Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

DaiTV

Vaughan Roderick | 19:41, Dydd Mercher, 13 Mai 2009

Mae'r Telegraph wedi agor bwth fideo i aelodau seneddol cael esbonio eu treuliau. Drychwch pwy oedd yr aelod cyntaf i ddweud ei ddweud.


Mae David yn dod drosodd yn dda. Mae'n dweud nad oedd ganddo unrhyw gyfoeth wrth gyrraedd San Steffan, dim "pot o arian". Wedi'r cyfan, meddai, pymtheg mlynedd yn ôl roedd e'n gweithio fel gyrrwr lori. Digon gwir ond ydy David wedi anghofio'r swydd fach arall yna ym Mae Caerdydd? Ydy'r ffaith ei fod yn aelod o'r cynulliad am wyth mlynedd (gan gynnwys dwy flynedd fel AC ac AS) yn amherthnasol?

Gellir gweld treuliau David fe AC yn fan hyn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:39 ar 14 Mai 2009, Hogyn o Rachub ysgrifennodd:

    Roeddwn i'n darllen 'odds' Karl y bwci ar flog Betsan diwrnod o'r blaen o ran pwy fyddai'n ennill y bedwaredd sedd yng Nghymru - tybed, gyda'r Ceidwadwyr hefyd wedi llithro'n ddwfn i mewn i lanast y treuliau a fyddai'r odds wedi newid ganddo?

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.