Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Porffor ac Oren a Glas

Vaughan Roderick | 10:17, Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2009

Mae'r blogio wedi bod yn gymharol ysgafn yw wythnos hon a hynny am reswm. Rwyf wedi bod yn defnyddio'r munudau sbâr hynny sy gan amlaf yn amser blogio i baratoi cyflwyniad ar gyfer cynhadledd Sefydliad Bevan wythnos nesaf.

Nid fi wnaeth ddewis y testun ac mae'n un rhyfeddol o anodd sef ceisio darogan pa liw neu liwiau y bydd llywodraeth Cymru ar ôl 2011. Mae'n dasg amhosib bron. Gallaf ddychmygu am sefyllfaoedd a fyddai'n arwain at bron pob un cyfuniad posib. Serch hynny mae 'na ddau gyfuniad sy'n hynod o annhebyg. Un o'r rheiny, wrth reswm yw clymblaid rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr. Y llall yw'n hen gyfaill o 2007- yr "enfys".

Os gofiwch chi fe ddaeth yr "enfys" (sef clymblaid o Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol) o fewn y dim i ffurfio Llywodraeth y Cynulliad. Oni bai am y tebot siocled o gyfansoddiad sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol y glymblaid honno fyddai'n llywodraethu heddiw.

Roedd yr enfys yn opsiwn pwysig yn 2007 oherwydd cyfuniad o ddau ffactor. Y cyntaf oedd y ffaith nad oedd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr a digon seddi rhwngddyn nhw i ffurfio llywodraeth. Yr ail ffactor oedd amharodrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol i ffurfio clymblaid a Llafur. Yr enfys a chlymblaid "coch-gwyrdd" (fel yr oeddwn yn ei galw ar y pryd) oedd y dewisiadau posib yn 2007 felly.

Fe fydd 'na wahaniaeth pwysig yn 2011. I'r Democratiaid Rhyddfrydol roedd y profiad o wrthod clymblaid a Llafur yn ddigon tebyg i brofiad crwt yn gwlychu ei drowsus. Roedd hi'n gynnes a phleserus am ychydig funudau ond yn hynod o amhleserus ar ôl hynny. Dyw'r blaid ddim yn mynd i wneud yr un camgymeriad eto.

Pa ddewisiadau fydd ar y bwrdd yn 2011 felly? Wel, fe fydd coch-gwyrdd ar gael o dan bob amgylchiad tebygol. Os ydy cyfanswm aelodau'r Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn fwy na thrideg cyfuniad rhwng y pleidiau hynny yw'r dewis arall. Os ydy'r cyfanswm hwnnw yn llai na thrideg clymblaid rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yw'r ail opsiwn.

Dim "enfys" felly. Mae hynny'n pery loes calon i mi. Nid cymhellion gwleidyddol sy gen i dros ddweud hynny. Yn nyddiau cynnar y blog yma fe ges i lot o sbort yn llunio penawdau ynghylch yr enfys; "enfys yw fy mywyd", "pot o aur", "Draw dros yr enfys" ayb.
Roedd y posibiliadau'n ddiddiwedd ac roeddwn yn gobeithio eu hail-gylchu nhw i gyd yn 2011! Damnia!

SylwadauAnfon sylw

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.