Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Glyn Cwac Cwac

Vaughan Roderick | 19:19, Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2009

wilcwac-3.jpgYdych chi'n cofio ynys yr hwyaid- yr addurn aeth yn symbol o'r holl helynt ynghylch treuliau? Ydych? Wel, dyma i chi ddatblygiad cyffrous.

Fe fedra i ddatgelu ffaith ysgytwol. Mae gan Glyn Davies nid un, ond dwy o'r ynysoedd hyfryd hyn yn ei ardd ym Maldwyn.

Peidiwch a phoeni. Does dim awgrym o gwbwl bod Glyn wedi ceisio hawlio'u cost o'r trethdalwyr! Gyda chylch yr orsedd hefyd mae'n rhaid bod ganddo gythraul o ardd! Owain Clarke oedd y Capten Cook wnaeth ddarganfod yr ynysoedd hudolus hyn wrth baratoi ffilm ynghylch treuliau i CF99. Mae'n rhaid i chi syllu'n ofalus ar y cefndir y tu ôl i Glyn i'w gweld!

Fe fydd y rhaglen am ddeg ar S4C ac fe fydd Dafydd Elis Thomas ymhlith y gwesteion. Fi sy'n chwarae rhan Dic Pen Moel a Bethan yw Ifan Twrci Tenau'r noson!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:26 ar 8 Gorffennaf 2009, FiDafydd ysgrifennodd:

    Mae sôn am hwyaid yn rhoi cyfle i mi gyfeirio at y criced! Pwy fydd pobl yn eu cefnogi? Yn syml iawn, fe fydda i'n cefnogi Awstralia. Trist neu beidio, yn seicolegol alla i ddim cefnogi Lloegr. Gobeithio y bydd y tywydd yn dda, y criced yn well a'r canlyniad yn dderbyniol felly.

    (Gyda llaw, mae'r llythrennau bach yn y blwch ambell waith yn gwbl amhosib eu deall - o hyd!! I mi beth bynnag. Pam fod dy flog di angen y rhain o gwbl?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 09:37 ar 8 Gorffennaf 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Fe wna i ofyn am y llythrennau. Fe wnaeth blogs y BBC ddioddef "spam attack" y llynedd. I atal rheiny mae'n nhw'n dda, dw i'n meddwl. O safbwynt y criced rwyf wedi dilyn yr un polisi ers fy arddegau. Rwy'n cefnogi Lloegr yn erbyn Awstralia a De Affrica a phawb arall yn erbyn Lloegr (os nad oes Cymro yn y tim). Beth fyddai Norman Tebbit yn dweud?

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.