Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ieuan ac Ivor

Vaughan Roderick | 14:10, Dydd Gwener, 10 Gorffennaf 2009

ivor.jpgDoes gen i ddim anorac a dydw i ddim yn "trainspotter". Serch hynny, ar y cyfan mae'n well gen i deithio ar drên nac mewn car neu fws. Rwy'n digwydd meddwl hefyd bod ail-agor leiniau rheilffyrdd Bro Morgannwg a Glynebwy* i deithwyr yn ddau o lwyddiannau mawr Llywodraeth y Cynulliad.

Wythnos nesaf fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi ei chynllun trafnidiaeth cenedlaethol. A fydd hwnnw tybed yn cynnwys ail-agor rhagor o reilffyrdd? Fe gyhoeddodd Ieuan Wyn Jones dro yn ôl bod y llywodraeth yn ystyried y posibilrwydd o wneud hynny. At ba wasanaethau yr oedd e'n cyfeirio tybed?

Y peth cyntaf i ddweud yn fan hyn yw y byddai hi bron yn amhosib ail-agor leiniau hir sydd wedi eu hen golli Aberystwyth i Gaerfyrddin, er enghraifft neu Riwabon i Fermo.

Y cynlluniau mwyaf realistig yw'r rheiny (fel yn achosion Bro Morgannwg a Glynebwy) lle mae'r rheilffordd wedi parhau mewn bodolaeth ar gyfer gwasanaethau nwyddau. Fe fyddai ail agor gwasnaethau rhwng Aberdâr a Hirwaun a Beddau a Phontyclun yn gynlluniau amlwg a chymharol hawdd. Ond mae'n anodd credu y byddai 'na ddigon o deithwyr i gyfiawnhau ail-agor rhai o'r leiniau eraill yn y dosbarth yma, y rheilffordd o Ddowlais i Ystrad Mynach, er enghraifft neu'r un o Flaengarw i Dondu.

Mae'n bosib y byddai na ddigon o deithwyr ar y llaw arall i gyfiawnhau ail-agor lein Dyffryn Aman pe bai modd ail-gysylltu lein y Canolbarth ac Abertawe yn hytrach na Llanelli. Yn yr un modd gallai gwasanaethau rhwng Bryn Mawr a Chasnewydd dalu eu ffordd. Mae'r llywodraeth eisoes yn buddsoddi rhai cannoedd o filoedd o bunnau mewn gwasanaeth treftadaeth ar ran o'r lein honno. Croesi ffyrdd newydd yn ardal Pont-y-pŵl fyddai'r broblem yn yr achos yma.

Y tu allan i'r de diwydiannol ychydig iawn o bosibiliadau sy' na. Mae'n debyg y byddai rheolwyr Rheilffordd Llangollen yn dymuno ymestyn y lein i Gorwen a Rhiwabon ac mae 'na wasanaethau'n ail-gychwyn yn ardal Croesoswallt ond gwasanaethau treftadaeth yw'r rheiny.

Ac eithrio gwasanaethau Hirwaun a Beddau felly mae'n anodd gweld pa gyfleoedd sy 'na ar gyfer gwasanaethau newydd. Mae'n debyg mai ar wella'r ddarpariaeth ar y rhwydwaith presennol y bydd y pwyslais

*Fel arwydd o undod rhwng blogwyr y BBC rwy'n derbyn dadl Glyn Evans draw ar flog Cylchgrawn mai Glynebwy nid Glyn Ebwy sy'n gywir.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:49 ar 10 Gorffennaf 2009, D Thomas ysgrifennodd:

    "Y peth cyntaf i ddweud yn fan hyn yw y byddai hi bron yn amhosib ail-agor leiniau hir sydd wedi eu hen golli Aberystwyth i Gaerfyrddin, er enghraifft neu Riwabon i Fermo."

    Sut wyt ti'n dweud hyn? Ydy'r costau ar flaen dy fysedd Vaughan? Fel rwy'n deall, y gost mwya' yw gwneud y ffordd.....mae'r rhain yn dal i fodoli yn y rhan fwyaf o achosion.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 17:06 ar 10 Gorffennaf 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Cyfeirio at lefel y cyfalaf sy'n debyg o fod ar gael yn ystod oes y cynllun oeddwn i. Efallai nad oedd hynny'n ddigon eglur. Dydi hi ddim yn amhosib eu hail-agor yn y tymor hir ac mae'n bosib y gellid comisiynu astudiaethau paratoawl yn ystod y blynyddoedd nesaf. Yn achos lein Bermo fe fyddai Dolgellau yn broblem ynghyd a sicrhau "hawliau rhedeg" dros rheilffordd Llangollen. Rwy'n credu bod lein Aberystwyth mwy neu lai yn gyflawn. Fel rhyw fath o arwydd o'r gost mae ail-agor lein fach Eryri wedi costi bron i £3O miliwn am rheilffordd 25 milltir o hyd. Roedd y ffordd yn bodoli yn yr achos hwnnw. Anodd yw credu felly y byddai'n bosib ail agor y naill lein na'r llall am lai na £100 miliwn a dyw'r fath yna o arian ddim ar gael yn y tymor byr. Yn achos lein Aber (ond nid Bermo) roedd y gwasanaethau'n gythreulig o araf (3 awr a mwy) yn rannol oherwydd natur troellog y lein oedd yn cyfyngu ar gyflymdra'r trenau. Er mwyn sicrhau gwasnaeth modern safonol fe fyddai'n rhaid addasu'r hen ffordd yn helaeth.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 22:11 ar 11 Gorffennaf 2009, D. Enw ysgrifennodd:

    mae angen agor lein lawr Cwm Tawe i Abertawe - fydde hynny'n werth y pres ac yn talu ffordd gredwm i.

    Bydde modd ymestyn rheilffordd Glyn Ebwy ymlaen i Aberhonddu sgwn i?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 4. Am 13:25 ar 14 Gorffennaf 2009, Padrig ysgrifennodd:

    Peth arall maen nhw'n gallu wneud gyda'r rheilfyrdd yw agor/ail-agor rhai gorsafoedd mae'r trenau yn pasio hebio, megis Sblot, Llaneirwg a Chaerlŷr.

    Byddai'n llawer rhy ddrud i roi rheilfford o Gaerfyrddin i Aberystwyth er enghraifft - ond beth am rwydwaith o fysus "express"? "Express" go iawn wrth gwrs, dim byd fel y Trawscambria!

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.