Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 17:21, Dydd Gwener, 26 Mehefin 2009

Mae'r ffilmiau yn ôl- a'r tro 'ma mae 'na gwis bach hefyd !

1. Ydych chi'n gallu sbotio rhywbeth yn gyffredin rhwng y darllediad Llafur yma o 1970 ac ogof nid anenwog?

2. Darllediadau gwleidyddol o Singapore sydd nesaf. I ba blaid y byddai Leonard Nimoy yn pleidleisio?

3. Pa arweinydd Ewropeaidd fyddai'n hoffi rhain?

4. Beth yw'r cysylltiad rhwng yr ymgeisydd aflwyddiannus yn y ffilm yma ac Aberystwyth?

Diolch i obell am rhain.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:15 ar 27 Mehefin 2009, Dafydd Tomos ysgrifennodd:

    Blue Bottle gan y Frank Barcley Group yw'r thema enwog. (Nid ateb i'r cwis, dwi'n gwybod nesa peth i ddim am wleidyddiaeth, ond ychydig bach o wybodaeth ychwanegol).

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 18:59 ar 27 Mehefin 2009, ceri jones ysgrifennodd:

    Ife Silvio Berlusconi yw'r trydydd? Dim clem beth yw'r ateb i'r tri arall.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 21:51 ar 27 Mehefin 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Cywir. Fe fydd yr atebion yn ymddangos yfory. Oes unrhyw un arall am gynnig? Rwyf wedi cael fy sbwylio gan sylwadau'r wythnos hon! Does dim rhaid gwneud!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 4. Am 23:30 ar 27 Mehefin 2009, PechadurBerffro ysgrifennodd:

    Blaw am y cyfeiriad amlwg am ddyddiau cynnar ms.Berlusconi, sgyna fi ddim syniad chwaith. Fydd rhaid i chi gosod cwestiynau llawer fwy hawdd os bod chi eisiau fwy o sylwadau Vaughan...

    Cwyno am y sylw hwn

  • 5. Am 14:30 ar 28 Mehefin 2009, Siân ysgrifennodd:

    1) Ai miwsig Miri Mawr yw hwn? Caleb a Blodyn Tatws a Dan Dŵr oedd yn byw yn yr ogof, ie?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 6. Am 18:14 ar 28 Mehefin 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Cywir! Mae eraill yn gywir mae Berlusconi oedd yr ateb i gwestiwn tri. Dau i fynd felly! Fe wna i tan yfory i chi!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 7. Am 23:53 ar 28 Mehefin 2009, Dewi ysgrifennodd:

    Dim clem ar Singapore,,roedd teulu Humphrey di gadael Cymru yn 1780..o Aber?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 8. Am 09:04 ar 29 Mehefin 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Cywir, Dewi. Yr ateb i gwestiwn 2 yw y "Singapore Democratic Party". Mae'r blaid yn defnyddio bathodyn yr USS Enterprise fel ei logo. Leonard Nimoy oedd yr actor wnaeth chwarae Spock. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n amhosib llunio cwis lle nad oedd Google yn gallu eich helpu. Roeddwn i'n anghywir!

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.