Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dwy ddinas

Vaughan Roderick | 21:50, Dydd Mawrth, 17 Chwefror 2009

Dydw i ddim eisiau rhygnu ymlaen gormod am enwau tafarnau ond fe es i a'n rhieni allan am ginio heddiw. Doeddwn i ddim wedi bod yn Llysfaen ers blynyddoedd ond roeddwn yn rhyfeddu i weld mai'r "Griffyn Du" yw enw'r "Griffin Inn" y dyddiau hyn.

Fe gododd fy nhad gwestiwn diddorol. Buodd yn Abertawe yn ddiweddar a dywedodd ei fod wedi sylwi bod y Gymraeg yn fwy gweladwy yng Nghaerdydd er ei fod yn tybio bod y canran o Gymry Cymraeg yn uwch yn Abertawe. Ydy fe'n iawn- ac oes 'na esboniad?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:55 ar 18 Chwefror 2009, ysgrifennodd Rhys:

    Dw i'n meddwl bod y Gymraeg yn weddol weladwy yng nghanol dinas Caerydd i'w gymharu a mannau eraill y de ddwyrain.

    Beth sy'n rhyfedd yw polisiau iaith (os gelli'r eu galw'n hynny) gan wahanol gwmniau. Mae gan bwcis Coral yng nghanol y ddinas arwyddion dwyieithog (ish) tra does gan yr un yn Riverside ddim.

    Mae gan dafarn yr Halfway (Brains) arwyddion dwyieithog, ond does gan dafarndai Brains eraill fel y City Arms a Dempsey's, sydd efallai a chanran uwch o gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ddim.

    Dw i'n meddwl bod perception rhai cwmniau o proffeil eu cwsmeriaid o chwith yn aml - withiau'n gor-amcangyfrif faint sy'n siarad Gymraeg, ond fel arfer yn tan-amgangyfrif.

  • 2. Am 09:26 ar 18 Chwefror 2009, ysgrifennodd Grwgnach:

    Tybed a ydy Cymry Cymraeg Abertawe yn gyffredinol gynhenid ac felly yn bodloni ar eu byd, tra mai mewnfudwyr yw'r Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd gan fwyaf. Credir fod mewnfudwyr yn mynnu eu hawliau tra fod poblogaeth gynhenid weithiau yn daeog.

    Gwn fod cyffredinoli yn fan hyn, ond tybed oes blewyn o wirionedd yma yn rhywle?

  • 3. Am 09:44 ar 18 Chwefror 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Be' ydi'r esboniad am y newid yn yr achos hwn, Vaughan?

  • 4. Am 10:49 ar 18 Chwefror 2009, ysgrifennodd Ioan:

    Yn ol census 2001, roedd canran siaradwyr Cymraeg yn uwch yn Nghardydd na Abertawe ym mhob oedran o dan 39 (a vice-versa drost 39).

    Drost y boblogaeth i gyd:
    Caerdydd: 11%
    Abertawe: 13.4%

    Gwerth nodi hefyd bod y ganran o bobol sy'n medru siarad Cymraeg, a sydd drost 75 oed bedair gwaith yn uwch yn Abertawe (20.4% a 5.2%).

  • 5. Am 12:16 ar 18 Chwefror 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Mae yna fwy o bobl marchnata yn Nghaerdydd sy'n credu fod rhoi enw Cymraeg ar rhywbeth yn gimic da (ac yn aml yn ei esguso rhag gwneud rhywbeth mwy adeiladol fel cynnig gwasanaeth Cymraeg).

  • 6. Am 12:26 ar 18 Chwefror 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Wel, yn ôl y cyfrifiad diwethaf roded nifer y Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd tua 11% yng Nghaerdydd a thua 13% yn SIR Abertawe (o ystyried bod rhannau o ogledd y sir yn weddol Gymraeg, a Phenrhyn Gwyr yn weddol Seisnigaidd, mae'n siwr bod canran y siaradwyr Cymraeg yn ninas Abertawe yn debyg iawn i ddinas Caerdydd).

    Dwi wedi byw yng Nghaerdydd ers 5 mlynedd bellach ac wedi gweld cynnydd mawr yn y Gymraeg, o ran pa mor weladwy ydi hi (mewn pethau fel, ia, enwau tafarndai, er enghraifft) a hefyd o ran faint o Gymraeg sydd i'w chlywed.

    Dybiwn i, heddiw, bod canran y Cymry Cymraeg yn uwch yng Nghaerdydd nac Abertawe, lle yn draddodiadol bu'r canrannau'n uwch yn Abertawe - ond yn sicr mae'r mewnlifiad o'r gogledd a'r gorllewin, ac mae'n siwr dylanwad y Cynulliad a phoblogrwydd cynyddol y ddinas ymhlith yr ifanc gwledig, wrth wraidd pa mor weladwy yw'r Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw, a pham ei bod yn fwy weladwy yma nac yn Abertawe?

  • 7. Am 12:55 ar 18 Chwefror 2009, ysgrifennodd blogmenai:

    Mae yna ddosbarth canol Cymraeg ei iaith wedi ei sugno i Gaerdydd gan y swyddi sector cyhoeddus sydd ar gael yn y ddinas honno.

    Maent yn ymwybodol o'u hawliau, ac maent yn dod a gwerthoedd y Gymru Gymraeg efo nhw. Mae'r farchnad yn ymateb i hyn, a gallant fynu hawliau gan y sector gyhoeddus.

    'Does yna ddim sefyllfa fel hyn yn Abertawe - mae'r Cymry Cymraeg sydd yn y cylch yn tueddu i fod yn is i lawr y grisiau cymdeithasol.

  • 8. Am 15:48 ar 18 Chwefror 2009, ysgrifennodd Paul Rowlinson:

    Canol Caerdydd 10.2%
    Gogledd Caerdydd 11.5%
    De Caerdydd 9.2%
    Gorllewin Caerdydd 12.6%

    Dwyrain Abertawe 11.2%
    Gorllewin Abertawe 10.3%

    Canrannau eithaf tebyg.

  • 9. Am 11:14 ar 19 Chwefror 2009, ysgrifennodd Grwgnach:

    Canrannau tebyg o bosib, ond mae'n cuddio'r gwir wahaniaeth.

    Yn Abertawe mae cymdeithasau Cymraeg naturiol. Er enghraifft, yn Nhreforys mae Cymdeithas Ddiwylliannol Gymraeg Abertawe yn hawlio dros gant o aelodau a'r mwyafrif helaeth o'r rhai hynny wedi eu geni a'u magu yn Nhreforys - hynny ydy, yn bobl Abertawe, neu'n Jacs.

    Tybed a fyddai modd gwneud hynny mewn ardal yng Nghaerdydd? Fodd bynnag, yng Nghaerdydd mae poblogaeth Gymraeg ifanc ddigonol i gynnal tafarndai Cymraeg. Rhywbeth fyddai'n anodd iawn ei wneud yn Abertawe.

    O ran y canrannau eto, mae'n ddifyr - mae ardaloedd yn y ddinas yn Abertawe (er enghraifft - Llangyfelach) yn hawlio 20% o siaradwyr Cymraeg, tra fod ardaloedd ar y cyrion megis Pontarddulais gyda bron i 40%.

    Yn ol cyfrifiad 2001 mae gan 22.5% un sgil neu fwy yn y Gymraeg yn ninas Abertawe - dyna dros 50,000 a rhyw allu yn y Gymraeg mewn un dinas.

  • 10. Am 21:35 ar 20 Chwefror 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pwynt da. Mae 'na Gymry Cymraeg sydd a'u gwreiddiau'n ddwfn yng Nghaerdydd. Dwi'n un ohonyn nhw. Roedd na "gymuned Gymraeg" hyd yn oed yn y dyddiau tywyll ond doedd hi ddim yn seiliedig ar un ardal. Mae Gwaelod y Garth yn eithriad, efallai, ond dim ond yn ddiweddar y daeth y pentref hwnnw yn rhan o'r ddinas.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.