Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ffol-di-rol

Vaughan Roderick | 10:53, Dydd Iau, 25 Mehefin 2009

Does gen i ddim byd yn erbyn dinas Washington. Wrth reswm, does gen i ddim byd yn erbyn Cymru chwaith. Serch hynny rwy'n hynod o falch i beidio bod ym mhrifddinas yr Unol Daleithiau ar gyfer y "Smithsonian Folklife Festival". I arall-eirio Goring o glywed y gair "folk" neu "gwerin" rwy'n ymestyn am fy ngwn!

Cyn i unrhyw un camddeall does gen i ddim gwrthwynebiad o gwbwl os ydy oedolion yn dymuno clocsio y tu ôl i ddrysau caeedig. Dydw i ddim am wahardd Cerdd Dant. Mae gen i bolisi "don't ask-don't tell" ynghylch y pethau "gwerin" 'ma. Rhyngoch chi a'ch Hob Y Deri Dando! Dydw i ddim hyd yn oed yn drwglicio'r caneuon na'r dawnsfeydd . Y rhamantu yn eu cylch nhw sy'n fy ngwylltio i, y syniad bod y stwff yma rhywsut yn "fwy cynhenid", yn "fwy Cymreig", yn "well" hyd yn oed na chanu gwlad neu pop neu rock'n'roll.

Mae nifer sylweddol o'n dawnsfeydd "gwerin" yn seiliedig ar atgofion Mrs Magretta Thomas o Nantgarw, atgofion wnaeth gael eu cofnodi gan ei merch y diweddar Dr Ceinwen Thomas.

Roedd fy hen daid yn weinidog ar gapeli yn Nantgarw a Groeswen. Mae fy nheulu wedi ffarmio'r un darn o dir Fynydd Maio ers canol y deunawfed ganrif. Yn ôl Dr Thomas roedd y dawnsfeydd yma yn cael eu perfformio fel rhan o ddathliadau Sulgwyn capeli fy hen daid. Mae'n rhaid ei fod e (a phawb arall) yn y festri ar y pryd.

Fe wnes i ofyn i Dr Thomas unwaith (degawdau yn ôl bellach) pam nad oedd neb arall yn y pentref ac unrhyw atgof o gwbwl o'r dawnsfeydd. Dydw i ddim yn cofio'r ateb a dydw i ddim yn mynd i esgus fy mod i. Wedi'r cyfan fe fyddai'n gwbwl hurt i esgus eich bod yn cofio rhywbeth neu fod rhywun arall yn cofio rhywbeth.

Mae bosib, wrth gwrs bod trigolion Mynydd Maio (ac eithrio Mrs Thomas) yn bobol hynod o anghofus. Mae'n bosib hefyd bod nifer o ganeuon "music hall" Saesneg yn gyfieithiadau o ganeuon "gwerin" Bob Roberts Tai'r Felin. Posib ond annhebyg.

Mae 'na bwynt gwleidyddol i'r "rant" yma! Mae dyrchafu "traddodiadau gwerin" a'r "werin bobol" eu hun yn gallu bod yn beth peryg. Mae'n gallu esgor ar gasineb tuag at foderniaeth a diwylliannau eraill a phwyslais ar burdeb gwerinol. Fe ysgrifennodd R Tudur Jones erthygl enwog "Cysgod y Swastika" ynghylch y peryglon hynny yng Nghymru. Fe fyddai'n well gen i ail-ddarllen hwnnw na gwrando ar y ffoldirolio yn Washington!

ON Rwyf newid dderbyn y nodyn yma gan gyfaill:

Dyma yw CERDD DANT Mae'r Sbaeneg ar y blurb ar yr ochr yn deud. 'Penderfynod y beirniaid beidio rhoi gwobr yn y gystadleuaeth yma' Tybed pam?!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:43 ar 25 Mehefin 2009, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Erthygl warthus yw "Cysgod y Swastika" R. Tudur Jones, ac yn farc du iawn ar record hanesydd diwylliannol fu gyda'r gorau yng Nghymru. Anodd meddwl y gallai awdur llyfr ardderchog fel "Ffydd ac Argyfwng Cenedl" sgwennu'r ffasiwn sothach.

    Y cyd-destun ar gyfer deall "Cysgod y Swastika" yw casineb heddychwyr y Blaid at fudiad Adfer yn ystod y saithdegau. "Adolygiad" yw'r erthygl o lyfr Emyr Llywelyn, "Adfer a'r Fro Gymraeg". Is-lywydd y Blaid oedd R. Tudur Jones ar un adeg, ac yn gyfaill mawr i Gwynfor Evans. Roedd y Blaid ac Adfer yn casau ei gilydd, ac mae'n amhosb gan hynny roi unrhyw werth ar yr "adolygiad".

    Mae'n wir bod trafodaeth ddiddorol y gellid ei chael ynghylch syniadau megis "eneidfaeth" ayyb yn "Adfer a'r Fro Gymraeg". Rwy'n cytuno ei bod yn syniad amheus - ond Herder (yr athronydd Almaenig o'r 19g), ac nid Hitler, yw'r ysbrydoliaeth.

    Rhaid cyfaddef nad wyf yn ffan o'r busnes clocsio ma chwaith - ond y gwir amdani ydi mai hwyl ddiniwed ydi o, a dyna'r cwbl. Dwi ddim yn credu fod cysylltiad anorfod rhwng Natsiaeth a'r canu gwerin. Ac o ran y cyhuddiad nad oes sail hanesyddol i lawer o hyn. Wel, beth yw'r ots? Nid oes sail hanesyddol i 90% o'r hyn a ddysgwn fel 'hanes'! Mae pob cenedl yn 'ffugio' ei hanes ei hun.

  • 2. Am 14:41 ar 25 Mehefin 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Clocsio? Hwyl diniwed? Dachi'n gallu dwad???

  • 3. Am 16:35 ar 25 Mehefin 2009, ysgrifennodd Harri:

    Wel dyna beth yw "rant"!
    Pam esgus mabwysiadu rhyw agwedd siwdo dinesig dilornus at yr agweddau yma o'n diwylliant Vaughan? Mae dawns a chan yn rhan annatod o'n diwylliant ac yn parhau felly. Ond pam dynodi clocsio a cerdd dant fel rhyw arferion y dylid bod a cywilydd ohonyt. Un o nodweddion dy erthyglau dithau yw'r defnydd o bennawdau sy'n adleisio cerdd neu can o'r gorffennol - ac onid dyna yw asgwrn cefn ein holl diwylliant gwerin - maent yn ein hatgoffa o'n gorffennol tra yn ein difyrru ..... nid yn anhebyg i dy gyfraniadau dithau ar dy Flog!

  • 4. Am 16:44 ar 25 Mehefin 2009, ysgrifennodd Daniel:

    Dywedodd Vaughan: “Y rhamantu yn eu cylch nhw sy'n fy ngwylltio i, y syniad bod y stwff yma rhywsut yn "fwy cynhenid", yn "fwy Cymreig", yn "well" hyd yn oed na chanu gwlad neu pop neu rock'n'roll.”

    Yn fy mhrofiad i does fawr neb sy’n chware cerddoriaeth gwerin o ddifri’ yn ‘rhamantu’r’ gerddoriaeth yn y dull yma. Diffyg gwybodaeth, annodweddiadol, sy’n sail i dy ‘rant’ dwi’n ofni, Vaughan. Y pibydd a’r gitarydd cyfareddol Ceri Rhys Matthews sydd wedi bod wrthi yn paratoi’r CD arfaethedig o ganu ‘gwerin’ Cymraeg i’r Smithsonian, ac wn i ddim am unrhywun sy’n ehangach ei orwelion cerddorol.

    Cymer gip ar gatalog Fflach:Tradd sy’n cynnwys y delynores Llio Rhydderch, y band Sild sy’n cyfuno cerddoriaeth Cymraeg a cherddoriaeth Estonia, y band ‘punk-gwerin’ o Townhill, Abertawe, ‘The Boys from the Hill’, ac (i chwythu fy sacsoffon fy hun) y chwechawd jazz ‘Burum’. Does dim sy’n gul, yn bur, nac yn blwyfol am y gerddoriaeth yma i’m tyb i.

    Fyddwn i ddim mor llym fy meirniadaeth o ‘Cysgod y Swastika’ a Simon Brooks (mae yna gysylltiad syniadaethol rhwng Herder a Hitler), ond dwi’n awgrymu dy fod yn darllen rhai o ysgrifau yr eangfrydig Meredydd Evans ar ganu gwerin yn lle R. Tudur Jones, Vaughan, a thra dy fod wrthi, gwranda ar fand Affro-Americanaidd Rhiannon Giddens a’i Carolina Chocolate Drops, sy’n canu caneuon bluegrass, blues, a gwerin, yn Saesneg, Gaeleg yr Alban, ac ar ymweliad â Abertawe yn 2007, yn Gymraeg. Dwi’n amau a fyddai’r gerddoriaeth yma wrth ddant Goring.

    Gellir clywed peth o’r gerddoriaeth perthnasol yma:
    http://www.myspace.com/fernhillmusic
    http://www.myspace.com/carolinachocolatedrops
    http://www.myspace.com/burumjazz
    http://www.fflach.co.uk/cms/index.php?module=pagemaster&PAGE_user_op=view_page&PAGE_id=9&MMN_position=13:13

  • 5. Am 18:45 ar 25 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe wna i gymryd dy gyngor. Fel dwedais i, dydw i ddim yn drwg-licio cerddoriaeth trad. Y gair folk/gwerin sy'n fy ngwylltio gyda'r ensyniad bod bywyd/diwylliant gwledig rhywsut yn fwy real a gwerthfawr na thraddodiadau eraill. Mae Amgueddfa Sain Ffagan, er enghraifft, wedi gwella'n aruthrol er iddi benderfynu bod yn Amgueddfa Hanes (yn Saesneg o leiaf)a chyflwyno bywyd Cymru yn ei gyflawnder yn hytrach na chanolbwyntio ar darlun biwcolic Iorwerth C Peate.

  • 6. Am 20:39 ar 25 Mehefin 2009, ysgrifennodd Abraham Lincoln:

    Newydd edrych ar y wefan Smithsonian. Diddorol iawn a nifer yn cynrychiolu Cymru yn y gwahanol meysydd.
    http://www.festival.si.edu/2009/wales/index.aspx

    Er hynny, dwi'n sylwi bod na fwy o gynrychiolwyr o Batagonia na Cymoedd y De! Sut yn y byd mae Urdd Gobaith Cymru yn gynrychiolaeth Cymru ar gyfer Chwaraeon? I fod yn deg, maent yn son am y cymoedd a thipyn o'r hanes, ond dim yn ein gwahodd, yn anffodus. Dwi'n hoff o'r darn yn Wales and the World a'r croeso ni'n rhoi i bawb yn y byd...bit much. Beth yn y byd mae 'Welsh Tea Room' Patagonia yn wneud yno? Rhaid cyfaddef i mi wenu, pan welais y rhan 'Plants and Medicine' gan i mi disgwyl rhywbeth gwbl wahanol.

    Yn ol Simon, 'mae pob cenedl yn ffugio' ei hanes ei hun. Dwi'n tybio mae'r pleidiau gwleidyddol sydd yn ffugio hanes.

    Nol at y Smithsonian, ai dyma beth sydd digwydd pan mae adran diwylliant y Cynulliad gyda gweinidog PC? Gor-cynrychiolaeth o rannau o Gymru, anwybodaeth am rannau eraill o Gymru neu jyst heb feddwl. Dwi'n siwr bod nifer yn haeddu bod yno o ran dawn, ond c'mon, bydd yn dda gweld balans yn hyn oll a chynrychiolaeth 'real' o Gymru.

    Dwi'n tybio mae ni sy'n talu am 'Eisteddfod y States' hon? Mae hwn i gyd yn braidd yn gyfoglyd i fi.

    Hei, ble mae'r Gymraeg ar y wefan hon?

  • 7. Am 20:58 ar 25 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe wnes i ddarllen llyfr Hywel Teifi "Eisteddfod Ffair y Byd" yn ddiweddar... mae 'na ambell i adlais!

  • 8. Am 21:11 ar 25 Mehefin 2009, ysgrifennodd Abraham Lincoln:

    Ydy, allai ddychmygu.

    Yn anffodus, mae na leiafrif sydd dal yn byw yn 1893.

  • 9. Am 22:05 ar 25 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Simon, mae dy sylw yn haeddu ateb llawn. Rwy'n dewis fy ngeiriau cyn ymateb. Yn fy marn i dyw "Cysgod y Swatika" ddim yn warthus. I'r gwrthwyneb credaf mai hwn oedd peth pwysicaf i "Dr. Tuds" ysgrifennu. Rwy'n bwriadu dyrchafu rhai o'r sylwadau yma mewn post ac ymateb iddyn nhw yn ystod y dyddiau nesaf. Rwy'n ceisio gweithio allan sut mae dweud fy nweud o fewn rheolau'r BBC!

  • 10. Am 22:17 ar 25 Mehefin 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Bu erthygl R. Tudur Jones yn ergyd fawr i fudiad Adfer, a oedd yn fudiad a oedd wedi dechrau gyda'r bwriad o ail-godi adfeilion gydag arian cyfraniadau, a rhentu'r eido i Gymry lleol. Yr oedd yn fudiad 'caletach', a mwy ymarferol na Chymdeithas yr Iaith. Yr oedd yn fudiad gyda meddylwyr mwy craff na Cymdeithas yr iaith erbyn yr 80'au -cymharer Ieuan Wyn , er enghraifft gyda Meri Huws . Pwysleisiau Adfer yr angen am gadw'r ardaloedd Cymraeg yn Gymraeg gyda pholisiau uniaith. Nid oedd polisiau dwyieithog CIG yn aml yn gwneud lles i gymunedau cryf (ar y pryd ) y Gorllewin . Arosodd Adfer yn unplyg genedlaetholgar yn y cyfnod pan oedd CIG yn achub morfilod ayb . Gelli ystyried Adfer fel rhagflaenydd i Cymuned , a tueddai i fod yn fudiad mwy gwrywaidd a sinicaidd ei naws na CIG , oedd yn apelio at ddelfrydwyr benywaidd.
    Fe ysbrydolwyd Adfer gan J.R. Jones a'i syniadau ynglyn a'r perthynas rhwng cymdeithas a'i hiaith. Mae ei rybuddion ac ofnau wedi eu gwireddu filgwaith yng Ngheredigion.
    Bu dadlau poeth rhwng Emyr Llew a Dr Tudur. Trychineb mawr, gan fod ill dau ymysg meddylwyr mwyaf eu cenhedlaeth .

  • 11. Am 21:06 ar 26 Mehefin 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Abraham - dwi'n meddwl dy fod di'n bod ychydig yn llawdrwm ac yn euog o weld polisi Gwyl Smithsonian ei hun i ffitio dy farn (rhagfarn) di.

    Dwi'n digwydd gwybod i'r Urdd cael eu gofyn i fynd i'r Smithsonian i edrych ar ol y chwaraeon ar fyr rybudd iawn gan fod sefydliad cenedlaethol arall methu gwneud. Roedd angen sefydliad felly oedd a'r personel a'r strwythur cenedlaethol (ac ie, pobl fyddai'n gwybod rhywbeth am Gymru petai Americanwr yn holi) i sefyll yn y bwlch. Nawr, does dim yn hynny sy'n golygu nad oes pobl o'r Cymoedd yn rhan o dim yr Urdd sydd yn y Smithsonian. Wn i ddim. Dy awgrym di wrth gwrs yw fod yr Urdd yn fudiad Cymraeg ac felly yn llawn Gogs etc. Hyd y gwyddost ti, efallai fod staff yr Urdd yno yn llawn o bobl o'r Cymoedd.

    O ran y ddelwedd o Gymru sy'n cael ei phortreadu yn yr Wyl, wel, mae hynny'n gyfyng iawn oherwydd rheolau'r Smithsonian. Mae'nt am weld pethau sy'n werinol (ie, dwi'm yn siwr beth mae hynny'n feddwl) ac am wn i unigryw. Wrth gwrs, fe ellid cael llwytho o bobl 'normal' a diwylliant 'gyfoes' dyweder lot o bobl ifainc yn dawnsio i fiwsig Michael Jackson ... ond wedyn, beth sy'n ddiddorol neu wahanol yn hynny. Neu'n hytrach, pam trefnu gwyl yn America i ddangos diwylliant Eingl-Americanaidd.

    Dwi'n deall fod lot o stwff cyfoes yno. Dwi'n gobeithio hynny t'beth. Ond mae'n wir dweud fod lot fawr (y mwyafrif) o ddiwylliant Cymru bellach yr union yr un peth ag UDA, Prydain neu'r Almaen am wn i. Beth sy'n ddiddorol i'r Smithsonian yw beth sy'n wahanol. Camp y trefnwyr o Gymru yw llwyddo i sicrhau fod gwedd Gymreig gyfoes (a Chymraeg) i'r digwyddiadau. Ond i'r Smithsonian, Festival of FOLK life yw hi, felly cyn fod pobl yn dechre gweld cenedlaetholwyr diwylliannol o dan y gwely, byddai'n werth ystyried fod cliw yn nheitl yr wyl am beth yw ei bwrpas.

    Efallai fyddai Abrham yn cwyno fod gwyl jazz Aberhonddu gynt ddim yn cynnwys digon o ganu cerdd dant neu ddawnsio gwerin?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.