Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Snogio

Vaughan Roderick | 18:09, Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2009

Doeddwn i ddim yn y Bae heddiw. Dydw i ddim felly wedi cael llawer o amser i ystyried adroddiad y panel treuliau ond o gael cip olwg sydyn mae'n ymddangos yn ddarn trylwyr iawn o waith.

Rwy'n arbennig o falch bod Syr Roger a'i dîm wedi rhoi sylw i'r ffordd y mae rhai aelodau'n rhenti swyddfeydd gan eu pleidiau, stori gafodd gryn sylw gan y BBC wythnos ddiwethaf. Mae eu hargymhellion yn gwneud synnwyr. Fe fyddai'n hurt i wahardd aelodau rhag defnyddio swyddfeydd canolog a chyfleus sy'n adnabyddus i'w hetholwyr. Ar y llaw arall mae angen sicrhau nad yw'r rhent yn rhyw fath o gymhorthdal cudd i'r blaid. Mae ateb Syr Roger yn un syml. Fe ddylai rhent teg gael ei bennu gan syrfewr annibynnol wedi ei benodi gan y cynulliad. Call iawn.

Lle'r oeddwn i heddiw? Yn snogio gyda Elin Jones! Nid yn llythrennol, wrth gwrs. Roeddwn i mewn cynhadledd a drefnwyd gan Sefydliad Bevan i drafod dwy flynedd o lywodraeth Cymru'n Un lle wnaeth Elin y sylw yma "os ydych chi eisiau clymblaid lwyddiannus mae'n rhaid i chi snogio pob partner posib".

Brinle hyd yn oed, Elin? Fe wna i brynu tocyn!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:13 ar 6 Gorffennaf 2009, lombardpuncture ysgrifennodd:

    Mae'n swnio o Twitter fod dy araith yn ddiddorol a da - oes gobaith am gael ei gweld yma?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 19:38 ar 6 Gorffennaf 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Mae hi yn Saesneg ac yn llawn o "typos" a cham sillafiadau. Fi wedi'r cyfan oedd yn gorfod darllen y peth! Fe fydd Sefydliad Bevan yn cyhoeddi'r papurau ar ôl eu caboli ond os oes unrhyw un eisiau gweld y fersiwn amrwd e-bostiwch fi "vaughan.roderick@bbc.co.uk" ac fe wna i ddanfon copi.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.