Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wel, Dyna Sypreis!

Vaughan Roderick | 12:40, Dydd Mercher, 14 Ionawr 2009

Fe fydd 'na fwy am hyn yn ystod y dyddiau nesaf ond gesiwch beth? Mae'r LCO Iaith mewn trafferth eto! Wel dyna syndod.

Ydych chi'n cofio'r awgrym yna bod popeth wedi ei setlo, bod y gorchymyn ar ddesg Paul Murphy ac y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn ei gymeradwyo i'r cabinet rhywbryd ym Mis Ionawr? Roedd 'na hyd yn oed dyddiad yn cael ei grybwyll- Ionawr 26.

Dw i bron wedi alaru ar sgwennu'r paragraff nesaf. Diawch, waeth i mi dorri a phastio'r hyn wnes i ysgrifennu ar Ragfyr y degfed.

"Ydych chi'n cofio'r LCO iaith- y cais oedd i fod i gael ei gyhoeddi yn ôl yn y Gwanwyn?
Fe drodd y Gwanwyn yn Haf a'r Haf yn Hydref. Tan heddiw'r addewid oedd y byddai'r cais yn ymddangos "cyn y Nadolig" . Y prynhawn yma yn siambr y cynulliad cyhoeddodd Yr ysgrifennydd Gwladol bod adrannau Whitehall bellach wedi cwblhau'r broses o astudio'r cais. Fe fydd yr LCO felly yn cael ei gyhoeddi. Pryd? Wel, "yn y flwyddyn newydd".
Rhai dyddiau yn ôl clywais fod un o swyddogion Plaid Cymru wedi sgwennu cân "All I want for Christmas is my language LCO". Dim ffiars o beryg".

Beth yw'r broblem y tro hwn? Traed oer yn Swyddfa Cymru ynghylch sancsiynau cyfreithiol yn erbyn Gweinidogion y Goron efallai?

Diweddariad; Mae Llywodraeth y cynulliad yn ymateb i flogs y dyddia 'ma! Dyma'i datganiad;

"Gwnaeth y Prif Weinidog yn glir ddoe ein bod am gyhoeddi'r LCO arfaethedig yn fuan. Dydi llywodraethau ddim yn rhoi sylw ar drafodaethau dydd i ddydd, ond rydyn ni'n edrych ymlaen at gael trafodaeth lawn ar yr LCO pan fydd wedi ei gyhoeddi. Nid ydym yn cynnig sylw ar unrhyw ddyfalu"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:03 ar 14 Ionawr 2009, Hogyn o Rachub ysgrifennodd:

    Beth bynnag ydi'r broblem y tro hwn, rhaid dweud bod yr holl beth yn troi'n jôc erbyn hyn!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 15:12 ar 14 Ionawr 2009, Rhys Llwyd ysgrifennodd:

    Maen hysbys na fydd sgôp yr LCO yn ddigon eang i gyflwyno deddf fydd yn rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg ym mhob sffêr o fywyd cyhoeddus Cymru felly maen ddychryn meddwl fod y gweision sifil yn Whitehall wrthi yn ceisio ei wanhau ymhellach fyth ar hyn o bryd.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 16:26 ar 14 Ionawr 2009, Bedd Gelert ysgrifennodd:

    Pwy wahaniaeth mae e'n gwneud i Vaughan Roderick ?? Nid job y BBC yw i fod o blaid neu yn erbyn yr LCO, dim ond i weud beth sydd yn digwydd heb 'fear or favour'.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 4. Am 22:04 ar 14 Ionawr 2009, Emyr ysgrifennodd:

    Os ca'i amddiffyn VR yn erbyn BG, dydw i ddim yn gweld lle yn yr erthygl yma mae VR yn deud ei fod o blaid neu yn erbyn yr LCO.

    Yr unig farn bersonol y mae'n ei mynegi yw: "Dw i bron wedi alaru ar sgwennu'r paragraff nesaf." Dydi ddim o blaid nac yn erbyn yr LCO, 'mond yn mynegi ei rwystredigaeth fel newyddiadurwr nad yw'r "stori" wedi symud yn ei blaen. Sdim o'i le ar hynny.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.