Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhagor o chwarae plant

Vaughan Roderick | 10:14, Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009

Dioch i bawb wnaeth gynnig ar gêm Myrddin ddoe. Dyma'r atebion;

Geiriau Myrddin

Calf; croth coes , Broom; banhadlen, Leeches; gelen, Collar bone; pont yr ysgwydd, Curlew; gylfinir

Geiriau "Democratiaeth Fyw"

Ladle; lletwad, Jay; sgrech y coed, Moustache; trawswch (ar ddyn) swch ddu (ar fenyw) , Tuning Fork; trawfforch, Barrel Organ; organ gelwrn.

Mae Idris yn gofyn am gyfieithiadau i ddau derm gwleidyddol sef "turnout" (mewn etholiad) ac "engage" (ee the Assembly is seeking to engage with children). Fe fyddai cyfieithiad i'r cyntaf yn fendith mae "canran wnaeth bleidleisio" yn drwsgl tu hwnt!

Fe wna i ychwanegu un gair arall sef "swing" (ee swing of 10%). Mae rhai (gyda fi yn eu plith) yn defnyddio "gogwydd" ond dyw hynny ddim cweit yn golygu'r un peth!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:40 ar 31 Gorffennaf 2009, Marc ysgrifennodd:

    "Moustache; trawswch (ar ddyn) swch ddu " - Tybed, felly, beth yw'r hanes tu ôl i'r ffaith fod yr addfwyn John Elfed Jones (Aliwmuniwm Môn gynt; Cadeirydd Bwrdd yr Iaith gynt) yn cael ei adnabod gan lawer wrth y llys enw "Swch".

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 14:52 ar 31 Gorffennaf 2009, Ani ysgrifennodd:

    Be am chwarae'r gêm y ffordd arall? Meddwl am eiriau Cymraeg sy'n anodd eu cyfieithu i'r Saesneg? Sgen i ddim awgrymiadau, ond neb i ddeud 'hiraeth'!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 15:20 ar 31 Gorffennaf 2009, Nangogi ysgrifennodd:

    Oes gan rywun awgrym call ar gyfer 'capacity' - yn yr ystyr 'need to build capacity'? Dwi wastad yn cael trafferth gyda hwnna.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 4. Am 15:22 ar 31 Gorffennaf 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Syniad da Ani! Does dim gair Saesneg go iawn am gawl am wn i!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 5. Am 16:00 ar 31 Gorffennaf 2009, Hogyn o Rachub ysgrifennodd:

    I mi'n bersonol dwi byth, byth bythoedd yn gwybod be ydi rwdan yn Saesneg, hyd yn oed wrth 'sgwennu hwn 'sgen i ddim clem!

    Mae 'baw ci' yn un arall - dwi'n meddwl efallai 'dog waste' fyddai'r cyfieithiad arferol, ond dydi o dal ddim yn swnio'n iawn i mi.

    Un bach diddorol (ond wn i ddim o ba iaith i'r llall mewn difri) ydi nad oes cyfieithiad uniongyrchol o Welsh Rarebit - caws ar dost ydi'r Gymraeg!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 6. Am 16:05 ar 31 Gorffennaf 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Dydw i ddim yn gallu meddwl am derm sy'n cyfleu union ystyr "malu cachu" chwaith a chan fy mod yn feistr ar y grefft...

    Cwyno am y sylw hwn

  • 7. Am 00:46 ar 1 Awst 2009, Dewi ysgrifennodd:

    "Cwtsh", "Anibendod"

    Cwyno am y sylw hwn

  • 8. Am 19:47 ar 1 Awst 2009, Dan Din ysgrifennodd:

    Beth yw jellyfish yn Gymraeg? Sglefren for? neu oes enw arall cynhenid a gwell?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 9. Am 20:40 ar 5 Awst 2009, ceri jones ysgrifennodd:

    Mae 'didoreth' yn air diddorol. Ti'n ei glwad e lot fwy yn Saesneg pobol y Cymoedd nag wt ti'n ei glwad e yn eu Cymraeg!!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 10. Am 23:00 ar 5 Awst 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Gwir y gair!

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.