io-io
Fel 'na mae cynhyrchwyr teledu a radio. Mae pob un eisiau i bopeth bod yn berffaith. Roedd "Wales Today" eisiau fy nholi i heddiw ynghylch sylwadau Jonathan Morgan yn y stiwdio yn Llandaf. Roedd newyddion S4C ar y llaw arall yn dymuno holi am yr un pwnc ond y tro hwn yn y senedd. Yn ôl ac ymlaen a fi felly fel io-io rhwng ystafelloedd newyddion y BBC yn Llandaf a'r Bae a hynny i gyd trwy draffic yr Urdd.
Yn y ddwy ganolfan mae'r un cwestiwn yn cael ei ofyn. "Oni ddylwn ni wneud y straeon yma?"
Mae'r cwestiwn ynghylch dau bwnc. Yn gyntaf cyflwr Golwg360 a'r honiadau ynghylch y ffordd y cafodd y wefan ei chreu. Yn ail (a chofiwch mai pobol y BBC sy'n gofyn y cwestiwn) mae'n ymwneud a'r difrod honedig y gallai cynlluniau S4C i ymhel a darpariaeth newyddion Saesneg ITV achosi i wasanaethau Radio Cymru ac Arlein pe bai gwasanaeth newyddion teledu Cymraeg y BBC yn dod i ben. Dydw i ddim yn credu ei fod yn annheg i ddweud bod nifer o'r "partneriaid" sydd yn cael eu sibrwd yn eu cylch ar gyfer gwasanaeth newyddion Saesneg S4C hefyd yn ymwneud a "Golwg360". Rwy'n gwrthsefyll y temtasiwn i ddweud "Duw a'n gwaredo"!
Mae'r broblem yn un syml. I'r BBC fel prif-ddarparwyr newyddion Cymraeg mae rhain yn straeon o bwys i'n defnyddwyr. Does neb arall yn debyg o roi sylw teilwng iddyn nhw. Ar y llaw arall ydy hi'n bosib i ni fod yn niwtral yn eu cylch? Hyd yn oed os oeddwn ni a fyddai pobol yn ein credu neu a fyddent yn ein gweld fe "bwlis mawr y BBC" yn ceisio llorio'r gystadleuaeth?
Does gen i ddim ateb.

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.

~RS~q~RS~~RS~z~RS~43~RS~)
SylwadauAnfon sylw
Mae'r BBC wedi riportio digon am broblemau HTV yn y gorffennol, ac yn ddigon di-duedd. Be di'r gwahaniaeth efo'r rhain?
Cwyno am y sylw hwn
Y byd bach Cymraeg mae gen i ofn! Y gwir amdani yw bod yw bod sefyllfa'r BBC yn agos at fonopoli mewn newyddiaduraeth Gymraeg.
Cwyno am y sylw hwn
I fi mae hyn yn dangos gwir angen am blog/gwefan anibynnol newyddion a barn ar y cyfryngau Cymreig. Mae'r wybodaeth gyhoeddus am beth sy'n mynd mlaen yn y cyfryngau yn andros o isel, ac mae hyn yn cael ei waethygu gan y ffaith nad oes unrhywun o fewn y cyfryngau yn hoffi rhoi eu pen uwch y parapet rhag cael eu blacklistio.
Mae gan yr Alban All Media Scotland
Pwy sy'n darparu gwybodaeth felly yma, ac yn bwysicach, pwy sy'n gofyn y cwestiynau caled?
Neb, ymddengys.
Cwyno am y sylw hwn
Wyt ti ddim yn meddwl felly ma y rhithfro sydd wedi gwneud y job orau o adrodd y stori? Dyw'r BBC ddim wedi dweud llawer a dyw'r Western Mail ddim chwaith er fod un stori wedi ymddangos yn Dail y Post.
Mae llawer o'r bobl sydd wedi trafod ffaeleddau y wefan ar flogiau a maes-e yn arbennigwyr yn y maes ac efallai yn edrych ar y peth yn rhy agos ond o leia mae'r peth wedi ei wyntyllu.
Os oeddech chi'n gwylio'r cyfryngau torfol yn unig fyddech chi ddim callach fod unrhywbeth o'i le. (ond ddim am hir, dwi'n deall).
Cwyno am y sylw hwn
Yr ateb syml i'r cwestiwn yw "ydw". Rwy'n meddwl bod na enghraifftau rhagorol o dyrchu a newyddidura ar wahanol safeloedd. Mae'r gwaith fforensig ynghylch y cylsyltiadau ac India yn arbennig o drawiadol.
Cwyno am y sylw hwn