Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mrs. Slocombe a'r Economi Gymreig

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Llun, 28 Medi 2009

DB.jpgRoeddwn i wedi bwriadu aros am wythnos neu ddwy cyn cymryd cip ar siop newydd John Lewis yng Nghaerdydd. Yn y diwedd roedd y temtasiwn yn ormod i mi ac, mae'n ymddangos, i hanner poblogaeth De Cymru!

Y cyfan wna i ddweud yw bod y lle yn ENFAWR a bod y defnydd o'r Gymraeg yn rhyfeddod gyda phob peth yn gyfan gwbl ddwyieithog. Mae'n amlwg nad oedd y cwmni yn cyfri'r ceiniogau wrth lunio polisi iaith. Efallai bod 'na wers yn hynny i Gomisiwn y Cynulliad.

Allan o ddiddordeb fe wnes i chwilio ar y we i weld a oedd y John Lewis gwreiddiol yn Gymro. Fel mae'n digwydd, doedd e ddim ond roedd Cymry oes Victoria yn dipyn o feistri ar agor siopau adrannol.

Mae siop adrannol fwyaf Sydney, David Jones, o hyd yn hedfan y Ddraig Goch ar Ddydd Gŵyl Dewi. Yng Nghairo, tan y chwedegau, roedd tariannau'n datgan "Y Gwir yn Erbyn y Byd" yn addurno siop Davies Bryan un o gyfres o siopau yn yr Aifft oedd yn eiddo i deulu mentrus o Gaernarfon. Y teulu hwnnw, gyda llaw, wnaeth rhoi'r tir ar gyfer campws Penglais yn Aberystwyth.

Mae 'na hen ddigon o esiamplau o fenter y Cymry yn yn 19eg ganrif. Roedd "Welsh Daries" y palmant aur oedd i'w canfod yn Llundain a dinasoedd mawrion eraill Lloegr yn un enghraifft. Yn agosach at gartref agorodd dynion busnes Cymreig siopau fel David Morgan, Caerdydd, Dan Evans, y Barri a David Evans, Abertawe. Yn agosach fyth at gartref roedd teulu fy nghydweithiwr, Guto Thomas, yn berchen ar gadwyn o siopau dillad yn y brifddinas.

Dyw'r ffaith bod hi'n ystrydebol braidd i ddweud bod Cymru'n dibynnu gormod ar y sector gyhoeddus ddim yn golygu nad yw hynny'n wir ond yn ddiweddar fe wnaeth Rhodri Morgan bwynt diddorol iawn. Yn ôl Rhodri mae'r canran o'r boblogaeth yng Nghymru syn gweithio yn y sector gyhoeddus yn ddigon tebyg i'r canran yn Lloegr. Y broblem yw nid bod y sector gyhoeddus yn rhy fawr ond bod y sector breifat yn rhy fach.

Rhywbryd yn ystod yr ugeinfed ganrif fe gollodd y Cymry eu parodrwydd i fentro gan edrych lawr eu trwynau braidd ar y rheiny oedd yn ceisio troi ceiniog trwy fasnach. Mae sawl esboniad yn cael eu cynnig. Mae diffyg cyfalaf, dibynnu gormod ar lond dwrn o ddiwydiannau trymion a'r defnydd o Gymru fel "peiriant cynhyrchu athrawon" i Loegr yn eu plith. Mae'n debyg mai cyfuniad o'r ffactorau hynny ac eraill oedd yn gyfrifol.

Fe fyddai canfod ffyrdd i ailgynnau'r ysbryd o fenter ymhlith y Cymry yn faen athronydd i Lywodraeth y Cynulliad, yn fodd i droi plwm yr economi bresennol yn aur.

Mewn gwirionedd does dim dewis arall. Does dim achubiaeth i ddod i economi Cymru o Japan, yr Almaen na'r Unol Daleithiau y tro hwn.

Diweddariad Iawn, rwy'n cyfaddef fy mod yn hwntw anwybodus! Diolch i bawb wnaeth dynnu fy sylw at siop Lewis's, Lerpwl a'i heisteddfodau.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:22 ar 28 Medi 2009, ysgrifennodd Owen Wyn:

    Cafodd Menter a Busnes ei sefydlu ar gyfer yr union beth y soniwch amdano, ac mae hynny tua 20 mlynedd yn ôl siwr o fod. Deud ydych chi nad oes llawer o'i ôl?

  • 2. Am 14:51 ar 28 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Nid difrïo unrhyw un oedd y bwriad. Mewn gwirionedd, mae 'na dystiolaeth bod agwedd y Cymry Cymraeg, o leiaf, tuag at fusnes yn newid yn araf bach. Yn anffodus mae'r rhan fwyaf o'r busnesau newydd gafodd eu sefydlu yn 2008 (17,700 ohonyn nhw) mewn ardaloedd sydd eisoes yn llewyrchus. Creu hyder a sicrhau argaeledd cyfalaf yn yr ardaloedd difreintiedig yw'r broblem fawr.

  • 3. Am 15:52 ar 28 Medi 2009, ysgrifennodd BUSNESLYD:

    Ydi Menter a Busnes yn dal i fynd?

    Dwi wedi bod mewn busnes ers dros 20 mlynedd heb unrhyw help o M a B. Dwi ddim yn gwybod am neb arall sydd wedi cael help chwaith - heblaw am y fenyw na o Sir Benfro oedd ar bob yn ail hysbyseb ar S4C beth amser yn ol yn ein hannog i 'fentro i fusnes'

    Pan ddaw hi'n ddydd (cyn hir, mae'n siwr) i 'mestyn am y fwyell . . . Ma M a B for the chop wedai i.

  • 4. Am 16:31 ar 28 Medi 2009, ysgrifennodd Griff:

    Roeddwn i'n ffan mawr o'r John Lewis a'r Gymraeg yno, ond ddim yn ffan o'r defnydd o'r gair "watsus" yn lle oriawr!

  • 5. Am 19:19 ar 28 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    I fod yn deg mae "watsus" yn y geiriadur. Yn bersonol, byswn i'n defnyddio "oriawr" yn lle "wats" ond mae'r lluosog "oriorau" yn dipyn o lond ceg. Rwy'n sicr y byddai'n bosib dyfeisio "tongue-twister" ar sail oriorau orddrud John Lewis!

  • 6. Am 08:19 ar 29 Medi 2009, ysgrifennodd Del Boio:

    Vaughan,

    Efalle fy mod i braidd yn anheg ond dweud hyn ydwyf o ganlyniad i fy mhrofiad fy hun.....yr unig rhai oedd yn elwa o'r cyrff 'ma megis 'Llygad busnes'....'Foothold' ac ati....oedd y rhai oedd yn gyflogedig ganddynt. Dwi'n meddwl fod y gweithwyr yn raddedigion......ond mi fues i'n gweld tri gwahanol un ar un cyfnod ac mi gefais i'r in gwybodaeth gan y tri a hynny ar ffurf ffotogopiau wedi ei lawrlwytho o'r we o'r un wefan! Nid wyf yn meddwl fod gan y bobl 'ma unrhyw brofiad o redeg busnes a'r argraff roeddwn i'n cael taw dyna'r unig beth oedd ganddynt ddiddordeb ynddo oedd cael dy lofnod i ddweud dy fod wedi derbyn help i gyfiawnhau eu bodolaeth. Doedd dim un 'follow up'.


  • 7. Am 09:35 ar 29 Medi 2009, ysgrifennodd BUSNESLYD:

    Del Boio

    Gwir pob gair . . . graddedigion . . dim profiad o redeg busnes . . a llofnod i gyfiawnhau eu bodolaeth a nhw oedd yr unig rai i elwa. Wyt ti wedi taro'r hoelen.

    Beth yw profiad eraill? Oes rhywun mas na a gair da i ddweud dros fentrau hybu busnes.

  • 8. Am 01:04 ar 1 Hydref 2009, ysgrifennodd Huw Waters:

    "Those who can do, those who can't teach..."

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.