bod 60% o'r boblogaeth yn cefnogi newid. Anghofiwch mai'r Democratiaid sydd mewn grym yn y Tŷ Gwyn, Tŷ'r Cynrychiolwyr a'r Senedd. Pleidlais aelod Maine yw'r hyn sy'n cyfri!

Mae rhywbeth tebyg wedi bod yn digwydd yn y ras i arwain Llafur yn y cynulliad ynghylch ennill cefnogaeth Paul Murphy a Don Touhig. Roedd hi'n amlwg na fyddai'r naill na'r llall yn cefnogi Carwyn Jones. Ond ai Huw Lewis yntau Edwina Hart fyddai'n derbyn sêl bendith y ddau aelod?

Hebddyn nhw fe fyddai cefnogaeth Edwina ymhlith Aelodau Seneddol yn drychinebus o wan ac fe fyddai eu gwrthwynebwyr yn sicr o'i phortreadu fel ymgeisydd rhanbarthol Gorllewin Morgannwg. Roedd y jocs ynghylch "ymgeisydd SA1" eisoes wedi cychwyn.

Roedd gan gefnogwyr Huw le i gredu y gallai eu dyn nhw ddenu cefnogaeth y ddau. Wedi'r cyfan, yr un etholaeth sy'n cael ei chynrychioli gan Paul Murphy a Lynne Neagle ac, yn ôl pob sôn, doedd merch Edwina ddim yn boleit iawn i'r ddau yn y gynhadledd i drafod y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Wel heddiw cyhoeddodd gwyr mawr Gwent eu bod am gefnogi Edwina Hart gan ddod a chyfanswm cefnogwyr y Gweinidog Iechyd ymhlith Aelodau Seneddol i dri allan o naw ar hugain. Efallai nad yw hynny yn "drychinebus o wan" ond mae hi o hyd yn gythreulig o wan o gofio bod Aelodau Seneddol yn cynrychioli oddeutu 18% o'r coleg etholiadol.

Mae'n bosib y gallai Edwina ddenu cefnogaeth rhagor o aelodau seneddol wrth i'r ymgyrch fynd yn ei blaen ond ar hyn o bryd mae'n dibynnu ar gythraul o fuddugoliaeth ymhlith yr undebau i fod ac unrhyw obaith o gwbl o gipio'r brif wobr.

Patrick Hannan

Vaughan Roderick | 09:18, Dydd Llun, 12 Hydref 2009

Sylwadau (1)

patrick_hannan.jpgMae'n rhyfedd meddwl nad oedd y fath bobol a newyddiadurwyr gwleidyddol yn bodoli yng Nghymru ddeugain mlynedd yn ôl. Roedd gan ambell i bapur ohebydd gwleidyddol ond yn San Steffan yr oedd y rheiny yn byw a bod. Roedd y syniad y gallai 'na fod digon o wleidyddiaeth ar lawr gwlad Cymru fach i gyfiawnhau gohebydd llawn amser yn cael ei ystyried yn chwerthinllyd braidd.

Pan benodwyd Patrick Hannan, a fu farw'n ddisymwth dros y Sul, yn ohebydd gwleidyddol BBC Cymru cafodd y teitl "Political and Industrial Correspondent" i ddechrau. Yn ôl Pat cafodd y gair "Industrial" ei ychwanegu i'r teitl am ddau reswm. Yn gyntaf doedd neb yn sicr iawn os oedd 'na ddigon o bolitics i lenwi ei oriau gwaith. Yn ail, gwleidyddiaeth y mudiad Llafur oedd gwleidyddiaeth Cymru i raddau helaeth iawn ar y pryd ac os am ddeall y blaid Lafur rhaid oedd deall y brodyr yn yr undebau hefyd. Wel, fe ddaeth Pat o hyd i hen ddigon o wleidyddiaeth yng Nghymru a gosododd batrwm a maes llafur i bawb ddaeth ar ei ôl.

Gallwn sôn llawer am Pat. Mae gen i atgofion dirifedi amdano. Roeddwn yn rhyfeddu at ei wybodaeth eang a'i ddawn sgwennu anhygoel ond yr hyn yr oeddwn yn edmygu fwyaf amdano oedd ei ystyfnigrwydd a'i ymroddiad i newyddiadura.

Roedd ef ac eraill o'i genhedlaeth o newyddiadurwyr wedi treulio degawd a mwy yn y chwedegau a'r saithdegau yn trafod "cwestiwn cyfansoddiadol Cymru". Roedd hi'n ymddangos bod y cwestiwn hwnnw wedi ei ateb yn ddigon eglur yn refferendwm 1979.

Doedd yr ateb yna ddim yn ddigon da i Pat. Dydw i ddim yn meddwl y byddai pleidlais "Ie" wedi plesio fe chwaeth. Fe fyddai'r bleidlais yn '79, y naill ffordd neu'r llall, yn un ddifeddwl ac anwybodus yn ei farn ef. Roedd 'na gwestiynau eraill i'w hateb yn gyntaf.

Yn anad dim yr hyn oedd Pat eisiau oedd i bobol feddwl ynghylch pynciau fel cenedligrwydd Cymru, ei threfniadau cyfansoddiadol a'i difreintedd economaidd. Trwy lyfr a thrwy raglen yr un oedd y nod bob tro. Roedd profocio, cellwair, cwestiynu a dadlau i gyd yn arfau i orfodi i'w ddarllenwyr a gwrandawyr feddwl drostyn nhw ei hun ac i gyflwyno'r wybodaeth iddyn nhw allu wneud hynny.

Roedd yn gas gan Pat pobol oedd yn siarad mewn ystrydebau neu'n parablu safbwyntiau ail-law. Cynhyrchodd gyfres deledu gyfan yn herio mytholeg rhai o arwyr gwleidyddol Cymru oherwydd hynny. Roedd dyrchafu gwleidyddion yn arwyr, ym marn Pat, yn esgus i beidio herio eu safbwyntiau a'u daliadau ac, yn ei dyb ef, herio popeth oedd hanfod dysg a democratiaeth.

Fe fyddai Pat yn dirmygu unrhyw ymdrech i'w ddyrchafu fe'i hun yn arwr. Fe wna i ddim felly. Fe ddyweda i hyn yn lle. Roedd Pat yn athro da i mi ac yn athrylith gwleidyddol. Roedd yn gyfaill a chydweithiwr ffyddlon ac yn bersonoliaeth cyfan gwbwl unigryw.

Nid oes angen dweud y bydd colled ar ei ôl.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 09:40, Dydd Sul, 11 Hydref 2009

Sylwadau (0)

odeon2.jpgPan mae basged awgrymiadau "Rialtwch" bron yn wag mae rhyw un neu ryw rai yn dod i'r fei! Diolch i Obell o Melbourne am gynnwys yr wythnos hon.

Fel teyrnged fach iddo sinema'r "Odeon Star" yn Semaphore, De Awstralia sydd yn y llun.

Mae'r sinema deuluol hon rownd y gornel i gartref cyfeillion i mi ac mae'n goroesi rhywsut yng nghysgod multiplex anferth.

Ymlaen a ni at y ffilmiau!

Fe fydd unrhyw un sy'n gweithio ym myd darlledu yn gyfarwydd iawn â theimladau'r ddau gyfaill yma.

Yn y dyddiau amlbleidiol yma dyw'r "swingometer" ddim yn gweithio cystal ag oedd e yn ôl yn nyddiau dwy blaid y pumdegau. Nid bod hynny'n ein rhwystro rhag atgyfodi'r hen gyfaill ym mhob etholiad cyffredinol! Mewn 35 eiliad dyma hanner canrif o "swingometers" y BBC o 1955 ymlaen.


Thema cyfres HTV "Arthur of the Britons" yw'r miwsig. Am ryw reswm fe ddefnyddiodd y BBC hi ar gyfer rhaglenni etholiad 1983. Rhywbeth i wneud ac Arthur Scargill, efallai!

Blas o'r wythdegau sydd nesaf gydag ychydig o gerddoriaeth pync... yng Ngaeleg.

A dyma ychydig o gerddoriaeth gyfoes te reo Māori o Seland Newydd.

Mae 'na un ffilm arall na fedra i fewnosod ond sy'n werth ei gwylio. Yn fan hyn mae Dick Cavett yn rhannu atgofion am Richard Burton a chewch wylio hanner awr cyfan o'r actor yn trafod Cymru, ei deulu a'i grefft.

Boot ym Mhowys

Vaughan Roderick | 21:21, Dydd Sadwrn, 10 Hydref 2009

Sylwadau (0)

boot.jpgDydw i ddim yn nabod Jasper Gerard, newyddiadurwr sy'n ysgrifennu i'r Telegraph. Dydw i ddim yn gwybod chwaith a oedd disgrifiad "Private Eye" ohono fel "the world's worst columnist" yn deg ai peidio.

Ar y llaw arall rwyf yn gwybod bod Jasper Gerard yn gyn ymgeisydd i'r Democratiaid Rhyddfrydol a bod e arfer sgwennu areithiau i Syr Menzies Campbell. Dyna o leiaf mae archifau'r Telegraph ei hun yn dweud.

Ta beth, mae gan Jasper Gerard erthygl yn y Telegraph ynghylch argaeledd gwasanaethau band lydan yng Nghymru.

Yr unig wleidyddion sy'n cael eu crybwyll yw Mick Bates "who has led the campaign for Welsh rural broadband" a Lembit Opik. Mae'r ddau yn Ddemocratiaid Rhyddfrydol, wrth gwrs. Does dim mensh i Kirsty na Roger. Efallai eu bod nhw wedi pechu Jasper!

Er bod yr erthygl yw hallt ei beirniadaeth o Lywodraeth y Cynulliad does dim ymdrech wedi bod, hyd y gwelaf i, i gael unrhyw sylw nac ymateb gan y llywodraeth honno. Yn sicr does dim sylw nac ymateb wedi cynnwys yn yr erthygl.

Nawr, mae 'na hen ddigon o newyddiadurwyr sydd wedi bod yn weithgar mewn pleidiau gwleidyddol ond mae pob un ohonyn nhw dw i'n eu nabod yn mynd allan o'u ffordd i sicrhau nad yw hynny'n dangos yn eu gwaith. Os unrhyw beth maen nhw'n tueddu bod yn fwy llawdrwm ar eu cyn-bleidiau eu hun na phleidiau eraill.

Gan gofio hynny i gyd, pa fath o hygrededd sy'n perthyn i baragraff fel hwn o eiddo Jasper Gerard?

"No wonder revolt is stirring in the Valleys, directed at the Labour-Plaid Cymru administration which has fiddled while the Welsh line went "brrrr". The Liberal Democrats have campaigned for broadband, arguing it is essential for the sustainability of rural communities."

Cofiwch, efallai na ddylwn ni gymryd erthygl am Gymru sy'n cychwyn gyda dyfyniad o Dylan Thomas ac yn cynnwys y geiriau "in the valleys" ddwy waith gormod o ddifri!

Diweddariad; Mae'r erthygl hefyd yn dyfynnu "Broadband campaigner Sue Callery". Heddiw mae blog Glyn Davies yn trafod olynwyr posib i Mick Bates. Yn eu plith mae "Sue Callery, a capable woman who works in the Lib Dem office". Mae pethau'n mynd o ddrwg i waith!

Trwy Ddirgel Ffyrdd

Vaughan Roderick | 10:13, Dydd Gwener, 9 Hydref 2009

Sylwadau (2)

_614011_duck300.jpgMae'n anorfod mewn ras etholiadol bod 'na dipyn o hel clecs a phardduo'n mynd ymlaen. Er mwyn achub y blaen ar y fath gyhuddiadau yn y ras i arwain Llafur Cymru mae Huw Lewis wedi cynnwys adran "chwalu'r mythau" ar ei wefan.

Digon teg. Mae rhai o'r honiadau ynghylch agwedd Huw tuag at ddatganoli, er enghraifft, yn gor-ddweud sy'n ymylu ar nonsens a dydw i ddim yn ei feio am geisio rhoi stop arnyn nhw.

Ar y llaw arall mae 'na un honiad ar y gwefan sy'n fwy amheus sef hwn; Ffaith: Yn ystod ei bedair blynedd gyntaf fel Aelod o'r Cynulliad, ni hawliodd Huw na'i wraig Lynne Neagle AC geiniog mewn lwfansau tai. Dim ond ar ôl genedigaeth eu mab James yn 2003 y newidiodd hynny.

Nawr mae hynny'n wir. Yr hyn sydd hefyd yn wir yw nad oedd gan aelodau cynulliad Morgannwg a Gwent yr hawl i gael treuliau am ail gartref am ran helaeth o'r cyfnod rhwng 1999 a 2003. Fe newidiwyd y rheolau hanner ffordd trwy oes y cynulliad cyntaf.

Cafodd y newidiadau hynny fawr o sylw ar y pryd ond maen nhw wedi achosi cryn drafferth i'r Cynulliad ers hynny. Mewn gwirionedd mynd yn ôl at yr hen drefn y mae'r cynulliad yn sgil adroddiad Syr Roger Jones.

Ydy panyndryms y Comisiwn wedi dysgu gwers o'u rhagflaenwyr ynghylch peryglon gwneud pethau yn "dawel fach"? Dyw e ddim yn ymddangos felly.

Fe gofiwch, mae'n siŵr, yr holl helynt ynghylch cyfieithu'r cofnod a'r ffordd y gwnaeth y Comisiwn weithredu'n groes i gynllun iaith y Cynulliad gan gynddeiriogi'r Bwrdd Iaith ac, ym marn rhai, torri'r gyfraith.

Nawr, mae'n ymddangos bod o leiaf un o aelodau'r Comisiwn o dan yr argraff bod y newidiadau i'r drefn gyfieithu i'w cyflwyno ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Os felly cyflwynwyd y newidiadau ar ddechrau'r tymor presennol heb fandad ac heb ganiatâd y comisiwn.

A fydd rhyw un yn cael ei holi neu ei ddisgyblu ynghylch beth ddigwyddodd? Dydw i ddim yn dal fy anadl.

* Yn y fersiwn wreiddiol o'r post yma roedd y dyfyniad o wefan Huw yn Saesneg. Diolch I Adam Jones am dynnu fy sylw at y fersiwn Gymraeg.

Handbags a Gladrags

Vaughan Roderick | 09:36, Dydd Gwener, 9 Hydref 2009

Sylwadau (1)

ElinJones.jpg

Cafodd Elin Jones ei gwobrwyo neithiwr gan Farmer's Weekly mewn cinio arbennig yn Llundain.

Cafodd hi a phrif fet y llywodraeth eu henwi fel "arwyr i ffermwyr" oherwydd eu gwaith i frwydro'r diciâu mewn gwartheg. Mae'n neis gweld bod Elin wedi gwisgo'n sbeshal ar gyfer yr achlysur!

Mae'n debyg bod wyneb Hillary Benn oedd ar yr un bwrdd hyd yn oed yn fwy o bictiwr. Efallai bod geiriau Llywydd yr NFU, Peter Kendall wedi ei frifo.;

"Together these women have shown leadership in controversial circumstances to champion a critical trial for the control of TB in Wales. This is difficult political territory that needs brave leadership in the face of a strong single-issue pressure group opposition."

Mae Ysgrifennydd Amaeth Llysieuol Lloegr yn gwrthwynebu difa moch daear wrth gwrs.

Croeso i Gymru

Vaughan Roderick | 11:55, Dydd Iau, 8 Hydref 2009

Sylwadau (0)

_45628431_brown_bbc_226b.jpgMae Nick Bourne wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb ym Manceinion heddiw. Tamaid i aros pryd cyn David Cameron, mae'n rhaid! Er tegwch roedd gan Nick ambell i lein dda. "There is only one real flaw in devolution and that is that we don't run it" oedd un ohonyn nhw. Roedd "There are more sightings of Elvis in Wales than there are of Gordon Brown" yn un arall.

Wrth gwrs mae darllenwyr rheolaidd y blog yma'n gwybod bod Elvis yn gweithio mewn siop tsips ym Mhenmachno ond mae 'na reswm da am absenoldeb Gordon Brown o Gymru. Y broblem yw bod pethau'n tueddu mynd o le i Gordon ar ymweliadau a Chymru.

Yn ôl yn 1994 yn sgil marwolaeth John Smith fe wnaeth Godron gythraul o araith dda yng Nghynhadledd Llafur Cymru yn Abertawe. Dydw i erioed wedi clywed cystal araith. Gyda phawb yn y Brangwyn (ac eithrio Alun Michael) ar eu traed roedd hi'n amlwg bod Gordon yn bwriadu ceisio am arweinyddiaeth y blaid. "Does dim gobaith mul gan Blair na neb arall" meddai un AS Llafur wrtha i. Araith Abertawe oedd uchafbwynt ymgais Gordon i ennill yr arweinyddiaeth. Ac wedi elwch, tawelwch fu.

Mae'r anlwc yna wedi para ar hyd y blynyddoedd. Dyna i chi ymweliad Gordon a ffatri Contour yng Nghwmbrân ychydig wythnosau cyn i'r cwmni gyhoeddi bod cannoedd i golli eu gwaith neu ei ymweliad a Blaenau Gwent mewn ymdrech aflwyddiannus i achub yn achos Llafur yn is-etholiadau 2006.

Yn ystod yr ymweliad hwnnw fe wnaeth Gordon galw mewn i ysgol gynradd newydd sbon yn Abertyleri. Mae ysgolion yn gefndir cyson i "photo-ops" yr arweinydd Llafur. Mae'n dipyn o giamstar arnyn nhw hefyd gan ddefnyddio ei ddiddordeb ym mhêl droed i daro sgwrs a diddori'r plant.

Yn anffodus mae Abertyleri yn un o'r llefydd prin hynny lle nad oes gan gryts ifan y diddordeb lleiaf yn y bêl gron. Gofynnodd Gordon i'r bechgyn p'un oedd hoff dimau. Dim ateb. Soniodd am gôl ddiweddar gan David Beckham. Dim ymateb. Yn y diwedd gyda Gordon yn amlwg yn meddwl ei fod wedi glanio ar blaned arall fe agorodd un crwt ei geg. "We don't like football round 'ere" meddai cyn cerdded i ffwrdd!

Trioedd Ynys Echni

Vaughan Roderick | 14:15, Dydd Mercher, 7 Hydref 2009

Sylwadau (2)

seagull_bbc_203.jpg1. Rwyf wedi sgwennu o'r blaen am y symiau anferthol o arian cyhoeddus y mae "Eglwys yr Holl Genhedloedd" yn derbyn trwy farchnata ei hadeiladau fel canolfan gynadledda. Yn y ddwy flynedd diwethaf fe dderbyniodd yr Eglwys dros £120,000 gan Lywodraeth y Cynulliad. Gallwn weld nawr i ble mae peth o'r arian yna'n mynd.

Mae'r Eglwys wedi gosod posteri ar nifer o safleoedd masnachol yng Nghaerdydd gyda'r slogan "Claiming the Capital for Christ". Meddyliwch am eiliad beth fyddai'r ymateb os mai Mosg oedd wedi derbyn cymaint o arian cyhoeddus ac wedyn wedi lansio ymgyrch hysbysebu yn "hawlio'r brifddinas i Islam"? Mae canolfan yr Holl Genhedloedd yn lle hwylus a chyfleus i gynnal cynhadledd ond ydy hi'n briodol i unrhyw gorff crefyddol dderbyn cymaint o arian cyhoeddus?

01_Jessica_Fletcher.jpg2. Dyw cogyddion ffreutur Tŷ Hywel ddim yn hapus. Tan yn ddiweddar wrth i'r gweithwyr fwyta'u ciniawau eu hun roedd hi'n arfer ganddyn nhw i wylio rhywbeth fel "Loose Women" neu "Murder She Wrote" ar y sgrin ar y wal. Nawr mae ordyrs wedi cyrraedd oddi fri. Un peth ac un peth yn unig sydd i'w ddangos ar y sgrin fawr sef y Cynulliad ei hun. Os ydy'r person wnaeth lunio'r gorchymyn yna'n cael ei ganfod a chyllell yn ei gefn ni fydd angen Jessica Fletcher i weithio allan pwy oedd yn gyfrifol!


_46315367_rhonddaleader_226.jpg3. Mae gan y "Rhondda Leader" cythraul o sgŵp. Jyst wrth i Carwyn Jones geisio argyhoeddi aelodau Llafur nad yw'n asiant gudd o Blaid Cymru daw cefnogaeth iddo o gornel annisgwyl.

Yn ei cholofn yn y "Leader" mae AC Plaid Cymru, Leanne Wood yn dweud hyn "it is no secret that I will be supporting Carwyn Jones. Carwyn is passionate about social justice and he will be a leader for the whole of Wales". Mae'n rhaid bod y peth yn wir. Go brin y byddai'r papur wedi bod mor amhroffesiynol a gosod llun ac enw Leanne ar frig colofn gan Leighton Andrews!


Paul Davies Heledd Fychan ac Iestyn Davies yw'r gwesteion ar CF99 heno. Ymhlith y pynciau trafod fydd stori sydd i'w gyhoeddi ar y brif wefan rhywbryd yma prynhawn ynghylch ymdrechion i orfodi i Aelodau Seneddol ddefnyddio'r Gymraeg. Fe allai ddychmygu hynny'n achosi harten i ambell un!

Ffrindiau Bore Oes

Vaughan Roderick | 10:42, Dydd Mercher, 7 Hydref 2009

Sylwadau (1)

friend.jpgAr y cyfan rwy'n fwy o ddyn "Newyddion" na "Wales Today". Cyn i mi gael pelten gan ambell i gydweithiwr fe ddylwn i ddweud mai'r ffaith nad wyf gan amlaf yn cyrraedd adref tan saith yw'r rheswm penna am hynny!

Ta beth, gan fy mod yn ymddangos ar y rhaglen Saesneg neithiwr fe wnes i ddigwydd gweld stori David Cornock ynghylch Robert Reid, y crwt ysgol o Brestatyn wnaeth swyno'r gynhadledd Geidwadol deng mlynedd yn ôl. Fe drodd Robert ei gefn ar wleidydda er mwyn gweithio fe "estate agent". Yn hynny o beth mae'n atgoffa rhyw un o John Major, yr unig fachgen wnaeth rhedeg i ffwrdd o'r syrcas er mwyn gweithio mewn banc!

Seren wib oedd Robert ond beth am "sêr" eraill Ceidwadwyr Cymru, y chwe aelod seneddol oedd yn cynrychioli etholaethau Cymreig cyn trychineb etholiadol 1997?

Mae hanes tri ohonyn nhw yn ddigon hawdd i ganfod. Mae Wyn Roberts yn Nhŷ'r Arglwyddi, Jonathan Evans yn gobeithio dychwelyd i San Steffan ar ôl degawd yn Senedd Ewrop ac mae Rod Richards wedi troi ei law at sgwennu a darlledu.

Ond beth am y tri arall sef Gwilym Jones, Walter Sweeney a Roger Evans?

Y diwethaf i mi glywed am Gwilym oedd ei fod e, fel Robert Reed, yn y busnes prynu a gwerthu tai ar ôl cyfnod yn "helpu allan" yn swyddfa bost ei wraig yng Nghaerffili. Yn sicr dyw e ddim wedi gwneud unrhyw ymdrech yn ddiweddar i ddychwelyd i fyd gwleidyddiaeth.

Rhyw fath o Aelod Seneddol trwy hap a damwain oedd Walter Sweeney. Un o Swydd Efrog oedd e wnaeth synnu pawb (gan gynnwys y Torïaid lleol) trwy gipio Bro Morgannwg o drwch blewyn yn 1992. Ar ôl ei cholli yn '97 fe ddychwelodd i ogledd Lloegr yn ddigon handi. Fe safodd fel ymgeisydd annibynnol yn yr isetholiad rhyfedd hwnnw yn Haltemprice a Howden y llynedd gan ennill 238 o bleidleisiau.

Dychwelyd i fyd y gyfraith a'r Eglwys wnaeth Roger Evans, y cymeriad Fictoraidd hwnnw oedd yn chware Pwnsh a Jiwdi gyda Huw Edwards ym Mynwy gydol y nawdegau.

Ac eithrio Jonathan Evans, ac i rwy raddau Arglwydd Roberts, perthyn i orffennol y Ceidwadwyr mae'r rheiny wnaeth adael y senedd yn '97 felly. Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod nifer o ffigyrau amlwg y blaid heddiw, pobol fel Nick Bourne a David Davies wedi ymddangos o fewn misoedd i'r etholiad hwnnw fel arweinwyr yr ymgyrch "Na" yn y refferendwm datganoli.

Dros y Fenai fawr i Fôn

Vaughan Roderick | 18:59, Dydd Mawrth, 6 Hydref 2009

Sylwadau (6)

Gwyneddarms.png
Mae'r post sy'n dilyn yn codi ychydig o embaras i mi. Fe wnaeth Blog Menai synhwyro fy mod wedi anghofio mai yn rhanbarth y Gorllewin a'r Canolbarth ac nid un y Gogledd y mae Meirion Dwyfor ac roedd e'n iawn yn hynny o beth. Wrth fynd heibio, fel Blog Menai, mae'n well gen i "Feirion Dwyfor" i'r enw swyddogol "Dwyfor Meirionydd". Fe ddylai'r ceffyl fod o flaen y cart!

Ta beth, dydw i ddim y fath o berson fyddai'n cuddio embaras trwy gymryd post i lawr! Mae'r ddadl yn wannach nac oeddwn yn meddwl ond dyw hi ddim yn gwbwl ddiwerth. Gallai'r chwe mil gafodd Peter Rogers yn 2007 ynghyd a chefnogaeth i Lais Gwynedd yn Arfon fod yn sylfaen i restr annibynnol yn rhanbarth y Gogledd. Yn yr un modd mae'n bosib y gallai Llais Gwynedd ganfod cynghreiriaid yn y Gorllewin a'r Canolbarth. Dyma'r post gwreiddiol;

Sgwennais air y dydd o'r blaen am gynlluniau Llais Gwynedd ar gyfer etholiad 2011. Fe wnes i anghofio crybwyll ar y pryd bod y grŵp yn bwriadu enwebu ymgeiswyr rhanbarthol yn ogystal ag ymgeiswyr yn nwy etholaeth Gwynedd.

Mae hynny yn ddiddorol oherwydd bod y trothwy i ennill sedd rhanbarth yn y gogledd yn gallu bod yn rhyfeddol o isel. Mae hynny oherwydd bod Llafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr i gyd a'r gallu i ennill seddu etholaethol. Yn 2005 (ar ôl rhygnu trwy fformiwla D'Hondt) fe enillodd Plaid Cymru'r bedwaredd sedd rhanbarth gydag ychydig dros 11,000 o bleidleisiau.

Mae hynny'n sylweddol is na Gorllewin De Cymru, er enghraifft, lle'r oedd y cwota yn bron i 15,000.

Dyw e hi ddim yn gyfrinach bod UKIP a'r BNP yn ystyried rhestr ranbarthol y Gogledd fel un o'u cyfleoedd gorau i gymryd sedd yn 2011 oherwydd y cwota isel ond beth am Lais Gwynedd?

Hyd yn oed os nad yw'r grŵp yn ennill sedd etholaeth mae'n ddigon posib y gallai ddod yn weddol agos at y trothwy ar y rhestr ranbarthol a phe bai rhyw un o Lais Gwynedd yn codi'r ffôn i Peter Rogers i drafod rhestr ar y cyd... wel, pwy a ŵyr?

Gair am air

Vaughan Roderick | 10:54, Dydd Mawrth, 6 Hydref 2009

Sylwadau (4)

alunf.jpgDyw cyfieithu ddim yn jobyn hawdd ar y gorau. Mae hi bron yn amhosib pan mae'r geiriau sydd i'w cyfieithu mewn rhyw fath o god gwleidyddol.

Cymerwch eiriau Alun Ffred Jones ar "Good Morning Wales" y bore 'ma. Dywedodd ei fod yn "miffed" bod Swyddfa Cymru wedi rhyddhau gwybodaeth am gynnwys yr LCO iaith cyn i aelodau'r cynulliad weld y gorchymyn.

Sut mae cyfieithu "miffed", tybed? Fe wnes i awgrymu "gandryll" wrth y gweinidog gan gael dim byd mwy na gwen mewn ymateb. Yn ddiweddarach awgrymodd rhywun wrtha i y byddai "****** gandryll" yn fwy cywir!

Yr halen yn y briw yw briffio Swyddfa Cymru mewn gwirionedd. Er bod Llywodraeth Cymru yn mynnu y bydd y gorchymyn yn ei galluogi i "gyflawni addewidion Cymru'n Un" y gwir amdani yw bod y Cynulliad wedi colli brwydr gyfansoddiadol hynod bwysig.

Pan ddaeth ail Ddeddf Llywodraeth Cymru i rym roedd aelodau'r cynulliad, ac yn fwyaf arbennig y Llywydd, yn dadlau mae rôl ffug-gyfreithiol oedd gan San Steffan yn y broses. Hynny yw, pe bai'r cynulliad yn gwneud cais am bwerau, yn enwedig cais oedd yn seiliedig ar addewidion maniffesto, fe ddylid rhoi rhwydd hynt iddo heb ymholi pa ddefnydd yr oedd y cynulliad yn bwriadu gwneud o'r gorchymyn.

Dyna, ar y cyfan, sydd wedi digwydd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae Tŷ'r Cyffredin, ac yn fwyaf arbennig y Pwyllgor Dethol Cymreig, wedi gweld pethau'n wahanol. I bob pwrpas mae'r Pwyllgor wedi ymddwyn fel rhyw fath o ail siambr i'r Cynulliad gan osod cyfyngiadau pendant a phlaen ar yr hyn y gall y Cynulliad wneud.

Mae hynny'n boen i wleidyddion y Bae a hynny mewn gyfnod lle mae 'na lywodraethau o liwiau gweddol debyg yn San Steffan a Chaerdydd. Sut fydd pethau ar ôl yr etholiad cyffredinol, tybed, o gofio y byddai mwyafrif Ceidwadol ar lefel Brydeinig yn golygu mwyafrif Ceidwadol ar y Pwyllgor Dethol?

Mae'n bosib y byddai ambell wleidydd yn "****** ****** gandryll".

Gyda sibrydion cynyddol bod Confensiwn Syr Emyr yn "gung ho" ynghylch refferendwm mae'r bleidlais honno yn ymddangos yn fwyfwy tebygol.

Chwifiwn ein baneri...

Vaughan Roderick | 16:50, Dydd Llun, 5 Hydref 2009

Sylwadau (4)

draiggoch203.jpgDydw i ddim yn sicr pwy ddywedodd fod "y Cymry yn genedl oherwydd eu bod yn dewis bod yn genedl". Mae'n swnio fel Gwynfor Evans ond mae'n ddigon posib mai rhyw un arall wnaeth.

Yn sicr mae 'na wirionedd yn yr honiad. I ryw raddau ffrwyth dymuniad a dychymyg yw pob cenedl. Ydy Texas yn genedl? Nac ydy, er bod rhai yn dymuno iddi fod. Ydy Prydain yn genedl? Fe gewch chi ateb y cwestiwn yna!

Cernyw.jpgCymerwch esiampl sy'n agos iawn at adref. Ers o leiaf canrif mae 'na bobol yng Nghernyw sydd wedi bod yn ymdrechu'n galed i amddiffyn/adfer/creu cenedl Gernywaidd yn seiliedig ar draddodiadau ac iaith Celtaidd y wlad/sir.

Symbol o'r cenedligrwydd hwnnw yw baner du a gwyn Piran Sant sy'n dyddio yn ôl i o leiaf 1838 ac, o bosib, i'r canrifoedd cyn hynny. Mae hi i'w gweld ym mhobman yng Nghernyw.

estren3.gif Nawr cymerwch gipolwg ar y faner ar y chwith, yr un sy'n edrych fel draig goch mewn cwstard. Beth ar y ddaear yw honna?

Ymdrech aflwyddiannus mewn cystadleuaeth i ddewis baner i Ddyfnaint yw'r ateb.


estren2.gif Y faner ar y dde, "Croes Pedrog" oedd yn fuddugol. Brawd Gwynllyw oedd Pedrog, gyda llaw, yr un Pedrog ac un y ddwy Lanbedrog a'r Ferwig.

Jyst i gymhlethu pethau mae Pedrog a Piran ill dau yn nawddseintiau Cernyw!

Beth sy'n mynd ymlaen yn fan hyn? Ydy rhywrai yn Nyfnaint yn ceisio creu rhyw fath o egin genedl? Efallai. Roedd y gwr gafodd y syniad o faner i Ddyfnaint, Bob Burns, yn ddigon agored ynghylch y cymhelliad; "Devonians are only too aware of the ubiquitous Cornish Flag, which can often be seen in the form of car bumper stickers, on vehicles entering Devon from Cornwall". Ychwanegodd hanesydd lleol "people are quite aware in Devon that the Cornish make political capital by claiming to be different".

Am wn i, mae'r cyfan yn codi rhyw gwestiwn "wy a iâr" ynghylch p'un sy'n dod gyntaf, y faner neu'r genedl? Cyn i chi ateb hwnna cofiwch mai dim ond yn 1959 y mabwysiadwyd y "Ddraig Goch", ar ei ffurf bresennol, fel baner Cymru.

flaggdyf.jpgMae 'na ôl-nodyn hyfryd i hanes baner Dyfnaint.

Fedrwch chi ddyfalu beth yw'r faner ar y dde? Baner Gogledd Dyfnaint yw hon! Cafodd ei chynllunio am y rheswm yma; "North Devon is not the same as South Devon: they're as different as chalk and cheese. So North Devon should have its own flag."

Blydi Hel! Mae'r Gogs a'r Hwntws wrth yddfau ei gilydd yn barod! Mae'n rhaid eu bod nhw'n Geltiaid wedi'r cyfan!

Glasfedd eu hancwyn, a gwenwyn fu

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Llun, 5 Hydref 2009

Sylwadau (4)

cameron.jpgMae Ceidwadwyr Cymry yn heglu hi am Fanceinion mewn hwyliau da iawn iawn. Mae perffaith hawl ganddyn nhw deimlo felly. Wedi'r cyfan fe enillodd y blaid y bleidlais boblogaidd yng Nghymru am y tro cyntaf ers Arch Noa Math Fab Mathonwy oes Victoria yn yr etholiadau Ewropeaidd eleni.

Er i'r blaid fethu ennill yr un sedd seneddol yn 1997 a 2001, a dim ond tair yn 2005, mae 'na ddarogan o ddifri y gallai'r blaid ennill mwy o seddi na Llafur yn 2010. Mae hynny'n dibynnu ar sawl ffactor ac yn eu plith mae cyflwr y drefniadaeth leol.

Mae hi bron yn amhosib gorddweud ynghylch y ffordd yr oedd trefniadaeth leol y Ceidwadwyr wedi ei rhacsio erbyn diwedd y nawdegau gyda chynghorwyr Ceidwadol bron a bod wedi diflannu o'r tir. Mae Llafur mewn sefyllfa tebyg (er nid cynddrwg) nawr, ond i ba raddau y mae'r drefniadaeth Geidwadol wedi ei hadfer? Mewn ardaloedd lle nad yw aelodau annibynnol yn bodoli mewn niferoedd mae'n bosib mesur hynny trwy edrych ar y siambrau cyngor.

Y newyddion da i'r Ceidwadwyr yw bod pethau'n edrych yn iachus iawn i'r blaid yn y rheng flaen o etholaethau. Yng Ngogledd Caerdydd, er enghraifft, mae'r Ceidwadwyr yn dal y mwyafrif o'r seddi cyngor. Yn fwy ddiddorol byth, mae'r gweddill yn eiddo i'r Democratiaid Rhyddfrydol ac aelodau annibynnol. Does dim un cynghorydd Llafur ar ôl yn etholaeth Julie Morgan!

Yr un yw'r patrwm yng ngweddill y rheng flaen er ei fod yn llai eithafol efallai. Mae'r Ceidwadwyr yn rheoli (fel lleiafrif) ar gyngor Bro Morgannwg ac mae 'na ddau ar hugain o Dorïaid a dim ond saith aelod Llafur ar Gyngor Conwy sy'n cynnwys sedd David Jones a sedd darged Aberconwy.

Dyw pethau ddim yn edrych mor addawol yn yr ail reng- y seddi y byddai'n rhaid eu hennill i'r Torïaid oddiweddid Llafur fel plaid seneddol fwyaf Cymru. Dim ond dau gynghorydd Ceidwadol sy 'na yng Ngorllewin Caerdydd, er enghraifft, a dim ond chwech sy 'na ar Gyngor Pen-y-bont.

Y broblem i'r Ceidwadwyr yw hon. Os nad yw'r sefyllfa wleidyddol gyffredinol yn newid fe fyddai'r blaid yn gallu ennill llefydd fel Gogledd Caerdydd heb drefniadaeth leol effeithiol. Mewn etholaethau eraill, yr union etholaethau lle y gallai trefniadaeth leol wneud gwahaniaeth, mae 'na farc cwestiwn dros safon y drefniadaeth honno.

Mae 'na esiamplau di-ri wedi bod yn ddiweddar o bleidiau yn ennill etholaeth "ar y dydd" ond yn ei cholli oherwydd y bleidlais bost. Gallai 'na fod ragor yn 2010.

Meddyliwch!

Vaughan Roderick | 21:17, Dydd Sul, 4 Hydref 2009

Sylwadau (0)

hwya.jpgFe wnes i ddewis yr hwyaid fel delwedd weledol ar gyfer y ras i olynu Rhodri fel rhyw fath o deyrnged olaf i'r chwaden ungoes. Mae Blogmenai wedi dewis creadur gwahanol gan gyfeirio ati fel "ras y crwbanod". Rwy'n cymryd mai hyd y ras yw un o'r rhesymau am y dewis hwnnw.

Mae'r ffaith y bydd yr ymgyrch yn para cyhyd yn golygu y gallai'r deinamig newid sawl gwaith naill ai oherwydd ymgyrchoedd yr ymgeiswyr neu yr hyn wnaeth Harold Macmillan eu galw'n "events, dear boy, events". Dyma enghraifft o'r hyn allai ddigwydd.

syremyr.jpgDw i wedi bod yn dipyn o sinig erioed ynghylch Comisiwn Syr Emyr. Does gen i ddim byd yn erbyn y dyn, ei gyd gomisiynwyr na'u methodoleg. Y broblem i mi o'r cychwyn oedd bod y fath yma o gorff yn debyg o gynhyrchu adroddiad nad oedd yn clymu dwylo'r llywodraeth.

Byswn wedi mentro swllt mai'r canlyniad fyddai rhywbeth i'r perwyl "ar y naill law... ar y llaw arall... penderfyniad i'r gwleidyddion yw hwn, mewn gwirionedd"!

Ond beth os oeddwn i'n anghywir?

Meddyliwch am eiliad. Beth pe bai'r Comisiwn yn dod i'r casgliad bod y dystiolaeth yn awgrymu y byddai refferendwm yn cael ei hennill ac y dylai'r llywodraeth fynd amdani yn syth bin? A beth pa bai'r argymhelliad yna'n cael ei gyhoeddi jyst wrth i aelodau'r Blaid Lafur dderbyn eu papurau pleidleisio?

Fe fyddai hynny'n ddiddorol.

Fe wnes i gynnwys fideo agoriadol Edwina Ddydd Gwener. Dyma un Carwyn. Peidiwch becso dydw i ddim yn bwriadu cynnwys pob un wan jac o rhain dros yr wythnosau nesaf!

Miri Meirion

Vaughan Roderick | 18:23, Dydd Sadwrn, 3 Hydref 2009

Sylwadau (2)

Gwilym.jpgMae Gwilym Euros Roberts wedi ei ddewis fel ymgeisydd Cynulliad Llais Gwynedd yn Nwyfor Meironydd. Dydw i ddim yn nabod Gwilym ond mae'n flogiwr toreithiog a difyr.

Does dim clem da fi faint o fygythiad yw Gwilym i Dafydd El (neu rywun arall o Blaid Cymru) mewn gwirionedd. Mae 'na groeso arbennig i sylwadau o Wynedd felly!

Mae Llais Gwynedd hefyd yn bwriadu enwebu ymgeisydd yn Arfon yn 2011 ond dyw'r blaid ddim yn bwriadu sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol.

Hwre! Arolwg barn o'r diwedd!

Vaughan Roderick | 10:15, Dydd Sadwrn, 3 Hydref 2009

Sylwadau (4)

_44677238_ballotbox_bbc226.jpgMae'r diffyg arolygon yng Nghymru yn boen i bawb ac yn gwneud y gwaith o ddehongli a dadansoddi ein gwleidyddiaeth llawer yn fwy anodd. Diolch i "Politcs Home" felly am gynnig glased o ddŵr wrth i ni ymlwybro trwy'r anialdir!

Mae'r safle wedi cyhoeddi canlyniadau ei arolwg barn blynyddol gan YouGov o etholaethau ymylol. Gyda sampl enfawr o dros 33,000 a system glyfar o gynyddu'r sampl mewn etholaethau "anarferol" mae 'na werth ac ystyr i'r canlyniadau Cymreig.

Cofiwch gall unrhyw arolwg fod yn anghywir ac heb arolygon eraill i'w defnyddio fel cymhariaeth mae angen pinsied, ond dim ond pinsied, o halen wrth ddarllen y canlyniadau.

Mae'r arolwg yn rhagweld gogwydd o 9% o Lafur i'r Ceidwadwyr yn seddi ymylol Cymru ynghyd a gogwydd o 7.6% o Lafur i Blaid Cymru. Mae'r safle yn darogan y byddai hynny'n ddigon i sicrhau buddugoliaethau i'r Torïaid ym Mhen-y-bont, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gŵyr, Gorllewin Casnewydd, Dyffryn Clwyd a Bro Morgannwg ac i Blaid Cymru yng Ngheredigion ac Ynys Môn.

Mae'r manylion yn fan hyn (pdf)

Ymddiheuriad Trwy hap fe wnes i adael Aberconwy oddi ar rhestr enillion y Blaid Geidwadol. Roedd hynny'n amlwg o ddilyn y ddolen. Gwnes i ddim cynnwys chwaith y seddi ymylol oedd yn cael eu samplo na fydd yn newid dwylo yn ôl YouGov. Os ydych chi'n cael trafferth agor y ffeil pdf mae'r rhestr gyflawn ar wefan "Politics Cymru".

Un pwynt bach arall. Mae angen bod yn garcus iawn ynghylch yr hyn mae'r arolwg yn awgrymu am berfformiad y Democratiaid Rhyddfrydol. Ceredigion a Brycheiniog a Maesyfed oedd yr unig ddwy o "etholaethau da" y blaid honno i gael eu cynnwys yn yr arolwg. Mae'n biti na chafodd Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd eu cynnwys gan fod y mwyafrifoedd seneddol yn y rheiny yn ddigon tebyg i rai o'r seddi eraill ar y rhestr.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 22:21, Dydd Gwener, 2 Hydref 2009

Sylwadau (0)

_44399971_cinema2_other_203.jpgFe wnawn ni gychwyn yr wythnos hon gyda "plyg" i Ŵyl Ffilmiau Iris sy'n cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddiwedd yr wythnos.

Cafodd yr Ŵyl, sy'n gwobrwyo ffilmiau hoyw, ei sefydlu gan Berwyn Rowlands, gynt o Ŵyl Ffilmiau Aberystwyth, er hoffus gof. Dyma ragflas o'r ffilmiau sy'n cystadlu am y wobr fawr eleni.

Dyna ddigon o'r stwff seriws! Beth am fwrw golwg ar rai o gorneli mwyaf rhyfedd y rhyngrwyd? Dydw i ddim yn sicr pwy gafodd y syniad o gyfuno "Sam Tân" a "London's Burning" ond mae'r canlyniad yn rhyfedd ar y naw!

Mae 'na is ddiwylliant cyfan sy'n creu ffug-deitlau i ffug-raglenni teledu ar ffug-sianelau! Pe na bai "Teledu Cymru" wedi mynd i'r gwellt yn 1964 sut olwg fyddai ar ei newyddion yn 1996, tybed?

Mae "Teledu Sir Efrog" hyd yn oed yn fwy rhyfedd. Yn bersonol rwy'n gweld yr hiwmor yn hon, ond rwy'n amau y bydd rhai wedi eu pechu!

"Theatre Royal" y Barri sydd yn y llun. Hon oedd yr olaf o sinemau Brian Bull, gwr wnaeth gadw nifer o theatrau traddodiadol Cymru'n agored ymhell tu hwnt i'w hoes. Fe gaeodd hon rhyw flwyddyn yn ôl.

Gwas bach y peiriant pres

Vaughan Roderick | 16:56, Dydd Gwener, 2 Hydref 2009

Sylwadau (2)

_40607983_5c203.jpgMae pethau fan hyn wedi bod yn gythreulig o brysur! Roeddwn wedi bwriadau blogio am y stori yma ddoe ond aeth pethau'n drech na mi!

Mae gen i ambell i ôl nodyn bach i ychwanegu yn sgil yr helynt ynghylch cyfieithu yn y Cynullaid.

Fe wnes i honni ar sail fy "syms cefn amlen" fy hun, a symiau tebyg gan aelodau cynulliad y byddai'r drefn newydd yn fwy costus na'r un oedd yn bodoli o'r blaen.

Mae'r Comisiwn yn gwadu hynny. £250,000 oedd cost cyfieithu'r Cofnod dros nos. Fe fydd cyfieithu o fewn 3-5 diwrnod yn costio £170,000 yn ôl y Comisiwn. Rwyf yn ddigon parod i dderbyn hynny er ei bod yn braidd yn rhyfedd mai £170,000 oedd amcangyfrif y Comisiwn ar gyfer cyfieithu o fewn 10 diwrnod hefyd. Yn ychwanegol at hynny mae'r comisiwn yn honnu mai £60,000 fydd cost cyfieithu'r pwyllgorau. Mae hynny'n golygu arbediad o £20,000 felly.

Yn y cyfamser dyw'r Bwrdd iaith ddim wedi cytuno i'r newidiadau eto. Mae trafodaethau'n parhau.

Triawd y Buarth

Vaughan Roderick | 10:36, Dydd Gwener, 2 Hydref 2009

Sylwadau (11)

huey.jpgDyw hwn ddim yn flog byw fel y cyfryw ond gan fy mod yn disgwyl sawl datblygiad yn y ras i olynu Rhodri yn ystod y dydd fe fydd y post yma'n cael ei ddiweddaru o bryd i gilydd.

10.35; Dyw'r ymgeiswyr posib na'u cefnogwyr ddim i fod ymgyrchu cyn hanner dydd heddiw. Os wnaethoch chi glywed Albert Owen a Sian James ar Post Cyntaf neu Good Morning Wales y bore 'ma dyna oedd y rheswm yr oedd y ddau mor garcus ynghylch enwi enwau.

Fe wna i rannu'r gyfrinach. Mae Albert yn cefnogi Carwyn a Sian yn ochri gyda Huw Lewis. Mae penderfyniad Sian yn dipyn o glec i Edwina gan danlinellu gwendid ei chefnogaeth ymhlith Aelodau Seneddol. Dyw'r gwendid hynny ddim yn annisgwyl. Mae agwedd Edwina tuag at Aelodau Seneddol yn hwpo eu trwynau i mewn i fusnes y cynulliad wedi tynnu blew o'r union drwynau hynny!

hdl.jpg12.00 Mae Huw Lewis ac Edwina Hart wedi cadarnhau eu bod yn sefyll yn yr etholiad. Mae Huw hefyd wedi cyhoeddi enwau'r chwe Aelod Cynulliad sy'n ei enwebu er mwyn lladd unrhyw awgrym na fyddai'n cyrraedd y trothwy.

Y chwech yw Huw ei hun, Karen Sinclair, Irene James, Joyce Watson Ann Jones a Lynne Neagle. Does dim awgrym felly bod y "chwaeroliaeth" yn benderfynol o gael menyw i'w harwain! Mae Huw a Lynne yn briod, wrth gwrs, rhywbeth y mae hi'n cyfeirio ato yn ei datganiad i o gefnogaeth.

"Now, there are three good candidates to choose from. Carwyn's easy, affable manner is an attractive quality in the Assembly Chamber; Edwina's decisive nature as Health Minister has been a valuable asset - but I don't live with either of them!"

Mae honna'n gythraul o lein dda, os caf i ddweud!

Mae cyhoeddiad Edwina i'w weld ar You Tube.

150full.jpg14.15 Fe gyhoeddodd Edwina ei hymgeisyddiaeth y tu fas i siop hufen ia Verdi's yn y Mwmblws? Ai peth call yw gelyniaethu selogion Joe's ac a fydd Huw a Carwyn yn gwneud ffafrau tebyg i Sidoli's a Cresci's? Mae podlediad newydd ar fin cael ei gyhoeddi. Toby Mason sy'n esbonio cymhlethdodau'r Coleg Etholiadol Llafur.

16.15;Os nad oedd y darpar arweinwyr Llafur yn gwybod bod 'na fynydd o'u blaenau mae Karl y bwci wedi bod mewn cysylltiad. Dyma'r prisiau y mae Karl wedi eu gosod ar gyfer pa blaid fydd a'r nifer fwyaf o seddi yng Nghymru ar ôl yr Etholiad Cyffredinol nesaf;

Ceidwadwyr; 4-7
Llafur; 11-8
Cydradd; 10-1

17 aelod Ceidwadol yw'r nifer fwyaf tebygol medd yr oracl. 14 yw'r ffigwr fwyaf tebygol i Lafur.


Arglwydd Gad Im Dawel Orffwys

Vaughan Roderick | 16:19, Dydd Iau, 1 Hydref 2009

Sylwadau (0)

duck_10_284x420.jpgRoeddwn i lawr yn y Senedd yn gwneud cyfraniad i radio Wales yn gynharach heddiw pan ofynnodd ymwelydd gwestiwn oedd heb fy nharo sef " a fydd Rhodri'n mynd i Dŷ'r Arglwyddi?"

Mae hynny'n ddau gwestiwn mewn gwirionedd. Yn gyntaf a fydd y cynnig yn dod ac yn ail a fyddai Rhodri'n ei dderbyn?

O sabwynt y cwestiwn cyntaf does na ddim cynsail amlwg. Cafodd Prif Weinidog cyntaf cynulliad Gogledd Iwerddon, David Trimble, ei ddyrchafu i'r siambr uchaf ond roedd hynny oherwydd iddo golli ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin yn fwy nac unrhyw beth arall. Yn achos yr Alban roedd Jack McConnell yn Brif Weinidog am chwe blynedd ond ymddiswyddo ar ôl colli etholiad gwnaeth Mr McConnell. Yn ei achos ef mae 'na sibrydion bod Gordon Brown wedi addo sedd yn y siambr uchaf iddo cyn newid ei feddwl.

O safbwynt cyfansoddiadol gellid dadlau y byddai 'na fanteision o gynnig seddi yn siambr uchaf San Steffan i bobol a'r profiad o fod yn brif weinidog yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Mae hynny'n arbennig o wir yn achos Cymru gyda'i sbageti o system ddeddfwriaethol.

Ar y llaw arall yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol fe fydd na restr faith iawn o wleidyddion Llafur yn awchu am sedd ar y meinciau cochion.

Dydw i ddim yn meddwl y bydd y cynnig yn dod os nad yw Rhodri yn ei chwennych ac os nad ydw i'n camddeall y dyn yn llwyr rwy'n sicr na fydd e'n gwneud hynny.

Ar Fwnt y mae llygaid Rhodri Morgan, nid ar San Steffan.

Rhodri a Freddy

Vaughan Roderick | 10:46, Dydd Iau, 1 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Nightmare-On-Elm-Street_l.jpg"Rwy'n synnu bod unrhyw un am sefyll heb son am dri!"

Fe wna i ddim dweud pa wleidydd Llafur oedd yn gyfrifol am y sylw ond mae'r pwynt yn un digon teg.

A bod yn boleit fe fydd yr arweinydd Llafur newydd yn wynebu "ambell i her".

I fod yn fwy gonest gallai'r swydd fod yn bas ysbyty go iawn.

I fod yn gyfan gwbwl onest gallai'r jobyn bod yr un mor flasus â'r "rat sandwiches" yna yr oedd Ieuan yn eu crybwyll ers talwm

Huw! Edwina ! Carwyn! Dyw hi ddim yn rhy hwyr i ail-feddwl! Dyma dri rheswm dros BEIDIO sefyll.

1. Hunllef yr Esgidiau. Nid cyfeirio at ddewisiadau ffasiwn Edwina ydw i yn fan hyn! Dyw camu mewn i esgidiau mawrion byth yn hawdd a go brin fod 'na bar o sgidiau mwy yng ngwleidyddiaeth Cymru na rhai Rhodri Morgan. Mae cymryd y swydd yma fel yr hunllef yna lle mae disgwyl i chi ganu'n syth ar ôl Bryn Terfel. Yn Stadiwm y Mileniwm. Yn noeth.

2. Hunllef y Pantri Gwag. Mae cloch y drws ffrynt yn canu. Mae'r bos a'i bartner a'ch darpar deulu yng nghyfraith yn dod i swper am y tro cyntaf ac mi ydych chi wedi anghofio popeth am y peth. Y cyfan sydd yn y pantri yw darn bach o gaws a phaced o Pot Noodle. Sefyllfa digon tebyg sy'n wynebu llywodraeth y cynulliad. Fe fydd pawb yn gofyn am bres ond fydd na'r un ddime goch yn y coffrau. Y cwestiwn cyntaf ar eich desg yw hwn. "P'un i dorri... addysg neu iechyd?"

Os nad yw'r hunllefau hynny'n ddigon i'ch darbwyllo beth am hon? O fewn misoedd fe fydd 'na etholiad cyffredinol ac mae Llafur o bosib yn mynd i gael slamad. Nid eich bai chi yw hynny ond pwy fydd yn gorfod ysgwyddo'r bai a chlirio'r llanast? Dyma'r hunllef olaf felly.

3. Problem Y Peldroedwyr Coll. Mi ydych chi'n olynu Alex Ferguson fel rheolwr Manchester United. Yn anffodus mae pob chwaraewr ar wahân i Gary Neville a deg crwt o'r academi wedi gadael. Yn waeth na hynny Mark Hughes sydd wedi eu potsian nhw. Gyda llaw, mae'r gêm derbi fawr fory.

Calliwch, y tri ohonoch chi!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.