Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cofeb Clive

Vaughan Roderick | 11:05, Dydd Iau, 26 Chwefror 2009

Dydw i erioed wedi credu mewn newyddiaduraeth ddiduedd. I rai o fewn y BBC mae hynny'n gabledd. Cyn i fi gael y sac felly, mae'n well i fi esbonio.

Nid anghytuno a'r ddelfryd ydw i ond a'r realiti. Efallai bod hi'n bosib bod yn ddiduedd mewn byd o ffantasi, ar fryniau Bro Afallon neu mewn maniffesto etholiadol! Yn y byd real mae newyddiaduraeth ddiduedd yn gwbwl anymarferol ac amhosib. Yn ei hanfod mae newyddiadura yn broses o gasglu ac o ddewis. Mae dewis, o'i natur, yn fater goddrychol.

Yn ddisymwth yr wythnos hon mae Clive Betts wedi ymddeol ar ôl dros ddeugain mlynedd o newyddiadura gwleidyddol am resymau iechyd. Y penwythnos hwn hefyd mae'n ddeg mlynedd ar hugain ers refferendwm 1979.

Ar Fawrth yr ail, 1979 gyda'r cwrw'n llifo yng nghlybiau Llafur Islwyn ac wrth i John Morris syllu ar yr eliffant ar stepen ei ddrws go brin y byddai unrhyw un wedi proffwydo y byddai gan Gymru gynulliad cyn troad y ganrif.

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, ar ddechrau'r wythdegau cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ym merthyr i drafod lansio ymgyrch o blaid datganoli mewn swyddfa undeb y Merthyr. Roedd Denzil Davies a Geraint Howells yno a rhyw ddeg ar hugain o bobol yn y gynulleidfa, os hynny.

Yng nghefn yr ystafell roedd 'na grŵp arall o riw ddeg o bobol yn eistedd gyda'u camerâu a'u llyfrau nodiadau. Doedd dim diddordeb da'r cyhoedd yn y cyfarfod. Yn wrthrychol, pe bai cyfarfodydd yn cael sylw ar sail y nifer oedd yn bresennol, dyweder, roedd y cyfarfod ym Merthyr yn gwbwl dibwys ac amherthnasol. Doedd newyddiadurwyr gwleidyddol Cymru ddim yn credu hynny. Ein barn oddrychol ni oedd bod y cyfarfod yma'n bwysig ac yn haeddu sylw.

Mae Pat Hannan wedi dadlau bod Cymru yn bodoli fel uned wleidyddol oherwydd penderfyniad y BBC yn y dauddegau i wasanaethu Cymru Gyfan o Gaerdydd yn hytrach nac o Fryste a Manceinion. Dydw i ddim yn siŵr fy mod yn llwyr gytuno ond rwy'n sicr o un peth. Un o'r rhesymau y mae'r cynulliad yn bodoli heddiw yw oherwydd ystyfnigrwydd newyddiadurwyr fel Clive, John Osmond, Geraint Talfan Davies ac eraill wrth fynnu bod y cwestiwn cyfansoddiadol yn bwysig yn wyneb difaterwch eu darllenwyr a'u gwylwyr.

Dyw hynny ddim yn golygu, fel mae rhai yn credu, bod newyddiadurwyr gwleidyddol Cymru i gyd yn ddatganolwyr pybyr neu'n bumed golofn i Feibion Glyndŵr. Roedd newyddiadurwyr oedd yn ffyrnig yn erbyn datganoli (Geoff Ritch, Golygydd y South Wales Echo, er enghraifft) yn cytuno ynglŷn â phwysigrwydd y cwestiwn ac yn dyrchafu'r pwnc yn eu dewisiadau newyddiadurol.

Roeddwn yn meddwl am Clive wrth gerdded trwy'r senedd y bore 'ma ac fe ddaeth geiriau cofeb Cristopher Wren yn Saint Paul's i'm meddwl "'Reader, if you seek his memorial - look around you."

Brysia wella Clive!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:25 ar 2 Mawrth 2009, monwynsyn ysgrifennodd:

    Dwi yn meddwl fod Clive Betts wedi cael ei gamdrin ar nifer o achlysuron yn arbennig mewn cynhadleddau gwleidyddol ac wedi heclo gan fyfyrwyr idealistig fel fi. Bellach mae rhywun yn fwy parod i gydnabod ei gyfraniad yn dwyn sylw at y dadleuon fyddai eraill wedi hanwybyddu. Mae ei gyfraniad wedi bod yn un gwerthfawr iawn ac mae wedi bod yn lladmerydd pwysig.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.