Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dafydd a Jonathan (a Stephen Crabb)

Vaughan Roderick | 20:01, Dydd Iau, 11 Mehefin 2009

Fe wnes i gyfeirio'n gynharach at ddarlith Jonathan Morgan heno. O ganlyniad i'r etholiadau Ewropeaidd rwy'n tybio bod ei obeithion o olynu Nick Bourne yn y tymor byr wedi pylu.

Yn ei araith wythnos cyn yr etholiad doedd gan Jonathan ddim byd da i ddweud am Nick gan awgrymu (heb ei enwi) ei fod wedi colli ei awdurdod moesol i arwain yn sgil yr helbul ynghylch ei dreuliau. Roedd y ddarlith heno ar y llaw arall yn canmol Nick a'r hyn y mae wedi cyflawni fel arweinydd y Ceidwadwyr y cynulliad.

Ond er ei fod yn fwy diplomyddol y tro hwn mae Jonathan wedi dyrchafu ffrae sydd wedi bod ym mudferwi yn ei blaid i'r brig.

Mae gwraidd yn anghytundeb yn ddigon syml. A ddylai maniffesto'r Ceidwadwyr gynnwys addewid clir na fyddai Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol yn gwrthod cais gan y cynulliad am refferendwm ynghylch pwerau deddfu llawn?

"Dylai" medd aelodau'r cynulliad.

"Dim ffiars o beryg" medd yr aelodau seneddol Cymreig.

Fe wnâi ddyfynnu Jonathan yn y Saesneg gwreiddiol er mwyn cyfleu pa mor gryf yw'r teimladau.

Saying 'NO' to a referendum request would mean denying the people of Wales a vote on this vital issue... This would be telling the people of Wales to be silent and listen to their betters in Westminster. So let's be absolutely clear where we stand now - this cannot be allowed to happen! If we mean what we say, that we trust the public and their ability to decide, then we must give them the right to choose to adopt full legislative powers for Wales or reject it.

Mi fedrai ddychmygu David Jones (a David Davies a Stephen Crabb i raddau llai) yn poeri gwaed wrth glywed y geiriau yna. Pa hawl sydd gan y grŵp cynulliad i glymu dwylo llywodraeth nad yw hyd yn oed wedi ei hethol eto?

Mae 'na lobio ffyrnig yn mynd ymlaen ynghylch y cwestiwn ond mater i David Cameron yw hwn yn y pendraw. Mae'n ymddangos bod Cheryl Gillan yn ceisio osgoi penderfyniad am y tro ond mae aelodau'r cynulliad yn credu eu bod wedi cael gwrandawiad teg gan Oliver Letwin, cydlynydd polisi'r blaid.

Y gwir amdani yw hyn. Wrth i'r Ceidwadwyr ddod yn agosach at ennill grym yn San Steffan mae tensiynau rhwng y blaid seneddol a'r blaid yn y cynulliad yn dechrau amlygu eu hun. Maen nhw'n ddigon tebyg i'r rhanniadau o fewn y Blaid Lafur.

Mae'r aelodau cynulliad yn gwybod bod hi'n haws ennill eu brwydrau nawr tra bod dim ond llond dwrn o Dorïaid Cymreig yn San Steffan nac ar ôl etholiad cyffredinol. Cofiwch, mae'n ddigon posib y bydd gan y blaid fwy o aelodau seneddol Cymreig nac o aelodau cynulliad ymhen blwyddyn.

Dyna, mae'n debyg, sydd wrth wraidd rhai o awgrymiadau eraill Jonathan megis annibyniaeth gyfansoddiadol i'r blaid yng Nghymru ac ethol arweinydd y blaid Gymreig trwy bleidlais a fyddai'n agored i bobol nad oeddynt yn aelodau Ceidwadol.

Rwy'n tybio mai ofn Jonathan yw hyn. Os oedd y Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan fe fyddai rhai o aelodau ac arweinwyr y blaid yn teimlo bod grŵp y cynulliad wedi cyflawni ei bwrpas trwy gadw'r fflam Geidwadol yn fyw. Faint o ddylanwad fyddai gan y grŵp cynulliad, neu gan Gymru o ran hynny, o dan y fath amgylchiadau?


SylwadauAnfon sylw

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.