Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 20:16, Dydd Sadwrn, 4 Gorffennaf 2009


Mae'n ymddangos bod Golwg360 yn gweithio o'r diwedd, i fi, o leiaf! Mae'r diwyg hefyd wedi ei foderneiddio. Hwre! Dwi'n edrych ymlaen at y ffeit! Mae cystadleuaeth yn beth da!

Mae Lefi Gruffudd yn sgwennu ynghylch yr union bwnc yn y "Western Mail". Fel bron pawb arall mae Lefi yn parhau i gyfeirio at wasanaeth arlein Cymraeg y BBC fel "Cymru'r Byd". Mae'r enw hwnnw wedi diflannu o'r safle am ryw reswm. Nid myfi yw'r un i ofyn pam... o na!

Hefyd yn y "Western Mail" mae 'na stori ynghylch gwahodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ymuno a'r llywodraeth yn y Bae. Twt lol yn fy marn i. Gan fy mod wedi gwylltio Plaid Cymru gyda ambell i bost yn ddiweddar gadewch i mi ddweud fy mod yn credu bod y sylw yma gan lefarydd y blaid yn llygaid ei le.

""There are some in the Labour Party who are out to undermine the Labour-Plaid agreement and are trying to damage Ieuan for their own ends, helped by the Liberal Democrats."

Pwy yw'r "some" 'na? Fe fedra i ddyfalu!

Mae 'na flog sosialaidd newydd wedi ymddangos yn y gogledd ddwyrain- un da hefyd. "Proper Tidy" yw'r enw. Rhyfedd. Roeddwn i'n meddwl mai rhan o dafodiaith Saesneg Caerdydd oedd y term hwnnw.

Maes-e
Blogiadur

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.