Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ffŵl Ebrill

Vaughan Roderick | 15:30, Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2009

Mae Leanne Wood wedi rhannu'r gwahoddiad canlynol;

YFORY: 6pm nos Fercher 1af Ebrill, Ystafell Gynhadledd **, Ty Hywel

Mae Leanne Wood AC yn eich gwahodd yn gynnes i gyfarfod i drafod:
Sefydlu Grwp Trawsbleidiol ar America Ladin a chynnal derbyniad i nodi:

A. hanner can mlwyddiant chwyldro Ciwba, a
B. deng mlwyddiant ethol Hugo Chavez yn Arlywydd Venezuela

Mae'n sicr mai ysbryd Ebrill 1af wnaeth ddarbwyllo Leanne i hela'r gwahoddiad at, ymhlith eraill, aelodau Ceidwawdol y Cynulliad!

Mae'n ymddangos na fydd 'na lawer o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yna chwaith. Tynnodd un o aelodau'r blaid fy sylw at adroddiadau Amnest Rhyngwladol a'r Sefydliad Hawliau Dynol ynghylch Venezuela.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:08 ar 31 Mawrth 2009, Hogygog ysgrifennodd:

    Cynrychiolwyr Plaid Cymru'n dangos i ni unwaith eto eu bod yn fodlon trafod unrhywbeth ond Cymru .

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.