Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gair i gloi

Vaughan Roderick | 00:25, Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009

Yn groes i "tweet" Bethan Jenkins does 'na ddim rhyfel rhwng Peter Black a finnau ynghylch sefyllfa Lembit er bod fy sylwadau ynghylch ei flog-bost wedi denu sylw fan hyn a man draw.

Fe wna i ddim treulio gormod o amser ynghylch hyn ond mae un sylwad ar "Guerilla Welsh Fare" sy'n hynod ddiddorol os ydy'r post yn un ddilys. Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio mai ffug-bost yw'r peth. Fe wna i ffeindio allan fory! Fel oeddwn yn hanner amau ffug-bost oedd yr un yn enw un o ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol. Tric budr iawn ac un y dylai perchennog y blog ei gyweirio.

Fe wna i roi'r gair olaf i flogiwr gorau a mwyaf uchel ei barch y Democratiaid Rhyddfrydol, Stephen Tall sy'n sgwennu ar safle hanner-swyddogol y blaid. Mae'n cyfeirio at Lembit, nid Peter, wrth gwrs!

"...the overall impression is of a bit of a joker, a wildcard eccentric, the type of guy you'd like to have a drink with, but not want in charge of anything that matters... Here we have a politician capable of inspiring the public, a terrific speaker, a passionate liberal, a clever guy. Yet he's also saddled at the moment with the label, 'A bit of an embarrassment'. Which is a real shame, but the truth."

Ydy'r geiriau yna yn llai personol na rhai Heledd Fychan?

Peter?

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.