Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Deg Uchaf- Aberconwy

Vaughan Roderick | 12:05, Dydd Sul, 11 Ionawr 2009

Un o gyfres achlysurol yn edrych ymlaen at yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Amser maith yn ôl roedd 'na gyngor o'r enw Aberconwy ac etholaeth o'r enw Conwy. Nawr Conwy yw'r cyngor ac Aberconwy yw'r etholaeth. Nid dyna yw'r unig beth syn gallu drysu dyn am wleidyddiaeth yr ardal.

Tan 1997 roedd gwleidyddiaeth hen etholaeth Conwy yn weddol syml. Roedd 'na bleidlais Geidwadol gadarn ond doedd hi ddim yn cynnwys mwyafrif yr etholwyr. Roedd gafael Wyn Roberts (a chyn 1966, Peter Thomas) ar y sedd yn dibynnu ar fethiant unrhyw un o'r pleidiau eraill i gronni'r bleidlais wrth-geidwadol y tu ôl i'w hymgeisydd. Fe ddaeth y Rhyddfrydwr Roger Roberts yn agos at wneud hynny droeon ond heb lwyddiant.

Mae'n hawdd anghofio erbyn hyn cymaint o ddaeargryn oedd etholiad 1997 ond roedd effaith y daeargryn hwnnw yn amlwg yng Nghonwy.

Llafur 14,561 (35.0%)
Dem. Rhydd. 12,965 (31.2%)
Ceidwadwyr 10,085 (24.3%)
Plaid Cymru 2,844 (6.8%)

Buddugoliaeth drawiadol i Lafur felly ond dim hanner mor drawiadol a'r hyn ddigwyddodd yn etholiad cynulliad 1999.

Plaid Cymru 8,252 (30.6%)
Llafur 8,171 (30.2%)
Ceidwadwyr 5,006 (18.5%)
Dem. Rhydd. 4,480 (16.5%)
Annibynnol 1,160 (4.3%)

Dydw i ddim am eich diflasu trwy restri pob un canlyniad ond fe sefydlwyd patrwm amlwg yng Nghonwy yn 1999 sy'n parhau hyd heddiw ac sy'n sicr o barhau yn yr Aberconwy newydd. Mae'r gwahaniaeth rhwng y patrwm pleidleisio mewn etholiadau cynulliad a phatrwm etholiadau seneddol yn fwy nac yn unrhyw etholaeth arall, bron a bod. Mae 'na reswm da ac amlwg dros hynny.

Mae astudiaethau academaidd wedi dangos bod canran llawer yn uwch o bobol sydd wedi eu geni yng Nghymru yn bwrw pleidlais mewn etholiad cynulliad nac o'r rheiny sydd wedi symud mewn i'r wlad. O'r rheiny sydd wedi eu geni yma mae'r Cymry Cymraeg yn fwy tebygol o bleidleisio na'r di-Gymraeg.

Nawr dyma i chi ychydig o ystadegau am Gonwy (y sir y tro hwn) o gyfrifiad 2001.

Wedi eu geni yng Nghymru; 54%
Wedi eu geni tu allan i Gymru; 46%
Yn medru'r Gymraeg; 29.4%

Fe wnewch chi sylwi yn syth bod Conwy yn cynnwys canrannau sy'n uwch nac arfer o'r grŵp sy'n lleiaf tebygol o bleidleisio- sef y rheiny oedd wedi eu geni tu allan i Gymru ond hefyd o'r grŵp sy'n fwyaf tebygol o bleidleisio- y Cymry Cymraeg. Dyna, ynghyd â thuedd gan rai o gefnogwyr Plaid Cymru i bleidleisio'n dactegol mewn etholiadau seneddol, sy'n gyfrifol am y gwahaniaeth rhwng y patrymau pleidleisio.

Cyn i neb fy nghamddeall rwy'n derbyn yn llwyr bod 'na gefnogaeth i Gareth Jones ymhlith "blue rinses" Llandudno ac i'r Ceidwadwyr ymhlith y Cymry Cymraeg ond mae'r patrwm sylfaenol mewn etholiad cynulliad yn un ffafriol i Blaid Cymru.

Gadewch i ni edrych nesaf ar effaith y newid ffiniau. Yn fras mae Bangor a Dyffryn Ogwen wedi gadael yr etholaeth a Nant Conwy wedi ail-ymuno. Canlyniad hynny yn etholiad cynulliad 2007 oedd troi'r ras o fod yn ornest rhwng Llafur a Phlaid Cymru i fod yn un rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr. Dyma'r canlyniad.

Plaid Cymru 7,983 (38.6%)
Ceidwadwyr 6,290 (30.4%)
Llafur 4,508 (21.8%)
Dem. Rhydd. 1,918 (9.3%)

Ydy'r un peth yn debyg o ddigwydd yn yr etholiad seneddol? Mae'r dystiolaeth yn amwys.

Pob tro mae ffiniau etholaethau'n newid mae academyddion yn gwneud eu gorau glas i amcangyfrif beth fyddai'r canlyniad wedi bod yn yr etholiad blaenorol pe bai'r ffiniau newydd yn bodoli bryd hynny.

Mae'r amcangyfrifon yma (y "notional results") yn cael eu paratoi'n ofalus gan ddefnyddio'r fethodoleg orau posib. Serch hynny maen nhw'n anodd eu llunio mewn etholaethau gwledig lle mae presenoldeb cynghorwyr annibynnol yn cymylu'r dystiolaeth ynghylch cryfder y pleidiau mewn gwahanol wardiau. Cymerwch fel esiampl amcangyfrif Rallings a Thrasher o'r canlyniad yn Aberconwy pe bai'r etholaeth honno yn bodoli yn etholiadau cynulliad 2003.

Plaid Cymru 29.7%
Llafur 27.8%
Ceidwadwyr 27.2%
Dem. Rhydd. 15.3%

I ddyfynnu'r hen Ifans "Scersli belief".

Dyma'r amcangyfrif Rallings a Thrasher o "ganlyniad" Aberconwy yn etholiad cyffredinol 2005.

Llafur 31.5%
Ceid 30.6%
Dem. Rhydd. 19.8%
Plaid Cymru 14.4%

Nawr mae'r dystiolaeth o amcangyfrif 2003 yn awgrymu bod y fethodoleg braidd yn ffafriol i Lafur ac yn hynod o anffafriol i Blaid Cymru. Serch hynny, mae hi braidd yn gynnar i gymryd yn ganiataol mai ras rhwng y ceffylau glas a gwyrdd yw hon. Fe fyswn i'n tybio y bydd angen o leiaf 13,000 o bleidleisiau i ennill Aberconwy yn yr etholiad cyffredinol. I Blaid Cymru mae hynny'n golygu pum mil o bleidleisiau'n fwy na chyfanswm Gareth Jones. Gan fod cefnogwyr Plaid Cymru yn troi allan mewn niferoedd tebyg mewn etholiadau cynulliad a seneddol yr unig ffordd i gael y pleidleisiau hynny yw trwy wasgu ar y bleidlais Lafur a phleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mewn un ystyr mae hi fel bod yn ôl yn nyddiau Syr Wyn. Fe fydd 'na bleidlais Geidwadol sylweddol. Cystadlu am bleidleisiau wrth-geidwadol mae'r tair plaid arall. Ennill y sedd yw'r canlyniad delfrydol, wrth gwrs ond fe fyddai dod yn ail i'r Ceidwadwyr yn fuddugoliaeth o bwys strategol yn y tymor hir i Lafur, Plaid Cymru neu hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol.

Gair am yr ymgeiswyr i gloi. Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un wedi synnu pan gyhoeddodd Betty Williams ei bod am ymddeol rhai misoedd yn ôl. Y syndod i mi (ac i eraill) oedd ei bod hi wedi bwriadu sefyll yn Aberconwy yn hytrach na'r Arfon newydd. Y ddamcaniaeth oedd y byddai ganddi fwy o gyfle yn y sedd orllewinol. Fe dderbyniodd y ddamcaniaeth yna gythraul o glatsied gan ganlyniad Arfon yn etholiad y cynulliad. Mae'n ddigon posib bod Betty wedi penderfynu nad yw naill sedd na'r llall yn bosib ei hennill y tro nesaf.

Fe fydd yr ymgeisydd Llafur newydd yn gweithio talcen caled wrth gystadlu yn erbyn yr ymgeiswyr atyniadol ac adnabyddus sydd wedi eu dewis gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru sef Guto Bebb a Phil Edwards. Er cystal eu rhinweddau mae'r ddau yn wynebu ambell i broblem. Fe fydd Phil yn ei chael hi'n anodd i sicrhâi pleidlais bersonol fel un Gareth Jones yn Llandudno a dw i'n amau y gallai Guto fod yn "rhy Gymreig" i rai o'r etholwyr. Mae UKIP wedi gwneud yn dda yn yr ardal yn y gorffennol. Gallai hynny fod yn broblem i Guto.

Fe fydd llawer yn dibynnu ar yr amseriad a'r amgylchiadau ar y pryd, wrth reswm. Ond, fel mae pethau ar hyn o bryd, byswn yn tybio mai Guto Bebb yw'r ffefryn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:04 ar 12 Ionawr 2009, ysgrifennodd dewi:

    Ble mae Bethesda y dyddiau yma?

  • 2. Am 19:56 ar 12 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Yn etholaeth Arfon

  • 3. Am 12:08 ar 13 Ionawr 2009, ysgrifennodd Dyfrig:

    Efallai bod Guto Bebb mewn perygl o fod yn rhy Gymreig ar gyfer ambell i Dori, ond mae'n bur debyg ei fod yn ddigon Cymreig i ddenu ambell i genedlaetholwyr - neu dyna'r perygl i Blaid Cymru, beth bynnag.

  • 4. Am 18:59 ar 15 Ionawr 2009, ysgrifennodd danielle:

    rydw in mynd i ysgol gyfun gwynllyw yng cymru sydd yn pontypool ac rydw in cari y cymraeg ac mae pobl yn trio cau ni lawr felli wyt ti'n meddwl bod cymraeg fod parhau ac ble bydd ni mynd llantanum ni yw'r un or ysgololion gymraeg yng cymru felli pliz paid cau ein ysgol lawr
    diolch yn fawr iawn danielle gray

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.