Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ffair Haf

Vaughan Roderick | 11:52, Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009

Os os oes 'na opera sebon yn y cynulliad ar hyn o bryd y berthynas rhwng Ieuan Wyn Jones a'r Pwyllgor Cyllid yw hwnnw. Teg yw dweud nad yw'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn ffans mawr o'r gweinidog

Ers tro byd mae'r pwyllgor wedi bod yn ceisio cael gafael ar gopi o gyngor swyddogion i'r Gweinidog ynghylch Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Aeth yr hwch trwy'r siop heddiw pan glywodd y pwyllgor y byddai Ieuan yn cyhoeddi'r cyngor bnawn dydd Mercher nesaf. Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Angela Burns, fe fyddai hynny'n rhy hwyr i ganiatáu i'r pwyllgor ei drafod cyn gwyliau'r haf. Er mwyn cynyddu'r pwysau ar Ieuan fe benderfynodd Angela fygwth cynnal cyfarfod yn ystod y gwyliau.

Roedd hynny i gyd yn ystod sesiwn gyhoeddus y pwyllgor. Fe ddechreuodd y sbort go iawn mewn cyfarfod preifat wedyn wrth i gynrychiolwyr Plaid Cymru gyhuddo rhai o aelodau eraill y pwyllgor o hogi cyllyll gwleidyddol. Fe'u cyhuddwyd o geisio tanseilio Ieuan fel gweinidog a'r glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Erbyn y diwedd yn ôl y son roedd yr aelodau mwy neu yn sgrechain ar ei gilydd. Honnir i un aelod waeddu "It's not this committee that's undermining the government it's your ******* Minister".

Oedden nhw mewn gwirionedd yn disgwyl gallu cadw honna'n dawel? Mae gen i sbeis ym mhobman!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:34 ar 9 Gorffennaf 2009, David Hughes ysgrifennodd:

    Mae'n hollol warthus bod Aelod Cynulliad yn defnyddio y fath iaith. Dwi'n credu bod yr cyhoedd hefo hawl gwybod pwy oedd yr aelod? Pwy bynnag oedd o neu hi, ddylai nhw ymddiheuro.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.