Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwalfa

Vaughan Roderick | 10:39, Dydd Mawrth, 28 Gorffennaf 2009

Norwich.jpgRwyf wedi bod yn pendroni ynghylch canlyniad is-etholiad Norwich North. Ydw, dw i mor drist â hynny! Mae'r peth wedi bod fel chwilen yn fy mhen ers dyddiau bellach. Chi'n gweld, mae 'na rywbeth od ar y naw ynghylch Norwich North. Fedra i ddim cofio canlyniad cweit mor rhyfedd mewn is-etholiad ac mae 'na ganlyniadau rhyfeddol wedi bod ar hyd y blynyddoedd.

Mae rhan gyntaf y fformiwla yn hen gyfarwydd- plaid lywodraethol yn wynebu llid yr etholwyr ac yn colli talp o bleidleisiau fel canlyniad. Dyna sydd wedi digwydd ym mron pob is-etholiad ers degawdau a dyna ddigwyddodd yn Norwich North. Yr hyn ddigwyddodd wedyn sy'n ddiddorol. Ail hanner y fformiwla yw bod un blaid (y Democratiaid Rhyddfrydol gan amlaf) yn llwyddo i gronni'r bleidlais brotest. Ni ddigwyddodd hynny yn Norwich.

Beth ddigwyddodd yn yr achos yma felly? Wel, fe arosodd y bleidlais Geidwadol yn gadarn gan sicrhau buddugoliaeth i'r blaid ond doedd 'na fawr o gynnydd ynddi. Yn lle hynny mae'n ymddangos bod y bleidlais Lafur wedi mynd ar chwâl gyda UKIP, y Blaid Werdd a'r ymgeisydd annibynnol, Craig Murray yn ennill cefnogaeth barchus iawn. Dydw i ddim wedi edrych yn fanwl ond rwy'n credu bod perfformiad UKIP a'r Gwyrddion ymhlith eu canlyniadau gorau erioed mewn gornestau seneddol.

Mae rhan o'r esboniad am hynny yn deillio o'r ffaith bod peiriant is-etholiad y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli ambell i olwyn yn ddiweddar. Fe ddefnyddiodd y blaid ei holl ddulliau ymgyrchu traddodiadol yn Norwich. Dosbarthwyd bron i hanner miliwn o daflenni yn llawn o'r "siartiau bar" defnyddiol yna yn profi bod y blaid yn "ennill yma". Nid am y tro cyntaf yn ddiweddar fe fethodd y dacteg. Mae 'na ddadl ddiddorol o fewn y blaid ynglŷn â'r rhesymau. Darllenwch mwy yn fan hyn ac yn fan hyn.

Mae hynny'n dod a fi at y chwilen. Rwyf wedi amau ers tro y gallai'r etholiad nesaf fod yr hyn y mae Americanwyr yn galw yn "wave election". Roeddwn i'n credu y byddai etholiad 2009/10 yn debyg i etholiadau fel 1997,1983 a 1966 gyda thon sylweddol o bleidleiswyr yn symud o un blaid fawr i'r llall. Erbyn hyd dydw i ddim mor sicr.

Beth pe na bai hynny'n digwydd? Beth pe bai Prydain gyfan fel Norwich North?

Beth pe bai'r bleidlais Lafur yn mynd ar chwâl ond bod y pleidleiswyr hynny yn amharod i gefnogi'r Ceidwadwyr na'r Democratiaid Rhyddfrydol? Gallai hynny ddigwydd yn sgil y llanast treuliau gyda chyfran helaeth o'r etholwyr yn dirmygu pob un o'r pleidiau sefydliadol. O dan y fath amgylchiad mae'n debyg y byddai'r Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif seneddol sylweddol gyda sawl Norwich North yn troi'n las. Ond mae'n ddigon posib hefyd y byddai'r mwyafrif hwnnw (fel mwyafrif Gordon Brown) yn seiliedig ar gefnogaeth llai na thraean o'r etholwyr.

Ydy'r system etholiadol bresennol yn gallu parhau o dan y fath amgylchiad? Go brin. Yn y tymor hir fe fyddai'n amhosib cynnal system oedd wedi ei chynllunio ar gyfer dwy blaid mewn gwlad aml-bleidiol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:18 ar 28 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "rwy'n credu bod perfformiad UKIP a'r Gwyrddion ymhlith eu canlyniadau gorau erioed mewn gornestau seneddol."

    Cywir am y ddau - er i'r Gwyrddion wneud yn well yn rhai etholaethau yn etholiadau cyffredinol. Mor belled a rwyf wedi ymchwilio dyma ganlyniad gorau UKIP mewn unrhyw etholiad San Steffan.


  • 2. Am 18:15 ar 28 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Mabon:

    Post diddorol iawn Vaughan.
    Mae'r datblygiadau diweddar yn y drefn wleidyddol Brydeinig yn peri pen tost i lu o strategwyr y pleidiau gwleidyddol rwy'n siwr.

    Mae'r post yma wei fy atgoffa o ffaith ddifyr ynghylch 'landslide' Tony Blair a 'New Labour' yn 1997 a chanlyniad john Major a'r Ceidwadwyr ym 1992, y darllenais rai blynyddoedd yn ol.

    Yn 1992 llwyddodd Major i gadw grym drwy fwyafrif bychan iawn o 21 o ASau yn unig, ac yna colli i beth roedd pawb yn ei alw yn 'landslide' Tony Blair yn 1997, gyda mwyafrif anferthol o 179 o ASau. Ond cafodd Blair llai o bleidleisiau yn 1997 (13.5m) na'r hyn a gafodd Major yn 1992 (14m)

    1992
    Ceidwadwyr 14.09m - 41.9% = 336 sedd
    Llafur 11.56m - 34.4% = 271 sedd
    LibDems 6m - 17.8% = 20 sedd

    1997
    Llafur 13.52m - 43.2% = 418 sedd
    Ceidwadwyr 9.6m - 30.7% = 165 sedd
    LibDems 5.24m - 16.8% = 46 sedd

    Yn ogystal a'r gred boblogaidd fod pobl yn symud mewn ton yn achlysurol o un blaid i'r llall, mae cwymp yn y bleidlais (difaterwch, dadrithiad) yn chwarae rol yr un mor bwysig wrth benderfynu lliw a maint llywodraeth.

    Mae'n fater difrifol, oherwydd mae'r nifer sy'n pleidleisio yn disgyn ym mhob etholiad. Mae'n rhaid i'r llywodraeth edrych o ddifri felly ar y system bleidleisio. Wyt ti'n meddwl fod sefyllfa druenus Brown yn ddigon trychunebus ac 'urgent' i'w orfodi i wneud newidiadau mawr a radical i'r drefn bleidleisio yn y flwyddyn sydd ar ol? Yntau a yw ei natur geidwadol (g fach) yn mynd i gael y gorau ohono?

  • 3. Am 19:03 ar 28 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim yn gweld GB yn newid y drefn bleidleisio- ond mae'n bosib y gwnaiff e addo gwneud fel abwyd ar gyfer pleidleisio tactegol, nid yn unig gan ddemocratiaid Rhyddfrydol ond hefyd gan gefnogwyr Llafur sy'n ystyried troi at bleidiau eraill ar y chwith neu ymgeiswyr annibynnol.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.