Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cipolwg

Vaughan Roderick | 16:46, Dydd Iau, 14 Mai 2009

Dw i wedi bod yn cael cipolwg ar wefan newydd Golwg. Peidiwch â gofyn sut. Dydw i ddim am gynnig adolygiad llawn am ddau reswm amlwg. Yn gyntaf rwy'n gweithio i'r "gystadleuaeth"! Yn ail safle datblygu yn hytrach na'r wefan orffenedig sydd i'w weld ar hyn o bryd. Ar ôl dweud hynny mae gen i ambell i sylw- adeiladol gobeithio!

Mae'n ddiddorol nodi bod y wefan (fel y BBC yn nyddiau "Cymru'r Byd") yn cynnwys newyddion tramor. Mewn egwyddor mae'r penderfyniad yn ddigon call. Wedi'r cyfan fe ddylai 'na fod gwasanaeth mor gynhwysfawr â phosib yn Gymraeg.

Ein profiad ni yn fan hyn oedd mai ychydig iawn oedd yn darllen straeon tramor oedd heb ryw fath o ongl neu elfen Gymreig. Ar ddiwrnodau newyddion prysur yng Nghymru dwi'n rhyw amau y bydd yr eitemau tramor yn cael eu gwthio i'r naill ochor. Dyna ddigwyddodd yn y BBC. Fe gawn weld os ydy'r un peth yn digwydd i Golwg.

Mae'r safle hefyd wedi gwneud penderfyniad golygyddol i gyfyngu ar hyd y straeon newyddion. Rhyw ddau gant o eiriau sy 'na mewn stori ar gyfartaled. Fe ddywedodd Dylan ar Raglen Gwilym Owen mai gwahaniaethu rhwng y wefan a chylchgrawn Golwg yw'r bwriad. Rwy'n amau y bydd angen ail-feddwl. Fe fydd angen peth deunydd swmpus os am ennill cefnogaeth y rheiny oedd yn cefnogi "Y Byd".

Fel dwedais i safle datblygu yw hwn ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi siomi ychydig gan y diwyg (hen ffasiwn braidd ac yn llawn gwagleoedd) a'r diffyg deunydd aml-gyfrwng. Mae adran "Lle Pawb" (casgliad o is wefannau gan unigolion a chymdeithasau) ar y llaw arall yn syniad addawol ac ardderchog. Fe fyddai'n braf be bai'n bosib gweld a oedd un o'r is safleoedd wedi ei ddiweddaru heb ei agor ond cwyn fach yw honno!

Rhag ofn fy mod yn ymddangos yn negyddol mae'r safle yn hawdd iawn i ddefnyddio ac yn eglur iawn o safbwynt canfod cynnwys. Ar ddiwedd y dydd cynnwys safonol a diweddaru aml fydd yn cyfri.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:38 ar 15 Mai 2009, D. Enw ysgrifennodd:

    Dwi'n amau dy fod yn iawn o ran storiau tramor. Y gamp am wn i yw cynnwys storiau tramor sydd ddim i'w gweld mewn llawer o gyfryngau eraill - gall pawb ddarllen am Bakistan neu Affghanistan er enghraiff mewn gwefannau mwy swmpus ond mae 'na niche (a niche yw e) ar gyfer storiau o wledydd Celtaidd/bychain eraill (fel gwna gwefan newyddion BBC Cymru i raddai)

    e.e. wyddoch chi fod 2 dim o Lydaw yn ffeinal Cwpan Ffrainc ... rhywbeth ddysges i flog gwefan Cymdeithas Cymru-Llydaw http://cymru-llydaw.blogspot.com/

    a ffeindiais drwy fynd ar y www.blogiadur.com

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.