Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y cyntaf i'r felin...

Vaughan Roderick | 17:03, Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2009

Pa aelod cynulliad sy wedi ennill y llys enw "Windy"? Atebion ar gerdyn post. Dyma gliw bach.

Does 'na ddim cymaint â hynny o lysenwau yn y byd gwleidyddol. Fedrwch chi ddyfalu pwy yw;

1. Peaches

2. Jabba

3. Dave Spikey

4. Y Feical

5. Uncle Bryn

6. Swiss Tony

7. * wedi ei ddileu. Diolch i'r rheiny wnaeth negeseuo i dynnu fy sylw at un ystyr nad oeddwn wedi ei ddirnad. Ymddiheuriadau.

8. Woger Wabit

9. Lyrch y bytlar

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:47 ar 28 Ebrill 2009, Hogyn o Rachub ysgrifennodd:

    Dwi'n gwybod na rhif 7 ydi Helen Mary Jones, er bod gen i ofn dweud hynny!!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 09:49 ar 29 Ebrill 2009, Ceri Evans ysgrifennodd:

    Vaughan - os oedd David Taylor wedi defnyddio llysenw mor sarhaus ar gyfer aelod menywaidd o'r cynulliad ar ei flog, neu Lembit yn y Sbort, neu Alun D ynglyn a Trish L, fyddech chi yn flaenllaw yn ei cyhuddo o sexism neu o ddefnyddio gwleidyddiaeth personol.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 11:40 ar 29 Ebrill 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Dydw i ddim yn sicr at ba lys-enw yr wyt ti'n cyfeirio. Os oes na unrhyw ystyr nad wyf wedi ei ddirnad yn un neu fwy o'r llys-enwau mi wnai ei ddileu.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 4. Am 22:59 ar 6 Mai 2009, monwynsyn ysgrifennodd:

    Beth am ddyfalu pwy di pwy. Da ni wedi disgwyl digon hir am gynhigion.

    Gyda llaw dwi yn meddwl y bod y rhifau cudd yn hynod o aneilwig. Byddent yn anodd i berson ag amhariad gweld. Ydi rhain yn cydymffurio a gofynion Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.