Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Don Corleone

Vaughan Roderick | 16:02, Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2009


Roedd datganiad Paul Murphy ynghylch yr LCO iaith braidd yn llugoer. Roedd angen rhagor o ymgynghori, meddai. Gallai'r gorchymyn newid. I ddefnyddio ei eiriau ei hun "It's not set in stone".

Synnwyd rhai aelodau cynulliad Llafur gan y datganiad ond nid Ysgrifennydd Cymru sy'n cael y bai. "Don Touhig yw'r broblem" meddai un "Don yw ffrind gorau Paul ac mae'n treulio rhan helaeth o'i amser hamdden yn ei gwmni fe a'i deulu. Maen nhw fel dau frawd."

I ddyfynnu sylwebydd arall "problem Paul yw bod e dan y Don".

Llongyfarchiadau gyda llaw i Jenny Randerson am fod yn ddigon dewr i ddweud yn y siambr yr hyn y mae llawer o'r aelodau'n dweud yn breifat. "Os ydyn ni am ddeddfu i orfodi i siop tsips ddefnyddio'r Gymraeg fe ddylwn ni gael gwneud hynny- oes 'na unrhyw un yn credu mewn gwirionedd y byddai'r siop tsips yn cau o ganlyniad i hynny?"

Llongyfarchiadau i Nick Bourne hefyd am annerch y cynulliad yn Gymraeg y prynhawn yma. Oedd e'n ceisio profi gwerth yr iPod tybed?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:32 ar 3 Chwefror 2009, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    "Os ydyn ni am ddeddfu i orfodi i siop tsips ddefnyddio'r Gymraeg fe ddylwn ni gael gwneud hynny- oes 'na unrhyw un yn credu mewn gwirionedd y byddai'r siop tsips yn cau o ganlyniad i hynny?"

    Mae nonsense fel hyn yn hala fi'n 'radio rental' - wrth gwrs fydd yn meddwl fydd rhai yn cau !!!!

    Pwy fusnes yw e i orfodi busnesau mor fach a hyn wneud unrhywbeth nad ydynt yn eisiau !?

    Yn yr un ffordd fod gofyn i fusnesau bach iawn i ganolbwyntio ar bethau fel y 'Disability Discrimination Act' a'r 'Working Time Directive' i jyst yr un graddau a cwniau 'blue chip' enfawr, yr unig beth sydd yn digwydd yw fod pobol ddim yn boddran mynd mewn i fusnes rhagor.

    Mae busnesau 'gwely a brecwast' yn cael ei gorfodu i ddelio a rheolau ar smygu ac ati.

    Yr unig beth sydd yn mynd i ddigwydd yw fod y siop tsips a'r gwesty fach 'gwely a brecwast' yn mynd i gau - a fel ar y ddaear mae hwn yn mynd i helpu ni y Cymru, for goodness sake ?

    Os nad yw'r 'BB' yn medru delio a phobl Cymraeg, does dim problem o gwbl da finnau am hynny. Exactly yr un peth a se gwesty yn dweud 'Dim Plant'. Os ydy'r plant yn mofyn aros, mi fydd digon o fusnesau eraill - os nad ydych wedi 'fforso' nhw mas o fusnes !!!

  • 2. Am 23:35 ar 3 Chwefror 2009, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Beth sy'n hala' wic wiw arna i yw fod y BBC yn cymeryd ochr 'partial' o hyn i gyd.

    Mae'n digon rhwydd i nhw ddweud ! Mae gyda nhw blydi 'guaranteed income' ! Does dim rhaid i Mr Roderick a Ms Powys fecso am dalu'r gweithwyr ar ddiwedd yr wythnos.

    'Let me declare an interest here'.

    Mae na siop ardderchog yn Llansteffan sydd yn gwneud 'bacon butties' ardderchog ac yn gwerthu 'Yorkshire Tea' [dim y pg tips nonsens 'na...]. Saeson yw y pobl sydd yn rhedeg e, a pobl lyfli yw nhw hefyd. Mae'r bwydlen yn Saesneg.

    Gallen nhw gwneud un yng Nghymraeg fel fy mod yn gallu darllen 'Byrgyrs a Tsips', ond beth yw'r pwynt ?

    Os ydw i'n digon 'desperate' am gael fwydlen Gymraeg gallwn fynd i Pantri Blakeman, ble mae'n nhw'n hyd yn oed yn defnyddio 'proper Welsh' fel 'Sglodion'. Ond mae yn blydi long walk o ganol Gaerfyrddin i Lansteffan.

    A fyddai'r te yn oer erbyn ni...

    Mae'r 'taffia' yn y bae yn paratoi i ladd 'the golden goose'. Mae fel y pobl sydd yn eisiau fod mwy o pobl o'r werin yn cael mynd i'r brifysgol drwy 'social engineering' a 'affirmative action', heb gwneud dim yw dim i actually helpu codi'r pobl ni allan o'i tloti.

  • 3. Am 23:51 ar 3 Chwefror 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Tybed faint mor wahanol byddai pethau wedi bod gyda Pedr H yn Ysgrifennydd Gwladol?

    Mae'n drueni mawr bod y Cymry Cymraeg draw ar flog Betsan yn cecru yn hytrach na thrafod pethau'n gall yma. LordBeddGelert - ble wyt ti? Byddai trafodaeth o'th safbwynt heb yr emosiwn amlwg gan ambell aelod o 'WirGymru' yn ddiddorol i ni gyd!

  • 4. Am 12:50 ar 4 Chwefror 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Beth yw'r rheswm fod Touhig mor eithafol o adweithiol?

    (dwi'n dal i gael trafferth hefo'r llythrennau a'r rhifau!!!)

  • 5. Am 20:26 ar 4 Chwefror 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Does bosib ein bod ni'n cymryd sylw Jenny Randerson o ddifri yma? Hynny yw ynglyn a bwriad i ddeddfu dros busnesau megis siopiau tsips.

    Meddwl ydw i taw cyfeirio at alwad 'byth a hefyd' y bobl gwrth ddeddf ynglyn a'r siop tsips yng NghasGwent.

    Eto i gyd, mae' rhaid gweud anhebygol yw e y byddai'r siop yn mynd mas o fusnes trwy orfod cyfieithu bwydlenni.Os oedd rhaid darparu siaradwyr Cymraeg hefyd, wel mae hynny'n wahanol!

    Gyda llaw, LBG, govynnais lle oeddet ti wrth bostio neithiwr - rhaid bod y mods yn arafach na'r arfer, yn hytrach na fi'n ddall neu'n haerllyg!

  • 6. Am 20:51 ar 4 Chwefror 2009, ysgrifennodd Bryn:

    Dim ond edrych ar eu hol eu hunain, eu seddi a’i pensiynau, mae Aelodau Seneddol y Blaid Lafur yng Nghymru. Unigolion gwbl hunanol ydynt. Ychydig iawn ohonynt sy’n medru’r Gymraeg, neu sydd a gwir ddiddordeb yn ein hiaith. Mae Murphy wedi dweud eisoes ei fod yn gwrthwynebu datganoli yr hawl i ddeddfu i’r Cynulliad.

    Mae dyfodol yr iaith Gymraeg wedi bod yn nwylo AS gyfangwbl Seisnig a Saesnigaidd am ganrifoedd - yn Senedd Lloegr. Mae’r Iaith wedi dirywio o hanner cant y cant canrif yn ol, i tua ugain y cant yn awr. Mae San Steffan wedi bod yn amharod iawn i ddeddfu dros hawliau siariadwyr Cymraeg. Dwy ddeddf anfoddhaol iawn yn unig mewn hanner can mlynedd.

    O’r diwedd mae gan Gymru Gynulliad ddemocrataidd (er mai gwan iawn ydyw, yn fy nhyb i). O leiaf dylid roi y cyfrifoldeb am ddeddfu dros yr Iaith a hawliau y Cymru Cymraeg i’r corff yma. Pa synnwyr sydd i’w adael yn Llundain? Mae’r ffaith fod yr AS Llafur yn gwrthwynebu hyd yn oed y camau bach hyn sydd yn yr LCO yn dangos pa fath bobl ydynt, a mor isel mae’r Blaid Lafur wedi disgyn. Ni haeddent gael ein parch na’n cefnogaeth, am ddangos cymaint o amharch i’r Iaith, a’r genedl ac i’n gwlad.

  • 7. Am 01:24 ar 5 Chwefror 2009, ysgrifennodd Huw Cymunod:

    Diolch i Dduw am berson call fel Bryn te!Chlywais i erioed y fath wirionedd a'r geiriau canlynol....."Dim ond edrych ar eu hol eu hunain, eu seddi a’i pensiynau, mae Aelodau Seneddol y Blaid Lafur yng Nghymru. Unigolion gwbl hunanol ydynt. Ychydig iawn ohonynt sy’n medru’r Gymraeg, neu sydd a gwir ddiddordeb yn ein hiaith" Dyna union fy mhrofiad i ohonynt, un ac oll (arwahan i Cledwyn Hughes - ond roeddwn rioed yn deall sut gall person call, rhesymol, a diwyllianol gefnogi pobl fel Neil Kinnock a'i wraig wirion). A peidiwch a chael eich twyllo gan aelodau Cymdeithas Cledwyn, mae y dyfyniad uchod yn cyfeirio'n addas iawn at y nhw hefyd - pobl sydd wedi adeiladu eu gyrfa gwleidyddol ar wrthwynebiad hollol wallgof a gwirion yn erbyn yr iaith (ac yn eu tyb hwy, Plaid Cymru, oedd yn 'cynrychioli'r' iaith), ond sydd yn fwy diwedddar wedi gweld budd a mantais o newid eu safbwynt ar hynny er budd gweleidyddol yn unig. Angen rhoi rhain i gyd yn y Victoria (God rest her Soul) and Albert (dwi methu treiglo) Museum.

  • 8. Am 02:52 ar 5 Chwefror 2009, ysgrifennodd Bostoniwr:

    Y broblem fwyaf gyda'r syniad o ddeddfu yn fy marn i yw y gall pobl wedyn feddwl, "iawn, te - mae popeth wedi'i sortio; 'mlaen â fi â'm bywyd jyst fel o'r blaen".

    Rwy'n amau a fydd unrhyw fath o ddeddfwriaeth yn 'achub y Gymraeg' (nac yn cael effaith sylweddol ar y sefyllfa) os nad yw'r Cymry Cymraeg eu hunain yn penderfynu dilyn cyngor Saunders Lews a chymryd materion i'w dwylo (a'u genau) eu hunain.

    "Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo" meddai - a'r gwir chwyldro fyddai petai'r Cymry'n dechrau defnyddio'i hawliau a defnyddio'r iaith, nid jyst mynnu rhagor o hawliau na chaent eu defnyddio ganddynt.

    "Rwy'n mynnu tegwch a hawliau a chydnabyddiaeth fy mod i'n cael fy ngorthrymu ers canrifoedd gan y blydi S ... oh, good morning Mrs Smythe, lovely morning, and is this little David on his way to Welsh school? Hello, little David."

    (nid nad yw mynnu hawliau'n beth da *hefyd*, o bosibl)

  • 9. Am 12:40 ar 5 Chwefror 2009, ysgrifennodd Bryn:

    #8 Bostoniwr

    Ie, trueni nad oes gennym ni fel Cymry fwy o asgwrn cefn.

  • 10. Am 15:38 ar 5 Chwefror 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Y peth sy'n fy ngwylltio fi da'r holl stwr ynglygyn a'r eLCO hwn yw, o'r 20 ardal lle mae modd i'r Cynulliad ofyn am eLCO, yr Iaith Gymraeg yw'r unig ardal sy'n 'no-brainer'. Hynny yw, mae'r Iaith Gymraeg yn amherthnasol i Lundain, felly pam dylai unrhyw bwer fod gyda Llundain yn yr ardal hwn?

    Beth felly yw'r broblem gyda mynnu'r galluoedd hyn?

    Gyda llawm Bostoniwr. Beth yw ystyr dy baragraff olaf? Wyt ti'n gweud y dylai'r Cymro Cymraeg fod yn gas wrth Mrs Smythe gyda'i mab yn yr Ysgol Gymraeg? Wy'n gobeithio dim!

    Mae'n bosib casau'r ffordd mae'r 'Saeson' (sef y wladwriaeth Seisnig) wedi trin CYmru dros y canrifoedd, a hyd yn oed agwedd afiach rhai Saeson (a nifer o'r di_gymraeg) tuag at yr iaith, ond byse casineb at unigolion o Saeson am y rheswm eu bod yn Saeson, yn hiliaeth rhonc, ac felly yn anghyfreithlon, yn anfoesol ac yn annerbyniol.

  • 11. Am 03:57 ar 7 Chwefror 2009, ysgrifennodd Bostoniwr:

    Iestyn,

    Ystyr fy mharagraff olaf yw hyn: mae'n drueni mawr fod cymaint o Gymry Cymraeg yn colli'r cyfle i siarad Cymraeg gyda'u cymdogion newydd, ond yn hytrach yn penderfynu siarad Saesneg drwy'r amser - hynny hyd yn oed gyda'r rhai sy'n dysgu Cymraeg, megis y plant bach sy'n mynychu ysgolion meithrin Cymraeg neu ysgolion Cymraeg eraill. Un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r iaith yw'r ffaith nad yw ar gael yn unman i lawer o bobl ond yn y stafell ddosbarth.

    Trawsysgrif eithaf ffyddlon oedd y deialog o sgwrs a glywais yn lled-ddiweddar, ond mae'n cynrychioli safbwyntiau ac ymddygiad llawer ohonom.

    Cofiaf yn dda iawn symud yn blentyn i fyw mewn ardal Gymraeg. Cymerodd flynyddoedd imi sylweddoli taw ardal Gymraeg oedd hi am mai Saesneg oedd yr iaith a siaradai pawb â mi, oherwydd taw Saesneg oedd iaith fy mam. Sais bach oeddwn i, felly. (Yn anffodus, sylwais y pethau hyn yn rhy hwyr - roedd yr 80au a'r 90au wedi hen fynd heibio a'r pentref lle'm magwyd wedi troi'n lloches i fewnfudwyr wedi ymddeol - a minnau wedi symud i fyw tramor.

    Treuliais blentyndod cyfan ymysg y Cymry 'Cymraeg' heb ddysgu'r iaith yn rhugl (sylwais i ddim fod angen gwneud, na phosibilrwydd gwneud), a rhaid oedd wrth dipyn o ymdrech ar ôl imi adael Cymru, gyda gramadegau a geiriaduron, i ennill hyder yn fy Nghymraeg.

    Do, fe'n gorthrymwyd, ond erbyn hyn, does gennym neb ond y ni ein hunain i feio. Chwyldro amdani, felly?

  • 12. Am 23:37 ar 10 Chwefror 2009, ysgrifennodd Huw Cymunod:

    Dwi yn dod yma am fy mod yn methu postio sylw ar blog Betsan Powys (sori Vaughan, dwi yn blogio yma hefyd, ond mae y di-Gymraeg ar gefn eu ceffylau oherwydd y 'Welsh Language LCO' ar blog Betsan). Dwi yn sylwi fod sawl blogiwr ar blog Betsan yn blogio yma hefyd, felly neges iddyn nhw yw hwn. Cariwch ymlaen hogia, genod, bois, gyfeillion ayyb, ayyb. Ond gair o rybudd gan hen law - dwi yn gwerthfawrogi eich ymdrech ond dwi'n credu eich bod yn wastio'ch amser. Dwi bellach yn grediniol mai Don Touhig (neu un o'i 'advisors/researchers') yw 'Shrek Girl' ar Blog Betsan (sylwer y defnydd o 'tosh' a 'crachach') - ond mae'n debyg eich bod wedi gweithio allan mai y Blaid Lafur sydd tu ol i'r criw o flogwyr gwrth Gymreig yma eisoes - mae o mor amlwg yntydi. Beth bynnag, dwi yn gyn-fyfyriwr o Goleg Harlech a cefais y fraint o fod yno yn yr 80au - adeg srteic y glowyr a llosgi tai haf (a buais yn weithredol mewn un - sori, ond er mwyn yr Heddlu Cudd codi arian i'r glowyr oedd hynny!). Roedd nifer o'r Saeson yno yn deallt a derbyn sefyllfa a brwydyr yr iaith ac yn gweld cyferbyniad a brwydyr y glowyr - ond am rhai o'r di-Gymraeg o De Cymru oedd yn gefnogwyr Llafur - wel, dim gobaith o gwbl. Dwi yn blentyn y 60au, o deulu o 6, gafodd ei addysg drwy gyfrwng y Saesneg ar Ynys Mon (cyn polisi dwyieithrwydd) - gyda tad oedd yn Sgaffaldiwr a Mam oedd yn 'Cleaner' yn RAF Valley. Dwi wedi addysgu fy hun a thrwy hynny dod i ddeall pwysigrwydd ein iaith a'n hanes fel Cymry Cymraeg (Coleg Harlech, Prifysgol Bangor - Anrhydedd Dosbarh cyntaf). Roedd un person di-Gymraeg o Lafurwr yn Coleg Harlech - dros 20 mlyneddd yn ol - yn dadlau union yr un dadleuon a geir heddiw ar blog Betsan. Roedd yn drwg dybio pob Cymro Cymraeg o fod yn aelod o Meibion Glyndwr a gyda agenda i Gymregeiddio'r byd; ein bod i gyd fel Cymry Cymraeg fel ryw fath o 'elite' dosbarth canol Cymreig a Chymraeg (a minnau o deulu dosbarth gweithiol 'di-nod' a gweddol dlawd!!). Ond mae yna gair o gysur hefyd oherwydd yn y pendraw roedd hyd yn oed y Di-Gymraeg anwleidyddol a'r Saeson yn gweld pa mor eithafol a gwirion oedd dadleuon y Llafurwyr gwrth Gymreig (a dyna ydynt un ac oll - does dim rhesymeg na eglurhad i'w safbwyntiau, arwahan i eithafiaeth di-reswm a di-sail sydd a gwreiddiau dyfn iawn yn hanes y blaid Lafur a'u gwrth-Cymreictod gwleidyddol). Ac er mwyn y 'monitors' sydd yn cael eu talu i fonitro gwefannau fel hon ac adrodd yn ol i'w meistri Llafur - cymerwch y neges yma - rydych wedi colli'r ddadl ers blynyddoedd maith ynglyn a'r iaith - ac mi fyddwch yn colli'r frwydr hefyd oherwydd chi ydi'r eithafwyr.(cyfieithwch hwn i Don, Huw, Neil, Glenys ayyb). Nos da.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.