Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar y sbot

Vaughan Roderick | 15:35, Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2009

Dydw i ddim yn gwybod y cefndir i'r stori "Police interview Mayor's aides in expenses inquiry" sydd wedi ymddangos yn yr Evening Standard heddiw. Serch hynny rwy'n dwli ar y frawddeg; " It is not clear why Mr Harri has been interviewed. He was unavailable for comment last night"!

Fe wna i gadw llygad ar y stori yna yn y cyfamser beth am ddychwelyd i Gaerdydd ar gyfer ein hopera sebon dyddiol "Ebbwdale" a stranciau diddiwedd y Pwyllgor Cyllid.

Y tro diwethaf i ni ymweld â'r pwyllgor roedd aelod Llafur yn sgrechain ar aelod Plaid Cymru "It's not this committee that's undermining the government it's your ******* Minister" gan gyfeirio at y Dirprwy Prif Weinidog. Dyw e ddim yn ymddangos bod y drwg deimlad tuag at Ieuan wedi gostegu ers hynny.

Wrth wraidd yr helynt mae cyhuddiadau gan ddau aelod o'r pwyllgor Alun Davies a Huw Lewis bod arian wedi ei arallgyfeirio o wella ffordd Blanau'r Cymoedd i wella cysylltiadau rhwng y De a 'r Gogledd. Mae Ieuan yn gwadu hynny gan fynnu ei fod yn glynu at yr amserlen a luniwyd gan y llywodraeth ddiwethaf. Roedd Huw yn aelod o'r llywodraeth honno wrth gwrs.

Yfory mae'r Ceidwadwyr wedi clustnodi peth o'u hamser yn y siambr i gynnal dadl ynghylch y pwnc. Mae gwelliant y llywodraeth yn cynnwys y cymal hwn.

"Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru... yn cadarnhau nad yw'r Llywodraeth Cynulliad hon wedi gohirio'r gwaith o ddatblygu llwybrau prifwythiennol allweddol"

Sut fydd Huw ac Alun yn pleidleisio, tybed ac a fydd canlyniad cynhadledd ddewis Llafur ym Mlaenau Gwent heno yn effeithio ar benderfynniad Alun?
.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.